Drinking Water Inspectorate Logo

Taflenni Gwybodaeth


Pa mor dda yw'r Dŵr Yfed?

image of a checklist on a clipboard

Crynodeb o'r canlyniadau sy'n codi o fonitro cyflenwadau dŵr yfed yn ystod 2001

Cynnwys:

  1. Pwy ydym ni a dros beth ydym ni'n sefyll?
  2. Beth ydym ni'n ei wneud?
  3. Beth sy'n digwydd mewn archwiliad?
  4. Beth yw'r safonau?
  5. Pa mor dda yw ein dŵr yfed?
  6. Beth am y methiannau i gwrdd â'r safonau?
  7. Beth am facteria mewn dŵr yfed?
  8. Beth am blaladdwyr?
  9. Beth am blwm?
  10. Beth am nitrad?
  11. Beth am haearn?
  12. Beth am Cryptosporidium?
  13. Beth ddylwn i ei wneud os oes problem gyda fy nŵr yfed?
  14. O ble alla i gael rhagor o wybodaeth am ansawdd dŵr yfed?

1. Pwy ydym ni a dros beth ydym ni'n sefyll?

image of a microscope Mae Arolygiaeth Dŵr Yfed (ADY) yn rheoli ansawdd dŵr yfed yng Nghymru a Lloegr. Cafodd yr Arolygiaeth ei ffurfio yn dilyn preifateiddio'r diwydiant dŵr ac rydym yn gweithredu fel corff annibynnol, gyda staff technegol a chefnogi sydd â phrofiad o bob agwedd ar gyflenwi dŵr. Rydym yn ymroddedig i gynnal safonau a gwarchod iechyd cyhoeddus wrth ddarparu dŵr yfed diogel. Ein cenhadaeth yw cael ein cydnabod fel gwarcheidwaid effeithiol ansawdd dŵr yfed.

2. Beth ydym ni'n ei wneud?

Ein prif rôl yw sicrhau fod cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn cyflenwi dŵr sy'n ddiogel i'w yfed ac sy'n cyrraedd y safonau a osodwyd yn y Rheolau Ansawdd Dŵr. Mae arolygwyr yn cynnal archwiliadau technegol o bob cwmni dŵr yfed. Mae dau ran i'r rhain:

Mae'r asesiad o ansawdd dŵr wedi ei seilio ar wybodaeth a dderbynnir yn rheolaidd gan y cwmnïau dŵr. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys canlyniadau'r miliynau o brofion a wneir bob blwyddyn i weld os yw'r dŵr yn cyrraedd y safon. Cynhelir profion yn y gweithfeydd trin dŵr, yn y systemau dosbarthu ac yn nhapiau defnyddwyr mewn mannau dynodedig o'r system ddosbarthu dŵr a elwir yn barthau cyflenwi dŵr. Rydym yn asesu'r canlyniadau prawf yn erbyn y safonau ac yn cynnal archwiliadau i sicrhau fod y canlyniadau yn ddibynadwy ac yn rhoi darlun cywir o ansawdd y dŵr a gyflenwir.

Rydym hefyd yn ymchwilio i gwynion gan ddefnyddwyr a digwyddiadau sy'n effeithio neu allai effeithio ar eich dŵr yfed. Gall yr archwiliadau o ddigwyddiadau arwain at erlyn cwmnïau dŵr. Mae taflen o'r enw 'Problemau gyda'ch dŵr yfed', sy'n ymdrin â chwynion defnyddwyr, archwilio digwyddiadau ac erlyniadau ar gael gennym yn rhad ac am ddim.

3. Beth sy'n digwydd mewn archwiliad?

Gall archwiliad nodweddiadol ymdrin â sawl peth, megis ymchwiliadau i sicrhau:

Os oes problem, rydym yn gweithredu i sicrhau fod y cwmni dŵr penodol yn unioni'r sefyllfa.

4. Beth yw'r safonau?

image of a graphMae'r Llywodraeth wedi gosod safonau cyfreithiol ar gyfer dŵr yfed yn y Rheolau Ansawdd Dŵr. Mae'r rhan fwyaf o'r safonau hyn yn dod yn uniongyrchol o Gyfarwyddyd gofynnol gan y Gymuned Ewropeaidd ac fe'u seiliwyd ar ganllawiau Swyddfa Iechyd Dynolryw. Mae'r DU wedi mabwysiadu safonau ychwanegol i sicrhau ansawdd dŵr uchel iawn yng Nghymru a Lloegr. Mae'r safonau yn llym ac fel arfer yn cynnwys lwfans diogelwch llydan.

Mae safonau ar gyfer:

Roedd Cyfarwyddyd y Gymuned Ewropeaidd a ddaeth i rym ym 1998 yn cynnwys safonau newydd a rhai newidiadau i safonau oedd yn bod eisoes. Gwnaed rheolau newydd ar ddiwedd 2000 i weithredu'r Cyfarwyddyd newydd hwn. Mae'r rheolau hyn yn gofyn i'r Cwmnïau Dŵr gyrraedd y safonau newydd erbyn diwedd 2003. Cytunwyd ar y gwelliannau sydd eu hangen i gyrraedd y safonau newydd hyn rhwng ADY a'r cwmnïau dŵr.

5. Pa mor dda yw ein dŵr yfed?

Mae dŵr yfed o ansawdd uchel iawn.

Yn 2001 cynhaliodd y cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr tua 2.8 miliwn o brofion ar samplau dŵr yfed a bu 99.86% yn llwyddiannus. Mae hyn yn well nag yn 2000 ac mae'n parhau'r tueddiad o welliant parhaol o flwyddyn i flwyddyn. Mae'r siartiau isod yn dangos canrannau o brofion a lwyddodd i gyrraedd y safonau a hefyd y nifer a fethodd â chyrraedd y safonau.

graph showing tests passing and failing standards

6. Beth am y methiannau i gyrraedd y safonau?

image of leafletsCaiff pob methiant ei asesu: ystyrir fod rhai yn ddibwys neu'n anhebygol o ddigwydd eto, felly nid oes angen gweithredu pellach. Bydd rhai methiannau yn cael eu hunioni gan welliannau sydd eisoes yn cael eu cynnal gan gwmnïau dŵr ar weithfeydd trin dŵr a systemau dosbarthu.

Rydym yn disgwyl i gwmnïau dŵr wynebu unrhyw fethiannau sy'n aros drwy ymrwymo i wneud gwelliannau ar unwaith. Fel rhan o'r broses archwilio, gwneir asesiad i sicrhau fod y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud mewn ffordd amserol a phriodol.

7. Beth am facteria mewn dŵr yfed?

Mae pob dŵr bron sydd heb ei drin yn cynnwys bacteria, er nad yw'r rhain o reidrwydd yn niweidiol. Mae diheintiad yn lladd bacteria mewn dŵr. Defnyddir clorin i ddiheintio dŵr yfed ac mae wedi ei ddefnyddio ers bron i ganrif. Mae cwmnïau dŵr yn asesu effeithiolrwydd diheintio a dirywiad posibl yn y prif bibelli h.y yn dilyn byrst, drwy chwilio am facteria diniwed. Os deuir o hyd i'r rhain, mae'r cwmnïau dŵr bob amser yn cynnal archwiliad ar unwaith. Hwyrach y cynghorir defnyddwyr i ferwi dŵr rhag ofn tra bo'r archwiliadau yn cael eu cynnal. Yn 2001, cyrhaeddwyd y safon am facteria mewn 99.83% o barthau cyflenwi dŵr. Mae hwn yn debyg i'r canlyniad a gyflawnwyd yn 2000.

8. Beth am blaladdwyr?

Gellir canfod olion o blaladdwyr mewn peth dŵr yfed. Pan y'i canfyddir, mae'r lefelau yn isel iawn, nid ydynt yn niweidiol i iechyd ac maent fel arfer yn ganlyniad i ddefnydd o blaladdwyr gan ffermwyr, garddwyr ac awdurdodau'r priffyrdd. Mae cwmnïau dŵr wedi bod yn sefydlu triniaeth i gael gwared â phlaladdwyr o ddŵr yfed ble y bo angen. Yn 2001, llwyddodd 99.99% o dros 750,000 prawf a gynhaliwyd i gyrraedd y safon.

9. Beth am blwm?

image of a tapMae plwm yn yr amgylchedd yn dod o amrywiaeth o ffynonellau ac fe all fod yn bresennol yn yr aer, mewn bwyd neu mewn dŵr. Mae'n bosib i blwm gael effaith fechan ar ddatblygiad meddyliol plant ac fe all fod yn ffactor mewn problemau ymddygiadol hefyd. Mewn dŵr yfed fe ddaw'n bennaf o bibellau plwm a all fod yn nhai pobl. Ble mae'n angenrheidiol, mae cwmnïau dŵr yn trin dŵr i'w rwystro rhag codi plwm o bibellau. Mae taflen ar wahân sy'n rhoi cyngor ar sut i leihau ar y posibilrwydd o fod mewn cyswllt â phlwm o ddwr yfed ac mae hon ar gael yn rhad ac am ddim gan ADY. Yn 2001, cafodd y safon am blwm ei gyrraedd mewn 95.44% o barthau dŵr yfed o'i gymharu â 94.29% yn 2000. Mae safonau newydd a llymach wedi eu gosod ar gyfer plwm. Rhaid cyrraedd y safon cyfamserol erbyn 2003, a safon derfynol erbyn 2013. Mae cwmnïau dŵr wrthi'n gweithio ar hyn o bryd i gyrraedd y safonau llymach hyn.

10. Beth am nitrad?

Daw nitrad o wrteithiau ac fe all gormod o nitrad fod yn niweidiol weithiau i fabanod ifanc iawn. Fodd bynnag, mae lwfans diogelwch wedi ei gynnwys yn y safonau dŵr yfed ar gyfer nitrad fel ei bod yn anhebygol y niweidir iechyd babanod hyd yn oed os yw'r lwfans diogelwch yn cael ei dorri. Mae cwmnïau dŵr wedi bod yn gweithredu i reoli lefelau nitrad mewn dŵr yfed ble y bo angen. Yn 2001, cyrhaeddwyd y safon ar gyfer nitrad mewn 99.6% o barthau, sydd rhywbeth yn debyg i'r hyn a gyflawnwyd yn 2000.

11. Beth am haearn?

Gall haearn roi lliw ar ddŵr a gall y lliw hwn fod yn ffynhonnell cwynion gan ddefnyddwyr. Mae haearn yn digwydd yn naturiol mewn sawl ffynhonnell dŵr, ond hefyd fe all ddod o gyrydiad prif bibelli haearn. Mae unrhyw liw ar ddŵr oherwydd haearn yn anhebygol o fod yn niweidiol i iechyd.

Cyrhaeddwyd y safon ar gyfer haearn mewn 85.0% o barthau cyflenwi dŵr yn 2001. Mae hyn yn well na 2000 pan gyrhaeddodd 83.8% o barthau'r safon. Bydd y sefyllfa'n gwella ymhellach gan fod gan gwmnïau dŵr brif raglenni adnewyddu ar y gweill i ddisodli neu ail-leinio prif bibelli sydd wedi cyrydu. Bydd y rhaglenni gwella hyn yn cymeryd sawl blwyddyn i'w cwblhau a rhoddir blaenoriaeth i'r mannau sydd wedi eu heffeithio fwyaf.

12. Beth am Cryptosporidium?

image of a Cryptosporidium oocystMicro-organedd yw Cryptosporidium sydd i'w ganfod mewn pobl ac anifeiliaid mewn sawl rhan o'r byd. Fe all achosi afiechyd o'r enw cryptosporidiosis. Gall dŵr fod yn ffynhonnell o'r afiechyd yn ogystal â bwyd, llefrith, cyswllt ag anifeiliaid, yn arbennig ŵyn a lloi, pobl eraill sydd wedi eu heintio a phyllau nofio. Mae'n lluosogi yn y perfeddyn mewn anifeiliaid sydd wedi eu heintio gan ffurfio sborau bychain o'r enw öosystau, sydd wedyn yn cael eu hysgarthu mewn carthion mewn niferoedd uchel iawn sy'n gallu lledaenu'r haint. Gall öosystau oroesi am fisoedd mewn dŵr glan neu bridd llaith, claear.

Mewn pobl, mae cryptosporidiosis yn salwch diarëig sydd fel arfer yn para am rhyw bythefnos ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr ohono. Nid yw'n gyffredin iawn. Serch hynny, mewn pobl sydd mewn perygl gan nad oes ganddynt imiwnedd mae'r afiechyd yn fwy difrifol a dylai pobl o'r fath ferwi dŵr cyn ei yfed bob tro, boed o'n ddŵr tap neu botel.

Dysgwyd llawer am Cryptosporidium mewn dŵr yfed yn y blynyddoedd diwethaf. Ym 1999, cyflwynodd y Llywodraeth reolau newydd ar gyfer gwella triniaeth dŵr yfed a lleihau'r peryglon o Cryptosporidium yn difwyno dŵr yfed. Roedd y rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwmnïau dŵr asesu eu gweithfeydd trin dŵr eu hunain ar gyfer y perygl o Cryptosporidium. O Ebrill 2000 roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r cwmnïau fonitro effeithiolrwydd y driniaeth yn y safleoedd hynny a ddynodwyd fel mannau lle'r oedd perygl posib. Rhaid i'r dŵr a gyflenwir o'r safleoedd hyn gyrraedd safon triniaeth benodol ar gyfer Cryptosporidium. Yn ystod 2001 cyflawnodd y cwmnïau dŵr y rheolau i gynnal monitro parhaol mewn safleoedd perthnasol. Ni chafwyd dim achosion o cryptosporidiosis mewn perthynas â dŵr yfed yng Nghymru a Lloegr. Mae'r rheoli a wneir ar Cryptosporidium mewn dŵr yfed bellach gyda'r mwyaf datblygedig yn y byd ac mae'n rhoi diogelwch cryf i iechyd gyhoeddus. Mae arbenigwyr ADY yn rhoi cyngor a thraddodi darlithoedd ar Cryptosporidium mewn gwahanol wledydd ledled y byd.

13. Beth ddylwn i ei wneud os oes problem gyda fy nŵr yfed?

Cysylltwch â'ch cwmni dŵr. Mae rhifau ar gyfer ymholiadau a galwadau brys i'w gweld dan WATER neu DŵR CYMRU yn eich llyfr ffôn.

NEU cysylltwch â'ch WaterVoice lleol (OFWAT Customer Service Committee cyn hynny) sydd wedi ei restru gyda'r Sefydliadau Defnyddwyr yn eich llyfr ffôn.

NEU cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

NEU cysylltwch ag ADY - cyfeiriad trosodd.


MAE DŴR YFED YNG NGHYMRU A LLOEGR O ANSAWDD UCHEL IAWN

Ein gwaith ni yw sicrhau fod y sefyllfa yn aros felly.

14. O ble alla i gael rhagor o wybodaeth am ansawdd dŵr yfed?

Os hoffech ragor o wybodaeth am ansawdd dŵr yfed gellir ei gael o:

Archifau gwladol eich cwmni dŵr

Gallwch weld y cofnodion yn un o swyddfeydd y cwmni. Bydd staff gwasanaethu cwsmeriaid yn esbonio canlyniad y profion ac yn dweud wrthych beth a wneir i unioni unrhyw fethiannau. Mae gennych hawl i dderbyn copi rhad ac am ddim o'r archif ar gyfer yr ardal lle'r ydych yn byw. Neu fe allwch ysgrifennu at y cwmni am fanylion.

Eich awdurdod lleol

Mae gofyn i gwmnïau dŵr roi gwybodaeth i awdurdodau lleol yngly^n ag ansawdd y cyflenwad dŵr yn eu hardal.

Ein adroddiadau blynyddol

Mae’r rhain yn adroddiadau hir sy’n cynnwys llawer iawn o wybodaeth fanwl am ansawdd dŵr yfed yng Nghymru a Lloegr. Mae’n bosib eu prynu o Lyfrfa Ei Mawrhydi. Efallai y gallwch weld copi mewn prif lyfrgell neu yn swyddfeydd eich cwmni dŵr. Gallwch eu gweld ar wefan ADY hefyd.

Taflenni rhad ac am ddim - Ar gael gan ADY.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach am safon dŵr yfed mae’r taflenni canlynol ar gael yn rhad ac am ddim gan ADY ac fe ellir eu cael hefyd ar wefan ADY:


Arolygiaeth Dŵr Yfed
Llawr 2/A1 Ashdown House, 123 Victoria Street, Llundain, SW1E 6DE
Ffôn; : 020 7944 5956 - Facsimile : 020 7944 5969
Rhyngrwyd e-bost: dwi_enquiries@detr.gov.uk
Neu ar y rhyngrwyd ar http://www.dwi.gov.uk


Cyhoeddiad diweddaraf Gorffennaf 2002
Yn nôl i Tudalen Gartref Arolygiaeth Dŵr Yfed / Drinking Water Inspectorate Home Page
Yn nôl i Tudalen Gartref Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig/ DEFRA Home Page
Yn nôl i Tudalen Gartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru/The National Assembly for Wales Home Page