Guidance documents

Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 14 (Cymru)

Copi y gellir ei argraffu: Reg-14_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).

Samplu a dadansoddi

Wrth fonitro cyflenwadau preifat, mae’n rhaid i awdurdodau lleol gasglu a dadansoddi samplau o fannau penodol gan ddefnyddio systemau dadansoddol priodol. Ar gyfer pob math o gyflenwad y mae’n debygol y deuir ar ei draws; domestig, cynhyrchu bwyd, tancer a sefyllfaoedd eraill, mae’r Rheoliad hwn yn disgrifio man samplu addas y mae’n rhaid ei ddefnyddio wrth gymryd samplau er mwyn cynnal profion arnynt. (Ar gyfer amlderau samplau, gan gynnwys cyfiawnhad dros gwtogi ar waith samplu neu roi’r gorau iddo, gweler y Nodyn Gwybodaeth ar gyfer Rheoliad 7).

Mae Rheoliad 14 yn disgrifio’r man samplu fel y tap a ddefnyddir fel arfer i gyflenwi dŵr i’w yfed gan bobl. Os bydd mwy nag un man samplu posibl, mae’n rhaid i’r man samplu a ddewisir gynrychioli’r dŵr a gyflenwir i’r safle ac fel arfer tap y gegin yw’r man hwnnw. Ar gyfer cyflenwadau mwy o faint, gellir amrywio’r safle y cymerir y sampl ohono ar bob ymweliad samplu a chadw cofnodion o ba safleoedd a ddewiswyd. Ni ddylid dewis unrhyw safle sydd â dyfais drin yn y man defnyddio os nad yw’n cynrychioli’r cyflenwad cyfan.

Wrth samplu cyflenwad a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu bwyd, dylid samplu’r man lle y’i defnyddir yn ystod y broses weithgynhyrchu.

Os defnyddir tancer, wrth ddarparu cyflenwad amgen mewn argyfwng, er enghraifft, mae’n rhaid i awdurdodau lleol gasglu sampl yn y man y daw allan o’r tancer.

Dylid samplu dau baramedr – nitrad a thyrfedd, wrth i’r dŵr adael rhan derfynol y broses drin (os yw’n gymwys). Os bydd yr awdurdod lleol yn wynebu sefyllfa nad yw wedi’i disgrifio’n ddigonol uchod dylai ddod o hyd i fan samplu addas lle mae’r dŵr yn cynrychioli’r hyn sy’n cael ei gyflenwi i’r safle. Mae’n rhaid cymryd samplau cydymffurfiaeth ar gyfer paramedrau cemegol penodol, yn arbennig copr, plwm a nicel, ar ffurf hapsampl o un litr a gymerir yn ystod y dydd o dap defnyddiwr heb fflysio’r tap ymlaen llaw. Mae’r sampl hon yn cynrychioli’r dŵr a fu’n sefyll mewn cysylltiad â’r pibellwaith domestig mewnol. Mae “hapsampl yn ystod y dydd” yn golygu y gellir cymryd y sampl unrhyw bryd yn ystod y dydd ond bod yn rhaid gwneud hynny heb fflysio’r tap yn gyntaf. Samplau a gymerir ar gyfer y paramedrau hyn yw’r rhai cyntaf yn y drefn samplu lle mae angen cymryd samplau ar gyfer sawl paramedr (gweler y llawlyfr samplu ar wefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed). Mae hapsampl a gymerir yn ystod y dydd yn cyfateb i’r hyn y gall y defnyddiwr ei ddefnyddio ar hap drwy gydol y dydd.

Mae Atodlen 4 yn nodi bod angen bodloni gofynion priodol y Rheoliadau wrth gymryd, trin, cludo a storio pob sampl a bod yn rhaid i samplau gael eu cymryd gan unigolyn sy’n ddarostyngedig i system reoli ansawdd i safon briodol sy’n cael ei gwirio o bryd i’w gilydd gan gorff achrededig addas ac y dylid defnyddio cyfarpar addas. Mae achrediad gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS) o dan ISO 17025 i Fanyleb Profion Dŵr Yfed bellach yn cynnwys samplu a chludo’r samplau hynny. Mae’r Arolygiaeth yn ei rôl gynghorol dechnegol i awdurdodau lleol yn gweithio gydag UKAS i ddatblygu dull achrededig a fydd yn sicrhau bod samplwyr cyflenwadau dŵr preifat yn bodloni’r gofyniad hwn drwy gydymffurfio â chynllun ag achrediad ISO17024. Bydd cynlluniau peilot yn cael eu cynnal yn ystod yn 2018, a fydd yn cynnwys unigolion o awdurdodau lleol a fydd yn gweithio gyda Chyrff Ardystio i ymgorffori system ymarferol. Y nod yw sicrhau bod pob samplwr wedi’i ardystio erbyn diwedd 2019. Nes i samplwyr gael hyfforddiant ffurfiol, dylent ddilyn y fethodoleg a ragnodir yn y Llawlyfr Gweithdrefnau Samplu sydd ar gael ar wefan yr Arolygiaeth yn:

https://www.dwi.gov.uk/private-water-supplies/guidance-documents/#sampling-manual

Dyma’r sail i’r cynllun wedi’i achredu gan ISO ac mae’n nodi trefn gywir y gwaith samplu, y broses o sterileiddio tapiau, dulliau llenwi poteli a’r gofynion angenrheidiol ar gyfer casglu digon o samplau. Pan gânt eu casglu, dylai samplau gynrychioli’r dŵr sy’n cael ei gyflenwi i’r eiddo ar adeg eu casglu. Ni ddylai gael ei halogi wrth iddo gael ei gymryd a dylid ei gadw ar dymheredd ac mewn cyflwr na fydd yn arwain at ganlyniadau gwallus.

Ar ôl casglu’r samplau, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff y sampl ei dadansoddi yn ddi-oed gan ddefnyddio system rheoli ansawdd ddadansoddol a gaiff ei harchwilio’n annibynnol gan berson annibynnol sydd wedi’i gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol, sef yng Nghymru a Lloegr y person annibynnol hwn yw UKAS ac mae ei achrediad wedi’i gwmpasu gan gynllun DWTS.

Samplu a dadansoddi gan bersonau heblaw awdurdodau lleol

Efallai y bydd awdurdodau lleol am is-gontractio’r gwaith o gasglu samplau a’u dadansoddi. Caniateir hyn, ar yr amod bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod y person yn gymwys, y caiff y gwaith dadansoddi ei wneud mewn modd amserol mewn labordy achrededig ac yr hysbysir yr awdurdod lleol ar unwaith am unrhyw achos o dorri safonau ansawdd dŵr. Mae’n rhaid cynnwys canlyniadau pob sampl a gymerir at ddibenion rheoleiddiol gan barti arall yn ffurflen ddata flynyddol yr awdurdod lleol a gyflwynir i’r Arolygiaeth.

Dadansoddi samplau

Dylai awdurdodau lleol roi sylw dyledus i’r meini prawf perfformiad dadansoddol a’r dulliau dadansoddi a nodwyd. Y ffordd orau o wneud hyn yw cyflogi labordy sydd wedi’i achredu’n llawn i Fanyleb Profion Dŵr Yfed ISO 17025 sy’n sicrhau bod dulliau addas yn cael eu defnyddio.

Anogir awdurdodau lleol i ddefnyddio adnoddau cofnodi electronig a gynigir gan nifer o labordai i hwyluso’r gwaith o gwblhau’r ffurflen flynyddol.

Y safon ar gyfer arogl a blas yw bod yn rhaid i sampl fod yn dderbyniol i ddefnyddwyr ac na ddylai fod unrhyw newid annormal. Mae hyn yn awgrymu asesiad ansoddol na all cywirdeb na thrachywiredd fod yn gymwys iddo. Fodd bynnag, mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn gofyn i ymgymerwyr dŵr gynnal asesiad meintiol lle mae’r gwerthoedd cywirdeb a thrachywiredd uchod yn gymwys. Dylai awdurdodau lleol ddilyn yr arfer hwn. Mae asesiad meintiol yn cynnwys panel bach o aseswyr yn blasu neu’n arogleuo’r dŵr a samplau gwanedig o’r dŵr ac yn amcangyfrif y blas neu’r arogl fel rhif gwanediad. Dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o’r risgiau i iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â chymryd mesuriadau arogl a blas ansoddol a meintiol (ar y safle neu yn y labordy), yn fwy felly gyda’r blas (yn hytrach nag arogl), gan y gallai cyflenwadau dŵr preifat fod wedi’u halogi â micro-organebau niweidiol.

Cyflenwadau mewn poteli neu gynwysyddion

Os caiff dŵr ei gyflenwi mewn poteli a chynwysyddion yn lle cyflenwad dŵr preifat, neu’n ychwanegol at gyflenwad o’r fath, ac nas rheolir o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015, mae’n rhaid monitro’r dŵr ar gyfer paramedrau Grŵp A a Grŵp B yn unol â’r Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat. Mae gwaith monitro yn cynnwys yr holl baramedrau sy’n ofynnol ar gyfer cyflenwadau Rheoliad 9 a 10 ynghyd â Pseudomonas aeruginosa fel paramedr i’w fonitro o dan Grŵp A. Nodir amlder monitro dŵr potel ar gyfer paramedrau Grŵp A a Grŵp B yn Nhabl 1 isod.

Tabl 1: Isafswm amlderau ar gyfer dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion na fwriedir iddo gael ei werthu

Faint(1) o ddŵr a gynhyrchir mewn poteli neu gynwysyddion bob dydd (m3)

Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A nifer y samplau y flwyddyn

Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B nifer y samplau y flwyddyn

≤10

1

1


 

>10≤ 60 

12 

1

>60

1 + 5 ar gyfer pob 5m3/y dydd o gyfanswm y dŵr a ddefnyddir (wedi’i dalgrynnu i’r lluosrif agosaf o 5 m3/y dydd)

1 + 100 ar gyfer pob 100m3/y dydd o gyfanswm y dŵr a ddefnyddir (wedi’i  algrynnu  i’r lluosrif agosaf o 100 m3/y dydd)

1 Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaleddau dros flwyddyn galendr.

Fersiwn 1 o Reoliadau Cymru 2017 – Ionawr 2018