Guidance documents

Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 21 (Cymru)

Copi y gellir ei argraffu: Reg-21_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).

Apeliadau

Mae’r rheoliad hwn yn darparu system apelio ar gyfer unrhyw berson (y person(au) perthnasol neu unrhyw berson arall y mae cynnwys yr hysbysiad yn effeithio arno) sy’n anghytuno â’r hysbysiad a gyflwynwyd o dan Reoliad 20. Gall y person apelio i lys ynadon drwy wneud cwyn o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r hysbysiad. Bydd yr hysbysiad yn parhau mewn grym yn ystod yr apêl (am fod angen diogelu iechyd pobl o hyd) oni chaiff yr hysbysiad ei atal gan y llys. Gall y llys ganslo’r hysbysiad neu ei gadarnhau, gyda neu heb addasiadau.

Fersiwn 1 o Reoliadau Cymru – Ionawr 2018