Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 8 (Cymru)
Copi y gellir ei argraffu: Reg-8_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).
Cefndir
Nid yw’r Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat1 yn diffinio cyflenwad dŵr preifat gan fod y diffiniad wedi’i nodi yn y ddeddfwriaeth sylfaenol (Deddf y Diwydiant Dŵr 1991). Yn ei hanfod, ystyr cyflenwad preifat yw “any supply of water other than a public water supply provided by a water company, a licensed water supplier or the Council of the Isles of Scilly”. Fodd bynnag, mae Rheoliad 8 o’r Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat yn creu math arbennig o gyflenwad preifat lle mae’r dŵr yn dod o brif gyflenwad cyhoeddus. Nodir hyn yn Rheoliad 8 fel sefyllfa ‘where water is supplied by a water undertaker or licensed water supplier and is then further distributed by a person other than a water undertaker or licensed water supplier’. Y math hwn o gyflenwad preifat yw testun y Nodyn Gwybodaeth hwn.
Cyflenwadau Rheoliad 8
Nodir egwyddorion sylfaenol cyflenwad Rheoliad 8 isod.
- Daw’r cyflenwad dŵr i’r prif safle o brif gyflenwad dŵr cyhoeddus ac mae’r cwmni dŵr wedi cadarnhau bod unigolyn neu sefydliad sy’n gysylltiedig â’r prif safle2 yn gwsmer i’r cwmni dŵr.
- Wedyn mae cwsmer y cwmni dŵr yn dosbarthu dŵr i bobl eraill i’w ddefnyddio ar safleoedd eraill2 (safleoedd eilaidd).
- Nid yw perchenogion y safleoedd eilaidd2 (na deiliaid safleoedd eilaidd a gaiff eu gosod ar rent ar ôl hynny) yn gwsmeriaid i’r cwmni dŵr.
Mae’r diagram isod yn nodi’r egwyddorion hyn:

Water Undertaker’s supply = Cyflenwad yr Ymgymerwr Dŵr
Primary Premises = Prif Safleoedd
Secondary Premises = Safleoedd Eilaidd
Allwedd:
A = ffin y prif safle (cwsmer y cwmni dŵr)
B = ffin y safleoedd eilaidd
Mae cyflenwad Rheoliad 8 yn tueddu i godi pan gaiff darn o dir ar ystad (neu ryw safle mawr tebyg arall fel ysgol, ffatri neu ysbyty) ei werthu ac mae’r cyflenwad dŵr yn parhau i gael ei ddarparu gan yr ystâd am nad yw’r perchennog newydd wedi trefnu cysylltiad ar wahân â phrif gyflenwad dŵr cyhoeddus. Gall trefniadau o’r fath fod yn fwriadol ond weithiau byddant wedi codi oherwydd gwall, esgeulustra neu gamddealltwriaeth a gododd o ganlyniad i werthu’r tir.
Mae Rheoliad 8 yn nodi’n glir bod yn rhaid cynnwys y math hwn o gyflenwad preifat, ar ôl iddo gael ei nodi, yn asesiad risg a rhaglen fonitro’r awdurdod lleol, nid y cwmni dŵr.
Nodi sefyllfa ynglŷn â chyflenwad preifat sy’n dod o dan Reoliad 8
Nid yw bob amser yn hawdd nodi cyflenwad Rheoliad 8 a bydd angen ei ystyried fesul achos. Bydd bob amser yn gofyn am ddeialog rhwng yr awdurdod lleol a staff y cwmni dŵr priodol.
Fel egwyddor gyffredinol, pryd bynnag y bydd y cyflenwad i safle2 yn dod o’r prif gyflenwad cyhoeddus, dylai’r awdurdod lleol dybio bod y cyflenwad yn gyflenwad dŵr cyhoeddus nes y ceir tystiolaeth i’r gwrthwyneb. Am y rheswm hwn, yr unig gamau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eu cymryd i ddechrau yw cofnodi cyfeiriad unrhyw sefyllfa lle, ar sail gwybodaeth leol, y gallai fod sefyllfa bosibl sy’n dod o dan Reoliad 8, yn ei farn ef, ac wedyn anfon y wybodaeth hon ymlaen i’r cwmni dŵr lleol er mwyn iddo ei chymharu â’i gofnodion bilio cwsmeriaid.
Mae sefyllfa nad yw’n gyflenwad Rheoliad 8 yn un lle y caiff nifer o safleoedd2 eu cyflenwi â dŵr prif gyflenwad drwy un bibell gyflenwi y mae perchenogion yr holl safleoedd yn gyfrifol amdani ar y cyd. Mae hon yn sefyllfa ynglŷn â chyflenwad dŵr cyhoeddus a elwir yn bibell gyflenwi gyffredin.
Sefyllfa arall nad yw’n gyflenwad Rheoliad 8 yw lle mae rhywun yn rhentu eiddo, cartref symudol neu garafán oddi wrth berchennog safle2 a bod perchennog y safle neu denant yr eiddo sydd arno yn gwsmer i gwmni dŵr.
Gall safle mawr unigol (megis parc busnes, canolfan siopa, prifysgol, swyddfeydd, neu floc o fflatiau) sy’n cynnwys naill ai sawl adeilad neu sawl uned sydd i gyd wedi’u lleoli y tu mewn i un adeilad, ymddangos ar gronfa ddata bilio’r cwmni dŵr fel un cwsmer (perchennog safle neu asiant rheoli’r safle cyfan) neu gyfres o gwsmeriaid unigol (deiliaid adeiladau/unedau gwahanol). Mae’r safleoedd hyn yn annhebygol o fod yn gyflenwad Rheoliad 8.
Mae’r enghreifftiau canlynol hefyd yn annhebygol o fod yn sefyllfa ynglŷn â chyflenwad sy’n dod o dan Reoliad 8:
- safleoedd carafannau lle mae’r safle cyfan yn perthyn i un perchennog
- parciau diwydiannol bach lle mae sawl busnes gwahanol yn meddiannu unedau unigol ar un safle.
- gwesty ag adeiladau allan a/neu babell fawr a ddefnyddir ar gyfer digwyddiadau dros dro, megis priodasau, cynadleddau neu gyfarfodydd.
- meysydd awyr a phorthladdoedd lle mae’r safle cyfan yn perthyn i un perchennog.
- prifysgol, coleg neu ysgol lle mae’r safle cyfan yn perthyn i un perchennog.
- ystad wledig lle mae’r holl adeiladau a chartrefi yn eiddo i’r ystad neu’n cael eu rheoli ganddi.
Fodd bynnag, dylid nodi, mewn perthynas ag unrhyw un o’r enghreifftiau uchod, y gallai sefyllfa sy’n dod o dan Reoliad 8 fodoli neu lle y gallai sefyllfa o’r fath godi o ganlyniad i werthu darn o dir neu adeilad (ond nid y safle cyfan). Dim ond fesul achos y gellir nodi’r union sefyllfa.
Ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn, y cwmni dŵr fydd yn gyfrifol am fonitro a gorfodi Rheoliadau Ffitiadau Dŵr 1999.
Ni ddylid ystyried yn awtomataidd bod darparu dŵr, yn y byrdymor, ar gyfer digwyddiad dros dro gan ddefnyddio tanceri, bowseri a thanciau symudol neu sefydlog yn sefyllfa sy’n dod o dan Reoliad 8. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol gymryd camau er mwyn sicrhau bod y trefniadau cyflenwi yn cydymffurfio â Chod Ymarfer BS 8551:2011 – Darparu a Rheoli Cyflenwadau Dŵr Dros Dro a Rhwydweithiau Dosbarthu (heb gynnwys darpariaethau ar gyfer argyfyngau statudol).
Crynodeb o’r pwerau sydd ar gael ar gyfer gwella cyflenwadau Rheoliad 8
- Hysbysiad gan yr awdurdod lleol o dan Reoliad 20 o’r Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat neu Hysbysiad o dan Adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 sy’n seiliedig ar asesiad risg o dan Reoliad 6.
- Hysbysiad cwmni dŵr ar gyfer achosion o dorri Rheoliadau Ffitiadau Dŵr 1999.
- Bydd y math o Hysbysiad yn dibynnu ar yr union amgylchiadau a fydd, yn eu tro, yn pennu i bwy y dylid cyflwyno’r Hysbysiad a natur y gwaith adfer gofynnol y dylid ei nodi. Weithiau efallai y bydd angen cyflwyno mwy nag un math o Hysbysiad. Yn yr un modd, gall fod mwy nag un ‘person perthnasol’. Dylid ceisio cyngor yr Arolygiaeth cyn cyflwyno hysbysiadau mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn rhai syml.
Diffiniadau Defnyddiol
- Mae ymgymerwr trwyddedig yn gwmni, yn sefydliad neu’n berson sy’n gyflenwr dŵr trwyddedig fel y’i diffinnir o dan Adran 17A o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (ac a gydnabyddir yn ffurfiol fel y cyfryw gan Ofwat, y rheoleiddiwr economaidd). Yn y Nodyn Gwybodaeth hwn ac mewn canllawiau eraill, defnyddir y term cwmni dŵr i gwmpasu pob math o gyflenwr dŵr cyhoeddus trwyddedig.
- Y diffiniad o safle yw tir ac unrhyw adeiladau sydd arno.
- Darperir cyflenwad dŵr cyhoeddus i safle drwy brif bibell ddŵr a phibell wasanaeth. Gelwir y rhan o’r bibell wasanaeth sy’n eiddo i’r cwmni dŵr yn bibell gyswllt; mae gweddill y bibell wasanaeth, a elwir yn bibell gyflenwi, yn eiddo i berchennog/perchenogion y safle. Diffinnir pibell wasanaeth fel y rhan honno o unrhyw bibell sy’n cyflenwi dŵr o brif bibell i safle sy’n agored i bwysedd dŵr o’r brif bibell honno (neu a fyddai’n agored iddo pe na bai rhyw falf wedi’i chau). Daw’r diffiniadau hyn o Reoliadau Ffitiadau Dŵr 1999. Nid yw’r term ‘prif bibell/pibell ddosbarthu breifat’, er ei bod yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin, yn derm cydnabyddedig ond, pan gaiff ei ddefnyddio, mae’n debygol o olygu pibell gyflenwi fel y’i diffinnir uchod.
- Gall contractwyr sy’n gosod prif bibellau dŵr a phibellau gwasanaeth fod yn gweithio ar ran cwmni dŵr, datblygwr neu berchennog safle. Dylai unrhyw gontractwr o’r fath fod yn Gontractwr a Gymeradwywyd gan gwmni dŵr.
1 Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 2016 (yn Lloegr) a Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 2017 (yng Nghymru).
2 Tir rhydd-ddaliad, sy’n cynnwys unrhyw eiddo ar y tir hwnnw a all fod wedi’i osod ar rent.
Fersiwn 1 o Reoliadau 2017 – Ionawr 2018