Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 6 (Cymru)

Gofyniad i gynnal asesiad risg

Er bod gwaith monitro yn un o ofynion Rheoliadau Cyflenwadau Preifat (Cymru) 2017, ni all gwaith samplu a dadansoddi ar ei ben ei hun roi sicrwydd ynglŷn â diogelwch cyflenwadau dŵr preifat. Felly, mae’r gofyniad a osodir ar bob awdurdod lleol i gynnal asesiad risg o bob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal (heb gynnwys y rhai i anheddau unigol os na ddefnyddir y cyflenwad fel rhan o weithgaredd masnachol na chyhoeddus nac fel rhan o gytundeb tenantiaeth) o leiaf bob pum mlynedd, oni ofynnir i’r awdurdod lleol wneud hynny, yn agwedd allweddol ar y Rheoliadau.

Er mwyn helpu awdurdodau lleol i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan Reoliad 6, mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed wedi darparu adnodd asesu risg anfasnachol sydd wedi’i drwyddedu gan y llywodraeth ar ei gwefan, gyda nodiadau esboniadol a dolen i fideo hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r adnodd Asesu Risg ‘Lite’. Gall awdurdod lleol gomisiynu sefydliad neu unigolion allanol i gynnal yr asesiadau risg ar ei ran ac, os bydd yn gwneud hynny, bydd angen iddo fodloni ei hun bod y personau allanol sy’n cynnal yr asesiadau risg wedi cael yr hyfforddiant priodol a’u bod yn gymwys i wneud hynny. Dylai awdurdodau lleol sy’n defnyddio personau allanol archwilio nifer fach o’r asesiadau risg er mwyn bodloni eu hunain eu bod wedi’u cynnal mewn modd cymwys ac yn unol â’r nodiadau esboniadol. Gall sefydliad allanol sydd wedi’i gontractio i gynnal asesiadau risg ar ran awdurdod lleol gael ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i ddefnyddio adnodd asesu risg yr Arolygiaeth Dŵr Yfed at y diben hwn, ar yr amod NA CHAIFF yr adnodd ei ddefnyddio an y sefydliad hwnnw i wneud unrhyw elw masnachol y tu allan i’r contract y cytunwyd arno.

Ceir pedair fersiwn o adnodd asesu risg yr Arolygiaeth Dŵr Yfed. Dylai aseswyr risg ddewis yr un fwyaf priodol fesul achos:

  1. Adnodd sy’n cwmpasu ystod gynhwysfawr o drefniadau cyflenwi dŵr preifat
  2. Adnodd ar gyfer cyflenwadau bach cyffredin sy’n defnyddio dulliau trin syml, a elwir yn adnodd asesu risg ‘Lite’
  3. Adnodd penodol i asesu’r risg sy’n gysylltiedig â chyflenwadau a ddefnyddir i fflysio toiledau yn unig.
  4. Adnodd ar gyfer cyflenwadau sy’n dod o brif gyflenwadau dŵr ac sydd wedi’u dosbarthu’n Rheoliad 8.

Mae’r rhain ar gael yma:

http://www.dwi.gov.uk/private-water-supply/local-auth/risk-assessment.html

Ar gyfer asesiadau risg a gynhelir ar ôl i Reoliadau 2017 gael eu rhoi ar waith, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o adnodd asesu risg yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, sydd ar gael ar y wefan uchod. Os bydd awdurdod lleol yn dewis defnyddio methodoleg amgen i gwblhau’r asesiad risg, bydd yn rhaid iddo sicrhau ei bod yn cydymffurfio â’r safon EN15975-2.

Ar gyfer cyflenwadau sydd wedi cael asesiad risg yn flaenorol a nododd fod risg isel yn gysylltiedig â hwy a’u bod yn cael eu rheoli’n dda, gall unrhyw asesiadau pellach gael eu cwblhau drwy ohebu â’r person(au) perthnasol er mwyn cadarnhau na fu unrhyw newidiadau sylweddol. Fodd bynnag, os na fydd y person(au) perthnasol yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyflenwad bydd angen ymweld â’r safle. Os na chynhaliwyd asesiadau risg blaenorol gan ddefnyddio adnodd asesu risg yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio methodoleg gymeradwy sy’n cydymffurfio ag EN15975-2 ym mhob cyfnod pum mlynedd dilynol.

Fel rhan o’r asesiad risg dylai awdurdodau lleol hefyd gyfeirio at unrhyw wybodaeth berthnasol am beryglon lleol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Ddaearegol Prydain, cwmni dŵr lleol neu adran gynllunio, e.e. newidiadau yn y defnydd o dir, digwyddiadau llygru, coedwigaeth, dyframaethu, cloddio ac ati. Os bydd gwaith monitro wedi nodi unrhyw ddiffygion ers yr asesiad risg blaenorol dylid diweddaru’r asesiad risg er mwyn adlewyrchu casgliad yr ymchwiliad a gynhaliwyd ar y pryd ynghyd ag unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i’r ymchwiliad e.e. cyngor neu hysbysiadau. Gellir cael tystiolaeth bod camau adfer wedi’u cwblhau drwy ymweld â’r safle neu drwy gael tystiolaeth gadarn arall megis ffotograffau sy’n dangos gwaith wedi’i gwblhau neu anfonebau gan gyflenwyr neu osodwyr. Bydd y math o dystiolaeth sydd ei hangen yn dibynnu ar y math o waith a gwblhawyd a faint o hyder sydd gan yr awdurdod lleol yn y personau perthnasol. Sut bynnag, dylai’r awdurdod lleol fodloni ei hun bod y gwaith wedi’i gwblhau’n foddhaol.

Ceir canllawiau pellach ar ymweliadau safle yn adran C o’r Nodiadau Esboniadol ar gyfer adnodd asesu risg yr Arolygiaeth ac maent ar gael yma:

http://www.dwi.gov.uk/private-water-supply/local-auth/risk-assessment/RAexplanatory-note.pdf

Mae asesiadau risg yn cael eu defnyddio fwyfwy ledled y byd fel rhan hanfodol o raglen cadw gwyliadwriaeth a rheoli ansawdd dŵr yfed. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn ei ganllawiau diweddaraf1 yn nodi ‘the most effective means of consistently assuring the safety of a drinking water supply is through the use of a comprehensive risk assessment and risk management approach that encompasses all steps in water supply from catchment to consumer’. Mae asesu risg yn ddull rhagweithiol o nodi’r risgiau (y posibilrwydd na chydymffurfir â safonau a risgiau i iechyd pobl) a chymryd camau i reoli’r risgiau hynny drwy fabwysiadu dull amlrwystr (er enghraifft, drwy ddiogelu ffynonellau, trin dŵr y ffynhonnell a rheoli’r rhwydwaith dosbarthu er mwyn atal halogyddion rhag mynd i mewn i’r system gyflenwi). Prif nodau asesiad risg wrth sicrhau arfer da o ran cyflenwi dŵr yfed yw:

  • nodi’r risgiau yn y dalgylch sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar ansawdd ffynhonnell y cyflenwad dŵr preifat ac unrhyw fesurau rheoli sy’n ymarferol i leihau’r risg (er enghraifft codi ffensys i atal anifeiliaid rhag halogi ffynonellau dŵr wyneb a mesurau diogelu er mwyn atal dŵr wyneb rhag mynd i mewn i dwll turio drwy ffos ddargyfeirio). Mewn llawer o achosion, ni fydd mesurau rheoli yn y dalgylch nac wrth y ffynhonnell yn lleihau’r risgiau ddigon;
  • nodi’r peryglon sydd angen eu rheoli drwy brosesau trin ac, os nad oes prosesau trin priodol ar waith (gall hyn fod yn wir yn achos llawer o gyflenwadau, yn enwedig cyflenwadau bach), drwy osod a chynnal a chadw prosesau trin priodol i gael gwared ar y crynodiadau o halogyddion neu eu lleihau;
  • nodi’r risg y bydd halogyddion yn mynd i mewn i’r rhwydwaith dosbarthu (er enghraifft, drwy danciau a phibellwaith diffygiol) a chymryd camau priodol i reoli’r risgiau hynny (archwiliadau, gwaith atgyweirio a chynnal a chadw);
  • nodi’r risgiau o halogi o fewn safleoedd (er enghraifft o ganlyniad i waith cynnal a chadw gwael ar bibellau a ffitiadau, yn enwedig tapiau cegin, a metelau a godwyd o systemau plymio hŷn (er enghraifft, plwm)) a chymryd camau i leihau’r risgiau hyn (yn aml drwy roi cyngor i berchenogion/deiliaid yr eiddo);
  • nodi’r mesurau rheoli sydd eu hangen a’r gwaith monitro gweithrediadau sydd angen ei wneud (er enghraifft gwaith samplu a dadansoddi gweithredol ar gyfer paramedrau allweddol yn erbyn terfynau rhybudd sy’n llymach na’r safonau yn y Rheoliadau a gwiriadau/archwiliadau rheolaidd);
  • nodi protocolau gweithredu safonol â chofnodion priodol ar gyfer trin a dosbarthu dŵr o dan amgylchiadau arferol a phrotocolau ar gyfer cymryd camau adfer amserol pan fydd gwaith monitro mesurau rheoli yn dangos bod problem weithredol;
  • nodi unrhyw risgiau i ddiogelwch sy’n gysylltiedig â’r ffynhonnell, y gwaith trin dŵr a’r rhwydwaith dosbarthu fel y gellir cymryd camau er mwyn sicrhau na caiff cyflenwadau eu halogi’n fwriadol;
  • cadarnhau ansawdd dŵr yfed drwy sefydlu gwiriadau ac archwiliadau rheolaidd â chofnodion priodol (e.e. bod mesurau diogelu’r ffynhonnell ar waith ac yn gweithredu’n effeithiol a bod y system ddiheintio’n weithredol) a monitro cydymffurfiaeth â’r safonau a gwerthoedd paramedrau dangosol yn y Rheoliadau.

Mae sawl ffactor yn pennu’r flaenoriaeth y dylid cynnal yr asesiadau risg a gallent gynnwys:

  • nifer y bobl a gyflenwir;
  • y graddau y defnyddir y dŵr fel rhan o weithgaredd masnachol neu gyhoeddus;
  • natur y ffynhonnell (dŵr wyneb o ansawdd amrywiol, dŵr daear o ansawdd cyson);
  • faint o driniaeth a roddir i’r dŵr;
  • y ffordd y caiff y cyflenwad ei reoli a’i weithredu.

Os bydd asesiad risg yn nodi risg wirioneddol neu bosibl i iechyd pobl, neu risg o ddiffyg cydymffurfio ag unrhyw un o’r safonau neu werthoedd paramedr dangosol yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau, bydd yn rhaid cymhwyso rheoliad 18(5). Mae’n rhaid defnyddio’r asesiad risg fel rhan o’r wybodaeth i alluogi awdurdodau lleol i ystyried a ellir eithrio paramedrau rhag y gofynion monitro a chynnwys unrhyw baramedrau perthnasol eraill yn ychwanegol at y rhai a nodir yn Atodlen 1, yn seiliedig ar yr asesiad risg (gweler y Nodyn Gwybodaeth ar gyfer rheoliad 7).

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried, fel rhan o’u hasesiadau risg, unrhyw ddata a gesglir at ddibenion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr gan gynnwys data a gesglir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chwmnïau dŵr fel rhan o’u rhaglenni monitro dŵr crai.

Os bydd cyflenwad dŵr preifat yn gwasanaethu safleoedd mewn mwy nag un ardal awdurdod lleol, er mwyn osgoi dyblygu ymdrech dylai’r awdurdodau lleol gytuno y dylai un ohonynt (fel arfer yr awdurdod lleol lle y mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd wedi’u lleoli) baratoi’r asesiad risg mewn ymgynghoriad â’r awdurdodau eraill ac anfon copi o’r asesiad risg at yr awdurdodau eraill.

Dylai’r awdurdod lleol gadw cofnod llawn o bob asesiad risg, gan gynnwys y rhai a gynhelir ar ei ran. Yn ogystal â’r gofyniad i gynnal pob asesiad risg o leiaf bob pum mlynedd, dylai’r awdurdod lleol adolygu asesiad risg pryd bynnag y mae o’r farn bod yr asesiad risg presennol yn annigonol. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys pan fo unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau o ran y system gyflenwi (megis dirywiad yn ansawdd dŵr crai, gosod proses drin newydd ac ati).

Os daw awdurdod lleol yn ymwybodol o gyflenwad preifat a fydd yn cael ei ddefnyddio, neu sy’n cael ei ddefnyddio, am y tro cyntaf, mae’n rhaid cwblhau asesiad risg cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (am ragor o wybodaeth gweler y Nodyn Gwybodaeth ar gyfer Rheoliad 15).

At hynny, o fewn 12 mis i gynnal asesiad risg, mae’n rhaid i awdurdodau lleol anfon crynodeb o ganlyniad yr asesiad hwnnw i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed (sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru). Gweler y Nodyn Gwybodaeth ar gyfer Rheoliad 16.

Asesiadau risg o gyflenwadau i anheddau unigol

Mae’n RHAID i awdurdod lleol gynnal asesiad risg o bob cyflenwad dŵr preifat sy’n cyflenwi annedd unigol yn ei ardal a ddarperir fel rhan o weithgaredd masnachol neu gyhoeddus neu pan fydd annedd unigol sy’n dibynnu ar gyflenwad dŵr preifat at ddibenion domestig yn cael ei rhentu fel rhan o gytundeb tenantiaeth. Mae’n rhaid iddo hefyd adolygu a diweddaru’r asesiad risg bob 5 mlynedd (neu’n gynt os bydd o’r farn bod yr asesiad risg presennol yn annigonol).

Pan gyflenwir dŵr i annedd unigol nas defnyddir fel rhan o weithgaredd masnachol na chyhoeddus nac fel rhan o gytundeb tenantiaeth, nid oes angen cynnal asesiad risg, oni fydd perchennog neu ddeiliad yr annedd yn gofyn i’r awdurdod lleol gynnal un.

Asesiadau risg o gyflenwadau Rheoliad 8
(Gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 8)

Bydd dŵr a gyflenwir i bob cyflenwad Rheoliad 8, yn ôl ei darddiad, yn dod o gyflenwadau cyhoeddus. Mae’n rhaid i’r asedau (pibellau, tanciau ac ati) y cyflenwir y dŵr hwn drwyddynt i ddefnyddwyr cyflenwadau Rheoliad 8, gydymffurfio â Rheoliadau Ffitiadau Dŵr 1999. Y rheoleiddiwr ar gyfer hyn yw’r cwmni dŵr sy’n cyflenwi.

Nid yw’n ofynnol i awdurdodau lleol fod yn arolygwyr ffitiadau cymwys er mwyn bod yn gymwys i gynnal asesiadau risg o gyflenwadau Rheoliad 8. Fodd bynnag, dylent sicrhau bod aelodau perthnasol o staff wedi cael lefel ymarferol briodol o ymwybyddiaeth o’r Rheoliadau hyn gan arolygwyr ffitiadau dŵr cwmnïau dŵr cymwys cyn cynnal asesiad risg. Dylai hyn fod yn rhan o’r rhaglen hyfforddi a datblygu cymhwysedd gyffredinol i’r aelodau hynny o staff y mae angen iddynt gynnal asesiadau risg o dan Reoliad 6. Os amheuir achosion gwirioneddol neu achosion a amheuir o dorri rheoliadau ffitiadau dŵr sy’n peri risg i iechyd pobl ar gyflenwad Rheoliad 8, dylai awdurdodau lleol gysylltu â’u cwmni dŵr lleol i gael cyngor a, phan gytunir ar hynny, drefnu ymweliad ar y cyd. Dylai’r ddau barti gydweithio er mwyn sicrhau y caiff unrhyw risgiau a nodir eu lliniaru, gan ddefnyddio mesurau gorfodi perthnasol o dan eu priod bwerau rheoleiddio lle y bo’n gymwys. Yn yr achosion hyn dylai pob awdurdod lleol gadw cofnodion wedi’u dogfennu cynhwysfawr o’i weithredoedd ei hun.

Dylai achosion o dorri Rheoliadau Ffitiadau Dŵr gael eu cofnodi fel peryglon yn yr asesiad risg o’r cyflenwad ac, felly, gyfrannu at statws risg y cyflenwad a chynllun datblygu’r asesiad hwnnw. Yn yr achosion hyn y cwmni dŵr sy’n gyfrifol am gymryd camau gorfodi i liniaru risgiau o’r fath.

Dylid nodi y dylai gofynion monitro (paramedrau dadansoddi ac amlder samplu) ar gyfer cyflenwadau Rheoliad 8 fod yn seiliedig ar yr asesiad risg. Nid yw’r rheoliadau yn darparu ar gyfer monitro cyflenwadau Rheoliad 8 ar gyfer paramedrau Grŵp A a Grŵp B.

Digwyddiadau dros dro

Nid yw’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad risg o dan Reoliad 6 o gyflenwad dŵr ar gyfer digwyddiad dros dro a ddaw o gyflenwad cyhoeddus – naill ai drwy bibellau neu mewn tanceri, oni bai ei fod yn gyflenwad Rheoliad 8, neu’n cael ei gyflenwi o ffynonellau eraill megis twll turio, ffynhonnau, ffrydiau ac ati.

Fodd bynnag, fel rhan o’u dyletswyddau cyffredinol wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd ym mhob digwyddiad dros dro, dylai awdurdodau lleol sicrhau y caiff unrhyw gyflenwad y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion domestig gael ei ddarparu yn unol â BS8551 a bod trefnwyr y digwyddiad yn mabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar risg mewn perthynas â chyflenwadau dŵr.

Mae’n ddyletswydd ar gwmnïau dŵr i reoleiddio a gorfodi, lle y bo angen, Reoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 mewn digwyddiadau dros dro os oes cysylltiad ffisegol â’r prif gyflenwad cyhoeddus. Dylai awdurdodau lleol hysbysu cwmnïau dŵr yn amserol am unrhyw ddigwyddiadau dros dro sydd ar fin cael eu cynnal.

1 www.who.int/entity/water_sanitation_health/publications/2011/dwq_guidelines/en/

Fersiwn 1 o Reoliadau 2017 – Ionawr 2018

Back to top