Dŵr yfed 2025 – Crynodeb o adroddiad y Prif Arolygydd ar ddŵr yfed yng Nghymru

Published 10:37:36 BST 9 July 2026

Cyhoeddwyd gan  
Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed
Ground Floor, SW
Seacole Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF


Ffôn: 0330 041 6501


Gwefan: www.dwi.gov.uk


© Hawlfraint y Goron 2026


Y Goron sy’n berchen ar hawlfraint y trefniant teipograffyddol a’r dyluniad.


Gellir copïo’r cyhoeddiad hwn (ac eithrio’r logo) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod ei fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cydnabod mai’r Goron sy’n berchen ar hawlfraint y deunydd a rhaid nodi teitl a ffynhonnell y cyhoeddiad.

Cyflwyniad

Cyflwynir Adroddiad y Prif Arolygydd 2025 er cof am Maria Grace, a dreuliodd 40 mlynedd yn y Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys yr 14 mlynedd diwethaf gyda’r Arolygiaeth. Yn anffodus, bu farw Maria ym mis Chwefror 2026 yn dilyn salwch byr. Roedd hi’n gydweithiwr gwerthfawr iawn ac roedd ei hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus a defnyddwyr, ynghyd â’i synnwyr digrifwch, yn cael ei werthfawrogi’n fawr a bydd colled fawr ar ei hôl.

Maria Grace

Glossary

Company code with its associated company name

  • AWI | Advanced Water Infrastructure Networks
  • AFW | Affinity Water
  • ALE | Albion Eco Ltd
  • ALB | Albion Water Ltd
  • ANH | Anglian Water Services Ltd
  • BRL | Bristol Water Plc
  • CAM | Cambridge Water Company Plc
  • DWR | Dŵr Cymru Welsh Water
  • ESP | ESP Water Limited
  • HDC | Hafren Dyfrdwy
  • ICW | Last Mile Water Ltd
  • IWN | Independent Water Networks
  • ISC | Isles of Scilly
  • LNW | Leep Networks Water
  • MTX | Matrix Water
  • MUA | MUA Water Ltd
  • NES | Northumbrian, Essex and Suffolk Water
  • PRT | Portsmouth Water Plc
  • SES | SES Water
  • SVT | Severn Trent Water Ltd
  • SEW | South East Water Plc
  • SST | South Staffordshire Water Plc
  • SWB | South West and Bournemouth Water
  • SRN | Southern Water Services Ltd
  • TMS | Thames Water Utilities Ltd
  • UUT | United Utilities Water Plc
  • VWP | Veolia Water Projects
  • WSX | Wessex Water Services Ltd
  • YKS | Yorkshire Water Services Ltd

Rhagair

Mae darparu dŵr yfed glân yn hanfodol i iechyd cyhoeddus, llesiant a ffyniant economaidd, ac mae sicrhau bod pawb yn gallu cyrchu dŵr glân yn hawl ddynol sylfaenol a gydnabyddir gan y Cenhedloedd Unedig. Mae’r datblygiadau mewn cynlluniau diogelwch dŵr a systemau rheoli dŵr, sy’n seiliedig ar weithdrefnau rheoleiddio ansawdd dŵr cadarn, yn parhau i gefnogi darpariaeth dŵr yfed sydd ymysg y gorau yn y byd. Mae ansawdd dŵr yfed yng Nghymru yn dal yn rhagorol, gyda chyflenwadau cyhoeddus yn bodloni’r safonau rheoleiddio llym ar gyfer dŵr yfed yn gyson. Roedd cydymffurfiad â’r safonau yn 2025 yn 99.97%, gan roi sicrwydd cryf bod defnyddwyr yn parhau i gael dŵr dihalog.

Mae cyflenwadau dŵr yfed yng Nghymru yn cael eu diogelu drwy gynllunio diogelwch dŵr, sy’n darparu dull aml-rwystr cadarn o atal risgiau rhag dod i’r amlwg. Drwy’r broses hon, mae risgiau’n cael eu nodi o’r tarddiad i’r tap, ac mae mesurau lliniaru priodol yn cael eu rhoi ar waith cyn bod unrhyw ddirywiad o ran ansawdd neu ddigonolrwydd, neu effaith ar ddefnyddwyr. Mae ansawdd y cyflenwadau’n cael ei gadarnhau ymhellach drwy brosesau samplu ar hap helaeth. Os bydd rhywbeth yn mynd o chwith, bydd yr Arolygiaeth yn ymchwilio, yn asesu achosion o fethiannau cydymffurfio a digwyddiadau, ac yn cymryd camau gorfodi i atal hyn rhag digwydd eto. Yn 2025, tynnodd gweithgareddau rheoleiddio sylw at bwysigrwydd parhaus asesiadau risg cywir, monitro cynrychioladol, ymchwilio amserol a darparu offerynnau cyfreithiol yn effeithiol.

Mae’r sector yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr angen i gwmnïau wella iechyd a chadernid asedau, gan ganolbwyntio’n benodol ar falfiau aer, prif bibellau dosbarthu, tanciau dŵr sydd wedi’i drin a chronfeydd dŵr gwasanaeth. Roedd y risg o ran cydymffurfio yng Nghymru yn dal yn rhy uchel yn 2025, wedi’i sbarduno gan ganfyddiadau microbiolegol, afloywder a nifer uchel parhaus o fethiannau sy’n gysylltiedig â haearn. Roedd digwyddiadau hefyd yn dangos pwysigrwydd trefniadau cyflenwi amgen cadarn, samplu tanceri’n effeithiol, cofnodion asedau cywir, monitro dibynadwy, a chyfathrebu’n glir â defnyddwyr yn ystod digwyddiadau.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod gwelliant hirdymor yn dibynnu ar gwmnïau’n symud o ymatebion gweithredol adweithiol i ddulliau ataliol o reoli risg sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys rheolaeth gryfach ar afliwio, gwell rheolaeth ar risgiau plwm a sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS), diheintio mwy cadarn a sicrwydd o ran triniaeth, gwell dealltwriaeth o gyflwr asedau, a chynnydd parhaus drwy raglenni trawsnewid a gorfodi. Yn dilyn yr adolygiad annibynnol o’r system ddŵr yng Nghymru a Lloegr, mae’r Arolygiaeth yn gweithio gyda chyd-reoleiddwyr i ail-alinio’r weithdrefn reoleiddio er mwyn iddi fynd i’r afael yn well â newid yn yr hinsawdd, twf yn y boblogaeth, risgiau newydd a risgiau sy’n dod i’r amlwg, diogelwch gwladol a chadernid hirdymor. Bydd y gwaith hwn yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer dŵr yfed diogel o ansawdd uchel nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan gydbwyso anghenion defnyddwyr ar yr un pryd â diogelu’r amgylchedd ac iechyd y cyhoedd.

Marcus Rink signature

Dr Marcus Rink OBE

Prif Arolygydd Dŵr Yfed

Cyflwyniad

Dŵr Yfed 2025 yw cyhoeddiad blynyddol Prif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru a Lloegr. Dyma’r 36ain adroddiad ar waith yr Arolygiaeth ac mae’n cyflwyno’r wybodaeth gryno am ansawdd dŵr yfed ar gyfer y flwyddyn galendr 2025. Fe’i cyhoeddir fel adroddiad interim ac adroddiad cryno terfynol, sy’n ymdrin â chyflenwadau dŵr cyhoeddus, ac un adroddiad, sy’n ymdrin â chyflenwadau dŵr preifat. Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb o gyflenwadau dŵr cyhoeddus Cymru. Mae dangosfyrddau’r diwydiant ar gyfer Cymru 2025 i’w gweld yn gryno isod:

Ffigur 1 – Dangosfwrdd cydymffurfiaeth Cymru

Cyflenwadau dŵr a phrofion

Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r ffeithiau allweddol am ansawdd y cyflenwadau dŵr cyhoeddus yng Nghymru. Darperir y cyflenwadau hyn gan ddau gwmni dŵr ac un penodedig newydd, sy’n cyflenwi dŵr i dros 3.3 miliwn o ddefnyddwyr. Mae penodedig newydd yn gyflenwr sy’n disodli’r darparwr monopoli presennol ar gyfer safle diffiniedig yn ardal y darparwr hwnnw. Dangosir yr ardal a wasanaethir gan bob cwmni dŵr yn Ffigur 2.

Map of Wales showing the company boundaries
Ffigur 2 – Map ffiniau cwmnïau Cymru
Cyflenwadau dŵr cyhoeddusFfeithiau allweddol
Poblogaeth a gyflenwir3,313,500
Dŵr a gyflenwir (L/dydd)926,342,000
Safleoedd gwaith trin dŵr69
Cronfeydd dŵr gwasanaeth384
Parthau cyflenwi dŵr103
Hyd y brif bibell ddŵr (km)30,616
Ffynonellau dŵr wyneb257
Ffynonellau dŵr daear42
Ffynonellau dŵr cymysg1
Tabl 1 – Ffeithiau allweddol am gyflenwadau cyhoeddus – darparwyd y data gan gwmnïau dŵr
Cyflenwadau dŵr preifatFfeithiau allweddol
Poblogaeth a gyflenwir104,431
Dŵr a gyflenwir (L/dydd)108,582
Nifer y cyflenwadau14,902
Nifer yr awdurdodau lleol â chyflenwadau preifat22
Cyflenwadau heb asesiad risg11,756
Tabl 2 – Ffeithiau allweddol am gyflenwadau cyhoeddus – darparwyd y data gan awdurdodau lleol

*Mae penodedig newydd neu Benodiadau Newydd ac Amrywiadau (NAV) yn cael eu diffinio gan Ofwat fel a ganlyn – https://www.ofwat.gov.uk/regulated-companies/markets/nav-market/