Y Goron sy’n berchen ar hawlfraint y trefniant teipograffyddol a’r dyluniad.
Gellir copïo’r cyhoeddiad hwn (ac eithrio’r logo) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod ei fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cydnabod mai’r Goron sy’n berchen ar hawlfraint y deunydd a rhaid nodi teitl a ffynhonnell y cyhoeddiad.
Cyflwyniad
Cyflwynir Adroddiad y Prif Arolygydd 2025 er cof am Maria Grace, a dreuliodd 40 mlynedd yn y Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys yr 14 mlynedd diwethaf gyda’r Arolygiaeth. Yn anffodus, bu farw Maria ym mis Chwefror 2026 yn dilyn salwch byr. Roedd hi’n gydweithiwr gwerthfawr iawn ac roedd ei hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus a defnyddwyr, ynghyd â’i synnwyr digrifwch, yn cael ei werthfawrogi’n fawr a bydd colled fawr ar ei hôl.
Glossary
Company code with its associated company name
AWI | Advanced Water Infrastructure Networks
AFW | Affinity Water
ALE | Albion Eco Ltd
ALB | Albion Water Ltd
ANH | Anglian Water Services Ltd
BRL | Bristol Water Plc
CAM | Cambridge Water Company Plc
DWR | Dŵr Cymru Welsh Water
ESP | ESP Water Limited
HDC | Hafren Dyfrdwy
ICW | Last Mile Water Ltd
IWN | Independent Water Networks
ISC | Isles of Scilly
LNW | Leep Networks Water
MTX | Matrix Water
MUA | MUA Water Ltd
NES | Northumbrian, Essex and Suffolk Water
PRT | Portsmouth Water Plc
SES | SES Water
SVT | Severn Trent Water Ltd
SEW | South East Water Plc
SST | South Staffordshire Water Plc
SWB | South West and Bournemouth Water
SRN | Southern Water Services Ltd
TMS | Thames Water Utilities Ltd
UUT | United Utilities Water Plc
VWP | Veolia Water Projects
WSX | Wessex Water Services Ltd
YKS | Yorkshire Water Services Ltd
Rhagair
Mae darparu dŵr yfed glân yn hanfodol i iechyd cyhoeddus, llesiant a ffyniant economaidd, ac mae sicrhau bod pawb yn gallu cyrchu dŵr glân yn hawl ddynol sylfaenol a gydnabyddir gan y Cenhedloedd Unedig. Mae’r datblygiadau mewn cynlluniau diogelwch dŵr a systemau rheoli dŵr, sy’n seiliedig ar weithdrefnau rheoleiddio ansawdd dŵr cadarn, yn parhau i gefnogi darpariaeth dŵr yfed sydd ymysg y gorau yn y byd. Mae ansawdd dŵr yfed yng Nghymru yn dal yn rhagorol, gyda chyflenwadau cyhoeddus yn bodloni’r safonau rheoleiddio llym ar gyfer dŵr yfed yn gyson. Roedd cydymffurfiad â’r safonau yn 2025 yn 99.97%, gan roi sicrwydd cryf bod defnyddwyr yn parhau i gael dŵr dihalog.
Mae cyflenwadau dŵr yfed yng Nghymru yn cael eu diogelu drwy gynllunio diogelwch dŵr, sy’n darparu dull aml-rwystr cadarn o atal risgiau rhag dod i’r amlwg. Drwy’r broses hon, mae risgiau’n cael eu nodi o’r tarddiad i’r tap, ac mae mesurau lliniaru priodol yn cael eu rhoi ar waith cyn bod unrhyw ddirywiad o ran ansawdd neu ddigonolrwydd, neu effaith ar ddefnyddwyr. Mae ansawdd y cyflenwadau’n cael ei gadarnhau ymhellach drwy brosesau samplu ar hap helaeth. Os bydd rhywbeth yn mynd o chwith, bydd yr Arolygiaeth yn ymchwilio, yn asesu achosion o fethiannau cydymffurfio a digwyddiadau, ac yn cymryd camau gorfodi i atal hyn rhag digwydd eto. Yn 2025, tynnodd gweithgareddau rheoleiddio sylw at bwysigrwydd parhaus asesiadau risg cywir, monitro cynrychioladol, ymchwilio amserol a darparu offerynnau cyfreithiol yn effeithiol.
Mae’r sector yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr angen i gwmnïau wella iechyd a chadernid asedau, gan ganolbwyntio’n benodol ar falfiau aer, prif bibellau dosbarthu, tanciau dŵr sydd wedi’i drin a chronfeydd dŵr gwasanaeth. Roedd y risg o ran cydymffurfio yng Nghymru yn dal yn rhy uchel yn 2025, wedi’i sbarduno gan ganfyddiadau microbiolegol, afloywder a nifer uchel parhaus o fethiannau sy’n gysylltiedig â haearn. Roedd digwyddiadau hefyd yn dangos pwysigrwydd trefniadau cyflenwi amgen cadarn, samplu tanceri’n effeithiol, cofnodion asedau cywir, monitro dibynadwy, a chyfathrebu’n glir â defnyddwyr yn ystod digwyddiadau.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod gwelliant hirdymor yn dibynnu ar gwmnïau’n symud o ymatebion gweithredol adweithiol i ddulliau ataliol o reoli risg sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys rheolaeth gryfach ar afliwio, gwell rheolaeth ar risgiau plwm a sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS), diheintio mwy cadarn a sicrwydd o ran triniaeth, gwell dealltwriaeth o gyflwr asedau, a chynnydd parhaus drwy raglenni trawsnewid a gorfodi. Yn dilyn yr adolygiad annibynnol o’r system ddŵr yng Nghymru a Lloegr, mae’r Arolygiaeth yn gweithio gyda chyd-reoleiddwyr i ail-alinio’r weithdrefn reoleiddio er mwyn iddi fynd i’r afael yn well â newid yn yr hinsawdd, twf yn y boblogaeth, risgiau newydd a risgiau sy’n dod i’r amlwg, diogelwch gwladol a chadernid hirdymor. Bydd y gwaith hwn yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer dŵr yfed diogel o ansawdd uchel nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan gydbwyso anghenion defnyddwyr ar yr un pryd â diogelu’r amgylchedd ac iechyd y cyhoedd.
Dr Marcus Rink OBE
Prif Arolygydd Dŵr Yfed
Cyflwyniad
Dŵr Yfed 2025 yw cyhoeddiad blynyddol Prif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru a Lloegr. Dyma’r 36ain adroddiad ar waith yr Arolygiaeth ac mae’n cyflwyno’r wybodaeth gryno am ansawdd dŵr yfed ar gyfer y flwyddyn galendr 2025. Fe’i cyhoeddir fel adroddiad interim ac adroddiad cryno terfynol, sy’n ymdrin â chyflenwadau dŵr cyhoeddus, ac un adroddiad, sy’n ymdrin â chyflenwadau dŵr preifat. Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb o gyflenwadau dŵr cyhoeddus Cymru. Mae dangosfyrddau’r diwydiant ar gyfer Cymru 2025 i’w gweld yn gryno isod:
Ffigur 1 – Dangosfwrdd cydymffurfiaeth Cymru
Cyflenwadau dŵr a phrofion
Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r ffeithiau allweddol am ansawdd y cyflenwadau dŵr cyhoeddus yng Nghymru. Darperir y cyflenwadau hyn gan ddau gwmni dŵr ac un penodedig newydd, sy’n cyflenwi dŵr i dros 3.3 miliwn o ddefnyddwyr. Mae penodedig newydd yn gyflenwr sy’n disodli’r darparwr monopoli presennol ar gyfer safle diffiniedig yn ardal y darparwr hwnnw. Dangosir yr ardal a wasanaethir gan bob cwmni dŵr yn Ffigur 2.
Ffigur 2 – Map ffiniau cwmnïau Cymru
Cyflenwadau dŵr cyhoeddus
Ffeithiau allweddol
Poblogaeth a gyflenwir
3,313,500
Dŵr a gyflenwir (L/dydd)
926,342,000
Safleoedd gwaith trin dŵr
69
Cronfeydd dŵr gwasanaeth
384
Parthau cyflenwi dŵr
103
Hyd y brif bibell ddŵr (km)
30,616
Ffynonellau dŵr wyneb
257
Ffynonellau dŵr daear
42
Ffynonellau dŵr cymysg
1
Tabl 1 – Ffeithiau allweddol am gyflenwadau cyhoeddus – darparwyd y data gan gwmnïau dŵr
Cyflenwadau dŵr preifat
Ffeithiau allweddol
Poblogaeth a gyflenwir
104,431
Dŵr a gyflenwir (L/dydd)
108,582
Nifer y cyflenwadau
14,902
Nifer yr awdurdodau lleol â chyflenwadau preifat
22
Cyflenwadau heb asesiad risg
11,756
Tabl 2 – Ffeithiau allweddol am gyflenwadau cyhoeddus – darparwyd y data gan awdurdodau lleol
Dangosir y ganran cydymffurfiaeth â’r safonau yn Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018 (‘y Rheoliadau’) yn Nhabl 3 isod.
Grŵp paramedr
% Cydymffurfiaeth
Paramedrau cemegol
99.93
Paramedrau’r dangosydd
99.98
Paramedrau microbiolegol
99.99
Paramedrau Microbiolegol (Cronfeydd dŵr)
99.97
Paramedrau microbiolegol (Safleoedd gwaith trin dŵr)
99.99
Plaladdwyr
100
Cyfanswm
99.97
Tabl 3: Canran y samplau sy’n bodloni’r safonau
Ffigur 3 – Cydymffurfiaeth â’r safonau yn 2025
Diffygion
Pennir nifer y samplau y mae’n ofynnol eu cymryd yn y rheoliadau. Yn 2025, adroddodd cwmnïau am y diffygion samplu canlynol yn nhabl 4.
Cwmni
Nifer y profion fesul cwmni
Nifer targed y profion
Nifer y diffygion yn y sampl
diffygion
Albion Eco
248
248
0
0%
Hafren Dyfrdwy
29,949
29,949
0
0%
Dŵr Cymru Welsh Water
263,830
264,319
489
0.19%
Cymru yn gyffredinol
294,027
294,516
489
Tabl 4. Nifer y profion a gynhaliwyd gan gwmnïau yng Nghymru
Mae’r niferoedd mewn cromfachau yn adlewyrchu nifer y safleoedd gwaith trin dŵr, y cronfeydd dŵr neu’r parthau a weithredir gan y cwmni hwnnw yng Nghymru yn 2024. Caniateir i rai cwmnïau gynnal rhai profion ar samplau a gymerir o bwyntiau cyflenwi yn hytrach nag o dapiau defnyddwyr, ac felly mae’r nifer mewn cromfachau ar gyfer tapiau defnyddwyr hefyd yn cynnwys pwyntiau cyflenwi.
Mae datblygiadau mewn technoleg mapio wedi nodi achosion lle cymerwyd samplau y tu allan i’r parthau cywir. Lle cafwyd tystiolaeth o faterion o’r fath, cysylltwyd â’r cwmnïau perthnasol a thynnwyd y samplau yr effeithiwyd arnynt o’r set ddata ar y sail eu bod yn anghynrychioladol. Mewn llawer o achosion, roedd yn ofynnol i gwmnïau hefyd adrodd y digwyddiadau hyn fel digwyddiadau ffurfiol.
Bydd yr Arolygiaeth yn parhau i graffu ar leoliadau’r samplu ac amlder y samplu i sicrhau bod cwmnïau’n cydymffurfio â gofynion rheoleiddio, gan gynnwys cymryd y nifer cywir o samplau mewn lleoliadau priodol.
Ochr yn ochr â hyn, mae’r Arolygiaeth yn adolygu’r broses diffygion, gyda’r nod o gyflwyno diweddariadau awtomataidd misol i gwmnïau ar eu perfformiad monitro. Bwriad hyn yw cefnogi samplu digonol, rheolaidd ac ar hap, yn unol â disgwyliadau rheoleiddio.
Mae cydymffurfiaeth â’r gofynion monitro a nodir yn y Rheoliadau yn parhau i fod yn gyson uchel yng Nghymru. Mae’r gofynion hyn yn cynnwys y crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig ar gyfer paramedrau mewn dŵr yfed, ynghyd â’r amlderau a’r lleoliadau samplu gofynnol. Mae’r broses ddilysu pwynt terfyn hon yn rhoi sicrwydd cyffredinol bod systemau cyflenwi’n darparu dŵr i ddefnyddwyr sy’n bodloni gofynion rheoleiddio ar yr adeg ac yn y lleoliad a samplwyd. Fodd bynnag, mae asesiadau risg cwmnïau yn parhau i nodi risgiau nad ydynt yn cael eu rheoli na’u lliniaru’n llawn. Pan fydd y risgiau hyn yn cael eu gwireddu, gallant effeithio ar ansawdd y dŵr, gan gynnwys methiant i gydymffurfio neu ddigwyddiad hysbysadwy.
Pan fydd risgiau’n cael eu gwireddu, gallant arwain at fethiant i gydymffurfio neu ddigwyddiad ansawdd dŵr. Mae’r Arolygiaeth yn defnyddio’r canlyniadau hyn i lywio mynegeion sy’n asesu effaith methiannau a digwyddiadau, ac effeithiolrwydd camau gweithredu’r cwmni i unioni risgiau a’u hatal rhag digwydd eto. Mae’r Mynegai Risg Cydymffurfio (CRI) yn mesur effaith methiannau cydymffurfio a’u canlyniadau posibl i ddefnyddwyr. Cynlluniwyd y CRI yn bennaf fel adnodd rheoleiddio i gefnogi gwaith craffu cymesur a sicrhau bod sylw’n cael ei gyfeirio at feysydd sydd â’r risg gymharol fwyaf. Mae Ffigur 4 yn dangos perfformiad CRI y cwmni.
Yn 2025, roedd CRI Cymru yn dal yn uchel o’i gymharu â’r diwydiant ehangach. Y tri chyfrannwr mwyaf at sgôr CRI Cymru oedd canfyddiadau colifform yn safleoedd gwaith trin dŵr Court Farm a Bretton (Dŵr Cymru), a methiant afloywder yn safle gwaith trin dŵr Llandinam (Hafren Dyfrdwy). Dŵr Cymru a gofnododd y sgôr CRI uchaf yn y diwydiant (7.1), tra bod Hafren Dyfrdwy yn bymthegfed, gyda sgôr o 1.253.
Cofnododd Cymru gyfanswm o dri achos o fethiant colifform ar safleoedd gwaith trin dŵr ac 18 achos o fethiant colifform a dau achos o fethiant Escherichia coli (E. Coli) mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth yn 2025. Cafodd wyth o’r methiannau hyn eu cwmpasu gan offeryn cyfreithiol Dŵr Cymru, gan gynyddu’r sgôr CRI drwy gymhwyso’r ffactor lluosi perthnasol. Dylai cyflwyno’r offerynnau cyfreithiol hyn sicrhau gwelliannau sy’n lleihau’r tebygolrwydd y bydd y risgiau hyn yn digwydd eto; ar ôl eu cau, ni fydd y ffactor lluosi cysylltiedig yn berthnasol mwyach i’r sgôr CRI. Yng nghyd-destun mwy o graffu rheoleiddiol yn ystod trawsnewid, disgwylir i CRI Cymru aros yn uchel yn y tymor byr. Nid yw hyn yn dangos dirywiad yn ansawdd dŵr yfed, sy’n dal yn rhagorol, ond mae’n atgyfnerthu pwysigrwydd gwelliannau strategol hirdymor i ddiogelu cyflenwadau yn y dyfodol a rheoli risg.
Mae Ffigur 2 yn dangos amrywioldeb o ran CRI ar gyfer Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy ers 2020, yn hytrach na thuedd gyson.
Ffigur 4 – Sgoriau CRI ar gyfer cwmnïau yng Nghymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Mae Ffigur 5 yn dangos y CRI ar gyfer pob cwmni sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr, wedi’i ddadansoddi yn ôl math o safle: safleoedd gwaith trin dŵr, pwyntiau cyflenwi, cronfeydd dŵr gwasanaeth a pharthau.
Ffigur 5 – Mynegai Risg Cydymffurfio’r Diwydiant
Nid yw’r Mynegai Risg Cydymffurfio (CRI) yn fesur statudol ac nid yw’n diystyru rhwymedigaethau cwmnïau i gydymffurfio â chrynodiadau neu werthoedd rhagnodedig o dan y Rheoliadau. Mae’n adnodd rheoleiddio sy’n seiliedig ar risg ac yn cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu sylw ac adnoddau tuag at y meysydd sydd â’r risg gymharol uchaf. Mae’r CRI hefyd yn cael ei rannu ag Ofwat fel rhan o ddull rheoleiddio cydgysylltiedig. Defnyddir targed CRI o 2 fel y trothwy ar gyfer cosbau ariannol, gan ddarparu meincnod perfformiad cyson.
CRI canolrifol y diwydiant yn 2025 oedd 2.92, cynnydd o 1.77 yn 2024 a 2.32 yn 2023. Dylai dehongliad o ganolrif y diwydiant ystyried dau ffactor: perfformiad y cwmni ac effaith ymyriadau rheoleiddio, lle gall hysbysiadau a gyflwynir mewn ymateb i risg gynyddu’r sgôr. Dŵr Cymru gofnododd y sgôr CRI uchaf i gwmni yn 2025. Mae hyn yn peri pryder, er y dylid hefyd ystyried y cynnydd sy’n gysylltiedig â hysbysiadau trawsnewid.
Mae Ffigur 6 yn dangos y sgoriau CRI, gan ddileu’r ffactor lluosi a achoswyd gan fod offerynnau cyfreithiol byw yn berthnasol i’r ased a fethodd yn y prawf. Mae hefyd yn dangos bod effaith yr offerynnau cyfreithiol wedi lleihau yn 2025, sy’n golygu bod llai o brofion sy’n methu mewn lleoliadau lle mae gwelliannau eisoes ar y gweill. Mae hwn yn newid sylweddol cadarnhaol i’r cyfeiriad cywir, a dylai barhau os bydd y cwmni’n parhau i gyflawni cerrig milltir a chanlyniadau offerynnau cyfreithiol.
Ffigur 6 – CRI dros y 5 mlynedd diwethaf – sgoriau CRI mewn glas, sgoriau CRI ar ôl dileu’r lluosydd offerynnau cyfreithiol mewn gwyrdd
Yn 2025, 6.73 oedd y CRI ar gyfer cwmnïau a oedd yn gweithredu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Mae hyn yn cynrychioli dirywiad o 4.08 yn 2024, yn dilyn gwelliant o 7.257 yn 2023. Mae’r CRI cyffredinol yn cynnwys sgoriau o wahanol rannau o’r system cyflenwi dŵr, gan gynnwys safleoedd gwaith trin dŵr, pwyntiau cyflenwi, cronfeydd dŵr gwasanaeth a pharthau.
Ar lefel cwmni, fe wnaeth CRI Dŵr Cymru wella o 7.736 yn 2023 i 4.28 yn 2024, cyn dirywio i 7.1 yn 2025. Cynyddodd CRI Hafren Dyfrdwy o 0.112 yn 2023 i 1.10 yn 2024, ac i 1.26 yn 2025. Roedd Dŵr Cymru yn cyfrif am gyfran sylweddol o CRI Cymru, ac roedd yn fwy na CRI Cymru yn gyffredinol, sef 6.73. Mae CRI yn galluogi’r cyfranwyr allweddol i bob elfen o’r sgôr i gael eu nodi, gan helpu i ddangos lle mae risgiau’n tarddu, fel y dangosir yn Ffigur 7.
Ffigur 7 – Mynegai Risg Cydymffurfio Cymru ar gyfer 2025
Wrth gymharu â’r darlun cenedlaethol, gellir gweld mai’r risg fwyaf o ran cydymffurfio yw canfod colifform mewn parthau, a’r gyrrwr eilaidd yw methiannau haearn mewn parthau.
Ffigur 8 – Y 10 paramedr uchaf yn ôl safle
Yng Nghymru, mae methiannau ar safleoedd gwaith trin dŵr mawr sy’n cyflenwi nifer uchel o ddefnyddwyr yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol at y sgôr CRI blynyddol. Yn 2025, roedd 39% o’r cyfanswm sgôr CRI yn deillio o dri methiant ar safleoedd gwaith trin dŵr Court Farm, Llandinam a Bretton. Mae hyn yn gynnydd o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol, lle cafwyd methiannau sgôr uchel ar safleoedd gwaith trin dŵr Bretton yn 2024, Felindre yn 2023, Pontsticill yn 2022, a Felindre a Court Farm yn 2021. Mae diffyg cydymffurfiaeth ar safleoedd gwaith trin dŵr mawr yn peri risg gymharol uwch oherwydd nifer y defnyddwyr sy’n cael eu cyflenwi. Paramedrau dangosydd yw colifformau ac mae angen i gwmnïau gymryd camau rhagofalus i sicrhau bod defnyddwyr yn parhau i gael eu diogelu.
Yn 2025, cyfrannodd haearn 40% o gyfanswm sgôr CRI Cymru, o’i gymharu â 7% yn 2024 a 33% yn 2023. Er bod cyfran y sgôr CRI sydd i’w phriodoli i haearn yn gallu amrywio yn dibynnu ar sgorio methiannau eraill, gan gynnwys y rheini ar safleoedd gwaith trin dŵr mawr, mae nifer yr achosion o fethiannau haearn yng Nghymru yn dal yn uchel: 17 yn 2025, 13 yn 2024, 14 yn 2023 a 21 yn 2022. Mae rhagor o fanylion am afliwio wedi’u cynnwys yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn.
Cafwyd cyfanswm o 23 o fethiannau microbiolegol ar safleoedd gwaith trin dŵr ac mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth yng Nghymru yn 2025, ac eithrio canfyddiadau E. coli. Roedd hyn yn gynnydd o 14 methiant yn 2024. Mae methiannau mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth yn cael eu hystyried yn fanylach yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn.
Dysgu o fethiannau cydymffurfio
Yn 2025, cofnododd Cymru nifer o fethiannau cydymffurfio microbiolegol. Thema gyson ar draws y methiannau hyn oedd diffyg cadernid asedau, yn enwedig yr anallu i dynnu tanciau critigol o’r cyflenwad ar gyfer archwiliad mewnol amserol oherwydd diffyg trefniadau osgoi a/neu opsiynau wrth gefn. Mewn sawl achos, cafodd ymchwiliadau eu gohirio am fisoedd lawer lle’r oedd asedau’n hanfodol i weithrediad, gan gyfyngu ar hyder nad oedd defnyddwyr yn agored i risg barhaus adeg methiant. Roedd yr achosion hyn yn atgyfnerthu’r angen am gynllunio cadernid rhagweithiol i sicrhau y gellir cwblhau ymchwiliadau microbiolegol yn brydlon o dan yr holl amodau gweithredu.
Roedd methiannau mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth a thanciau dŵr wedi’i drin yn tynnu sylw at wendidau mewn trefniadau arolygu, gwybodaeth am gyflwr asedau, a chywirdeb cofnodion. Dangosodd sawl methiant bwysigrwydd cynnal diagramau cynllunio cywir a chyfredol, yn enwedig ar ôl comisiynu neu ddatgomisiynu asedau, i sicrhau bod ymchwiliadau’n gynhwysfawr a bod strategaethau samplu’n briodol. Yn nodedig, nodwyd problemau gydag asedau sy’n heneiddio a seilwaith sydd newydd gael ei gomisiynu, gan bwysleisio nad yw oedran adeiladu yn unig yn cyfateb i risg isel.
Wrth dapiau defnyddwyr, priodolwyd methiant microbiolegol i ddewis pwyntiau samplu amhriodol. Roedd presenoldeb atodiadau tap yn peryglu cynrychioldeb samplau, gan arwain at ganlyniadau camarweiniol a chamau rheoleiddio diangen. Roedd hyn yn atgyfnerthu’r gofyniad am feini prawf samplu clir, ymwybyddiaeth staff, a sicrwydd bod samplau tapiau defnyddwyr yn adlewyrchu ansawdd dŵr y cyflenwad yn gywir.
Parhaodd methiannau blas ac arogl achlysurol yn 2025, wedi’u sbarduno’n bennaf gan gyfansoddion rhagsylweddion dŵr crai ailadroddol a sgil-gynhyrchion sy’n gysylltiedig â thriniaeth. Er bod mesurau lliniaru gweithredol ar waith, roedd nifer o ddigwyddiadau ailadroddol yn dangos nad oedd y rheolaethau cychwynnol yn ddigon cadarn. Mae gwelliannau i ddulliau rheoli carbon wedi’i actifadu gronynnog (GAC), gan gynnwys targedau gorludded mwy ceidwadol, yn gam cadarnhaol tuag at reoli risgiau esthetig yn fwy effeithiol a chynaliadwy.
Parhaodd methiannau haearn ac afliwio mynych, gyda Chymru’n parhau i berfformio’n wael o’i chymharu â chwmnïau yn Lloegr. Roedd y rhan fwyaf o fethiannau haearn yn gysylltiedig â phrif bibellau haearn bwrw sy’n dirywio, trosiant isel, pengaeadau, ac anghywirdebau mewn cofnodion asedau, yn enwedig lle nad oedd falfiau caeedig yn cael eu hadlewyrchu mewn systemau GIS. Er bod rhaglenni fflysio yn sicrhau cydymffurfiaeth yn y tymor byr, roeddent yn aml yn methu mynd i’r afael ag achosion sylfaenol, ac mewn rhai achosion nid oedd y samplu a wnaed ar ôl fflysio yn cynrychioli amodau rhwydwaith nodweddiadol. Pwysleisiodd yr Arolygiaeth yn gyson yr angen i symud oddi wrth fflysio adweithiol tuag at adnewyddu asedau’n amserol a chynllunio buddsoddiad hirdymor.
Roedd methiant afloywder mewn gorsaf bwmpio twll turio yn pwysleisio pwysigrwydd rheoli a monitro triniaethau’n effeithiol. Cyfrannodd absenoldeb terfyniad afloywder dŵr terfynol at y digwyddiad, gan ysgogi gwelliannau i drefniadau terfynu, calibradu monitorau a gwaith cynnal a chadw rhagweithiol. Fe wnaeth y digwyddiad atgyfnerthu’r angen i ddiogelu’r cam diheintio llawn a sicrhau bod unrhyw effeithiau o ddosio cemegol ar afloywder a pH yn cael eu rheoli’n ddigonol.
Yn gyffredinol, mae darlun cydymffurfiaeth 2025 yng Nghymru yn atgyfnerthu’r angen am gadernid asedau cryfach, cofnodion cywir, monitro cynrychioladol a buddsoddiad rhagweithiol. Mae dibyniaeth reolaidd ar fesurau adweithiol a samplu cydymffurfiaeth tymor byr yn rhoi sicrwydd cyfyngedig o ansawdd dŵr parhaus. Mae mynd i’r afael ag achosion sylfaenol drwy well llywodraethu, cynllunio tymor hir a gwaith cynnal a chadw ataliol yn dal yn hanfodol er mwyn lleihau methiannau ailadroddol a diogelu defnyddwyr.
Canfyddiadau microbiolegol ar safleoedd gwaith trin dŵr ac mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth
Yng Nghymru, roedd tri methiant cydymffurfio microbiolegol ar safleoedd gwaith trin dŵr yn 2025, i gyd mewn asedau Dŵr Cymru. Thema a gododd dro ar ôl tro ar draws nifer o fethiannau oedd yr anallu i dynnu asedau o’r cyflenwad i’w harchwilio’n amserol oherwydd diffyg cadernid asedau. Bu cynnydd cyson mewn methiannau microbaidd yng Nghymru ers 2021, fel y gwelir yn Ffigur 9. Mae’r paragraffau canlynol yn disgrifio rhai o’r senarios methiant hyn, ynghyd â’r gwersi a ddysgwyd.
Safleoedd gwaith trin dŵr
Paramedr
Safon gyfredol
Cyfanswm nifer y profion
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon fesul cwmni
Tabl 5. Profion microbiolegol – Nifer y profion a gynhaliwyd a nifer y profion nad oeddent yn bodloni’r safon
Mae’r dangosydd afloywder yn baramedr rheoli critigol ar gyfer trin a diheintio dŵr.
Cronfeydd dŵr gwasanaeth
Paramedr
Safon gyfredol
Cyfanswm nifer y profion
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon fesul cwmni
E. coli (cadarnhawyd)
nifer/100 mL
20,057
0
–
Cyfanswm y colifformau(cadarnhawyd)
nifer/100 mL
20,057
0
DWR (10), HDC (2)
Tabl 6 – Methiannau microbiolegol mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth
Tapiau defnyddwyr
Paramedr
Safon gyfredol
Cyfanswm nifer y profion
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon fesul cwmni
Bacteria colifform (dangosydd)
nifer/100 mL
8,703
30
HDC(4), DWR(26)
E. coli (cadarnhawyd)
nifer/100 mL
8,703
1
DWR(1)
Enterococci (cadarnhawyd)
nifer/100 mL
753
0
–
Tabl 7 – Methiannau microbiolegol wrth dapiau defnyddwyr
E. coli ac Enterococci ar safleoedd gwaith trin dŵr, mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth a thapiau defnyddwyr
Cwmni
E. coli mewn dŵr yn gadael safleoedd gwaith trin dŵr
E. coli mewn dŵr yn gadael cronfeydd dŵr gwasanaeth
E. coli mewn dŵr yn gadael tapiau defnyddwyr
Enterococci mewn dŵr yn gadael tapiau defnyddwyr
ALE
0 – 0
0 – 0
0 – 12
0 – 4
DWR
0 – 11,166
1 – 16,189
1 – 8,067
0 – 638
HDC
0 – 942
1 – 3,868
0 – 624
0 – 111
Tabl 8 – E. coli ac Enterococci wedi’u canfod ar safleoedd gwaith trin dŵr, mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth a thapiau defnyddwyr
Sylwer: Dangosir y canlyniadau fel nifer y profion positif ac yna cyfanswm y profion
Ffigur 9 – Methiannau microbiolegol dros y 10 mlynedd diwethaf
Ym mis Chwefror, adroddodd Dŵr Cymru am un colifform mewn sampl a gasglwyd o ddŵr terfynol safle gwaith trin dŵr Court Farm. Nid oedd y cwmni’n gallu canfod achos sylfaenol, ac felly nid oedd yr Arolygiaeth yn gallu dod i’r casgliad ei bod yn annhebygol y byddai hyn yn digwydd eto. Gohiriwyd ymchwiliad pellach nes y gellid tynnu tanciau cyswllt a thanciau dŵr terfynol o’r cyflenwad i’w harchwilio’n fewnol. Oherwydd rôl hanfodol Court Farm yn cynnal cyflenwadau yn System Defnydd Cysylltiol De-ddwyrain Cymru yn ystod cyfnod o sychder, ni chafodd y gwaith hwn ei gwblhau tan 21 Hydref 2025, tua wyth mis ar ôl y methiant. Ar ôl cynnal profion llifogydd to, ni chanfuwyd unrhyw bwyntiau mewnlifol, ac adroddwyd bod yr holl danciau mewn cyflwr boddhaol.
Yn yr un modd, ym mis Ebrill, archwiliwyd nifer o danciau ar ôl canfod un colifform ar safle gwaith trin dŵr De Alaw. Fodd bynnag, cafodd hyn ei ohirio nes gallai safle gwaith trin dŵr Cefni gefnogi cadernid y cyflenwad. Yn safle gwaith trin dŵr Bretton, roedd cyfyngiadau cadernid yn fwy acíwt, gyda thanc cyswllt un adran a diffyg system ddargyfeirio yn atal tynnu o’r cyflenwad yn dilyn canfyddiadau ym mis Mai 2024 a mis Mai 2025, gan ohirio archwiliad mewnol tan fis Hydref 2025. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut y gall cadernid annigonol a diffyg hyblygrwydd gweithredol oedi ymchwiliadau i risgiau microbiolegol yn sylweddol.
Mae achosion pellach yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwybodaeth am asedau a phrosesau ymchwilio cynhwysfawr. Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth rhif 3 Pengarnddu (Dŵr Cymru), ni ymchwiliwyd yn llawn i ganfyddiad colifform ym mis Gorffennaf 2025 oherwydd diagramau cynllunio anghyflawn, a oedd yn hepgor cysylltiadau hydrolig â chronfa ddŵr gyfagos, ac roedd cadernid cyfyngedig yn atal datgysylltu’r ased o’r cyflenwad. Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Porthmadog, roedd diagram cynllunio hen ffasiwn a gwallus yn cynnwys safle gwaith wedi’i ddatgomisiynu ac yn hepgor ffynhonnell weithredol, gan gymhlethu’r ymchwiliad ar ôl canfod E. coli.
Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Creigiau, lle cludwyd dŵr mewn tanceri i ateb y galw yn ystod tywydd poeth, canfuwyd sawl colifform yn y gronfa ddŵr gwasanaeth ac mewn tanceri cysylltiedig o fewn yr un cyfnod. Fodd bynnag, ni ystyriwyd cludo dŵr mewn tanceri fel rhan o’r ymchwiliad i gychwyn. Nodwyd problemau strwythurol a phroblemau mynediad mewn sawl safle hefyd. Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Axton, aeth pryfed i mewn drwy bilen wedi’i difrodi, er bod y to wedi pasio prawf llifogydd yn y gorffennol. Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Birchgrove, canfu archwiliad mewnol fewnlif sylweddol drwy uniadau to a llyncdwll gerllaw, ac nid oedd y naill na’r llall wedi bod yn amlwg yn ystod yr arolygiad blaenorol ym mis Tachwedd 2024.
Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos gwendidau sy’n codi dro ar ôl tro mewn cyfundrefnau arolygu, cywirdeb diagramau cynllunio, ac wrth ystyried gweithgareddau gweithredol a newidiadau mewn amodau amgylcheddol fel cyfranwyr at lwybrau halogi. Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Hirnant (Hafren Dyfrdwy), canfu archwiliad seliau wedi dirywio, trefniadau agorfeydd nad oeddent yn cydymffurfio, a gordyfiant llystyfiant. Mae’r digwyddiadau hyn yn dangos yr angen am ddull systematig a chadarn o reoli risg microbiolegol ar draws systemau cyflenwi dŵr. Dylai cwmnïau sicrhau y gellir tynnu asedau hanfodol yn brydlon drwy drefniadau dargyfeirio priodol ac opsiynau cyflenwi amgen, gan alluogi archwilio ac ymchwilio amserol.
Ffigur 10 – Agorfa ansafonol yng nghronfa ddŵr Hirnant
Mae mapiau a diagramau cynllunio cywir a chyfredol yn hanfodol i gefnogi ymateb effeithiol i ddigwyddiadau, a rhaid eu cynnal pan fydd asedau’n cael eu comisiynu, eu haddasu neu eu datgomisiynu. Dylai gweithdrefnau ymchwilio ystyried pob ffynhonnell gredadwy o halogiad, gan gynnwys gweithgareddau gweithredol fel cludo dŵr a newidiadau i’r rhwydwaith. Ar ben hynny, ni ddylai gweithdrefnau arolygu ddibynnu’n llwyr ar brofion llifogydd, ond dylent gynnwys asesiadau cynhwysfawr strwythurol, gweledol a seiliedig ar gyflwr i ganfod diffygion cudd. Bydd cryfhau cadernid, gwella gwybodaeth am asedau a gwella arferion ymchwilio yn lleihau oedi, yn gwella’r gwaith o ganfod achosion sylfaenol ac yn cefnogi’r cyflenwad cyson o ddŵr dihalog o dan amodau gweithredu arferol ac anarferol.
Delwedd 11 – Cronfa ddŵr Birchgrove gyda dŵr yn mewnlifo trwy’r uniad.
Paramedrau cemegol a ffisegol
Paramedr
Unedau
Cyfanswm nifer y profion
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon
Lliw
mg/L Pt/Co
3225
1
Arogl
Rhif gwanedu ar 25oC
3222
5
Blas (meintiol)
Rhif gwanedu ar 25oC
3220
5
Ion hydrogen (pH) – dangosydd – parth
Gwerth pH
3220
Sylffad
mg/L SO₄
460
Sodiwm (cyfanswm)
mg/L Na
749
Nitrad (cyfanswm)
mg/L NO₃
751
Nitraid – tapiau defnyddwyr
mg/L NO₂
751
Amoniwm (parth)
mg/L NH₄
929
Alwminiwm (cyfanswm)
µg/L Al
3188
Haearn (cyfanswm)
µg/L Fe
3188
17
Manganîs (cyfanswm)
µg/L Mn
3190
1
Copr (cyfanswm)
mg/L Cu
749
Fflworid (cyfanswm)
mg/L F
460
Arsenig (cyfanswm)
µg/L As
749
Cadmiwm (cyfanswm)
µg/L Cd
749
Syanid (cyfanswm)
µg/L CN
459
Cromiwm (cyfanswm)
µg/L Cr
749
Mercwri (cyfanswm)
µg/L Hg
458
Nicel (cyfanswm)
µg/L Ni
749
Plwm (10)
µg/L Pb
747
2
Antimoni
µg/L Sb
749
Seleniwm (cyfanswm)
µg/L Se
749
Plaladdwyr (cyfanswm yn ôl cyfrifiad)
µg/L
725
Hydrocarbonau aromatig polysyclig (cyfanswm yn ôl cyfrifiad)
µg/L
752
Diheintydd gweddilliol – rhydd
mg/L
8897
Diheintydd gweddilliol – cyfanswm
mg/L
8261
Dargludedd trydanol
µS/cm ar 20°C
2997
Boron
mg/L B
458
Benso[a]Pyren (cyfanswm)
µg/L
754
Tetracloromethan (cyfanswm)
µg/L
466
Tricloroethen a Tetracloroethen – swm 2 sylwedd (cyfanswm yn ôl cyfrifiad)
µg/L
464
Trihalomethanau (cyfanswm yn ôl cyfrifiad)
µg/L
754
1,2-Dichloroethan (cyfanswm)
µg/L
468
Bensen (cyfanswm)
µg/L
468
Bromad
µg/L BrO₃
581
Alffa gros
Bq/L
1
Beta gros
Bq/L
1
Tritiwm
Bq/L
1
Cyfanswm
–
Tabl 9 – Nifer y profion a gynhaliwyd a nifer y profion nad oeddent yn bodloni’r safon
Adroddodd Hafren Dyfrdwy fethiant afloywder dŵr terfynol o 1.25 uned afloywder nephelometrig (NTU) yng Ngorsaf Bwmpio Twll Turio Newydd Llandinam ar 20 Chwefror. Daeth ymchwiliad y cwmni i’r casgliad mai’r achos gwreiddiol mwyaf tebygol oedd presenoldeb solidau heb eu hydoddi sy’n gysylltiedig â dosio calch ar y safle gwaith trin dŵr. Dangosodd dadansoddiad o dueddiadau data hanesyddol, asesiadau risg dalgylch a pherfformiad pilenni uwch-hidlo nad oedd modd priodoli’r methiant i ddirywiad yn ansawdd y dŵr crai o dyllau turio Llandinam.
Adeg y methiant, nid oedd proses gau oherwydd afloywder dŵr terfynol ar waith. Mewn ymateb, rhoddodd y cwmni broses gau oherwydd afloywder dŵr ar waith i fyny’r gadwyn gyflenwi o’r pwynt dosio calch. Cafodd hyn ei osod i gychwyn ar 0.95 NTU a’i ostwng wedyn i 0.75 NTU ar 18 Mawrth. Ar ben hynny, trefnwyd bod siambr ddosio’r tanc balans (pwmp codi uchel) yn cael ei glanhau er mwyn lleihau faint o ddyddodion calch sy’n cronni.
Cynyddodd y cwmni amlder calibradu’r monitorau afloywder a pH dŵr terfynol, a mabwysiadodd brosesau draenio a glanhau tanciau storio calch fel gweithgaredd cynnal a chadw rhagweithiol blynyddol yn BPS Llandinam.
Atgoffir cwmnïau y dylid ffurfweddu trefniadau cau’r safle i ddiogelu’r cam diheintio yn ei gyfanrwydd, o’r adeg y caiff y diheintydd ei gyflwyno hyd at y gwaith samplu dŵr terfynol. Dylai larymau a phrosesau cau gael eu profi’n rheolaidd er mwyn rhoi sicrwydd y byddant yn gweithio. Pan fydd cemegion yn cael eu defnyddio yn ystod y cam diheintio, dylid asesu a rheoli eu heffaith bosibl ar berfformiad diheintio i lawr y gadwyn gyflenw yn barhaus i, gan gynnwys yr effeithiau ar afloywder a pH, er mwyn sicrhau cydymffurfiad â thargedau polisi diheintio’r cwmni.
Plwm
Mae plwm yn fetel gwenwynig sy’n gallu hydoddi i ddŵr yfed pan fydd yn dod i gysylltiad â phibellau plwm. Mae defnyddwyr yn cael eu diogelu i raddau helaeth rhag dod i gysylltiad â phlwm drwy ddosio ffosffad, triniaeth a ddefnyddir yn eang ar draws sawl parth yng Nghymru sy’n lleihau ymdoddiad plwm. Mae’r dull hwn yn un o’r prif resymau pam mai ychydig iawn o samplau o dapiau defnyddwyr, os o gwbl, sy’n methu’r safon plwm bob blwyddyn. Ar ben hynny, mae’r nifer cymharol isel o brofion plwm sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau yn cyfrannu at y canlyniad hwn.
Yn 2025, cofnodwyd dau fethiant plwm yng Nghymru, yn ardal Dŵr Cymru, â’r ddau wedi’u hadrodd ar 11 µg/L. Roedd y methiant yn Nwyrain Ynys Môn wedi nodi sodr plwm a phibell gyfathrebu plwm yn yr eiddo, ochr yn ochr â methiannau mewn dosio asid orthoffosfforig. Gwnaed gwaith adfer yn yr eiddo, a chynghorwyd y cwmni i ymchwilio i wraidd y methiant dosio ac i adolygu’r drefn cynnal a chadw.
Yn yr ail fethiant, yn y Barri, nododd archwiliad y cwmni fod y bibell gyflenwi wedi’i gwneud o blwm ac felly dyma’r achos tebygol. Darparwyd cyngor ar fflysio a chynghorwyd y cwsmer i newid y bibell gyflenwi..
Blas ac arogl
Mae blas ac arogl mewn dŵr yfed yn ddangosyddion allweddol o dderbynioldeb a hyder defnyddwyr, ac fe’u rheoleiddir dan y gofyniad bod yn rhaid i ddŵr fod yn iach ac yn lân. O dan ddeddfwriaeth dŵr yfed, mae blas ac arogl yn baramedrau dangosyddion, sy’n golygu er nad ydynt fel arfer yn gysylltiedig â risgiau iechyd uniongyrchol ar y lefelau y deuir ar eu traws, gall unrhyw ddirywiad fod yn arwydd o broblemau sylfaenol gydag ansawdd dŵr ffynhonnell, prosesau trin, neu gyflwr y system ddosbarthu.
Gall blas neu arogl annerbyniol ddeillio o amrywiaeth o achosion, gan gynnwys gweithgarwch algaidd mewn dyfroedd ffynhonnell, presenoldeb cyfansoddion organig sy’n digwydd yn naturiol, aneffeithlonrwydd triniaethau, neu dyddodion yn symud o fewn y system ddosbarthu. Gall cyfansoddion clorin a chlorinaidd hefyd ddylanwadu ar flas, yn enwedig pan fydd dosio’n digwydd ar lefel uchel neu’n cael ei reoli’n wael.
Pan ganfyddir pryderon, mae angen ymchwilio iddynt o dan reoliad 18 er mwyn penderfynu ar yr achos a difrifoldeb y mater. Gall cwynion parhaus neu eang ddangos diffygion o ran optimeiddio triniaethau, perfformiad asedau, neu reoli rhwydwaith, a bydd angen cymryd camau unioni i adfer hyder defnyddwyr.
Disgwylir i gwmnïau fonitro a rheoli blas ac arogl yn rhagweithiol drwy reoli prosesau trin yn effeithiol, cynnal systemau dosbarthu, ac ymateb yn briodol i adroddiadau cwsmeriaid. Mae’r paramedrau hyn hefyd yn cael eu hystyried yn asesiadau risg rheoliad 27 i sicrhau bod dŵr nid yn unig yn parhau i gydymffurfio ond yn dderbyniol i ddefnyddwyr.
Roedd pum methiant blas a phum methiant arogl yng Nghymru yn 2025, gostyngiad o 12 yn 2024, fel y dangosir yn Ffigur 8.
Roedd parth Bontgoch Dŵr Cymru yn dal i gael lle amlwg ymysg y parthau a oedd yn methu, gyda saith o’r 10 methiant wedi’u cofnodi yn y parth hwn.
Mae panel blas ac arogl labordy’r cwmni wedi canfod methiannau blas ac arogl ailadroddol yn y parth cyflenwad dŵr hwn ers mis Ionawr 2020. Mae ymchwiliadau wedi canfod crynodiadau uwch o 2,4,6 trichloroanisole yn y cyflenwad o safle gwaith trin dŵr Bontgoch, gyda ffynonellau’n debygol o gynnwys cyfansoddion sy’n digwydd yn naturiol yn y dŵr crai, a ffurfiad fel sgil-gynnyrch clorineiddio yn ystod y gwaith trin. Er bod dadansoddiad labordy wedi canfod blas ac arogl ac wedi cadarnhau presenoldeb y cyfansoddyn hwn, nid yw defnyddwyr mewn eiddo yr effeithir arnynt fel arfer wedi adrodd am flas nac arogl anarferol. Mae’r cwmni wedi ymgysylltu ag arbenigwyr allanol ac wedi rhoi amrywiaeth o fesurau lliniaru ar waith, gan gynnwys diheintio hidlyddion i gael gwared ar fiomas a’r potensial cysylltiedig o sgil-gynhyrchion yn ffurfio, a monitro gwell sy’n gysylltiedig â chlorineiddio cyn yr ail gam. Bydd hidlyddion trydydd cam i lawr y gadwyn gyflenwi o’r tanc cyswllt hefyd yn cael eu datgomisiynu a’u hosgoi erbyn mis Mehefin 2026 fel rhan o welliannau tymor hwy i’r gwaith trin.
Ym mharth cyflenwi dŵr Abergele a’r Rhyl, priodolwyd methiant blas ar 28 Ionawr 2025 i grynodiadau uwch o 2-methylisoborneol (MIB) yn safle gwaith trin dŵr crai Glascoed. Roedd digwyddiad blas ac arogl tebyg gyda’r un achos sylfaenol wedi digwydd ym mis Mai 2024. Er bod mesurau lliniaru, gan gynnwys dosio powdr carbon wedi’i actifadu a chymysgu â chyflenwadau tyllau turio Llannerch, wedi cael eu rhoi ar waith yn dilyn y digwyddiad cynharach, nid oedd y rheolaethau hyn yn ddigonol i atal y methiant dilynol. Canfu ymchwiliadau fod cysylltyddion carbon wedi’i actifadu gronynnog ar safle gwaith trin dŵr Glascoed yn gweithredu’n is na’r safon oherwydd dos gormodol o geulo fferrig, a oedd yn lleihau effeithlonrwydd y broses gwaredu MIB. Ers hynny, mae’r cwmni wedi nodi’r angen am ddosio asid pen blaen i optimeiddio ceulo a gwella perfformiad carbon wedi’i actifadu gronynnog, gyda’r gwaith wedi’i gynllunio erbyn mis Mawrth 2027. Yn y cyfamser, mae gwell monitro, strategaethau cymysgu a rheoli carbon wedi’i actifadu gronynnog diwygiedig, gan gynnwys meini prawf gorludded mwy ceidwadol, wedi cael eu rhoi ar waith i wella rheolaeth.
Nododd yr Arolygiaeth fod y ffaith bod digwyddiad blasu wedi digwydd eto o fewn wyth mis i ddigwyddiad blaenorol yn dangos nad oedd y mesurau lliniaru cychwynnol yn ddigon cadarn. Fodd bynnag, roedd hefyd yn cydnabod bod rheolaethau ychwanegol a mesurau gwyliadwriaeth gwell wedi cael eu rhoi ar waith ers hynny er mwyn gallu optimeiddio triniaeth yn fwy ymatebol, yn unol â newidiadau yn ansawdd dŵr crai. Disgwylir y bydd mabwysiadu prosesau rheoli carbon wedi’i actifadu gronynnog gwell yn cryfhau’r broses o gael gwared ar gyfansoddion blas ac arogl ar draws safleoedd gwaith trin dŵr perthnasol.
Mae’r methiannau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhoi mesurau rheoli cadarn a chynaliadwy ar waith ar gyfer risgiau blas ac arogl, yn enwedig lle mae ffynonellau dŵr crai yn dueddol o gael eu halogi’n dymhorol neu’n barhaus. Dylai cwmnïau sicrhau bod prosesau trin yn cael eu hoptimeiddio’n llawn ac yn gallu gwrthsefyll amrywiadau yn ansawdd dŵr crai, gyda dealltwriaeth glir o sut mae prosesau ymhellach i fyny’r gadwyn gyflenwi yn effeithio ar berfformiad asedau ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi. Dylai rhaglenni monitro fod yn ddigon sensitif ac ymatebol i ganfod dirywiad yn gynnar a llywio addasiadau gweithredol amserol. Pan fydd digwyddiadau blaenorol wedi digwydd, dylid gwerthuso mesurau lliniaru’n feirniadol i sicrhau eu bod yn effeithiol o ran atal hyn rhag digwydd eto. Bydd cryfhau’r gwaith o reoli prosesau, perfformiad asedau a rheoli risg yn rhagweithiol yn cefnogi’r gwaith o ddarparu ansawdd dŵr derbyniol yn gyson i ddefnyddwyr.
Ffigur 12 – Methiannau blas ac arogl ers 2016
Haearn
Ym mharth ansawdd dŵr y Barri a Sili (Dŵr Cymru), cysylltwyd methiant haearn â falf gaeedig a gofnodwyd yn anghywir fel un agored ar system fapio’r cwmni, gan greu pibell segur a chaniatáu i waddod gronni. Nodwyd mater tebyg ym mharth Malpas, Caerllion a Chwmbrân, a achoswyd eto gan statws ased anghywir ar gofnodion GIS yn dilyn gweithrediadau falfiau. Mewn ymateb, mae’r cwmni wedi cyflwyno proses safonol ar y we i wella cyfathrebu rhwng timau gweithredol a thimau swyddfa, a sicrhau bod cofnodion rhwydwaith yn adlewyrchu statws byw asedau. Mae’r achosion hyn yn dangos pwysigrwydd gwybodaeth gywir am asedau wrth atal methiannau ansawdd dŵr y gellir eu hosgoi. Roedd sawl methiant yn gysylltiedig â dirywiad i’r brif bibell haearn bwrw a throsiant isel y rhwydwaith. Yn ardal Sgeti a’r Gŵyr, roedd gormodiant haearn yn dilyn byrst ac roedd yn gysylltiedig â chyrydiad lleol (tuberculation) trwm mewn prif bibell heb ei leinio gyda llif isel, a oedd yn destun fflysio ac archwilio parhaus. Yng Nghaerdydd a Rhymni, defnyddiwyd mesurau fflysio rheolaidd a mesurau dros dro, fel capiau diferu, i adfer cydymffurfiaeth. Fodd bynnag, nid oedd samplau a gymerwyd yn dilyn yr ymyriadau hyn yn cynrychioli amodau sylfaenol y rhwydwaith ar adeg y methiant, gan beryglu ymchwiliad gwraidd y broblem. Cadarnhaodd archwiliadau mewnol fod prif bibell haearn bwrw 1912 wedi cyrydu’n helaeth, er nad yw ei hadnewyddu yn flaenoriaeth. Nodwyd materion tebyg yn Henffordd, Gorllewin Casnewydd a Gogledd Ynys Môn, lle’r oedd croniad gwaddodion ar bengaeadau neu o fewn prif bibellau sy’n heneiddio wedi achosi methiannau ailadroddus neu risg uchel. Yn Henffordd, roedd methiannau ailadroddus yn parhau er gwaethaf gwaith fflysio, gan sbarduno achos busnes dros fuddsoddiad tymor hwy, ac yng Ngogledd Ynys Môn mae prif bibell ddŵr rhy fawr sy’n cyrydu yn parhau i beri risg barhaus.
Ffigur 14 – Gwaith adfer a thrwsio ar brif bibell yn dilyn methiant ym mharth Sgeti / Gŵyr.
Mae achosion eraill yn pwysleisio ymhellach gyfyngiadau ymatebion gweithredol tymor byr. Ym Mhencoed a Chymoedd Pen-y-bont ar Ogwr, roedd methiannau haearn yn cael eu priodoli i waddodion yn cronni mewn prif bibellau, gyda fflysio’n cael ei weithredu wrth i opsiynau buddsoddi tymor hwy gael eu hystyried. Ym mharth Malpas, Caerllion a Chwmbrân, roedd methiant manganîs o ganlyniad i falf gaeedig yn creu pengaead yn y rhwydwaith dosbarthu yn achosi gwaddod i gronni.
Ar draws y digwyddiadau hyn, mae fflysio wedi cael ei ddefnyddio’n aml fel y prif fesur lliniaru, a gefnogir yn aml gan raglenni monitro a chynnal a chadw. Mewn sawl achos, mae rhaglenni fflysio cynnal a chadw cyflymder isel wedi cael eu rhoi ar waith i gynyddu’r prif drosiant lleol. Yn ddiweddar, mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i ganolbwyntio mwy ar waredu gwaddodion drwy fflysio, gan ddefnyddio cyflymderau uwch i glirio gwaddodion cronedig yn systematig o’i rwydweithiau. Dylid nodi nad oes modd gwaredu gwaddodion na sicrhau cyflymder sgwrio digonol bob amser gyda’r asedau sydd ar gael a’r amodau gweithredol, er enghraifft lle mae cyrydiad lleol (tuberculation) mewnol wedi lleihau diamedrau’r pibellau mewnol gwreiddiol. Er y gall y camau gweithredu hyn ddarparu gwelliant dros dro, nid ydynt yn mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol, yn enwedig lle mae’r prif gyflenwad wedi diraddio’n strwythurol neu wedi’i ffurfweddu’n wael yn hydrolig. Mewn rhai achosion, gall fflysio hefyd darfu ar ddyddodion a chynyddu risg tymor byr os nad yw’n cael ei reoli a’i ddilysu’n ofalus drwy samplu cynrychioladol. Mae’r methiannau hyn yn dangos yr angen am ddull mwy rhagweithiol a strategol o reoli’r risg o afliwiad. Dylai cwmnïau sicrhau bod cofnodion asedau yn adlewyrchu statws gweithredol asedau yn gywir bob amser, wedi’u hategu gan brosesau cadarn ar gyfer diweddaru systemau yn dilyn gweithgareddau maes. Dylid cael strategaethau tymor byr, tymor canolig a thymor hir clir ar gyfer mynd i’r afael â risgiau haearn, gan gynnwys ystyried adnewyddu asedau’n amserol lle mae cyflwr seilwaith yn cyfyngu ar effeithiolrwydd rheolaethau gweithredol. Nid yw dibynnu ar fflysio adweithiol a samplu cydymffurfiaeth yn unig yn rhoi sicrwydd o ansawdd dŵr parhaus, yn enwedig pan fydd samplau’n cael eu cymryd o dan amodau sydd wedi’u gwella’n artiffisial. Mae rheoli risg yn effeithiol yn gofyn am fonitro cynrychioliadol, dealltwriaeth o amodau hydrolig, a buddsoddiad wedi’i dargedu i gael gwared ar achosion sylfaenol, gan sicrhau cyflenwad cyson o ddŵr dihalog a derbyniol i ddefnyddwyr.
Ffigur 15 – Methiannau haearn Dŵr Cymru
Lliw
Mae lliw dŵr yfed yn ddangosydd pwysig o ansawdd esthetig a pherfformiad triniaeth. Gall ddeillio o’r ffynhonnell dŵr crai, yn enwedig lle mae deunydd organig naturiol fel sylweddau hwmig yn bresennol, yn ogystal â metelau fel haearn a manganîs neu aflonyddiadau yn y system ddosbarthu. Er nad yw’n bryder iechyd uniongyrchol, gall lliw dyfnach neu fwy dwys fod yn arwydd o broblemau gweithredol sylfaenol a gall effeithio ar hyder defnyddwyr, ac felly disgwylir iddo gael ei gynnal ar lefelau sy’n dderbyniol i ddefnyddwyr.
Cofnodwyd methiant lliw ym mharth cyflenwi consesiynol Hafren Dyfrdwy. Mae’r eiddo’n cael ei gyflenwi o ffynnon, gyda dŵr yn cael ei bibellu i’r eiddo a’i drin drwy system triniaeth uwchfioled ar y pwynt defnyddio. Mae hysbysiad dŵr berw parhaol wedi’i osod wrth dap y gegin. Er bod y cwmni’n gwasanaethu’r system uwchfioled, nid yw’r broses ddiheintio’n cael ei monitro na’i dilysu. Mae’r cwmni’n cydnabod y gallai dirywiad yn ansawdd y dŵr crai, gan gynnwys lliw dyfnach neu fwy dwys, leihau effeithiolrwydd triniaeth uwchfioled ar y pwynt defnyddio. Roedd yr un eiddo hefyd wedi cofnodi achos o fethiant lliw ym mis Chwefror 2024. Mae cyflenwadau consesiynol yn y parth hwn i fod i gael eu cysylltu â’r prif gyflenwad yn 2026 o dan hysbysiad HDC-2022-00001, ac mae’r cwmni wedi adrodd ei fod yn dal ar y trywydd iawn i gwblhau’r gwaith hwn. Mae hysbysiad dŵr berw rhagofalus yn dal yn ei le, ac mae disgwyl i’r cysylltiad parhaol â’r prif gyflenwad ddigwydd erbyn dyddiad cwblhau’r hysbysiad.
Dysgu o ddigwyddiadau
Rhoddwyd gwybod i’r Arolygiaeth am 65 o ddigwyddiadau yn 2025. Roedd 32 o’r rhain yn ddigwyddiadau eiddo unigol, 16 ohonynt yn ymwneud â systemau dosbarthu defnyddwyr ac, o ganlyniad, roeddent y tu hwnt i reolaeth y cwmni dŵr.
Ffigur 16 – Digwyddiadau ansawdd dŵr yng Nghymru
Roedd y digwyddiad mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â chymeradwyaeth rheoliad 31 ar gyfer Dŵr Cymru, gyda sgôr Mynegai Risg Digwyddiadau (ERI) o 5,299. Mewn cymhariaeth, roedd gan y digwyddiad a gafodd y sgôr uchaf yn 2024 ERI o 240. Gall digwyddiadau rheoliad 31 ddenu sgoriau ERI mawr oherwydd maint y boblogaeth y gallai hyn effeithio arni a hyd y digwyddiad, a allai ymestyn dros gyfnod sylweddol tra bydd cynhyrchion heb eu cymeradwyo yn aros yn eu lle cyn iddynt gael eu nodi a’u gwaredu.
Cofnodwyd y sgôr ERI uchaf ond un gan Albion Eco, sef 657, am ddigwyddiad colli cyflenwad yn dilyn byrst ar brif bibell i fyny’r gadwyn gyflenwi. Yn yr achos hwn, roedd y boblogaeth fach a gyflenwyd o 180 yn golygu bod y sgôr ERI yn uwch yn gyfrannol nag y byddai wedi bod ar gyfer digwyddiad tebyg a oedd yn effeithio ar gwmni presennol, gan fod y digwyddiad wedi effeithio ar y boblogaeth gyfan a gyflenwyd gan y cwmni. Mae Ffigur 11 yn dangos yr ERI ar gyfer Cymru yn 2025. Mae’r barrau’n dangos sgorau ERI y cwmnïau unigol, mae llinell Cymru yn dangos yr ERI ar gyfer y cwmnïau wedi’u cyfuno i un, a’r llinell ERI ganol yw ERI canolrifol y cwmnïau.
Ffigur 17 – Sgôr ERI fesul cwmni
Ffigur 18 – ERI dros 5 mlynedd
Ffigur 19 – Sgôr ERI ar gyfer pob cwmni yng Nghymru a Lloegr
Mae Ffigurau 20 a 21 yn dangos nifer y digwyddiadau yng Nghymru ac ar draws y diwydiant yn y drefn honno. Yng Nghymru, nid oes tuedd amlwg, ond mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld uchafbwynt tebyg i’r uchafbwynt blaenorol yn ystod y cyfnod perthnasol. Byddai angen dadansoddiad pellach o natur y digwyddiadau sy’n achosi’r uchafbwyntiau hyn er mwyn pennu unrhyw batrwm neu gyffredinrwydd.
Ffigur 20 – ERI Cymru ac ERI canolrifol – Cyfanswm y sgoriau ar gyfer pob cwmni
Ffigur 21 – Sgoriau ERI yng Nghymru o gymharu â gweddill y diwydiant
Cod cwmni
Enw’r digwyddiad
Achos y digwyddiad
Dosbarthiad terfynol
DWR
Cymeradwyaeth Rheoliad 31
Defnyddio deunyddiau/cynhyrchion sydd heb eu cymeradwyo
3 (Sylweddol)
ALE
Prif Bibell Gyflenwi Brychdyn
Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst
3 (Sylweddol)
DWR
Byrst Aston
Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst
3 (Sylweddol)
DWR
Colli Cyflenwad Safle Gwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd
Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst
4 (Difrifol)
DWR
Afliwiad Caerdydd
Lleihau pwysedd y rhwydwaith yn dilyn darlleniadau uchel anghywir ar chwiliedydd lefel yng Nghronfa Ddŵr Gwasanaeth Cefn Mabli, a arweiniodd at y lefel yn gostwng o dan frig y brif allfa. Afliwiad ond dim colli cyflenwad.
3 (Sylweddol)
DWR
Byrst Prif Bibell Gyflenwi Llanrhymni
Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst
2 (Dibwys)
DWR
Colli cyflenwad Caerfyrddin
Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst
3 (Sylweddol)
DWR
Afliwiad y Gŵyr / Abertawe
Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst
3 (Sylweddol)
DWR
Afliwiad y Rhyl
Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst
2 (Dibwys)
DWR
Afliwiad Abertawe
Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst
2 (Dibwys)
Tabl 10 – Y 10 digwyddiad a gafodd y sgoriau uchaf yn 2025
Digwyddiadau penodol
DWR – Cymeradwyaeth Rheoliad 31
Fe wnaeth asesiad cydymffurfio rheoliad 31 arferol, a gynhaliwyd mewn perthynas â deunyddiau y bwriedir eu defnyddio mewn cynllun cyfalaf arfaethedig, nodi nad oedd gan gynnyrch a gyflenwyd ac a osodwyd yn y rhwydwaith dosbarthu cyhoeddus rhwng 12 Mehefin 2024 a 27 Awst 2024 gymeradwyaeth ddilys yn ystod y cyfnod hwnnw. Cadarnhaodd y cwmni nad oedd cyfansoddiad y cynnyrch na’r cyfarwyddiadau defnyddio wedi newid rhwng y methiant o ran cymeradwyo a’r ail-gymeradwyo dilynol. Daeth asesiad risg a gynhaliwyd gan y cwmni i’r casgliad felly bod y risg gysylltiedig ag ansawdd dŵr yn isel.
I ategu’r casgliad hwn, cwblhaodd y cwmni gyfrifiadau arwynebedd ar gyfer ffitiadau nodweddiadol ar draws yr ystod maint tebygol a osodwyd. Roedd y cyfrifiadau hyn yn dangos bod y ffitiadau’n bodloni’r meini prawf enghreifftiol a nodir yn Nhaflen Gyngor 8, a chyflwynwyd hon fel tystiolaeth i ddangos bod y risg i ansawdd y dŵr a gyflenwir yn dal yn isel. Fodd bynnag, nid oedd y cwmni’n gallu pennu union fanylebau na lleoliadau gosod y ffitiadau i ddechrau, ond ers hynny mae wedi cynnal dadansoddiad ôl-weithredol ac wedi pennu bod poblogaeth o 1,123,195 wedi ei heffeithio, allan o gyfanswm poblogaeth y cwmni, sef 3,093,158.
Mae’r cwmni wedi cydnabod bod cynnyrch heb ei gymeradwyo wedi cael ei osod. Er bod y cwmni’n honni bod y risg i ansawdd dŵr yn isel, nid oedd yn gallu cadarnhau’r asesiad hwn yn llawn oherwydd absenoldeb cofnodion manwl yn ymwneud â mathau o ffitiadau a lleoliadau gosod manwl. Rhoddwyd argymhellion a oedd yn gofyn am adolygiad beirniadol o weithdrefnau sy’n ymwneud â chadw cofnodion, sicrwydd cydymffurfio â rheoliad 31, a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifiadau arwynebedd i ddangos statws enghreifftiol.
Dylai cwmnïau sicrhau bod systemau ar waith i atal defnyddio cynhyrchion nad ydynt wedi cael cymeradwyaeth rheoliad 31, a’r adeg dyngedfennol yw pan fydd dŵr yn cael ei gyflenwi.
ALE – Digwyddiad colli cyflenwad Brychdyn
Yn dilyn byrst i fyny’r gadwyn gyflenwi ar un o brif bibellau dŵr Dŵr Cymru, collwyd y cyflenwad y gellir ei yfed i Felin Shotton rhwng 14:00 ar 14 Awst 2025 a 20:00 ar 16 Awst 2025, toriad o 51 awr i gyd. Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddodd y cwmni fesurau wrth gefn ar waith i gynnal argaeledd dŵr ar y safle drwy ddarparu cyflenwad amgen o’r system ddiwydiannol ar wahân na ellir ei yfed, sydd wedi’i thrin yn rhannol, sy’n cael ei bwydo o Safle Gwaith Trin Dŵr Ashgrove (Dŵr Cymru).
Mae’r cyflenwad diwydiannol yn cael ei ddosio â sodiwm hypoclorid ym Melin Shotton i gynnal gwaddodion clorin rhydd o 0.1 ppm, gyda’r bwriad o atal twf biolegol yn rhwydwaith dosbarthu diwydiannol y safle yn unig. O dan amodau gweithredu arferol, mae’r systemau yfadwy a’r rhai na ellir eu hyfed yn gwbl ar wahân. Fodd bynnag, er mwyn cynnal argaeledd dŵr ar gyfer cyfleusterau lles yn ystod y digwyddiad, gosodwyd un croes-gysylltiad, a chafodd y system yfadwy ei chysylltu dros dro gyda’r cyflenwad nad yw’n yfadwy.
Darparodd y cwmni ddata tueddiadau a oedd yn dangos cyfanswm gwaddodion clorin, er nad oedd tystiolaeth o waddodion clorin rhydd yn y system dros y cyfnod. Darparwyd data afloywder, dargludedd a pH o offeryniaeth ar-lein yn safle gwaith trin dŵr Ashgrove hefyd. Arhosodd afloywder a dargludedd o fewn terfynau rheoleiddiol, tra bod pH wedi’i olrhain ychydig yn uwch nag isafswm gwerth Atodlen 2, sef 6.5.
Er mwyn diogelu defnyddwyr ar y safle, cyhoeddodd y cwmni gyngor Peidio ag Yfed, arddangosodd hysbysiadau ym mhob arllwysfa, a darparodd ddŵr potel fel cyflenwad yfed amgen.
Ar ôl adfer y cyflenwad yfadwy ar 16 Awst 2025, tynnodd y cwmni’r croes-gysylltiad dros dro (gan adfer y gwahaniad bwlch aer), gan fflysio i gyflawni wyth trosiant cyfaint y system a gyfrifwyd, a newid y cyngor Peidio ag Yfed i gyngor i ferwi dŵr ar 17 Awst 2025, yn amodol ar ganlyniadau samplu boddhaol.
Cynhaliwyd arolygon samplu ar dapiau’r safle ar 18 Awst 2025 at ddiben dadansoddi microbioleg ac, ar 19 Awst 2025, ar gyfer cyfres lawn o baramedrau ansawdd dŵr. Roedd yr holl ganlyniadau’n foddhaol. Atgoffir cwmnïau bod gofynion dŵr dihalog rheoliad 4 yn berthnasol i bob defnydd domestig o ddŵr, gan gynnwys golchi dwylo mewn cyfleusterau lles, ac y dylid cynnal gwaith samplu addas i wirio bod y dŵr a gyflenwir yn bodloni’r gofyniad rheoleiddio hwn. Ar ben hynny, dylai amseriad cyhoeddi a diddymu unrhyw gyngor cyfyngu ar ddefnydd fod yn seiliedig ar asesiad risg deinamig a ddilysir drwy waith samplu priodol.
DWR – byrst prif bibell ddŵr Aston
Digwyddodd byrst ar y brif bibell sy’n cyflenwi dŵr o Safle Gwaith Trin Dŵr Bretton i gronfa ddŵr gwasanaeth Aston. Bu’r ymdrech atgyweirio gychwynnol yn aflwyddiannus, gan arwain at wagio’r gronfa ddŵr gwasanaeth ac achosi colli cyflenwad sylweddol i gwsmeriaid yn ardal Glannau Dyfrdwy. Yn ystod yr ymateb i’r digwyddiad, defnyddiwyd tanceri dŵr; fodd bynnag, ni chymerwyd samplau o’r tanceri eu hunain. Cofnodwyd methiannau samplu ansawdd dŵr wedyn mewn ardaloedd i lawr y gadwyn gyflenwi o bwyntiau trwytho tanceri, ac nid yw’n glir o hyd a oedd modd priodoli’r methiannau hyn i’r digwyddiad byrstio, i weithrediadau’r tanceri neu’r ddau.
Cafodd y safle gwaith trin dŵr ei ailddechrau, a chafodd y gronfa ddŵr gwasanaeth a’r rhwydwaith ehangach eu hailwefru mewn modd rheoledig. Darparwyd cyflenwadau dŵr potel digonol i gwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt drwy gydol y digwyddiad.
Nodwyd nifer o ddiffygion yn ystod yr adolygiad o’r digwyddiad. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg asesiad risg ansawdd dŵr ar gyfer defnyddio prif bibell gyflenwi dros dro dros y tir, asesiad annigonol o gadernid y gwaith atgyweirio cychwynnol, a gyfrannodd at ddigwyddiad byrstio eilaidd a cholli cyflenwad estynedig, a diffyg monitro afloywder ar y safle yn ystod gweithgareddau fflysio. Ar ben hynny, nid oedd cofnodion archwilio ansawdd dŵr ar y safle ar gael, ac ni chafodd unrhyw un o’r tanceri a ddefnyddiwyd eu samplu; dim ond y mannau llenwi ac eiddo i lawr y gadwyn gyflenwi a samplwyd, gyda methiannau i lawr y gadwyn gyflenwi yn cael eu cofnodi.
Mae argymhellion wedi cael eu rhoi i fynd i’r afael â’r diffygion hyn a chryfhau prosesau sicrwydd ansawdd dŵr a phrosesau gweithredol yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at yr angen am brosesau sicrwydd ansawdd dŵr ac asesiadau risg cadarn yn ystod gweithgareddau ymateb brys, yn enwedig wrth ddefnyddio tanceri neu gyflenwadau dros y tir. Rhaid i weithdrefnau rheoli digwyddiadau effeithiol gynnwys asesiad trylwyr o gadernid gwaith atgyweirio i atal problemau rhag gwaethygu, monitro a chofnodi ansawdd dŵr yn glir yn ystod gweithrediadau fflysio a chludo dŵr, a samplu tanceri eu hunain yn rheolaidd i sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli’n ddigonol a bod modd eu gwahaniaethu’n glir oddi wrth fethiannau rhwydwaith sylfaenol.
DWR – colli cyflenwad ar safle gwaith trin dŵr Bryn Cowlyd
Gadawodd digwyddiad yng Ngogledd Cymru ym mis Ionawr 2025 dros 114,000 o bobl heb gyflenwad dŵr am saith diwrnod. Mae safle gwaith trin dŵr Bryn Cowlyd (Dŵr Cymru) yn cyflenwi ardal arfordirol Gogledd Cymru, gan gynnwys Conwy, Llandudno a Bae Colwyn. Ar 13 Ionawr, nodwyd gollyngiad posibl ar brif arllwysfa’r safle gwaith. Drwy gerdded ar hyd y brif bibell, daethpwyd o hyd i ollyngiad o dan Afon Ddu a dechreuodd y cwmni gynllunio’r gwaith atgyweirio. Cyn y gallai hyn ddigwydd, arweiniodd toriad yn y pŵer yn oriau mân 15 Ionawr at gau’r safle gwaith yn awtomatig. Pan roddwyd cynnig ar ailgychwyn, methodd prif bibell yr arllwysfa â chyrraedd y gwasgedd gofynnol, a daethpwyd i’r casgliad nad oedd modd ailddechrau’r gwaith nes bod y brif bibell wedi cael ei thrwsio. Yn dilyn hynny, collwyd cyflenwad dros saith diwrnod yn yr ardaloedd a gyflenwir fel arfer gan safle gwaith trin dŵr Bryn Cowlyd wrth i’r brif bibell gael ei hatgyweirio ac wrth i’r system gael ei hail-lenwi. Roedd hyn yn effeithio ar boblogaeth o 114,562 o bobl, neu 47,734 eiddo, a oedd yn cael eu cyflenwi naill ai’n uniongyrchol o’r system disgyrchiant o danc dŵr terfynol Bryn Cowlyd neu gan gronfeydd dŵr gwasanaeth a oedd hefyd yn cael eu cyflenwi gan y safle. Oherwydd ei leoliad o dan afon, roedd atgyweirio’r brif bibell ddŵr yn heriol ac roedd angen gwaith cloddio mawr i ddarparu mynediad diogel. Ar ôl ei datguddio, nododd y cwmni ollyngiad twll pin a oedd wedi erydu cyplysiad, gan greu twll o tua 50-75 mm.
Figure 22
Figure 23
Figure 24
Defnyddiwyd cyflenwadau amgen ar ffurf tanceri, tanciau Arlington a dŵr potel i ddarparu cyflenwad dŵr i’r boblogaeth yr effeithiwyd arni nes bod cyflenwadau arferol yn cael eu hadfer.
Roedd y digwyddiad colli cyflenwad wedi ennyn diddordeb yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol, gydag adroddiadau bod defnyddwyr yn casglu dŵr môr i fflysio eu toiledau gan nad oeddent yn gallu cael gafael ar ddigon o gyflenwadau amgen at y diben hwn.
Ar ôl trwsio’r brif bibell ddŵr ac ailgychwyn y safle gwaith, daeth y cwmni ar draws rhagor o gymhlethdodau gydag afloywder uwch yn y tanciau dŵr terfynol, a wnaeth ddarparu’r amser cyswllt gofynnol i sicrhau diheintio llawn. Ar ben hynny, roedd samplau a gasglwyd o bwynt samplu terfynol y safle gwaith cyn dychwelyd i’r cyflenwad yn cael eu hystyried yn anghynrychioliadol o’r dŵr o’r tanc. Cafodd y cwmni argymhelliad i gasglu cyfres o samplau ar ôl dychwelyd i’r cyflenwad, er mwyn dilysu ei asesiad risg bod y dŵr yn ddihalog ac wedi’i ddiheintio’n ddigonol. Gwnaed argymhellion eraill hefyd mewn perthynas â samplu, gan gynnwys samplu digonol ar gyfer Cryptosporidium, gan nad oedd modd dadansoddi’r unig sampl a gasglwyd yn ystod y digwyddiad oherwydd malurion ar y sleid.
Yn ystod y digwyddiad, defnyddiodd y cwmni 27 tancer i gadw neu adfer cyflenwadau i ddefnyddwyr dros y saith diwrnod, gyda 390 o ollyngiadau’n cael eu gwneud. Casglwyd naw sampl o’r tanceri hyn yn ystod y digwyddiad, sy’n sylweddol is na gofynion rheoliad 6 y Rheoliadau, sy’n ei gwneud yn ofynnol i danceri gael eu samplu adeg rhyddhau ac yn ystod pob cyfnod dilynol o 48 awr. Cyn y digwyddiad, roedd yr Arolygiaeth wedi cyflwyno hysbysiad rheoliad 28(4) i’r cwmni am gyflenwadau amgen, yn rhannol oherwydd nad oedd y gweithdrefnau a’r adnoddau’n ddigonol i ganiatáu samplu digonol. Er bod y cwmni’n gweithio tuag at gydymffurfio â rheoliad 6 a’r hysbysiad, bydd digwyddiadau’n parhau i sgorio’n uwch ar y Mynegai Risg Digwyddiadau. Mae tîm gorfodi’r Arolygiaeth yn monitro cynnydd y cwmni yn erbyn yr offerynnau cyfreithiol.
DWR – afliwiad Caerdydd
Gyda’r nos ar 11 Mawrth 2025, cafodd larymau gwasgedd a llif eu rhoi ar waith yn ardal Caerdydd i lawr y gadwyn gyflenwi o gronfa ddŵr gwasanaeth Cefn Mabli. Canfu ymchwiliad dilynol fod lefel y dŵr yn adran 2 y gronfa ddŵr yn 2.5 m, sy’n sylweddol is na’r 3.5 m a ddangosir gan delemetreg. Ni daniwyd unrhyw larymau lefel cronfa, rhybuddion cyfradd newid na larymau gwyro llif cysylltiedig. Arweiniodd y gostyngiad yn lefel y gronfa ddŵr at leihau pwysedd y brif bibell gyflenwi dŵr i lawr y gadwyn gyflenwi yn rhannol, ac at afliwio yn y parthau ansawdd dŵr yr effeithiwyd arnynt.
Adeg y digwyddiad, nid oedd adrannau 1 ac 1A cronfa ddŵr gwasanaeth Cefn Mabli yn weithredol oherwydd gwaith cynnal a chadw, yn unol â hysbysiad archwilio tanc y cwmni (cyf. DWR‑2021‑00002). Fe wnaeth gwaith dadansoddi data telemetreg alluogi’r cwmni i olrhain y broblem yn ôl i gronfa ddata’r gwasanaeth o fewn dwy awr i danio’r larwm gychwynnol.
Cyfathrebwyd â chwsmeriaid drwy negeseuon testun torfol, galwadau ffôn a diweddariadau ar y wefan. Cafodd arolygon samplu eu cynnal ar draws yr ardal dan sylw i asesu’r effeithiau ar ansawdd y dŵr, a chafodd dŵr potel ei gyflenwi’n rhagweithiol i ddefnyddwyr agored i niwed. Cafodd y chwiliedydd lefel diffygiol yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Cefn Mabli ei ddisodli, cafodd ail chwiliedydd lefel ei osod, a chafodd monitro lefel â llaw ei roi ar waith drwy gydol y digwyddiad.
Cafodd adolygiad o chwiliedyddion lefel cronfeydd dŵr gwasanaeth ei gwblhau wedyn, gyda chynlluniau adfer neu gynlluniau wrth gefn yn cael eu sefydlu ar gyfer unrhyw chwiliedyddion y canfuwyd eu bod y tu allan i’r goddefiant neu’n anhygyrch. Canfu’r ymchwiliad anghysondeb rhwng y weithdrefn archwilio cronfa ddŵr gwasanaeth ysgrifenedig a’r ffurflen archwilio a ddefnyddir ar y safle, yn benodol o ran y gofyniad i wirio cywirdeb y chwiliedyddion lefel yn ystod arolygiadau. Roedd yr anghysondeb gweithdrefnol hwn, ynghyd ag absenoldeb gwiriadau lefel ac ansawdd dŵr wrth drosglwyddo dŵr yn gynharach o adran weithredol 2 i adran anweithredol 1, yn cynrychioli cyfleoedd posibl a gollwyd i atal y digwyddiad.
Mae’r digwyddiad yn dangos pwysigrwydd gwaith monitro lefel cronfeydd dŵr dibynadwy a gweithdrefnau archwilio wedi’u halinio’n llawn, gan fod methiannau o ran cywirdeb telemetreg, ffurfweddiad larymau a phrosesau dilysu – yn enwedig yn ystod cyfnodau o lai o gadernid gweithredol – yn gallu arwain at golli cyfaint cronfeydd dŵr gwasanaeth heb ei ganfod, effeithiau ar ansawdd dŵr i lawr y gadwyn gyflenwi, a cholli cyfleoedd i ymyrryd yn gynnar.
DWR – byrst prif bibell ddŵr Llanrhymni
Am oddeutu 15:00 ar 3 Medi 2025, cafodd Dŵr Cymru wybod, drwy larymau gwasgedd a llif, am fyrst ar brif bibell ddŵr 15 modfedd yn ardal Llanrhymni yng Nghaerdydd. Rhoddodd y cwmni ei drefniadau cynllunio ar gyfer argyfwng ar waith, gan ddefnyddio cynlluniau gweithredu presennol ar gyfer ardaloedd a gweithgareddau, a gweithredu’n gyflym i liniaru’r effaith ar ddefnyddwyr.
O fewn deuddeg awr gyntaf y digwyddiad, sefydlwyd dwy orsaf dŵr potel, dosbarthwyd dŵr potel i ddefnyddwyr agored i niwed, defnyddiwyd tanceri ar gyfer arllwysiad rhwydwaith, cychwynnwyd ar y gwaith atgyweirio, a rhoddwyd mesurau ail-barthu ar waith i leihau maint y tarfu ar y cyflenwad. Cwblhawyd y gwaith atgyweirio ac ailgysylltwyd y brif bibell ddŵr yn ystod oriau mân 4 Medi 2025.
Denodd y digwyddiad ddiddordeb yn y cyfryngau lleol, a darparodd y cwmni ddiweddariadau cynnydd rheolaidd i’r wasg. Nodwyd rhai diffygion o ran yr ymateb a’r cyflenwadau amgen a ddarparwyd, yn enwedig o ran samplu tanceri yn unol â Rheoliad 6. Fodd bynnag, yn gyffredinol, fe wnaeth ymateb gweithredol y cwmni i bob pwrpas gyfyngu ar yr effaith ar ddefnyddwyr, ac adferwyd cyflenwadau’n brydlon.
Er mwyn rhoi sicrwydd yn erbyn gofynion SEMD, dylai cwmnïau ganolbwyntio ar greu ac ymarfer cynlluniau brys priodol ar gyfer digwyddiadau o’r math hwn. Dylid dylunio’r cynlluniau hyn i amharu cyn lleied â phosibl ar y cyflenwad, i ddiogelu hyder defnyddwyr ac i reoli’r effeithiau ar ansawdd y dŵr.
DWR – colli cyflenwad Caerfyrddin
Cafwyd digwyddiad colli cyflenwad sylweddol a oedd yn effeithio ar yr ardal i’r dwyrain o Gaerfyrddin rhwng 12 ac 14 Gorffennaf 2025. Dechreuodd y digwyddiad pan fyrstiodd prif bibell 21 modfedd o gronfa ddŵr gwasanaeth Brondini, a ganfuwyd am 04:49, a chanfuwyd lleoliad y byrst yn fuan wedyn. Roedd asesiadau risg cychwynnol yn dangos y gallai hyn effeithio ar hyd at 6,500 eiddo; fodd bynnag, roedd mesurau lliniaru gweithredol, gan gynnwys ail-barthu, cludo dŵr a defnyddio prif bibell dros y tir, wedi lleihau nifer yr eiddo heb gyflenwad i 290 ar y diwrnod cyntaf, a 59 erbyn 13 Gorffennaf. Cwblhawyd y gwaith atgyweirio ar 14 Gorffennaf ac adferwyd y cyflenwadau’n llawn. Adroddwyd cyfanswm o 96 o gysylltiadau ‘dim dŵr’ ac un cyswllt ansawdd dŵr yn ystod y digwyddiad.
Daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad, er bod tarfiadau ar y cyflenwad yn cael eu rheoli i leihau’r effaith ar ddefnyddwyr, bod diffygion o ran rheoli ansawdd dŵr ac adrodd ar ddigwyddiadau. Mae’n debygol nad oedd y dŵr a gyflenwyd yn ystod y digwyddiad yn ddŵr dihalog, gyda chrynodiadau haearn uwch ac adroddiadau o flas ‘chwerw’ wedi’u nodi mewn samplau tanceri, er nad oedd y profion blasu hyn wedi eu hachredu. Roedd bylchau gweithdrefnol hefyd, gan gynnwys samplu anghyflawn o danceri a oedd yn arllwys i’r rhwydwaith, a methiant i dynnu tancer yn ôl yn brydlon yn dilyn canlyniad prawf anffafriol. Yn ogystal, ni adroddwyd yn llawn ar wybodaeth yn ymwneud â samplu, gweithrediadau tanceri, comisiynu prif bibell dros y tir a gwaith diheintio.
Dylai cwmnïau sicrhau bod rheolaethau gweithredol cadarn sy’n cael eu rhoi ar waith yn gyson yn cael eu defnyddio yn ystod trefniadau cyflenwi brys, yn enwedig pan fydd tanceri a phrif bibellau dros y tir yn cael eu defnyddio. Dylai cwmnïau hefyd sicrhau bod yr holl asedau cyflenwi amgen yn cael eu hasesu, eu diheintio, eu samplu a’u cofnodi’n llawn, a bod canlyniadau andwyol yn sbarduno gweithredu pendant ar unwaith. Mae adrodd yn gywir ac yn gyflawn am ddigwyddiadau, gan gynnwys cysylltiadau defnyddwyr a data gweithredol, yn hanfodol er mwyn dangos cydymffurfiaeth a chefnogi dysgu. Bydd cryfhau’r meysydd hyn yn lleihau’r risg o gyflenwi dŵr nad yw’n ddŵr dihalog ac yn gwella cadernid yn ystod digwyddiadau colli cyflenwad.
DWR – afliwiad y Gŵyr / Abertawe
Digwyddodd digwyddiad afliwio sylweddol a effeithiodd ar ardal Gŵyr yn Abertawe rhwng 15 ac 16 Hydref 2025, yn dilyn byrst ar brif bibell ddur 20 modfedd. Roedd gollyngiad bach a nodwyd ar 9 Hydref wedi gwaethygu’n raddol ac wedi arwain at fyrst mawr, a gafodd ei ynysu yn oriau mân 15 Hydref. Digwyddodd y byrst o ganlyniad i hollt hydredol wrth ymyl coler a osodwyd yn ystod gwaith atgyweirio blaenorol. Cafodd proses fflysio rhwydwaith a phroses lleihau llif wedi’i rheoli eu rhoi ar waith i reoli’r effaith, a chafodd y brif bibell ei hatgyweirio’n llawn erbyn 20:00 ar 16 Hydref. Er na gollwyd cyflenwad ac er y cynhaliwyd pwysedd cadarnhaol, cysylltodd 45 o ddefnyddwyr i’n hysbysu o afliwiad. Nododd gwaith samplu fethiannau o ran haearn, afloywder a manganîs mewn pedwar eiddo ar 15 Hydref, er bod yr ail samplau a gymerwyd y diwrnod canlynol yn foddhaol, gan ddangos bod ansawdd y dŵr wedi cael ei adfer yn brydlon.
Daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad bod y cwmni wedi cyflenwi dŵr a oedd y tu hwnt i’r crynodiadau a ragnodwyd ar gyfer afloywder, haearn a manganîs, gan ei wneud yn ddŵr nad oedd yn ddihalog, gan dorri rheoliad 4(2)(c) o’r Rheoliadau. Fodd bynnag, nododd fod yr ymateb gweithredol yn amserol ac yn effeithiol, gyda chamau gweithredu cydgysylltiedig rhwng timau rhwydwaith a thimau cynhyrchu yn lleihau’r risg o afliwiad ac yn hwyluso’r gwaith atgyweirio. Roedd mesurau lliniaru’n cynnwys gostyngiadau wedi’u rheoli yn allbwn y safle gwaith trin dŵr, fflysio’r prif bibellau yr effeithiwyd arnynt, ac archwiliadau ar y safle (er na chafodd gwaith monitro afloywder ei wneud wrth fflysio). Croesawodd yr Arolygiaeth y dull lliniaru rhagweithiol a’r gwaith dilysu effeithiol cyn dychwelyd y rhwydwaith i gyflenwi, gan argymell hefyd bod gwaith atgyweirio hanesyddol yn cael ei ystyried yn fwy penodol mewn prosesau canfod gollyngiadau, asesu risg a blaenoriaethu. Anogir cwmnïau i ystyried pwysigrwydd rheoli prif bibellau’n rhagweithiol ac yn seiliedig ar risg, yn enwedig lle mae gwaith atgyweirio hanesyddol a gollyngiadau sy’n dod i’r amlwg yn cyd-daro. Dylai cwmnïau sicrhau bod asesiadau risg yn ymgorffori hanes asedau i flaenoriaethu ymyriadau ac atal digwyddiadau rhag gwaethygu ac arwain at fyrst. Dylai ymatebion gweithredol gynnwys monitro amser real cynhwysfawr, gan gynnwys afloywder, ochr yn ochr â chydlynu’r gwaith o reoli a dilysu rhwydweithiau cyn dychwelyd asedau i wasanaeth. Bydd cynnal digon o ddeunyddiau atgyweirio critigol a gwreiddio’r hyn a ddysgwyd o adolygiadau prif bibellau dŵr yn cryfhau cadernid ac yn lleihau’r tebygolrwydd o ddigwyddiadau afliwio, a’u heffaith
Figure 25 – Deterioration of the leak
Figure 26 – Deterioration of the leak
Figure 27 – Deterioration of the leak
Figure 28 – Leaking repair collar adjacent to longitudinal split on the main
DWR – hysbysiad Peidio ag Yfed Llanrhymni
Digwyddodd digwyddiad arwyddocaol yn Llanrhymni, Caerdydd, ar 17 Hydref 2025, lle rhoddwyd cyngor ‘peidiwch ag yfed’ i 20 eiddo. Dilynodd y digwyddiad waith fflysio llifwaddod lle agorwyd falf, a oedd wedi’i chofnodi’n anghywir ar y system GIS yn flaenorol, heb asesiad risg priodol. Roedd hyn yn caniatáu i ddŵr llonydd fynd i mewn i’r brif bibell ddosbarthu, gan arwain at nifer o ddefnyddwyr yn adrodd am afliwiad, blasau ac arogleuon anarferol, ac un adroddiad am salwch gastrig. Cafodd y falf ei hail-ynysu ar yr un diwrnod ac roedd cyfyngiadau ar waith tan 29 Hydref 2025, pan oedd canlyniadau samplu boddhaol yn golygu bod modd dileu’r cyngor.
Daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad bod y cwmni’n cyflenwi dŵr a oedd y tu hwnt i’r crynodiadau rhagnodedig ar gyfer ystod o baramedrau, gan gynnwys metelau, afloywder, hydrocarbonau a hydrocarbonau aromatig polysyclig, ac felly nid oedd y dŵr a gyflenwyd yn ddŵr dihalog. Nodwyd diffygion o ran rheolaeth weithredol ac ymateb i ddigwyddiadau, gan gynnwys methiant i gynnal asesiad risg addas cyn gweithredu falfiau, oedi a chyfyngiadau yn y strategaeth samplu gychwynnol, a diffyg cydnabyddiaeth gynnar o halogiad hydrocarbon polyaromatig posibl (PAH) er gwaethaf adroddiadau gan ddefnyddwyr yn nodi arogleuon tebyg i betrol. Roedd y dull samplu, a oedd yn dilyn gwaith fflysio’r brif bibell, yn lleihau’r tebygolrwydd o gasglu dŵr o’r ansawdd gwirioneddol waethaf, ac ystyriwyd bod hyn yn torri gofynion rheoleiddio. Nododd yr Arolygiaeth ddiffygion hefyd wrth bennu hyd a lled yr ardal dan sylw ac wrth roi cyngor ‘peidio ag yfed’ i ddefnyddwyr yn amserol ac yn gyson.
Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at yr angen am asesiad risg cadarn a rheolaeth dros weithrediadau rhwydwaith, yn enwedig wrth newid ffurfweddiad falfiau neu ymgymryd â gweithgareddau fflysio. Dylai cwmnïau sicrhau bod cyflwr asedau, hanes gweithredol a chywirdeb data yn cael eu hystyried yn llawn cyn ymyriadau, a bod strategaethau samplu’n cael eu cynllunio i gofnodi ansawdd dŵr cynrychioliadol cyn gynted â phosibl yn ystod digwyddiad. Dylai nodi risgiau halogi yn gynnar, yn enwedig lle mae nifer o ddangosyddion defnyddwyr yn awgrymu halogiad cemegol, sbarduno ymateb wedi’i uwchgyfeirio’n briodol. Bydd cryfhau’r meysydd hyn, ochr yn ochr â phrosesau gwell i ddiffinio ac amddiffyn y boblogaeth yr effeithir arni, yn lleihau’r risg o gyflenwi dŵr nad yw’n ddŵr dihalog ac yn gwella effeithiolrwydd ymateb i ddigwyddiadau ansawdd dŵr.
HDC – hysbysiad Peidio ag Yfed Stryd y Farchnad, Llangollen
Digwyddodd digwyddiad arwyddocaol yn Llangollen ar 11 Rhagfyr 2025, a oedd yn cynnwys rhoi cyngor ‘peidiwch ag yfed’ i chwe eiddo ar ôl canfod crynodiadau uchel o blwm. Datblygodd y digwyddiad o waith samplu cynharach ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2025, a oedd yn nodi plwm o fewn cyflenwad a rennir sy’n gwasanaethu wyth eiddo. Darparwyd cyngor ar fflysio i ddechrau; fodd bynnag, roedd rhagor o waith samplu ym mis Rhagfyr wedi canfod canlyniad fflysio 2 funud uwch mewn un eiddo, gan arwain at uwchgyfeirio i gyngor ‘peidio ag yfed’. Canfu ymchwiliadau fod y pibellau cyfathrebu a rennir yn cynnwys deunyddiau cymysg, gan gynnwys MDPE, copr a phibell alfanedig, gyda rhai eiddo’n dal ar gyfyngiadau tan fis Ionawr 2026 oherwydd heriau parhaus o ran mynediad ac ailosod.
Daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad bod y dŵr a gyflenwyd yn ystod y digwyddiad y tu hwnt i’r crynodiad rhagnodedig ar gyfer plwm ac felly nid oedd y dŵr yn ddŵr dihalog ac roedd yn groes i reoliad 4(2)(b) o’r Rheoliadau. Er bod y cwmni wedi cynnal asesiadau risg a chamau lliniaru, nid oedd y rhain yn cofnodi maint y prif risg yn llawn nac yn ysgogi ymatebion digon amddiffynnol yn gynharach yn yr ymchwiliad. Nodwyd oedi wrth gadarnhau deunyddiau pibellau ac wrth samplu pob eiddo ar y cyflenwad a rennir. Tynnodd yr Arolygiaeth sylw hefyd at y ffaith nad oedd cyfraniad posibl pibellau galfanedig i ormodiant plwm, gan gynnwys drwy weithredu galfanig, wedi cael ei ystyried yn llawn. Gwnaed argymhellion i wella gweithdrefnau ar gyfer dilysu deunyddiau pibellau, cryfhau asesiadau risg plwm, ac ystyried sbardunau cliriach ar gyfer uwchgyfeirio i gyngor ‘peidio ag yfed’. Anogir cwmnïau i sicrhau dull rhagofalus a systematig o reoli risgiau plwm, yn enwedig ar gyflenwadau a rennir gyda deunyddiau pibellau amhenodol neu gymysg. Dylai cwmnïau sicrhau bod yr holl eiddo cysylltiedig yn cael eu nodi, eu samplu a’u diogelu’n brydlon lle canfyddir canlyniadau uwch, a bod deunyddiau pibellau’n cael eu dilysu’n ffisegol cyn gynted â phosibl. Dylai asesiadau risg ystyried yn benodol fecanweithiau fel cyrydiad galfanig a phresenoldeb pibellau galfanedig, a dylai meini prawf uwchgyfeirio clir fod ar waith i sbarduno cyngor amddiffynnol. Bydd cryfhau’r arferion hyn yn lleihau’r risg o ddefnyddwyr yn dod i gysylltiad â phlwm am gyfnod hir ac yn gwella effeithiolrwydd ac amseroldeb ymateb i ddigwyddiadau
Ffigur 29 – achosion sgoriau ERI uchel yng Nghymru
Cysylltiadau defnyddwyr
Derbynioldeb dŵr
Mae derbynioldeb dŵr yfed yn cael ei raddio’n gyson gan ddefnyddwyr fel blaenoriaeth uchel. Gall nifer o ffactorau effeithio arno, gan gynnwys ymddangosiad, fel afliwiad neu nwyeiddio, a blas neu arogl. Mae’r rhan fwyaf o gwynion ynghylch derbynioldeb sy’n ymwneud ag afliwiad du, brown neu oren yn gysylltiedig â chrynodiadau uwch o fanganîs, haearn ac alwminiwm.
Er mai anaml y mae’r metelau hyn yn bresennol mewn crynodiadau sy’n niweidiol i iechyd, gallant achosi i ddŵr gael ei wrthod yn eang ar sail ymddangosiad. Mae defnyddwyr yn disgwyl i’w dŵr yfed fod yn lân ac yn ddiogel, a gall digwyddiadau afliwio darfu’n fawr a lleihau hyder yn y cyflenwad. Mae’r Arolygiaeth yn cymryd y digwyddiadau hyn o ddifrif ac mae gan lawer o gwmnïau hysbysiadau rheoliad 28(4) ar waith i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol afliwio. Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd yr Arolygiaeth Lythyr Gwybodaeth 01/2024, Darpariaeth Wybodaeth Flynyddol ar Gysylltiadau Defnyddwyr, a oedd yn nodi gofynion newydd i gwmnïau adrodd am wybodaeth fanylach am fanylion cyswllt defnyddwyr, gan gynnwys:
Cyfeirnod unigryw ar gyfer pob cyswllt;
Manylion yr ardal fesurydd dosbarth y mae’r cyswllt wedi’i leoli ynddi;
Dyddiad ac amser y cyswllt;
Cyfeirnod grid cenedlaethol (dwyreiniad a gogleddiad) lleoliad y cyswllt;
Modd y cyswllt;
A yw’r cyswllt yn ailadrodd o fewn cyfnod treigl o 12 mis (hynny yw digwyddiad newydd neu ‘achos’ o broblem debyg gan yr un defnyddiwr);
ac os yw’r cyswllt yn gysylltiedig â digwyddiad hysbysadwy, a rhif cyfeirnod y digwyddiad sy’n gysylltiedig ag ef.
Mae gwybodaeth ynghylch cysylltiadau lluosog, er enghraifft os yw defnyddiwr yn adrodd mwy nag un pryder ynghylch ansawdd dŵr yfed yn ystod cyswllt, hefyd yn cael ei chofnodi.
Y data a gyflwynwyd gan gwmnïau yn 2025, sy’n cwmpasu 2024, oedd y cyflwyniad cyntaf i gynnwys yr wybodaeth ychwanegol hon. O ganlyniad, nid yw’n bosibl cymharu’r data newydd yn uniongyrchol o un flwyddyn i’r llall eto. Er mwyn cynnal cysondeb set ddata gymharol a monitro perfformiad a chynnydd y diwydiant, dim ond prif gysylltiadau a chysylltiadau nad ydynt yn ymwneud â digwyddiadau sydd wedi cael eu defnyddio i adrodd ar ddata derbynioldeb ar gyfer 2024. Pan fydd set ddata ystyrlon ar gael, bydd dadansoddiad pellach yn cael ei gynnal i roi cipolwg ychwanegol ar gysylltiadau defnyddwyr.
Yng Nghymru yn 2025, roedd 8,161 o gysylltiadau defnyddwyr ynghylch ymddangosiad, blas ac arogl dŵr yfed, a adroddwyd i gwmnïau sy’n gweithredu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Mae hyn yn cyfateb i gyfradd o 2.46 o gysylltiadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Mae Tabl 8 yn dangos nifer y cysylltiadau a gafwyd ar gyfer pob math o gŵyn ar gyfer cwmnïau yng Nghymru, a chysylltiadau sy’n ymwneud â dŵr afliwiedig, gan gynnwys dŵr brown, dŵr oren a dŵr du, sef y rheswm mwyaf cyffredin. common reason.
Categori
Nifer y cysylltiadau
Cyfradd cyswllt Cymru fesul 1000 o’r boblogaeth
Cyfradd cyswllt y diwydiant fesul 1000 o’r boblogaeth
Golwg – Brown, Du, Oren
5,149
2.46
Blas / Arogl – Arall
894
Golwg – Aer Gwyn
676
Pryder ynghylch ansawdd dŵr yfed – Plwm a dadansoddiad
503
Blas / Arogl – Clorin
501
Golwg – Gronynnau
340
Salwch – Gastroenteritis
339
Golwg – Amodau Cyffredinol
204
Golwg – Calch Gwyn
147
Blas / Arogl – Priddlyd, arogl llwydni
132
Salwch – Croen
102
Golwg – Gwyrddlas
64
Salwch – Geneuol
38
Blas / Arogl – Petrol, Disel
37
Salwch – Barn Feddygol
23
Pryder ynghylch ansawdd dŵr yfed – Cysylltiedig â Digwyddiad
20
Golwg – Anifeiliaid Microsgopig
17
Pryder ynghylch ansawdd dŵr yfed – Ffordd o fyw
5
Pryder ynghylch ansawdd dŵr yfed – Anifeiliaid Anwes
4
Pryder ynghylch ansawdd dŵr yfed – Ymgyrch
0
Cyfanswm
9,195
Tabl 11. Cwynion am ansawdd dŵr yng Nghymru, 2025
Dŵr wedi’i afliwio
Mae’r Arolygiaeth yn adolygu data cyswllt defnyddwyr ar gyfer cysylltiadau am ddŵr wedi’i afliwio yn flynyddol. Caiff cwmnïau y mae eu perfformiad yn waeth na chyfartaledd y diwydiant eu hymchwilio, a chymerir camau gorfodi lle bo angen. Mae gan Dŵr Cymru hysbysiad ar draws y cwmni ers 2022, gyda chwe hysbysiad parth unigol yn weddill o AMP7. Ystyrir perfformiad afliwio ar draws y cwmni wrth gyflwyno hysbysiadau, yn ogystal â pherfformiad parthau cyflenwi dŵr unigol. Pan gânt eu cwblhau, bydd yr offerynnau cyfreithiol hyn yn gwella ansawdd dŵr i ddefnyddwyr a gyflenwir yn yr ardaloedd hyn.
Mae nifer y cysylltiadau sy’n adrodd am ddŵr wedi’i afliwio (brown, oren neu ddu) ar draws y diwydiant (Lloegr a Chymru) dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gostwng. Mae’n ymddangos bod y gwelliant hwn wedi arafu erbyn hyn, gydag adroddiad ar ddirywiad yn 2024, pan oedd y gyfradd yn 0.49 o gysylltiadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, a bron dim gwelliant yn 2025, pan oedd y gyfradd yn 0.48. Mae hyn yn cyfateb i 29,959 o gysylltiadau ar draws y diwydiant yn 2025 ynghylch dŵr du, brown ac oren. Yng Nghymru, mae’r diffyg twf hwn hefyd yn amlwg, gyda dirywiad nodedig yn 2024 a dim gwelliant parhaus dros y pum mlynedd diwethaf. Y gyfradd yng Nghymru oedd 1.55 o gysylltiadau fesul 1,000 o’r boblogaeth yn 2025.
Ffigur 30 – Cyfraddau afliwio Cymru 2016 i 2025 fesul cwmni a diwydiant
Mae cyfradd 2025 o 1.55 o gysylltiadau fesul 1,000 o’r boblogaeth yng Nghymru yn sylweddol uwch na chyfartaledd y diwydiant, sef 0.48. O’r cysylltiadau yng Nghymru, roedd 98.3% gan ddefnyddwyr a oedd yn cael eu gwasanaethu gan Dŵr Cymru. Dŵr Cymru yw’r cwmni sy’n perfformio waethaf yn y diwydiant o hyd o ran afliwio ac mae wedi dal y safle hwn ers 2014, fel y dangosir yn Ffigur 31.
Ffigur 31 – Cyfradd cysylltiadau afliwio fesul cwmni yn 2025 (ac eithrio Ynysoedd Sili a chwmnïau mewnosodedig)
Mae cyfradd cyswllt Hafren Dyfrdwy, a oedd wedi bod yn dangos gwelliant, wedi aros yn ei hunfan yn ystod y blynyddoedd diwethaf (Ffigur 14). Mae cyfradd y cwmni yn parhau i fod o dan gyfartaledd y diwydiant.
Ffigur 32 – Cyfraddau afliwio Cymru 2016 i 2025 fesul cwmni a diwydiant
Mae Ffigur 31 yn dangos safleoedd cwmnïau Cymru o gymharu â’r diwydiant cyfan o ran perfformiad cyswllt afliwiad yn 2025.
Mae Dŵr Cymru yn parhau i fod yn eithriad yn y diwydiant ac, er bod y dirywiad yn ei berfformiad yn 2024 wedi gwella yn 2025, nid oes unrhyw welliant cyffredinol o ran y raddfa wedi bod yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf. Roedd gan Dŵr Cymru nifer o hysbysiadau am afliwio penodol i barth a hysbysiadau ar draws y cwmni am afliwio. Mae tri o’r hysbysiadau sy’n benodol i barth wedi cael eu gohirio i AMP8. Cyflwynwyd yr hysbysiad ar gyfer y cwmni cyfan yn 2022 gyda tharged o 1.4 cyswllt fesul 1,000 o’r boblogaeth i’w gyflawni erbyn diwedd AMP7. Mae Ffigur 33 yn dangos bod y cwmni wedi methu â chyrraedd y targed hwn. Pan oedd arwydd cynnar na fyddai’r targed hwn yn cael ei gyrraedd, roedd yr Arolygiaeth wedi ymgysylltu â’r cwmni i ddeall yn well pam roedd y cwmni’n credu bod hyn yn wir drwy werthuso’n feirniadol sut roedd y cwmni wedi penderfynu ar yr hyn a oedd i’w gyflawni a’r effaith a ddeilliodd o hynny. Roedd rhan o’r hysbysiad parhaus hwn yn cynnwys gosod targed newydd ar gyfer diwedd AMP8 gan ddefnyddio’r un fethodoleg â’r un ar gyfer targed AMP7. Targed newydd y cwmni yw 1.08 o gysylltiadau fesul 1,000 o’r boblogaeth.
Ffigur 33 – Cyfraddau afliwio Cymru 2016 i 2025 fesul cwmni a diwydiant
Mae Dŵr Cymru yn parhau i fod yn eithriad i’r diwydiant am afliwiad. Er bod y perfformiad wedi gwella o’r dirywiad a welwyd yn 2024, ni fu unrhyw welliant cyffredinol yn y gyfradd gyswllt dros y pum mlynedd diwethaf. Mae gan y cwmni nifer o hysbysiadau am afliwio penodol i barth a hysbysiadau ar draws y cwmni am afliwio. Mae tri o’r hysbysiadau sy’n benodol i barth wedi cael eu gohirio i AMP8. Cafodd yr hysbysiad ar gyfer y cwmni cyfan ei gyflwyno yn 2022 gyda tharged o 1.4 cyswllt fesul 1,000 o’r boblogaeth i’w gyflawni erbyn diwedd AMP7. Mae Ffigur 15 yn dangos bod y cwmni wedi methu â chyrraedd y targed hwn. Yn dilyn arwyddion cynnar na fyddai’r targed yn cael ei gyflawni, bu’r Arolygiaeth yn ymgysylltu â’r cwmni i ddeall y rhesymau, gan gynnwys sut roedd yr elfennau i’w cyflawni wedi cael eu pennu a pha effaith roedd disgwyl iddynt ei chael. Mae targed AMP8 newydd wedi cael ei osod gan ddefnyddio’r un fethodoleg â tharged AMP7. Targed newydd y cwmni yw 1.08 o gysylltiadau fesul 1,000 o’r boblogaeth.
Yn ogystal â’r cyfraddau cyswllt am ddŵr du, brown ac oren cyffredinol a ddisgrifir uchod, cafodd nifer o gwynion defnyddwyr a gafodd yr Arolygiaeth yn 2025 eu sbarduno gan afliwiad parhaus a heb ei ddatrys o’r cyflenwad. Er mwyn asesu effaith afliwiad parhaus ar hyder defnyddwyr, mae tri achos a adroddwyd yn ardal Dŵr Cymru yn 2025 yn cael eu hystyried isod. Gyda’i gilydd, mae’r achosion hyn yn tynnu sylw at heriau parhaus o ran rheoli afliwiad, cynnal hyder defnyddwyr, a darparu ymatebion gweithredol ac ymchwiliadau effeithiol.
Ar draws pob achos, soniodd defnyddwyr am broblemau ansawdd dŵr esthetig parhaus, yn bennaf afliwio ac, mewn rhai achosion, arogl, a arweiniodd at wrthod cyflenwad. Er bod y cwmni wedi rhoi amrywiaeth o fesurau lliniaru ar waith, roedd yr Arolygiaeth yn nodi diffygion yn gyson o ran ansawdd ymchwiliadau, digonolrwydd gwaith samplu, ac amseroldeb ymatebion.
Yn gyffredinol, mae’r canfyddiadau’n cyfeirio at bwysau systemig yn y diwydiant, yn enwedig mewn perthynas ag asedau sy’n heneiddio, arferion rheoli rhwydwaith, a phrosesau delio â chwynion. Mae casgliadau rheoleiddiol yn pwysleisio’r angen am ddulliau ymchwilio a datrys sy’n fwy rhagweithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Roedd un achos yn ymwneud ag afliwiad ysbeidiol, tymor hir a oedd yn effeithio ar ardal gyflenwi leol, gyda chysylltiadau rheolaidd â defnyddwyr dros nifer o flynyddoedd. Roedd y mesurau lliniaru’n cynnwys fflysio trosiant adweithiol, cyflwyno rhaglen fflysio reolaidd, a gosod hidlydd cyflenwad mewnol. Fodd bynnag, roedd gweithgarwch ymchwiliol yn parhau i fod yn gyfyngedig, gyda dim ond nifer fach o samplau’n cael eu cymryd er gwaethaf parhad problemau.
Er bod canlyniadau’r sampl yn dangos eu bod yn cydymffurfio â safonau rheoleiddio adeg y profion, roedd presenoldeb parhaus afliwio amlwg yn golygu bod y cyflenwad yn dal yn annerbyniol i’r defnyddiwr. Daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad nad oedd y mesurau a gymerwyd wedi mynd i’r afael â’r achos sylfaenol nac wedi rhoi digon o sicrwydd.
Roedd ail achos yn ymwneud â chŵyn hirsefydlog mewn rhwydwaith trefol a oedd yn cynnwys afliwiad ac arogl, gyda chysylltiadau cychwynnol yn dyddio’n ôl sawl blwyddyn. Roedd y gweithgarwch ymchwilio cynnar yn gyfyngedig, a chollwyd cyfleoedd i samplu’n amserol a chanfod achosion sylfaenol. Dim ond yn dilyn methiannau ansawdd dŵr diweddarach a nodwyd yn ystod proses samplu cydymffurfiaeth arferol y parth ansawdd dŵr y dechreuwyd ymchwiliad mwy cynhwysfawr, lle nodwyd crynodiadau haearn uwch.
Priodolwyd yr achos sylfaenol i seilwaith sy’n heneiddio a throsiant isel yn y rhwydwaith, a gyfrannodd at symud gwaddodion a methiannau esthetig. Er bod mesurau lliniaru, gan gynnwys gwell fflysio a monitro, wedi cael eu rhoi ar waith yn y pen draw, roedd oedi a diffygion ymchwiliol yn ymestyn yr effaith ar ddefnyddwyr.
Roedd y trydydd achos yn ymwneud â chŵyn grŵp aml-flwyddyn a effeithiodd ar sawl eiddo mewn rhwydwaith gwledig. Adroddodd defnyddwyr am ddŵr wedi’i afliwio’n barhaus, ochr yn ochr â phroblemau o ran cyflenwad a phwysedd dros gyfnod estynedig. Cadarnhaodd gwaith samplu lefelau uwch o haearn ac afloywder, ac roedd y rhwydwaith ei hun yn cael ei nodweddu gan brif bibellau haearn sy’n heneiddio mewn cyflwr gwael gyda llawer o waddodion yn cronni.
Rhoddwyd amrywiaeth o ymyriadau gweithredol ar waith, fel rhaglenni fflysio, ail-barthu cyflenwadau, a gosod hidlyddion pwynt defnyddio. Fodd bynnag, nid oedd y mesurau hyn yn sicrhau gwelliant parhaus, gan dynnu sylw at gyfyngiadau lliniaru tymor byr yn absenoldeb adnewyddu seilwaith sylfaenol.
Ar draws pob achos, nodwyd cyflwr asedau dosbarthu, yn enwedig prif bibellau haearn sy’n heneiddio, fel prif sbardun ar gyfer afliwio (ffigur 34). Canfuwyd bod amodau llif isel ac aflonyddwch hydrolig yn ysgogi gwaddodion cronedig, gan arwain at fethiannau ansawdd dŵr ailadroddol. Roedd y materion hyn yn arbennig o ddifrifol mewn eithafion rhwydwaith ac ardaloedd â throsiant cyfyngedig.
Canfu’r Arolygiaeth hefyd ddiffygion cyson mewn arferion ymchwilio a samplu. Roedd oedi cyson o ran gwaith samplu, ac roedd yn annigonol, neu nid oedd yn cynrychioli’r amodau gwirioneddol. Nid oedd cwynion mynych yn arwain yn gyson at uwchgyfeirio nac ymchwiliadau uwch, a chollwyd cyfleoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar, gan ganiatáu i broblemau barhau dros gyfnodau estynedig.
Roedd mesurau lliniaru gweithredol, fel fflysio a gosod hidlyddion pwynt defnyddio, yn cael eu defnyddio’n eang ond dim ond mesurau lliniaru dros dro roedden nhw’n eu darparu. Roedd fflysio’n gwella claerder dŵr yn y tymor byr (Delwedd x) ond nid oedd yn atal hyn rhag digwydd eto, tra bod hidlyddion yn mynd i’r afael â symptomau mewn eiddo unigol yn hytrach nag achosion systemig. Mewn rhai achosion, roedd y gweithgareddau fflysio eu hunain mewn perygl o waethygu amodau drwy symud gwaddodion cronedig.
Daeth cyfathrebu â defnyddwyr i’r amlwg fel maes hollbwysig arall i’w wella. Roedd oedi wrth ddarparu diweddariadau a chanlyniadau profion wedi lleihau hyder defnyddwyr, ac roedd esboniadau o achosion sylfaenol a mesurau lliniaru weithiau’n anghyflawn neu’n anghyson. O ganlyniad, nid oedd defnyddwyr wedi’u hargyhoeddi o ddiogelwch na dibynadwyedd y cyflenwad, er gwaethaf cydymffurfiaeth rheoleiddiol mewn llawer o achosion.
Mae’r achosion hyn yn atgyfnerthu disgwyliadau rheoleiddio bod yn rhaid i gwmnïau dŵr gymryd samplau amserol a chynrychioladol, defnyddio dulliau ymchwilio sy’n seiliedig ar risg sy’n ystyried ffactorau rhwydwaith i fyny’r gadwyn gyflenwi, a rhoi systemau cadarn ar waith i ganfod ac uwchgyfeirio cwynion ailadroddus. Mae methu â bodloni’r disgwyliadau hyn yn debygol o arwain at fwy o graffu rheoleiddiol.
Mae nodi cyflwr seilwaith yn fynych fel achos sylfaenol yn tynnu sylw at yr angen am fuddsoddiad brys mewn asedau. Mae adnewyddu prif bibellau wedi’u targedu mewn ardaloedd risg uchel, rheoli eithafbwyntiau rhwydwaith yn well, ac integreiddio data cyflwr asedau’n well i brosesau cynllunio ansawdd dŵr i gyd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus. Mewn sawl achos, nodwyd mai adnewyddu seilwaith yw’r unig ateb hirdymor effeithiol.
Yn fwy cyffredinol, mae’r canfyddiadau’n adlewyrchu pwysau ehangach ar berfformiad y diwydiant. Mae cyfraddau uwch o gwynion am afliwio ac ymyriadau rheoleiddio parhaus yn dangos bod angen gwelliannau systemig. Mae disgwyliad cynyddol bod cwmnïau’n dangos cynnydd mesuradwy mewn perfformiad gweithredol a chanlyniadau i gwsmeriaid.
Mae’r asesiadau o gwynion a amlinellir uchod yn datgelu patrymau cyson o heriau gweithredol a strwythurol o ran cynnal ansawdd dŵr mewn rhwydweithiau dosbarthu. Er bod camau wedi cael eu cymryd i fynd i’r afael â materion unigol, mae ymatebion yn aml wedi bod yn adweithiol ac yn annigonol i ddatrys achosion sylfaenol. Mae afliwio parhaus, ynghyd ag ymchwiliad hwyr neu annigonol, wedi arwain at anfodlonrwydd parhaus ymysg defnyddwyr a llai o hyder yn y cyflenwad.
Mae canfyddiadau’r Arolygiaeth yn tynnu sylw at yr angen am newid sylweddol ar draws y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys ymchwiliadau mwy trylwyr ac amserol, uwchgyfeirio cwynion ailadroddus yn effeithiol, gwell tryloywder o ran cyfathrebu â defnyddwyr, a buddsoddiad parhaus mewn seilwaith i fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol.
Gyda’i gilydd, mae’r achosion hyn yn dangos pwysigrwydd symud o reoli dŵr wedi’i afliwio’n adweithiol tuag at welliant rhagweithiol ar draws y system o ran perfformiad technegol a sicrwydd i gwsmeriaid.
Ffigur 34 – Dŵr wedi’i afliwio mewn eiddo defnyddiwr.
Ffigur 35 – Graddio â lliw yn ystod gwaith fflysio.
Blas ac arogl
Yn yr un modd â chysylltiadau am ddŵr wedi’i afliwio, mae cyfradd y diwydiant ar gyfer cyfanswm y cysylltiadau blas ac arogl wedi gostwng yn raddol dros amser, er ei bod wedi gwaethygu yn 2024 a 2025 i 0.27 o gysylltiadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Yng Nghymru, roedd y gyfradd bron ddwywaith cyfradd y diwydiant, sef 0.47 o gysylltiadau fesul 1,000 o’r boblogaeth yn 2025, ac mae wedi aros yn weddol sefydlog, heb unrhyw gynnydd parhaus dros y degawd diwethaf.
Ffigur 36 – Cyfradd y cysylltiadau blas ac arogl yng Nghymru
Yn gynharach yn yr adroddiad hwn, disgrifiwyd enghreifftiau o ymchwiliadau i fethiannau cydymffurfiaeth blas ac arogl. Nid yw’r achosion hyn o reidrwydd yn arwain at ddefnyddwyr yn cysylltu â’u cwmni dŵr, nac yn cyfateb yn uniongyrchol â nhw. O ganlyniad, mae data cyswllt defnyddwyr yn adlewyrchiad defnyddiol o brofiad uniongyrchol defnyddwyr ac yn cynnig cipolwg gwahanol i’r hyn a ddarperir gan fethiannau cydymffurfio. Mae cysylltiadau cyffredinol am flas ac arogl, a chysylltiadau sy’n gysylltiedig â chlorin, yn nodwedd amlwg ar draws y blynyddoedd, a ddangosir yn Ffigur 36. Er nad yw’n realistig disgwyl i gysylltiadau defnyddwyr ddod i ben yn llwyr, mae cyfradd is y diwydiant yn Lloegr, gan gynnwys cwmnïau sydd â nodweddion ffynhonnell a rhwydwaith tebyg, yn dangos bod modd lliniaru achosion y cysylltiadau hyn ymhellach.
Iechyd asedau
Tanciau dŵr wedi’i drin a chronfeydd dŵr gwasanaeth
Yn ystod 2025, cafwyd tri methiant cydymffurfiaeth colifform mewn safleoedd gwaith trin dŵr ac 18 mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth. Ni chanfuwyd E. Coli mewn unrhyw safle gwaith trin dŵr, ond canfuwyd E. Coli mewn dwy gronfa ddŵr gwasanaeth. Mae mewnlif i danciau cyswllt a chronfeydd dŵr gwasanaeth yn parhau i fod yn fater sy’n codi’n fynych, ac mae’n cynrychioli risg weddilliol, fel y mae’r canlyniadau hyn yn ei ddangos.
Disgwylir i gwmnïau ddeall a chynnal eu hasedau drwy raglen o archwiliadau ffisegol, y gellir eu hategu gan archwiliadau gan ddefnyddio cerbydau sy’n cael eu rheoli o bell. Mae’r Arolygiaeth o’r farn bod archwiliadau ffisegol yn angenrheidiol oherwydd eu bod yn darparu eglurder a gwell datrysiad nag archwiliadau gan gerbydau sy’n cael eu rheoli o bell ac yn golygu bod modd glanhau waliau a strwythurau yn y gronfa ddŵr yn ystod yr un gweithgaredd ynysu a draenio. Er mai 10 mlynedd yw’r cyfnod hiraf a argymhellir yn Egwyddorion Hylendid Cyflenwadau Dŵr ar gyfer storio dŵr wedi’i drin, mae’r Arolygiaeth yn argymell bod archwiliadau’n cael eu cynnal yn amlach ar sail risg.
Mae’r Arolygiaeth wedi craffu mwy ar gronfeydd dŵr gwasanaeth a thanciau, gan gynnwys drwy’r ffurflenni data ar gyfer cronfeydd dŵr gwasanaeth a thanciau, er mwyn asesu ansawdd arolygiadau a chadernid y gwaith adfer. Mae dadansoddiad o’r set ddata ddiweddaraf yn tynnu sylw at wendidau parhaus o ran amlder arolygiadau, gyda 195 o danciau allan o 6,312 yn genedlaethol heb gael eu harolygu ers dros 10 mlynedd. Yng Nghymru, mae’r ffigur cyfunol yn wyth o’r 815 o gronfeydd dŵr. Mae hyn yn welliant cyffredinol sylweddol o’i gymharu â’r data cychwynnol a ddychwelwyd yn 2021, a oedd yn dangos bod 457 o danciau’n hwyr neu heb gofnod archwilio ar draws y diwydiant, gan gynnwys 50 yng Nghymru. Fodd bynnag, mae cronfeydd dŵr yn parhau i fod yn faes risg sydd angen sylw.
Cod cwmni
Nifer y tanciau a arolygwyd o fewn 10 mlynedd
Nifer y tanciau yn y cyflenwad sy’n hwyr yn cael archwiliad (>10 mlynedd)
Cyfanswm nifer y tanciau
Canran y tanciau sy’n hwyr yn cael archwiliad (>10 mlynedd)
HDC
112
7
119
5.88%
DWR
692
1
693
0.14%
Cyfanswm Cymru
807
8
815
0.98%
Tabl 12 – Archwiliadau o gronfeydd dŵr gwasanaeth hwyr – Mae’r data wedi cael ei gyfrifo o ffurflenni’r diwydiant.
Mae Ffigurau 37 a 38 yn dangos y cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy. Mae wyth o danciau sydd mewn perygl nad ydynt wedi cael eu harchwilio’n llawn yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, cynnydd bach ers y flwyddyn flaenorol. Mae saith o’r tanciau hyn yn destun hysbysiadau rheoliad 28(4) ar wahân, ac mae angen adeiladu tanciau newydd ar bedwar ohonynt cyn y gellir tynnu’r tanciau presennol o’r gwasanaeth. Mesur tymor byr yn yr hysbysiadau hyn yw defnyddio archwiliadau gan gerbydau sy’n cael eu rheoli o bell i ddarparu gwybodaeth am gyflwr ac uniondeb mewnol tanciau presennol.
Ffigur 37 – Data tanciau DWR
Ffigur 38 – Data tanciau HDC
Mae Ffigur 39 yn dangos cymhariaeth â chwmnïau eraill yn y diwydiant yn 2026. Mae’r archwiliadau tanciau y mae Dŵr Cymru wedi’u cwblhau ers rhoi hysbysiad rheoliad 28(4) ar waith yn 2022 wedi gwella eu sefyllfa’n sylweddol ac maent bellach yn bedwerydd o ran canran yr asedau sydd mewn perygl.
Mae Hafren Dyfrdwy yn safle 14 yn y diwydiant yn 2026. Er bod nifer cyffredinol y tanciau sy’n hwyr o ran cael eu harchwilio wedi gostwng, nid yw eu safle cyffredinol yn y diwydiant wedi gwella. Gellir egluro’r cynnydd araf hwn yn rhannol gan yr amserlen hirach y bydd yn ei chymryd i adeiladu’r tanciau newydd sydd eu hangen er mwyn tynnu’r pedwar tanc sy’n hwyr o ran cael eu harchwilio.
Ffigur 39 – cyfanswm nifer yr asedau fesul cwmni
Cynllunio diogelwch dŵr ac asesu risg
Mae tîm Asesu Risg yr Arolygiaeth yn gyfrifol am ddeall risgiau i ansawdd a digonolrwydd dŵr, addasu i ofynion lliniaru newydd, a datblygu dulliau o Gynllunio Diogelwch Dŵr Yfed (DWSP).
Yn ystod 2025, asesodd y tîm sypiau sylweddol o ddata a dogfennau a gyflwynwyd gan gwmnïau. Drwy adolygiad systematig o linellau risg sy’n cael eu llwytho drwy adroddiadau rheoliad 28, atgyfnerthodd y tîm ei ddealltwriaeth o ba mor effeithiol mae risgiau i ansawdd a digonolrwydd dŵr yn cael eu rheoli ar draws y diwydiant. Mae’r gwaith hwn yn galluogi’r Arolygiaeth i nodi ble mae angen cymryd camau ac i gefnogi cwmnïau i gydymffurfio â rheoliadau 27 a 28 drwy archwiliadau DWSP, asesiadau llinell unigol o ddata rheoliad 28, ac archwiliadau terfynol offerynnau cyfreithiol. Gyda’i gilydd, mae’r gweithgareddau hyn yn helpu i gynnal a gwella arferion rheoli risg ar draws y diwydiant dŵr.
Mae’r tîm Asesu Risg yn parhau i ymgysylltu â’r diwydiant drwy Fforwm DWSP chwarterol, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith presennol a mynd i’r afael â materion a godwyd gan gwmnïau dŵr a Phenodiadau Newydd ac Amrywiadau (NAVs). Er mwyn cefnogi gweithrediad cyson gofynion DWSP ymhellach, mae’r tîm hefyd wedi cyflwyno cyfarfodydd cyswllt gyda chwmnïau a NAVs i ddarparu cymorth ac arweiniad ychwanegol.
Canllawiau DWSP
Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddodd y tîm Asesu Risg y Canllawiau ar asesu risg a rheoli risg sy’n benodol i Gynlluniau Diogelwch Dŵr Yfed (DWSP) ar ôl cydweithio â chwmnïau dŵr drwy’r Fforwm Cynllunio Diogelwch Dŵr Yfed a gweithgor bach wyneb yn wyneb a gafodd ei gynnull i ddatrys materion sydd heb eu datrys. Mae’r canllawiau’n darparu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer darparu DWSP ac maent yn cyflwyno categori newydd, categori J, ar gyfer cofnodi risgiau parhaus. Mae cyflwyno categori J yn golygu bod modd adrodd yn gyson ar gategorïau a methodoleg ar gyfer cario senarios risg ymlaen i gamau is i lawr y gadwyn gyflenwi ar draws systemau cyflenwi dŵr y diwydiannau, a bydd yn ofyniad o fis Chwefror 2027 ymlaen. Mae hyn yn cynyddu tegwch sgorio yn y Mynegai Risg Asesu Risg (RARI) a ddefnyddir i nodi risgiau presennol a risgiau sy’n trendio cwmnïau.
Ochr yn ochr â’r newid hwn i gategorïau adrodd, mae’r defnydd o ddigwyddiadau peryglus yn cael ei gymeradwyo ymhellach gan yr Arolygiaeth drwy ganllawiau DWSP er mwyn cael gwell eglurder ynghylch dadansoddiadau gwraidd y broblem a mesurau rheoli / lliniaru ar gyfer risgiau. Mae defnyddio digwyddiadau peryglus yn cyfrannu at ddeall senarios risg ar lefel system ased, cam a chyflenwi cronnol er mwyn rhoi darlun mwy cywir o’r risg bosibl i ansawdd a chyfaint dŵr ger tap y defnyddiwr.
Digonolrwydd
Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol (NISTA erbyn hyn) ei adroddiad, Developing Resilience Standards in UK Infrastructure. Mewn ymateb, ceisiodd yr Arolygiaeth asesu i ba raddau yr oedd cwmnïau’n deall eu trefniadau digonolrwydd a chadernid eu hunain, ac ysgrifennodd atynt ym mis Rhagfyr 2024 yn gofyn am ragor o wybodaeth.
I ddechrau, adolygodd y tîm Asesu Risg adroddiadau rheoliad 28 cwmnïau i benderfynu pa risgiau cysylltiedig â digonolrwydd oedd wedi cael eu hadrodd i’r Arolygiaeth a pha fesurau lliniaru oedd ar waith. Fodd bynnag, roedd yr adolygiad hwn yn amhendant oherwydd amrywiadau yn y ffordd yr adroddodd cwmnïau am ddigwyddiadau peryglus, gyda rhai cwmnïau ddim yn adrodd am risgiau digonolrwydd o gwbl.
O ganlyniad, defnyddiodd y tîm y tri argymhelliad allweddol a nodir yn adroddiad NISTA a gofynnodd am yr wybodaeth hon gan bob cwmni dŵr a NAVs. Roedd yr ymatebion yn darparu sylfaen dystiolaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu canllawiau ar ddarparu canllaw drafft ar ddigonolrwydd dŵr ddiwedd 2025. Ers hynny, mae’r tîm wedi diwygio’r Canllawiau Digonolrwydd fel eu bod yn cyd-fynd ag egwyddorion DWSP a byddant yn cael eu cyhoeddi yn 2026.
Sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS)
Yn dilyn canllawiau PFAS yr Arolygiaeth, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2024, roedd yn rhaid i gwmnïau fonitro 6:2 FTAB (6:2 fluorotelomer sulphonamide alkyl betaine), a ychwanegwyd at y rhestr o baramedrau PFAS, ac adrodd ar ‘Swm PFAS’ o fis Ionawr 2025 ymlaen.
Cafodd y gofyniad monitro uchod ei ymestyn i gynnwys Penodiadau Newydd ac Amrywiadau (NAVs) hefyd. Disgwylir i’r NAVs hefyd gyfnewid gwybodaeth a data a chynnal strategaeth PFAS flaengar. Mae Atodiad C y Cyfarwyddyd Gwybodaeth yn rhestru’r holl gemegion PFAS sydd o ddiddordeb. Mae’n ofynnol hefyd i gwmnïau roi gwybod i’r Arolygiaeth os yw cemegion PFAS ychwanegol, nad ydynt wedi’u rhestru, yn cael eu nodi ar grynodiadau sy’n uwch na haen 1.
Cafodd y canllawiau PFAS eu diweddaru ym mis Mawrth 2025, Llythyr Gwybodaeth 03/2025, i roi rhagor o fanylion am haenau PFAS a chamau gweithredu cysylltiedig, ochr yn ochr â gofynion ar gyfer monitro ac adrodd, asesiadau risg rheoliad 27, adrodd ar reoliad 28, a strategaethau PFAS y cwmni. Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru hefyd yn nodi disgwyliadau ar gyfer cyflenwadau swmp, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â NAVs.
Archwiliadau
Drwy archwiliadau DWSP, mae’r tîm Asesu Risg wedi parhau i nodi materion sy’n codi’n fynych o ran y ffordd mae cwmnïau’n cofnodi risgiau, gan gyfrannu at anghysondeb ar draws y diwydiant a dibyniaeth barhaus ar fesurau adweithiol yn hytrach na rhagweithiol i leihau risgiau.
Dylai cwmnïau fynd ati’n rhagweithiol i ganfod a mynd i’r afael â risgiau, yn hytrach nag aros i faterion ddod i’r amlwg cyn ystyried y buddsoddiad sydd ei angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Mae dull adweithiol yn gwanhau effeithiolrwydd rheoli risg ac yn ei gwneud yn anoddach cymharu proffiliau risg ar draws cwmnïau.
Rhaid i gwmnïau gryfhau eu trefniadau DWSP i gefnogi’r gwaith o ganfod a rheoli risgiau’n gynnar, gan ddiogelu iechyd y cyhoedd a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â pharamedrau rheoleiddio, yn hytrach na dibynnu ar gamau ôl-weithredol mewn ymateb i faterion ansawdd dŵr neu ddigonolrwydd. Rhaid i gwmnïau hefyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â rheoliadau 27 a 28. Hyd yma, mae’r rhan fwyaf o archwiliadau DWSP wedi arwain at benderfyniadau ‘bwriad i orfodi’ a/neu gyhoeddi offerynnau cyfreithiol sy’n mynnu bod cwmnïau’n adolygu asesiadau risg rheoliad 27 ac adrodd ar reoliad 28.
Oherwydd llai o gapasiti tîm, mewnbwn sylweddol i offerynnau cyfreithiol sy’n deillio o archwiliadau a gynhaliwyd yn 2024, ac ymrwymiadau mewnol ehangach yr Arolygiaeth, dyma’r unig archwiliad ar y safle a gynhaliwyd yn 2025. Cafodd archwiliadau eraill a drefnwyd eu haildrefnu ar gyfer 2026.
Adroddiadau Cofnod Asesu Risg (RAR) a Dadansoddiad y Cwmni o Gategorïau yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI)
Cyflwynwyd data rheoliad 28 blynyddol cwmnïau ym mis Hydref. Eleni, roedd cwmnïau’n defnyddio porth ar-lein yr Arolygiaethau i gyflwyno’r data, gan gynnwys llwytho eu methodolegau a’u datganiad DWSP gyda chymeradwyaeth y Cyfarwyddwr. Roedd yn hawdd datrys unrhyw broblemau a gafwyd gyda’r broses hon drwy gyfathrebu da gan gwmnïau a mewnbwn gan Dîm Rheoli Data’r Arolygiaeth.
Cyflwynir data cofnod asesu risg (RAR) cwmnïau gan ddefnyddio’r categorïau DWI a ddangosir gyda diffiniadau yn y tabl isod [tabl RA1]. Rhaid i gwmnïau gymhwyso categorïau DWI yn briodol i ganiatáu i ddata fod yn ystyrlon ac i roi eglurder o ran rheoli risg.
Categori DWI
Disgrifiad
A
Gwaith lliniaru risg targed wedi’i gyflawni, ei ddilysu a’i gynnal
B
Mae mesurau rheoli ychwanegol neu well a fydd yn lleihau risg yn cael eu dilysu
C
Mae mesurau rheoli ychwanegol neu well a fydd yn lleihau risg yn cael eu rhoi ar waith
D
Mae angen mesurau rheoli ychwanegol neu well i leihau risg yn sylweddol
E
Risg sy’n destun ymchwiliad
F
Lliniariad rhannol
G
Dim mesurau lliniaru ar waith: pwynt rheoli i lawr y gadwyn gyflenwi
G
Dim mesurau lliniaru ar waith a dim angen
U
Risg yn y dyfodol nad oes angen ei lliniaru ar hyn o bryd
C
Dim mesurau lliniaru ar waith, risg a gludir ymlaen: pwynt rheoli i fyny’r gadwyn gyflenwi
X
Nid yw’r llinell yn berthnasol mwyach
Tabl RA1 – Categorïau DWI
Mynegai Risg Asesu Risg (RARI)
Mae’r mynegai risg asesu risg (RARI) yn dibynnu ar gymhwyso categori DWI i risgiau canfyddedig cwmnïau. Mae’n ofynnol i gwmnïau adrodd ar asesiadau risg a dangos lle mae risgiau’n parhau drwy systemau cyflenwi o’r dalgylch/ffynhonnell i dap y defnyddiwr. Ers cyflwyno categorïau DWI, mae cwmnïau wedi defnyddio gwahanol ddulliau i ddangos risgiau parhaus, naill ai drwy nodi hyn drwy ddefnyddio’r categorïau DWI a ddefnyddir gydag asedau sydd â risgiau gweithredol a defnyddio’r un categorïau mewn asedau ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi, neu ddefnyddio sgoriau risg gweddilliol i ddangos risgiau wrth symud ymlaen drwy system gyflenwi. O ganlyniad, nid oes modd cymharu gwerthoedd RARI ar gyfer cwmnïau ar draws y diwydiant a dim ond pan fyddant yn cael eu gweld ar broffil risg cwmni unigol y gallant ddangos newidiadau dros amser.
Mae RARI wedi cael ei adrodd ar gyfer cwmnïau yn Adroddiadau Blynyddol DWI ers 2019. Mae’r mynegai yn adnodd defnyddiol i ddangos risgiau gweithredol mewn cwmnïau ac mae’n cael ei ailddatblygu wrth i gwmnïau weithredu newidiadau i sut mae categorïau DWI yn cael eu cymhwyso yn unol â Chanllawiau DWSP, gan ddatblygu dull mwy cyson dros y blynyddoedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno categori ‘J’ ar gyfer risgiau parhaus. Ni fydd Categori J yn cael ei gynnwys yng nghyfrifiadau RARI y tro hwn, ond bydd yn caniatáu dull mwy cyson o fewn y diwydiant i gymhwyso categorïau ar draws systemau cyflenwi cwmnïau yn y dyfodol.
Ffigur RA1 – sgoriau RARI cyfartalog cwmnïau
Y 10 risg uchaf cyfredol a nodwyd yng Nghymru
Defnyddir categori I i nodi risgiau canfyddedig yn y dyfodol y gallai fod angen ymchwilio iddynt a’u lliniaru. Mae risgiau o’r fath yn cynnwys peryglon a allai fod yn gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, halogion sy’n dod i’r amlwg, newidiadau mewn ansawdd a digonolrwydd dŵr crai, a chyflwr a hirhoedledd asedau. Nid yw’r risgiau hyn o reidrwydd yn dod i’r amlwg yn awr, ond mae cwmnïau’n cadw golwg arnynt.
Mae’r deg prif berygl lle mae categori I wedi cael ei ddefnyddio mewn data rheoliad 28 a gyflwynwyd gan y cwmni i’w gweld isod.
Y 10 risg uchaf cyfredol a nodwyd yng Nghymru (fel % o swm RARI y diwydiant)
Mae’r tair risg ganfyddedig uchaf yn aros yr un fath â’r rhai a gofnodwyd yn 2024, ond mae’r canfyddiad o’r risgiau hyn wedi cynyddu, gyda’r gweddill yn debyg i ffigurau’r llynedd.
FiFfigur RA2 – Y 10 risg uchaf
Sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS)
Mae PFAS yn grŵp o gyfansoddion wedi’u gwneud gan ddyn sy’n seiliedig ar gadwyni o atomau carbon a fflworin. Maent yn cynnwys o leiaf un methyl wedi’i fflworeiddio’n llawn neu grŵp methylen. Mae’r bond carbon-fflworin yn gryf iawn, sy’n golygu nad yw’r cyfansoddion hyn yn dirywio’n hawdd yn yr amgylchedd. Maen nhw’n gwrthsefyll saim, olew, dŵr a gwres, ac maen nhw wedi cael eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o gynnyrch, gan gynnwys ffabrigau, carpedi, paent, ewyn diffodd tân, offer coginio a phecynnau bwyd sy’n gwrthsefyll dŵr a staeniau.
Mae cynhyrchiant, defnydd a gwaredu’r sylweddau hyn yn golygu eu bod bellach yn cael eu canfod yn eang yn yr amgylchedd. Oherwydd eu dyfalrwydd, efallai y byddant i’w gweld mewn dŵr yn y pen draw, gan gynnwys dŵr daear a dŵr wyneb.
Diweddarodd yr Arolygiaeth ei chanllawiau i’r diwydiant ym mis Awst 2024 ar ofynion i gyflwyno canlyniadau sampl a gwybodaeth gryno am asesiadau risg ar gyfer PFAS, ac mae hyn yn dal yn ffocws mawr. Mae cwmnïau wedi parhau â strategaethau samplu wedi’u targedu sy’n canolbwyntio ar y safleoedd sydd fwyaf tebygol o fod mewn perygl o gael eu halogi gan PFAS. Yn 2025, gyda’i gilydd, cynhaliodd cwmnïau ar draws y diwydiant dros 666,000 o ddadansoddiadau ar gyfer PFAS unigol. Mae cyfanswm o dros 2.3 miliwn o ddadansoddiadau wedi cael eu cynnal ers 2012, gan ddarparu set ddata sylweddol i gefnogi dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu dŵr yfed. Cyrhaeddodd y dadansoddiad uchafbwynt yn 2024, pan gynhaliwyd dros 777,000 o brofion. Mae’r gostyngiad yn 2025 yn adlewyrchu rhaglen samplu dargedig gyda mwy o ffocws, sy’n seiliedig ar asesiadau risg wedi’u dilysu.
Mae haenau PFAS bellach yn cael eu cymhwyso i unrhyw gemegion PFAS o ddiddordeb a ganfyddir yn y dŵr terfynol neu’r dŵr crai. Mae cemegion PFAS o ddiddordeb wedi’u nodi yn y rhestr paramedrau (Atodiad C y Cyfarwyddyd Gwybodaeth). Mae’r camau gweithredu y dylai cwmnïau fod yn eu cymryd ar gyfer y tair haen ar gael yn ein canllawiau diweddaraf – Canllawiau PFAS DWI – Mawrth 2025.
Mae safleoedd yn cael eu dosbarthu fel a ganlyn:
Haen 1 lle mae crynodiadau PFAS yn <0.01µg/L.
Haen 2 lle mae crynodiadau PFAS yn <0.1µg/L.
Haen 3 lle mae’r crynodiadau PFAS yn >0.1µg/L.
Roedd gwaith monitro gan gwmnïau dŵr yn tynnu sylw at fater arall sy’n peri pryder posibl o ran PFAS; 6:2 fluorotelomer sulfonamide alkylbetaine (6:2 FTAB). Mae’r cyfansoddyn hwn wedi cael ei ychwanegu at y rhestr paramedrau a disgwylir i gwmnïau ddechrau monitro ac adrodd ar y paramedr hwn cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Disgwylir i gwmnïau hefyd ystyried effaith crynodiadau cyfun o gemegion PFAS o ddiddordeb a nodir yn y rhestr paramedrau. O ganlyniad, mae’r gofyniad i weithredu methodoleg lliniaru blaenoriaethol i leihau crynodiadau PFAS mewn dŵr yfed yn gynyddol wedi cael ei ymestyn ymhellach i gynnwys PFAS cyfun ar sail ‘swm’. Mae cwmnïau bellach wedi rhoi adroddiadau ar waith ar gyfer y ‘swm PFAS’ yn seiliedig ar y 48 o gyfansoddion PFAS a enwir yn y rhestr paramedrau. Os yw safleoedd bellach yn dod o dan haen 2 neu 3 ar gyfer swm paramedr, dylid cynnwys y safleoedd hyn yn y dull presennol o flaenoriaethu safleoedd ar sail eu dosbarthiad cymharol, a dylai strategaeth lleihau risg briodol geisio lleihau crynodiadau PFAS mewn dŵr yfed yn gynyddol.
Mae’r dadansoddiad yn targedu dŵr ffynhonnell oherwydd ei fod yn darparu gwybodaeth am y perygl ac yn llywio’r mesurau lliniaru sydd eu hangen, boed hynny drwy gyfuno, gwaredu’r dŵr ffynhonnell neu ei drin. Yn ystod 2025, nid gafwyd unrhyw samplau haen 2 na haen 3 yng Nghymru, gyda 49 sampl positif yn haen 1. Mae hyn yn dangos bod strategaeth bresennol y diwydiant ar gyfer lliniaru risgiau PFAS yn gweithio’n effeithiol i ddiogelu defnyddwyr.
Haen
Profion dŵr crai
Profion dŵr wedi’i drin
Cyfanswm
Haen 1
11,312
18,646
29,958
Haen 2
42
42
Haen 3
11,354
18,646
30,000
Tabl 13 – Cyfanswm y profion yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ganlyniadau sy’n llai na’r terfyn canfod
Y rhywogaeth mwyaf cyffredin a ganfuwyd mewn dŵr crai a dŵr wedi’i drin yn ystod 2025 oedd asid perfluorobutanoic (PFBA), sy’n cyfrif am 34% o’r holl ganlyniadau sampl cadarnhaol. Mae’r tabl isod yn nodi’r paramedrau eraill a ganfuwyd.
Enw’r paramedr
Haen 1
Haen 2
Haen 3
Cyfanswm
PFBA
9
–
–
9
PFBS
5
–
–
5
PFOA
5
–
–
5
6:2 FTSA; 6:2 FTS
3
–
–
3
6:2 FTAB
2
–
–
2
11CL-PF3OUdS
1
–
–
1
EtFOSAA
1
–
–
1
FOSA
1
–
–
1
MeFOSAA
1
–
–
1
PFDA
1
–
–
1
PFDoDA
1
–
–
1
PFDS
1
–
–
1
PFecHS
1
–
–
1
PFHxA
1
–
–
1
PFOS
1
–
–
1
PFUnDA
1
–
–
1
PFUnDS
1
–
–
1
Cyfanswm
36
–
–
36
Tabl 14 – Data dŵr crai – nifer y profion fesul haen sy’n fwy na’r terfyn canfod (LOD)
Y rhywogaeth mwyaf cyffredin mewn dŵr crai a dŵr wedi’i drin yn ystod 2025 oedd PFBA gyda 34% o holl ganlyniadau cadarnhaol y sampl. Mae’r tabl isod yn nodi’r holl baramedrau eraill a ganfuwyd.
Enw’r paramedr
Haen 1
Haen 2
Haen 3
Cyfanswm
PFBA
16
–
–
16
PFBS
11
–
–
11
PFUnDA
4
–
–
4
PFDA
3
–
–
3
PFDS
3
–
–
3
EtFOSAA
2
–
–
2
PFOS
2
–
–
2
11CL-PF3OUdS
1
–
–
1
6:2 FTSA; 6:2 FTS
1
–
–
1
9Cl-F3ONS
1
–
–
1
PFDoDA
1
–
–
1
PFHxA
1
–
–
1
PFNS
1
–
–
1
PFOA
1
–
–
1
PFUnDS
1
–
–
1
Cyfanswm
49
–
–
49
Tabl 15 – Data dŵr wedi’i drin – nifer y profion fesul haen sy’n fwy na’r terfyn canfod (LOD)
Rhaglen archwilio
Cwmni
Enw’r archwiliad
DWR
Safle Gwaith Trin Dŵr Bolton Hill – dirywiad dŵr crai a tharfu ar brosesu
DWR
Archwiliad pen desg manwerthwyr
DWR
Archwiliad pen desg manwerthwyr – Dŵr Cymru wedi’i gyflenwi – ar wahân i DWR ei hun
HDC
Archwiliad pen desg manwerthwyr
DWR
Storfeydd dŵr potel
DWR
Safle Gwaith Trin Dŵr Llyswen a Chronfa Ddŵr Gwasanaeth Llanigon
DWR
Archwiliad pen desg Polisi Diheintio
Tabl 16 – Archwiliadau a gynhaliwyd yng Nghymru yn 2025
Yn ystod 2025, cynhaliodd yr Arolygiaeth Dŵr Yfed raglen o archwiliadau wedi’u targedu i roi sicrwydd bod y dŵr yfed a oedd yn cael ei gyflenwi i ddefnyddwyr yng Nghymru yn dal yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn cael ei reoli’n dda. Mae’r archwiliadau hyn yn rhan o waith rheoleiddio arferol yr Arolygiaeth ac fe’u cynlluniwyd i brofi pa mor effeithiol y mae cwmnïau dŵr yn rheoli risgiau i ansawdd dŵr yfed, yn enwedig lle mae digwyddiadau yn y gorffennol neu bryderon sy’n dod i’r amlwg wedi tynnu sylw at wendidau posibl.
Roedd yr archwiliadau a gynhaliwyd yn 2025 yn darparu asesiad manwl ac ymarferol o sut mae ansawdd dŵr yfed yn cael ei reoli ar draws safleoedd gwaith trin dŵr, systemau dosbarthu, trefniadau brys a chadwyni cyflenwi nad ydynt yn ymwneud â chartrefi. Roeddent wedi nodi tystiolaeth o arferion gweithredu da, gan gynnwys perfformiad triniaeth effeithiol, gwell canlyniadau o fuddsoddiad cyfalaf wedi’i dargedu a dealltwriaeth sylfaenol gref o gyfrifoldebau rheoleiddio. Fodd bynnag, roedd yr archwiliadau hefyd yn tynnu sylw at wendidau rheolaidd a allai effeithio ar gadernid, yn enwedig mewn perthynas ag eglurder dogfennau, cysondeb asesu risg, sicrwydd mesurau rheoli critigol, a rheoli asedau, hylendid a gweithdrefnau gweithredol o dan amodau arferol a heriol.
Gyda’i gilydd, mae’r canfyddiadau hyn yn dangos, er bod systemau’n effeithiol ar y cyfan o dan amodau gweithredu arferol, bod angen gwneud rhagor o waith i gryfhau cadernid, tryloywder a pharodrwydd. Roedd yr awgrymiadau a’r argymhellion a wnaed i gwmnïau mewn llythyrau asesu yn canolbwyntio ar feysydd fel profi rheolaethau critigol o un pen i’r llall, ffurfioli gweithdrefnau a fframweithiau gwneud penderfyniadau, gwell monitro a defnyddio data, a gwell cyd-drefniant a hyfforddiant ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau. Drwy fynd i’r afael â’r meysydd hyn a gwreiddio’r hyn a ddysgir o archwiliadau a digwyddiadau gweithredol, gall cwmnïau feithrin mwy o gadernid, parhau i gydymffurfio o dan amrywiaeth ehangach o amodau, a pharhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a hyder defnyddwyr.
Safle Gwaith Trin Dŵr Bolton Hill (DWR)
Canfu archwiliad technegol yr Arolygiaeth Dŵr Yfed o waith Bolton Hill arferion gweithredu cadarn yn gyffredinol, gyda chadw cofnodion trefnus, systemau rheoli a phrosesau triniaeth graidd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda, gan gynnwys ceulo, ymlediad aer toddedig, hidlo disgyrchiant cyflym ac arsugno carbon wedi’i actifadu gronynnog, gan weithredu’n effeithiol yn gyffredinol. Mae’r safle’n defnyddio system optimeiddio dosau ceulo awtomatig sy’n gysylltiedig â data UV254 byw, wedi’i gefnogi gan waith dilysu jariau profi, tra bod monitro pH wedi’i ddilysu deirgwaith yn darparu cadernid ym maes rheolaeth dosio cemegol. Nodwyd hefyd bod trefniadau monitro ac uwchgyfeirio rheolaidd ar gyfer ansawdd dŵr crai mewn gorsafoedd derbyn a mewnfeydd safle yn nodweddion cadarnhaol sy’n cefnogi ymwybyddiaeth weithredol.
Fodd bynnag, tynnodd yr archwiliad sylw at wendidau pwysig o ran sicrwydd rheoli critigol a allai danseilio cadernid yn erbyn dirywiad dŵr crai a digwyddiadau arloesol. Yn nodedig, nid oedd profion swyddogaethol o’r dechrau i’r diwedd ar larymau a systemau diffodd yn cael eu cynnal fel mater o drefn, gyda digwyddiadau yn y byd go iawn yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth o berfformiad. Mae hyn yn creu risg na fydd methiannau monitro neu gyfathrebu yn cael eu canfod. Yn yr un modd, mae gwelededd cyfyngedig SCADA o berfformiad offerynnau unigol, e.e. dim ond dangos gwerthoedd cyfartalog mewn systemau wedi’u dilysu deirgwaith heb larymau gwyro, yn lleihau gallu gweithredwyr i ganfod namau sy’n effeithio ar bwyntiau rheoli allweddol.
Sylwyd hefyd ar nifer o faterion gweithredol a phenodol i asedau ar y safle. Er enghraifft, canfuwyd matiau amsugno olew dirlawn o dan yriant clystyru, gan dynnu sylw at yr angen am ymateb cliriach i ollyngiadau a sicrwydd olew gradd bwyd, tra bod gweithrediad hidlo disgyrchiant cyflym yn cyflwyno risgiau posibl oherwydd cyfraddau dychwelyd yn gyflym i wasanaeth ac atal larwm afloywder dros dro, gan gynyddu’r tebygolrwydd o doriad heb ei ganfod. Ar ben hynny, dangoswyd bod arferion rheoli GAC hanesyddol wedi arwain at niferoedd ïodin isel ar draws nifer o gysylltyddion mewn cyfryngau sydd wedi cael eu defnyddio, gan ddangos llai o gapasiti arsugnol a’r angen am strategaethau adfywio cyflymach. Ers hynny, mae’r cwmni wedi sefydlu targed isafswm nifer ïodin i roi sicrwydd ychwanegol o berfformiad GAC parhaus ar draws ei asedau.
Nodwyd diffygion o ran samplu, hylendid a chyflwr asedau hefyd. Canfuwyd tapiau sampl gweithredol mewn cyflwr hylendid gwael ac nid oedd cyfarwyddiadau clir ar gyfer fflysio, ac roedd arsylwadau safle’n cynnwys gweithgarwch tyrchod daear ar argloddiau storio dŵr wedi’i drin (Ffigur 40), gan godi risgiau o fewnlifiad. Roedd materion eraill yn cynnwys risgiau ôl-lifiad posibl mewn systemau dŵr golchi GAC oherwydd diffyg bwlch aer, a dibyniaeth ar farn gweithredwyr ar gyfer penderfyniadau allweddol fel ail-gomisiynu pympiau a chamau ymateb i ddŵr crai, yn aml heb goed penderfynu diffiniedig na gweithdrefnau safonol.
Yn gyffredinol, er mai dim ond un argymhelliad ffurfiol a wnaed, a oedd yn gofyn am raglen o brofion swyddogaethol o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer larymau critigol, nododd yr archwiliad nifer o feysydd lle mae angen cryfhau disgyblaeth weithredol, dilysu prosesau a rheoli risg. Mae’r canfyddiadau’n dangos, er bod y gwaith yn cael ei weithredu’n dda ar y cyfan, bod gwell sicrwydd o reolaethau critigol, gweithdrefnau cliriach a threfniadau monitro a samplu mwy cadarn yn hanfodol i sicrhau cadernid yn erbyn amodau dŵr crai heriol ac i gynnal cydymffurfiad cyson.
Ffigur 40 – Arglawdd storio dŵr wedi’i drin gyda thystiolaeth o weithgarwch tyrchod daear
Rheoli a storio dŵr potel DWR
Roedd un o’r archwiliadau a gynhaliwyd yn 2025 yn edrych ar reoli storfeydd dŵr potel ar ddau safle, sef Dinas a Pharc Cinmel. Mae dŵr potel yn rhan hanfodol o drefniadau argyfwng, yn enwedig yn ystod digwyddiadau colli cyflenwad, a rhaid ei storio a’i reoli mewn ffordd sy’n diogelu ei ansawdd o’r adeg y mae’r cwmni’n ei dderbyn i’r pwynt y mae’n cael ei gyflenwi i ddefnyddwyr.
Cynhaliwyd yr archwiliad ym mis Gorffennaf 2025 a chafodd ei ysgogi gan raglen archwilio arfaethedig yr Arolygiaeth, yn ogystal â digwyddiadau diweddar yn y diwydiant a oedd wedi tynnu sylw at wendidau mewn trefniadau cyflenwi amgen; archwiliwyd pob cwmni ar draws y diwydiant. Yn benodol, roedd digwyddiad colli cyflenwad sylweddol yn gynharach yn y flwyddyn wedi dangos y pwysau a roddwyd ar systemau storio a dosbarthu dŵr potel yn ystod argyfyngau. O ganlyniad, roedd yr archwiliad yn canolbwyntio ar ba mor dda mae’r systemau hyn yn gweithio o dan amodau arferol ac amodau digwyddiad.
Canfu’r arolygwyr fod rhai agweddau ar reoli dŵr potel yn gadarnhaol. Roedd gweithdrefnau ar gyfer derbyn a storio dŵr potel yn cyd-fynd yn fras â chanllawiau’r diwydiant, ac roedd tystiolaeth bod y cwmni’n adolygu ei drefniadau mewn ymateb i ddigwyddiadau diweddar. Fodd bynnag, nododd yr archwiliad hefyd nifer o feysydd lle’r oedd angen gwelliannau.
Ar safle Dinas, daethpwyd o hyd i ddŵr potel mewn adeilad a oedd allan o wasanaeth yn swyddogol oherwydd materion strwythurol. Er bod arwyddion yn dangos nad oedd rhannau o’r adeilad yn cael eu defnyddio, dosbarthwyd rhywfaint o’r dŵr potel a oedd yn cael ei storio yno yn ddiweddarach i ddefnyddwyr. Roedd yr Arolygiaeth o’r farn bod hyn yn amhriodol, o ystyried y risg o halogi gan waliau wedi’u difrodi a phresenoldeb posibl fermin. Dywedwyd wrth y cwmni y dylai unrhyw gyfleuster storio y nodwyd ei fod yn peri risg i ansawdd dŵr gael ei gau yn llawn nes ei fod yn cael ei wneud yn ddiogel.
Tynnodd yr archwiliad sylw hefyd at wendidau o ran rheoli ac olrhain stoc. Canfu’r arolygwyr nad oedd rhifau swp bob amser yn cael eu cofnodi’n gywir a bod gwybodaeth weithiau’n cael ei rhannu’n anffurfiol, gan gynyddu’r risg o gamgymeriadau. Roedd hyn yn ei gwneud yn anodd olrhain dŵr potel ar ôl iddo gael ei symud rhwng safleoedd a byddai’n cyfyngu ar allu’r cwmni i ymateb yn effeithiol pe bai angen galw swp yn ôl. Er bod cynlluniau ar waith i gyflwyno system olrhain fwy cadarn, roedd yr Arolygiaeth angen diweddariadau ar ei gweithrediad a phwysleisiodd bwysigrwydd cadw cofnodion cywir.
Codwyd pryderon pellach ynghylch sut y sicrhawyd ansawdd dŵr potel ar ôl ei dderbyn gan gyflenwyr. Nid oedd dŵr potel bob amser yn cael ei samplu pan ddaeth i reolaeth y cwmni, ac nid oedd tystysgrifau’n cadarnhau cydymffurfiad adeg potelu yn cael eu caffael fel mater o drefn. Er bod y cwmni wedi cymryd camau i ddiweddaru ei weithdrefnau yn dilyn yr archwiliad, pwysleisiodd yr Arolygiaeth y dylai sicrwydd fod ar waith cyn i ddŵr fod ar gael i’w ddosbarthu i ddefnyddwyr.
Yn gyffredinol, daeth yr archwiliad i’r casgliad, er bod dŵr potel yn fesur diogelu hanfodol yn ystod argyfyngau, y dylid ei drin gyda’r un lefel o ofal a chraffu â rhannau eraill o’r system cyflenwi dŵr yfed. Gwnaeth yr Arolygiaeth nifer o argymhellion a mynnu bod y cwmni’n dangos sut y byddai’n cryfhau amodau storio, trefniadau olrhain a phrosesau asesu risg i sicrhau bod dŵr potel yn aros yn ddiogel bob amser.
Ffigur 41 – Dŵr potel wedi’i storio mewn gofod sydd allan o wasanaeth.
Ffigur 42 – Storfa dŵr potel dros dro y tu mewn i lori ag ochr feddal yn y depo.
Polisi diheintio DWR
Mae diheintio yn rhwystr sylfaenol rhag organebau niweidiol mewn dŵr yfed, ac mae’r polisi’n nodi sut mae prosesau trin yn cael eu dylunio, eu monitro a’u dilysu i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Cynhaliwyd yr archwiliad hwn fel ymarfer pen desg yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd 2025 ac roedd yn dilyn archwiliad cynharach lle’r oedd cynllunio diogelwch dŵr yfed wedi cael ei adolygu.
Pwrpas yr archwiliad oedd asesu’r diweddariadau a wnaed i’r polisi diheintio a phenderfynu a oedd yn darparu canllawiau clir, dibynadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer staff gweithredol. Adolygodd yr arolygwyr amrywiaeth o ddogfennau a oedd yn ymwneud â phrosesau trin, targedau perfformiad ac asesiadau penodol i safle.
Canfu’r archwiliad, er bod y polisi’n mynd i’r afael â llawer o faterion perthnasol, fod meysydd sylweddol lle’r oedd diffyg eglurder a chysondeb. Mewn sawl achos, ni allai’r Arolygiaeth benderfynu sut y pennwyd ffigurau neu dargedau allweddol, ac a oeddent yn cael eu hategu gan ddeunydd cyfeirio priodol. Roedd hyn yn cynnwys sut cafodd targedau perfformiad trin eu gosod a sut cafodd data ei ddewis a’i ddadansoddi i ddangos cydymffurfiaeth.
Nododd yr arolygwyr bryderon hefyd ynghylch sut y defnyddiwyd data monitro. Mewn rhai achosion, aseswyd data dros gyfnodau treigl heb ddiffiniadau clir, a allai ganiatáu cuddio perfformiad gwael pan adawodd canlyniadau hŷn y cyfnod asesu. Roedd yr Arolygiaeth o’r farn bod y dull hwn yn peri risg, gan y gallai ohirio canfod problemau sy’n dod i’r amlwg a gwanhau lefel gyffredinol yr amddiffyniad.
Mater pwysig arall oedd sut y byddai gormodiant neu fethiannau’n cael eu rheoli. Nid oedd y polisi bob amser yn egluro pa gamau y dylid eu cymryd os oedd perfformiad triniaeth yn is na’r safon ofynnol, neu bryd y dylid rhoi gwybod i’r Arolygiaeth am sefyllfaoedd o’r fath. Mae trefniadau uwchgyfeirio ac ymateb clir yn hanfodol i sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli’n brydlon ac yn dryloyw.
Daeth yr archwiliad i’r casgliad, er bod y cwmni wedi buddsoddi ymdrech i ddatblygu ei bolisi diheintio, bod angen gwneud rhagor o waith i sicrhau ei fod yn gwbl gadarn, tryloyw ac yn alinio â’r canllawiau gwyddonol cyfredol. Gwnaeth yr Arolygiaeth nifer o argymhellion a mynnu bod y cwmni’n darparu ymatebion manwl a thystiolaeth i ddangos sut byddai’r polisi’n cael ei gryfhau.
Manwerthwyr DWR a HDC
Yng Nghymru, mae’r farchnad manwerthu yn wahanol i’r farchnad yn Lloegr, gyda chwsmeriaid nad ydynt yn aelwydydd yn gymwys i newid darparwr manwerthu lle mae eu defnydd yn fwy na 50 miliwn litr y flwyddyn. Er bod hyn yn lleihau nifer yr eiddo yn y sylfaen cwsmeriaid, gall yr eiddo hyn beri mwy o risg i’r rhwydwaith ehangach oherwydd eu bod yn fwy tebygol o fod â systemau plymio cymhleth neu gyflenwadau preifat eilaidd. Yng Nghymru, mae dau gyfanwerthwr a chwe manwerthwr yn ymwneud â chyflenwi dŵr i ddefnyddwyr. Ar draws archwiliadau o ansawdd dŵr nad ydynt yn ymwneud ag aelwydydd a rheoli digonolrwydd, roedd y canfyddiadau’n dangos trefniadau lefel uchel cadarn ar y cyfan a dealltwriaeth dda o gyfrifoldebau rheoleiddio ymysg cyfanwerthwyr a manwerthwyr.
Fodd bynnag, nodwyd nifer o fylchau systemig a allai effeithio ar gadernid yn ystod digwyddiadau ansawdd dŵr neu gyflenwi, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau aneglur sydd wedi’u dogfennu’n anghyson, trefniadau cyfathrebu heb eu ffurfioli’n ddigonol, a diffyg cofnodi a rhannu cysylltiadau cwsmeriaid a gwybodaeth am ansawdd dŵr. Thema allweddol ar draws yr archwiliadau o fanwerthwyr oedd profiad cyfyngedig o ddigwyddiadau ansawdd dŵr, gan gynnwys uwchgyfeirio materion brys. Roedd yn ymddangos bod hyn yn adlewyrchu cyfleoedd cyfyngedig, gan mai cymharol ychydig o ddigwyddiadau sydd wedi effeithio ar y defnyddwyr hyn.
Nodwyd hefyd absenoldeb ymarferion a hyfforddiant cynllunio mewn argyfwng ar y cyd sy’n seiliedig ar senarios, gan greu risgiau posibl o ran parodrwydd a chydlynu yn ystod digwyddiadau. Roedd yr archwiliadau hefyd yn nodi gwelliannau a awgrymwyd i hyfforddiant staff, yn enwedig ar gyfer delio â galwadau rheng flaen, a mecanweithiau cyfyngedig i olrhain neu uwchgyfeirio materion cwsmeriaid nad ydynt yn aelwydydd.
Yn gyffredinol, er bod y trefniadau presennol yn ymddangos yn ddigonol o dan amodau arferol, daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad bod angen mwy o eglurder gweithdrefnol, cydweithio rhagweithiol a pharodrwydd cryfach i sicrhau bod ansawdd a chyflenwad dŵr ar gyfer defnyddwyr nad ydynt yn aelwydydd yn cael eu diogelu’n gadarn.
DWR – Cynllun cyfalaf wedi’i gwblhau Safle Gwaith Trin Dŵr Llyswen a Chronfa Ddŵr Gwasanaeth Llanigon
Canfu archwiliad yr Arolygiaeth Dŵr Yfed o Safle Gwaith Trin Dŵr Llyswen a Chronfa Ddŵr Gwasanaeth Llanigon fod buddsoddiad cyfalaf diweddar, gan gynnwys adnewyddu prif bibellau haearn sydd wedi dirywio ar raddfa fawr, gwaith glanhau rhwydwaith targedig, ac uwchraddio prosesau trin, wedi dechrau sicrhau gwelliannau mesuradwy mewn ansawdd dŵr. Mae’r ymyriadau hyn wedi lleihau symudiad gwaddod hanesyddol, wedi gwella sefydlogrwydd clorin ar draws y rhwydwaith, ac wedi cyfrannu at ostyngiad mewn cysylltiadau afliwio, wedi’i ategu gan gynnydd mewn clorin gweddilliol a welwyd mewn lleoliadau atgyfnerthu i lawr y gadwyn gyflenwi a gwell sefydlogrwydd llif ar ôl gosod adnodd pwmpio cyflymder amrywiol.
Yn gyffredinol, aseswyd bod rheolaeth weithredol a chadernid systemau yn effeithiol, gydag arferion da i’w gweld mewn meysydd fel monitro gwasgedd (ffigur 43) gydag ystodau gweithredu wedi’u diffinio’n glir, rheoli llif addasol i leihau effeithiau ymchwydd, a rheoli cyflenwad yn ystod gweithgareddau comisiynu cymhleth. Roedd prosesau ceulo, puro a hidlo yn perfformio’n dda o dan amodau dŵr crai amrywiol, gan ddangos optimeiddio effeithiol yn dilyn gwaith uwchraddio safleoedd cynharach.
Ffigur 43 – monitro gwasgedd
Fodd bynnag, nododd yr archwiliad nifer o feysydd y mae angen eu cryfhau ymhellach. Nodwyd risgiau hylendid wrth storio a thrin cyfarpar pwmpio a phibellau dros dro, ac roedd materion rheoli cemegol yn cynnwys pecynwaith anniogel neu wedi’i ddifrodi a threfniadau cyfyngiant aneglur ar gyfer danfoniadau swmp, gan nodi llwybrau halogi posibl (ffigur 44). Mae angen gwella diogelwch ac uniondeb asedau hefyd, gydag enghreifftiau’n cynnwys agorfeydd anniogel, trefniadau selio annigonol, a diogelwch annigonol o amgylch y terfyn, ochr yn ochr â risgiau sy’n gysylltiedig â seilwaith ategol fel falfiau aer heb eu diogelu a gweithgareddau defnydd tir cyfagos a allai gyflwyno halogyddion.
Ffigur 44 – Bag halen wedi’i rwygo ac wedi’i storio y tu allan i brif adeilad y safle gwaith
Roedd y cymhlyg falfiau newydd (ffigur 45), gan gynnwys falfiau aer, yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Llanigon wedi’i leoli ar dramwyfa, a oedd yn cael ei defnyddio i symud da byw rhwng caeau. Roedd hyn hefyd i lawr yr allt o ddau bentwr baw mawr, gan arwain at risg o ddŵr ffo yn llifo i’r siambrau. Nododd yr Arolygwyr fod difrod i’r godre concrit eisoes wedi digwydd, gan gynyddu’r risg ymhellach. Mewn ymateb, cychwynnodd y cwmni archwiliadau rheolaidd a gwnaed argymhellion i gymryd camau i liniaru’r risg, gan gynnwys gwaredu’r pentyrrau baw, atgyweirio’r concrid a’r gorchuddion, ac adolygwyd amlder archwiliadau ar gyfer falfiau aer mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth.
Ffigur 45 a – Siambr falf aer wedi cracio yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Llanigon
Tynnodd yr Arolygiaeth sylw hefyd at yr angen am fwy o eglurder a chadernid mewn arferion gweithredol ac ymchwiliol. Mewn rhai achosion, nid oedd dadansoddiadau gwraidd y broblem afliwio yn cynnwys digon o dystiolaeth, a phrin oedd yr ystyriaeth a roddwyd i baramedrau sy’n cyfrannu fel haearn, manganîs ac alwminiwm. Roedd y trefniadau samplu a’r diffiniadau monitro yn aneglur ar adegau, yn enwedig yn ystod cyfnodau pontio o ran ffurfweddu asedau, ac roedd bylchau o ran dangos perfformiad diheintio a rheoli amser cyswllt yn ystod newidiadau gweithredol. Gwaethygwyd y materion hyn gan ddibyniaeth ar farn weithredol yn absenoldeb gweithdrefnau wedi’u diffinio’n glir a dehongli data’n gyson.
Yn gyffredinol, mae’r canfyddiadau’n dangos cynnydd clir yn dilyn buddsoddiad sylweddol, ond maent yn pwysleisio bod disgyblaeth weithredol barhaus, gwell eglurder gweithdrefnol, a rheolaethau rheoli asedau a risg cryfach yn hanfodol i sicrhau a chynnal yr enillion hyn ac i sicrhau cydymffurfiad hirdymor cyson.
Casgliad
Roedd yr archwiliadau a gynhaliwyd yn 2025 yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut mae ansawdd dŵr yfed yn cael ei ddiogelu ar draws trefniadau brys a phrosesau trin arferol. Roeddent yn tynnu sylw at arferion da, ond hefyd yn dangos bod angen parhau i roi sylw i sicrhau bod systemau, polisïau a dogfennau’n parhau i fod yn glir, yn gyson ac yn effeithiol. Drwy fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed, gall cwmnïau dŵr gryfhau hyder y cyhoedd a sicrhau mai diogelwch dŵr yfed yw’r flaenoriaeth uchaf o hyd.
Argymhellion
Pan fydd methiant rheoleiddiol yn digwydd neu’n ymddangos yn debygol, ac ni all Arolygydd ddod i’r casgliad ei bod yn annhebygol y bydd yn digwydd eto, rhaid cyflwyno argymhelliad ffurfiol i’r cwmni. Mae’r argymhellion yn tynnu sylw at feysydd lle gall cwmnïau wella cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau. Caiff pob argymhelliad ei olrhain er mwyn asesu ei arwyddocâd ac ymateb y cwmni. Mae’r dull rheoleiddio hwn yn helpu i ganfod cwmnïau sydd mewn perygl o fethiant rheoleiddiol a allai gynyddu’r risg weddilliol i gyflenwadau dŵr yfed, gan sicrhau bod gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud.
Gwnaeth yr arolygwyr 89 o argymhellion yn 2025, gweler tabl 17
Categori lefel uchel
Argymhellion a wnaed
Rheolaeth
62
Samplu
11
Storio a dosbarthu
8
Cyfathrebu
6
Triniaeth
2
Dalgylch
0
Arall
0
Cyfanswm
89
Tabl 17 – Categori’r argymhellion a wnaed yn 2025
Ffigur 46 – Nifer yr argymhellion fesul cwmni yn 2025
Ffigur 47 – Tuedd yr argymhellion yng Nghymru
Ffigur 48 – Nifer yr argymhellion yn genedlaethol
As part of Dŵr Cymru Welsh Water’s transformation programme, thematic meetings continued to focus on key Fel rhan o raglen drawsnewid Dŵr Cymru, parhaodd cyfarfodydd thematig i ganolbwyntio ar feysydd allweddol a oedd yn gofyn am ganlyniadau mesuradwy. Un thema o’r fath yw argymhellion, sy’n arbennig o arwyddocaol oherwydd mae’r Mynegai Risg Argymhellion yn un o’r ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth asesu a ddylai cwmni gael ei drawsnewid. Prif nod y gwaith thematig hwn yw cefnogi’r cwmni i wella ei Fynegai Risg Argymhellion yn dilyn tair blynedd o ddirywiad mewn perfformiad. Yn y cyfarfodydd hyn, bydd yr Arolygwyr yn trafod enghreifftiau o ymatebion i argymhellion, gan ddangos y gwahanol sgoriau ymateb i asesiadau sydd ar gael dan y weithdrefn asesu. Roedd y gwersi cynnar o’r trafodaethau penodol hyn yn cynnwys:
Sut mae monitro’r gwaith o gyflawni argymhellion i’r pwynt cyflawni gyda thystiolaeth.
Sut olwg sydd ar dystiolaeth cyflawni? Beth yw tystiolaeth o ansawdd da yn erbyn tystiolaeth o ansawdd gwael?
Sut mae pennu’r bobl gywir i ‘berchen’ gwahanol fathau o argymhellion.
Mae’r cyfarfodydd hefyd yn gyfle i drafod cyflawni’r argymhellion presennol i helpu i arwain y cwmni tuag at gael asesiad ymateb mwy ffafriol.
Er bod nifer yr argymhellion a roddwyd i’r cwmni wedi gostwng o 95 yn 2024 i 83 yn 2025, cafodd y cwmni’r ail nifer uchaf o argymhellion yn y diwydiant o hyd. Mae hyn yn dangos bod angen gwelliant sylweddol pellach os yw’r cwmni am symud yn nes at berfformiad cyfartalog y diwydiant. Un dull gweithredu sydd wedi helpu cwmnïau eraill ar daith debyg yw nodi argymhellion posibl yn gynnar yn ystod y cam ymchwilio. Gall cynnig camau gweithredu fel rhan o adroddiadau ymchwiliadau, lle asesir bod argymhellion yr Arolygiaeth yn debygol, arwain at beidio â gwneud yr argymhelliad.
Mae Ffigur 49 yn dangos mai diffygion rheoli sy’n cyfrif am y gyfran fwyaf o argymhellion, gyda 62 yn cyfrif am y gyfran hon. Cafwyd argymhellion hefyd ynghylch diffygion samplu, storio, dosbarthu a thrin. O’r 62 argymhelliad yn y categori rheoli, roedd y rhan fwyaf ar gyfer asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau.
Ffigur 49 – Categorïau lefel uchel a lefel eilaidd
Mae’r Mynegai Risg Argymhellion yn dangos safle Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy o gymharu â’r sgôr argymell disgwyliedig ar gyfer pob cwmni. Mae Hafren Dyfrdwy o fewn yr ystod ddisgwyliedig, ac mae Dŵr Cymru yn parhau uwchben y llinell goch. Disgwylir hyn o ystyried bod y cwmni’n dal yn nes at ddechrau ei daith drawsnewid na’r diwedd. Ar ben hynny, mae’n cymryd ychydig o flynyddoedd i effaith RRI y blynyddoedd diwethaf arafu drwy’r algorithm.
Ffigur 49 – Mynegai risg argymhellion
Mae dadansoddiad eleni o’r argymhellion yn ôl categori yn datgelu cynnydd sy’n ymwneud â chwynion defnyddwyr yn ystod 2025, sy’n cyfateb â’r cynnydd mewn cwynion yn ystod y flwyddyn.
Ffigur 50 – Argymhellion fesul categori yng Nghymru
Gorfodi
Mae’r Arolygiaeth yn cyhoeddi’r offerynnau cyfreithiol ar gyfer ansawdd dŵr yfed ar y wefan o dan rhaglenni gwella cwmni. Mae offerynnau cyfreithiol diogelwch (SEMD a NIS) yn cael eu hystyried yn sensitif ac felly nid ydynt yn cael eu cyhoeddi’n gyhoeddus. Mae Tabl 18 yn crynhoi cyfanswm yr offerynnau cyfreithiol a gyflwynwyd yn 2025.
Math o offeryn cyfreithiol
Nifer
Cwmnïau
Hysbysiad rheoliad 27(4)* ar gyfer gwelliannau i gynlluniau diogelwch dŵr
1
Dŵr Cymru
Hysbysiad rheoliad 28(4)* sy’n ymwneud â risgiau a nodir mewn cynlluniau diogelwch dŵr
1
Dŵr Cymru
Camau gwella a gydnabyddir yn ffurfiol
1
Dŵr Cymru
Tabl 18: Yr holl offerynnau cyfreithiol gorfodi a gyhoeddwyd gan yr Arolygiaeth yng Nghymru yn 2025 * Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018
Cyhoeddwyd manylion y camau gorfodi a gymerwyd gan yr Arolygiaeth yn hanner cyntaf 2025 yn yr adroddiad interim. O ganlyniad, dim ond manylion y camau gorfodi a gyflwynwyd yn ail hanner 2025 sydd yn yr adroddiad hwn.
Hysbysiadau gorfodi a gyflwynwyd yng Nghymru yn ail hanner 2025
Cyflwynwyd hysbysiad i Dŵr Cymru o dan reoliad 27(4) am welliannau i’w fethodoleg asesu risg. Canfu archwiliad o fethodoleg y Cynllun Diogelwch Dŵr Yfed a chofnodion risg ddiffygion o ran bodloni rheoliadau 27 a 28. Mae’r hysbysiad yn galw am ddiweddariadau i’r fethodoleg, gan gynnwys sut mae asesiadau risg yn cael eu cynnal a chofnodion yn cael eu hadrodd, er mwyn cyflawni dyletswyddau rheoleiddio. Bydd y camau hyn yn cael eu cymryd ochr yn ochr â’r diweddariadau gofynnol yn dilyn cyhoeddi Llythyr Gwybodaeth 04/2025 ar ganllawiau Cynllunio Diogelwch Dŵr Yfed. Yn dilyn y newidiadau hyn, bydd asesiadau risg newydd yn cael eu darparu i’r Arolygiaeth erbyn 21 Hydref 2027.
Cyflwynwyd un hysbysiad i Dŵr Cymru o dan reoliad 28(4). Canfu archwiliadau a gynhaliwyd ar safle gwaith trin dŵr Felindre a safle gwaith trin dŵr Llan y Mawddwy ddiffygion yn ymwneud â phrosesau diheintio. Cyflwynwyd hysbysiad tebyg yn 2024 ar gyfer safleoedd gwaith gydag asedau oddi ar y safle, fel prif bibellau cyswllt sy’n ymestyn y tu hwnt i derfyn y safle. Gan nad oedd y diffygion a nodwyd wedi’u cyfyngu i’r ddau safle gwaith a archwiliwyd, cyflwynwyd rhybudd pellach ar draws y cwmni i gwmpasu’r holl waith. Bydd hyn yn gwella’r gwaith o reoli prosesau diheintio ar 45 safle gwaith, gan fod o fudd i 2,238,526 o ddefnyddwyr.
Datblygiadau Gorfodi
Yn 2024, adroddodd yr Arolygiaeth fod y porth adrodd ar gerrig milltir a chyflwyno adroddiadau terfynol wedi mynd yn fyw ar gyfer offerynnau cyfreithiol ansawdd dŵr yfed. Yn 2025, ehangwyd y porth i gynnwys proses newid cais a chyfleuster i gofnodi’r adroddiadau cynnydd blynyddol. Yn y dyfodol, mae’r Arolygiaeth yn gobeithio ehangu’r cyfleuster hwn i gynnwys offerynnau cyfreithiol NIS a SEMD.
Rhaglenni Trawsnewid
Cafodd Dŵr Cymru ei roi mewn rhaglen drawsnewid ym mis Mehefin 2024, gyda phum hysbysiad trawsnewid yn cael eu cyhoeddi rhwng diwedd 2024 a dechrau 2025. Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n rheoli cyfanswm o 43 o offerynnau cyfreithiol ar draws ansawdd dŵr yfed, NIS a SEMD, gyda dau i fod i gael eu cwblhau yn 2026.
Ers dechrau’r rhaglen hon, mae’r cwmni wedi rhoi menter ‘Ansawdd Dŵr yn Gyntaf’ ar waith i atgyfnerthu pwysigrwydd strategol ansawdd dŵr ar draws pob maes gweithredol.
O’i gymharu â chwmnïau dŵr eraill ar adeg debyg yn eu teithiau trawsnewid, mae sefyllfa bresennol Dŵr Cymru yn awgrymu bod ei raglen drawsnewid yn fwy aeddfed o ran strwythur, ond bod canlyniadau gweithredol yn parhau i fod yn wannach ac yn arafach i wella. Yn yr un modd â chwmnïau mawr eraill sy’n destun gwell goruchwyliaeth reoleiddiol, fel Thames Water a Southern Water, mae Dŵr Cymru yn rheoli portffolio sylweddol o weithgarwch gorfodi ac mae’n ceisio cryfhau llywodraethu, sicrwydd a diwylliant. Fodd bynnag, mae’n dal y tu ôl i gwmnïau sy’n perfformio’n gryfach, fel United Utilities a Severn Trent, lle mae buddsoddiad parhaus a rheoli asedau’n fwy effeithiol wedi arwain at lai o risg cydymffurfio, llai o ddigwyddiadau a gwell canlyniadau i ddefnyddwyr. Mae heriau parhaus Dŵr Cymru o ran afliwio rhwydweithiau, asedau sy’n heneiddio ac anghysondeb gweithredol yn golygu ei fod yn gogwyddo tuag at ochr y diwydiant sydd dan bwysau ar hyn o bryd, hyd yn oed wrth ystyried cynnydd o ran llywodraethu ac ymgysylltu rheoleiddiol.
Mae Dŵr Cymru wedi gwneud cynnydd strwythurol clir drwy ei weithgareddau trawsnewid “Ansawdd Dŵr yn Gyntaf”, yn enwedig mewn perthynas â llywodraethu, galluogrwydd ac ymgysylltu rheoleiddiol. Roedd y strwythur hwn, a sefydlwyd ym mlwyddyn gyntaf y trawsnewid, yn cynnwys arweinyddiaeth bwrpasol a rolau newydd mewn timau ymroddedig, fframwaith llywodraethu a grwpiau llywio ar gyfer penderfyniadau a chyfarwyddyd, a Dangosyddion Perfformiad Allweddol ffurfiol yn cael eu mesur a’u hadrodd drwy’r fframwaith llywodraethu. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o golli momentwm o ran arweinyddiaeth trawsnewid, yn fwyaf diweddar yn ystod 2026, ar ôl ailstrwythuro’r cwmni gydag oddeutu 500 o staff yn cael eu colli o bob rhan o’r busnes, gan gynnwys timau ansawdd dŵr. Yn ystod yr ailstrwythuro, rhoddodd y cwmni sicrwydd na fyddai hyn yn effeithio ar weithrediadau rheng flaen a chynnydd o ran trawsnewid.
Nid yw’r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud wedi troi’n gyson eto yn berfformiad gweithredol parhaus, ac mae’r risg reoleiddio sylweddol yn dal yn uchel. Mae’r prif gyfranwyr at sgôr CRI y cwmni hefyd wedi aros yr un fath, gyda methiannau o ran haearn rhwydwaith, methiannau o ran colifform a phroblemau blas ac arogl yn parhau i sbarduno perfformiad gwael. Wrth edrych ar ddigwyddiadau, yn enwedig adfer ac ymchwilio, mae materion rheolaidd fel oedi cyn uwchgyfeirio, glynu’n anghyson wrth weithdrefnau a strategaethau samplu gwan yn arwain at dystiolaeth wael o ansawdd dŵr, dealltwriaeth o hyd a lled yr effaith, a dadansoddiadau diffygiol o wraidd y broblem.
Mae’r Arolygiaeth wedi dweud wrth y cwmni bod yn rhaid i’r canlynol fod yn feysydd ffocws, er mwyn cyflawni’r canlyniadau ansawdd dŵr a ddisgwylir.
Darparu datrysiadau tymor hir yn hytrach na dibynnu ar reolaeth tymor byr, yn enwedig pan fydd canlyniadau gwael yn cael eu cyflawni gyda’r olaf.
Ailffocysu blaenoriaethau buddsoddi, yn enwedig y risg o gyflenwi dŵr anaddas, sy’n drosedd, a’r effaith ar brofiad y cwsmer.
Dealltwriaeth o iechyd asedau, perfformiad asedau (gan gynnwys gwelededd) ac addasrwydd asedau.
Glynu’n gyson wrth brosesau Llywodraethu a gweithdrefnau gweithredol.
Trefniadau cyflenwi amgen.
Yn gryno:
Mae’r rhaglen drawsnewid wedi hen ennill ei phlwyf ac wedi’i halinio’n strategol.
Mae arwyddion o welliant mewn dangosyddion cynnar; ond
Mae’r cwmni’n adweithiol yn weithredol yn hytrach nag yn gyson ataliol.
Mae canlyniadau ansawdd dŵr craidd, cadernid asedau a chysondeb cydymffurfio yn dal yn is na’r lefelau disgwyliedig, sy’n galw am graffu rheoleiddiol parhaus.
Mae’r cwmni’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda thîm cyswllt yr Arolygiaeth, a chynhelir cyfarfodydd trawsnewid bob chwe mis rhwng yr Arolygiaeth a noddwyr hysbysiadau yn y cwmni. Yn ystod 2025, roedd cyfraniad y cwmni i gyfarfodydd misol wedi gwella, ac mae’r fforymau hyn bellach yn cael eu defnyddio’n effeithiol i drafod cyfeiriad hysbysiadau, adolygu cynnydd a chyflwyno gwybodaeth ar gyfer adborth cynnar cyn ei chyflwyno’n ffurfiol. Mae’r lefel hon o gyfranogiad yn dangos agwedd gadarnhaol tuag at y rhaglen drawsnewid. Anogir y cwmni i barhau i ddefnyddio’r dull rhagweithiol hwn.
Er gwaethaf y cynnydd cyffredinol, cafwyd sawl anffawd yn ystod 2025. Methwyd cerrig milltir allweddol sy’n gysylltiedig ag offerynnau cyfreithiol, ac ni roddodd y cwmni wybod i’r Arolygiaeth am oediadau tan y dyddiadau cau ar gyfer adrodd ar gerrig milltir. Mae hyn yn adlewyrchu gwendidau mewn trefniadau llywodraethu, goruchwylio’r gwaith o gyflwyno offerynnau cyfreithiol ac arferion cyfathrebu. Roedd hyn yn peri pryder arbennig o ystyried amlder cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar offerynnau cyfreithiol. Mae’r cwmni wedi cael ei atgoffa o’r gofyniad i roi gwybod i’r Arolygiaeth cyn gynted â phosibl pan fydd risgiau i gyflawni cerrig milltir yn codi, ac mae’r Arolygiaeth wedi dechrau gweld gwelliant yn y maes hwn.
Cydnabuwyd bod y cwmni wedi llwyddo i gwblhau’r hysbysiad cronfeydd dŵr gwasanaeth a thanciau yn adroddiad blynyddol 2024 yr Arolygiaeth. Roedd hyn o dan amodau heriol ac roedd i’w ganmol. Fodd bynnag, ers hynny, mae wedi dod yn amlwg bod blaenoriaethu’r hysbysiad hwn wedi cael effaith niweidiol ar gynnydd offerynnau cyfreithiol eraill. Ar ben hynny, nodwyd carreg filltir yn yr un hysbysiad yn ystod 2025 nad oedd wedi cael ei chwblhau er boddhad yr Arolygiaeth. O ganlyniad, cyflwynwyd hysbysiad rheoliad 28(4) dilynol ddechrau 2026, i fynd i’r afael â diffygion gyda chyfleusterau samplu. Her sylweddol i Dŵr Cymru yw ei berfformiad o ran afliwio, sy’n destun hysbysiad. Ni chyrhaeddodd y cwmni’r targed AMP7 yn yr hysbysiad. Mae cyfarfodydd strategaeth afliwio ddwywaith y flwyddyn bellach yn cael eu cynnal rhwng y cwmni a’r Arolygiaeth, ac mae strategaeth y cwmni’n aeddfedu. Fodd bynnag, nid yw hyn eto wedi troi’n welliannau mewn cyfraddau cyswllt afliwiad. Nid yw’n dderbyniol i ddefnyddwyr dderbyn dŵr yfed gyda lliw annerbyniol, ac mae’r Arolygiaeth wedi gosod targed AMP8 ymestynnol ar gyfer gwella afliwiad. Targed AMP7 oedd 1.4 o gysylltiadau fesul 1,000 o’r boblogaeth; cyflawnodd y cwmni 1.8. Mae targed AMP8 wedi’i osod ar 0.7 cyswllt fesul 1,000 o’r boblogaeth erbyn diwedd y cyfnod AMP, a fydd yn gofyn am welliant sylweddol. Bydd cynnydd tuag at y targed hwn yn cael ei fonitro’n agos a bydd yr Arolygiaeth yn ystyried gorfodaeth bellach lle na wneir gwelliannau.
Enforcement Performance Metric
During 2025, the Inspectorate developed and tested a new metric to measure company performance against obligations contained within legal instruments. The metric helps the Inspectorate direct enforcement resource to companies requiring the most attention and provides a transparent means of demonstrating company performance.
Every legal instrument served is scored, using a five-by-five matrix, which has a set of rules attached, which inspectors follow for consistency.
The first score, assigned when the legal instrument is created, is the seriousness score. This score reflects the origins of the legal instruments and ranges from voluntary programmes, through routine enforcement action, to escalated and transformation enforcement. The criteria are listed in table 19.
Seriousness
Score
Escalated enforcement – generally, enforcement orders but other forms too
5
Further (additional) enforcement – “child” legal instruments, transformation legal instruments
4
Routine enforcement (realised breaches) – such as compliance assessments, events, regulation 26 breaches, data driven, consumer complaints
3
Routine enforcement (potential breaches) – such as likely to breach, risk of breach, audit findings, risk assessments
2
Proactive schemes – such as AMP schemes, voluntary undertakings
1
Table 19 – Seriousness scores
Metrig Perfformiad Gorfodi
Yn ystod 2025, datblygodd a phrofodd yr Arolygiaeth fetrig newydd i fesur perfformiad cwmnïau yn erbyn rhwymedigaethau sydd wedi’u cynnwys mewn offerynnau cyfreithiol. Mae’r metrig yn helpu’r Arolygiaeth i gyfeirio adnoddau gorfodi at gwmnïau sydd angen y sylw mwyaf ac mae’n darparu ffordd dryloyw o ddangos perfformiad cwmnïau.
Mae pob offeryn cyfreithiol a gyflwynir yn cael ei sgorio, gan ddefnyddio matrics pump-wrth-bump, sydd â set o reolau ynghlwm, y mae arolygwyr yn eu dilyn er cysondeb.
Y sgôr gyntaf, a roddir pan fydd yr offeryn cyfreithiol yn cael ei greu, yw’r sgôr difrifoldeb. Mae’r sgôr hon yn adlewyrchu tarddiad yr offerynnau cyfreithiol ac mae’n amrywio o raglenni gwirfoddol, i gamau gorfodi arferol, i orfodi wedi’i uwchgyfeirio a gorfodi trawsnewid. Rhestrir y meini prawf yn nhabl 19.
Difrifoldeb
Sgôr
Gorfodi wedi’i uwchgyfeirio – gorchmynion gorfodi yn gyffredinol, ond ffurfiau eraill hefyd
5
Gorfodi pellach (ychwanegol) – offerynnau cyfreithiol “eilaidd”, offerynnau cyfreithiol ar gyfer trawsnewid
4
Camau gorfodi arferol (methiannau wedi’u nodi) – e.e. asesiadau cydymffurfio, digwyddiadau, methiannau rheoliad 26, sy’n cael eu gyrru gan ddata, cwynion defnyddwyr
3
Camau gorfodi arferol (methiannau posibl) – e.e. rhai sy’n debygol o fethu, risg o fethu, canfyddiadau archwiliadau, asesiadau risg
Yr ail sgôr yw Coch, Ambr, Gwyrdd (RAG) (wedi’i ehangu i gynnwys Ambr+ a Coch+), sef statws cynnydd yr offeryn cyfreithiol. Mae’r sgôr hon yn cael ei neilltuo pan fydd yr offeryn cyfreithiol yn cael ei greu am y tro cyntaf, ond yn cael ei newid yn ôl yr angen drwy gydol ei oes ar sail cynnydd y cyflawni. Mae’r meini prawf wedi’u rhestru isod:
Coch+ (5)
Mae’r Arolygiaeth wedi gwrthod cais i newid dyddiad, er mwyn ymestyn dyddiad cwblhau’r offeryn cyfreithiol.
Unrhyw oedi sy’n effeithio ar ddyddiad gorffen yr offeryn cyfreithiol.
Unwaith y bydd hysbysiad wedi’i roi yn y statws Coch+, dim ond i’r statws Ambr+ y gall gael ei adfer.
Coch (4)
Mae’r garreg filltir ddiweddaraf a gyflwynwyd wedi’i gohirio neu cafodd ei chyflawni’n hwyr.
Nid oes digon o dystiolaeth ar gyfer y garreg filltir ddiweddaraf a gyflwynwyd neu mae’n anghyflawn. Pan fydd adroddiad yn cael ei wrthod yn llwyr, nid yw’n berthnasol i gwestiynau dilynol arferol.
Mae’r Arolygiaeth wedi cael gwybod y bydd carreg filltir ganolraddol yn y dyfodol yn cael ei gohirio ac nad oes unrhyw ffordd y gall y cwmni ei chyrraedd.
Mae’r Arolygiaeth wedi gwrthod cais i newid dyddiad ar gyfer ymestyn cerrig milltir canolraddol.
Hysbysiad munud olaf o beidio â chyrraedd targedau, pan fo’n amlwg bod y cwmni’n gwybod ers peth amser.
Wedi methu dyddiad cyflwyno’r adroddiad terfynol.
Mae coch yn berthnasol hyd nes y cyrhaeddir y garreg filltir nesaf, pan allai’r sgôr ostwng i Ambr neu Ambr+.
Ambr+ (3)
Mae camau gorfodi sy’n cael eu huwchgyfeirio (gweler y tabl uchod) bob amser yn dechrau ar Ambr+.
Mae offeryn cyfreithiol ‘eilaidd’ newydd o offeryn cyfreithiol sydd wedi’i ohirio yn dechrau ar Amber+ (er enghraifft, tynnu cronfa ddŵr gwasanaeth unigol o hysbysiad cronfa ddŵr gwasanaeth ehangach).
Mae cais am newid wedi cael ei gyflwyno a’i dderbyn, gyda dyddiad cyflawni terfynol newydd.
Roedd yr offeryn cyfreithiol yn arfer bod ar statws Coch+, ond mae’r cwmni wedi datrys y problemau ac wedi gwella’r ffordd mae’n rheoli’r hysbysiad.
Does dim modd mynd yn is nag Ambr+ ar ôl i chi gyrraedd y pwynt hwn.
Ambr (2)
Oedi canolraddol nad yw’n effeithio ar ddyddiad terfynol yr offeryn cyfreithiol.
Bu oedi o ran cyrraedd y garreg filltir / cyrhaeddwyd y garreg filltir yn hwyr, ond mae’r cynllun bellach ar y trywydd iawn.
Coch yn flaenorol, ond mae’r cwmni wedi datrys y problemau ac wedi gwella’r ffordd mae’r offeryn cyfreithiol yn cael ei reoli.
Does dim modd mynd yn is nag Ambr ar ôl i chi gyrraedd y pwynt hwn.
Gwyrdd (1)
Opsiwn diofyn ar gyfer pob offeryn cyfreithiol newydd.
Mae’r holl gerrig milltir ar y trywydd cywir neu wedi’u cwblhau ar amser.
Newid datrysiad nad yw’n effeithio ar y dyddiad cyflawni terfynol (hynny yw, mae’r cwmni wedi dod o hyd i ffordd ratach neu gyflymach o gyflawni’r cynllun o fewn y cyfnod rhybudd).
Mae’r Arolygiaeth yn cyflwyno newid i gynllun yn y dyfodol (er enghraifft, cyhoeddi canllawiau PFAS newydd, sy’n effeithio ar ymrwymiadau PFAS)
Mae’r Arolygiaeth wedi rhoi newid ar waith.
Mân newidiadau gweinyddol (fel diweddariad i atodiad mewn hysbysiad afliwio).
Does dim modd dychwelyd i wyrdd pan fydd yn ambr neu’n goch.
Mae’r metrig yn cael ei gyfrifo mewn ffordd debyg i’r Mynegai Risg Argymhellion. Mae’n cydnabod y bydd risg yn bodoli bob amser ac y bydd gan gwmnïau mwy, sydd â dalgylchoedd mwy, mwy o safleoedd gwaith trin dŵr, mwy o storfeydd dŵr wedi’i drin, darnau hirach o brif bibellau cyflenwi a mwy o gysylltiadau, risg weddilliol uwch. Mae cyfanswm y sgoriau ar gyfer pob cwmni’n cael eu cymharu â sgoriau’r sector cyfan a’u normaleiddio yn ôl cyfran y boblogaeth gyffredinol a gyflenwir, gan gynhyrchu sgôr ddisgwyliedig ar gyfer pob cwmni. Mae’r sgoriau disgwyliedig wedyn yn cael eu plotio yn erbyn y sgoriau gwirioneddol gan ddefnyddio atchweliad llinol. Mae’r llinell gwerth hyder 95% uchaf yn cael ei hychwanegu i nodi allanolynnau ystadegol, gan gynhyrchu Ffigur 51, y Metrig Perfformiad Gorfodi ar gyfer diwedd 2025.
Ffigur 51 – Metrig perfformiad gorfodi
Yn ystod hanner cyntaf 2025, cyflwynodd yr Arolygiaeth gyfnod gras i gwmnïau ar gyfer offerynnau cyfreithiol NIS a SEMD, gan fod y gofynion a’r prosesau adrodd yn newydd i’r meysydd hyn. Ceisiodd yr Arolygiaeth gefnogi, addysgu a chynghori, yn hytrach na cheryddu, pan oedd eitemau’n cael eu danfon yn hwyr neu’n anghyflawn. Er y bydd yr Arolygiaeth yn parhau i ddarparu cyngor ar y metrig, mae’r cyfnod gras bellach wedi dod i ben a bydd offerynnau cyfreithiol NIS a SEMD yn cael eu sgorio’n briodol. Ar hyn o bryd, dim ond nifer fach o offerynnau cyfreithiol NIS a SEMD sydd ar gael o’i gymharu â chyfanswm nifer yr offerynnau cyfreithiol. Mae’r rhain felly wedi’u cynnwys gyda chamau gorfodi ansawdd dŵr yfed mewn mesur unigol. Bydd hyn yn cael ei adolygu yn y dyfodol ac efallai y byddant yn cael eu gwahanu os oes budd o wneud hynny.
Mae’r metrig yn dangos, ar 31 Rhagfyr 2025, nad oedd unrhyw gwmni a oedd yn gweithredu yng Nghymru yn uwch na’r llinell cyfwng hyder o 95%. Mae gan Dŵr Cymru nifer o offerynnau cyfreithiol trawsnewid, sydd â sgoriau difrifoldeb uchel. Bydd angen i’r cwmni sicrhau bod yr offerynnau hyn yn cael eu cyflwyno’n brydlon er mwyn atal cynnydd mewn sgoriau RAG a’r effaith luosi gysylltiedig.
Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng – SEMD
2025 oedd y bedwaredd flwyddyn adrodd i gwmnïau ers i’r Arolygiaeth reoleiddio’r Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng (y Cyfarwyddyd). Mae cwmnïau wedi dangos gwelliant cyffredinol o ran hunan-adnabod y meysydd y mae angen iddynt eu gwella a symud tuag at gydymffurfio â’r Cyfarwyddyd, gan arwain at fuddsoddiad sylweddol yn AMP8 dros ystod o gynlluniau sy’n cynnwys gwelliannau diogelwch a chynllunio mewn argyfwng. Mae’r gydnabyddiaeth hon wedi arwain at ostyngiad cyffredinol yn y sefyllfa Goch, Ambr, Gwyrdd (RAG) a gofnodwyd ers 2022.
Cynhaliodd yr Arolygiaeth raglen o archwiliadau technegol ar y safle, yn ogystal ag asesiadau o ddigwyddiadau a rhyngweithiadau cwmni, a arweiniodd at amrywiaeth o weithgareddau gorfodi i sicrhau gwelliant a chydymffurfiaeth fel y dangosir yn Ffigur 52:
Ffigur 52 – Gweithgaredd gorfodi SEMD
Digonolrwydd
Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol (NISTA erbyn hyn) ganllaw i Ddatblygu Safonau Cadernid yn Seilwaith y DU, gan nodi bylchau yn rheoliadau’r diwydiant dŵr ac argymell safonau cadernid ar gyfer cyflenwadau dŵr cyhoeddus. Roedd y prif argymhellion yn cynnwys: gosod safon galw uchaf ar gyfer galluogrwydd cyflenwi tymor byr; diffinio cyfyngiadau ar ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar un ased; a chyflwyno metrigau iechyd asedau sy’n edrych tua’r dyfodol.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, cynhaliodd yr Arolygiaeth ddadansoddiad ac ymchwil. Yna drafftiodd yr Arolygiaeth adroddiad gyda chanllawiau arfaethedig ar gynnal cyflenwad dŵr digonol mewn ymateb i’r argymhellion allweddol a nodwyd yn adroddiad NISTA, gan ymgorffori canfyddiadau ymchwil annibynnol. Daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad bod mesur digonolrwydd yn ddangosydd ymarferol ar gyfer cadernid y cyflenwad ac iechyd asedau.
Ffigur 53 – Pwyntiau allweddol ar gyfer digonolrwydd
Roedd cydnabyddiaeth ehangach hefyd na fyddai unrhyw un lens yn cyflawni’r canlyniadau a fwriedir yn adroddiad NISTA, felly er mai digonolrwydd oedd ffocws ymateb yr Arolygiaeth, mae’n cyffwrdd â nifer o feysydd fel y dangosir yn Ffigur 53. Mae’r gwaith hwn wedyn yn caniatáu datblygu safonau eraill a gweithio ar y cyd â’r gwaith digonolrwydd.
Mae canllawiau arfaethedig yr Arolygiaeth yn cefnogi’r egwyddorion canlynol: diffiniadau clir, cynllunio asesiadau risg, casglu data empirig, canlyniadau mesuradwy, amodau gormodiant, amodau digwyddiadau, dilysu defnyddwyr ac adroddiadau rheoleiddio. Mae hyn yn cael ei droshaenu mewn dull systemau i nodi a thargedu meysydd sydd angen buddsoddiad fwyaf. Bydd yr Arolygiaeth yn parhau i weithio ymhellach gyda chwmnïau dŵr a rhanddeiliaid perthnasol eraill, gan gynnwys rheoleiddwyr, i wella’r gwaith o ddatblygu asesiadau risg digonolrwydd a llwybrau adrodd.
Crynodeb RAG 2025 ar gyfer Cymru a Lloegr
Cyflwyniad RAG (Coch/Ambr/Gwyrdd)
Mae’r asesiad RAG yn adnodd hunanasesu a ddefnyddir i adrodd ar gydymffurfiad â’r Cyfarwyddyd ar draws 33 o ganlyniadau sy’n cwmpasu holl rychwant SEMD.
Trosolwg o Symudiadau RAG
Ers 2022, mae hunan-ddosbarthiadau coch ac ambr cwmnïau wedi cynyddu, fel y disgwylir yn ystod blynyddoedd cyntaf yr asesiad yn dilyn adborth gan reoleiddwyr o ddigwyddiadau ac archwiliadau, a meincnodi cymar-i-gymar.
Ffigur 54 – Trosolwg RAG o’r 4 blynedd diwethaf
NMae canlyniadau nodedig RAG yn 2025 yn cynnwys:
Canlyniad 3.2: Dŵr amgen – Nododd y rhan fwyaf o gwmnïau safle Ambr ar gyfer dŵr amgen yn 2025. Roedd gwendidau cyffredin yn cynnwys cyflenwadau wrth gefn wedi’u haddasu’n annigonol, heriau wrth ddefnyddio tanciau statig, a gorddibyniaeth ar gymorth cilyddol, nad yw bob amser ar gael yn ymarferol. Dangosodd digwyddiadau yn ystod y flwyddyn y gall lleoliad a hygyrchedd gyfyngu ar ddarpariaeth dŵr amgen, yn hytrach na graddfa yn unig, a bod cadwyni cyflenwi yn agored i niwed yn ystod digwyddiadau cydredol sy’n gysylltiedig â’r tywydd. Mae’r Arolygiaeth yn ailadrodd bod cwmnïau’n parhau i fod yn gyfrifol am yr holl gwsmeriaid sydd wedi colli cyflenwad, a rhaid iddynt sicrhau bod modd gweithredu cynlluniau o dan senarios gwaethaf rhesymol.
Canlyniad 3.3: Cwsmeriaid agored i niwed – Mae hyn yn parhau i fod yn faes parhaus lle mae cwmnïau’n adrodd diffyg cydymffurfiaeth o fewn y RAG. Yn ystod digwyddiadau, mae cwmnïau’n aml yn defnyddio diffiniad rhy gul o fod yn agored i niwed ac nid ydynt bob amser yn blaenoriaethu pob cwsmer sy’n bodloni diffiniad y canllawiau cynllunio ar gyfer argyfyngau (EPG). Er y gwelwyd rhywfaint o arferion da, rhaid i gwmnïau sicrhau bod yr holl gwsmeriaid agored i niwed, gan gynnwys y rheini y tu hwnt i fodelau blaenoriaeth haenog, yn cael cymorth priodol o fewn yr amserlenni gofynnol a bod y trefniadau blaenoriaethu wedi’u diffinio a’u dangos yn glir.
Canlyniad 3.9: Cyfathrebu – Er nad yw bob amser yn cael ei adlewyrchu mewn hunanasesiadau RAG, maes arall y mae’r Arolygiaeth wedi nodi bod angen ei wella yw cyfathrebu yn ystod digwyddiadau byw. Mae’r Arolygiaeth yn parhau i nodi diffygion sylweddol o ran cyfathrebu digwyddiadau. Mae digwyddiadau a adolygwyd yn 2025 yn dangos bod cwsmeriaid yn aml yn derbyn diweddariadau anfynych neu amwys, sy’n cyfrannu at ddryswch a rhwystredigaeth. Adolygodd yr Arolygiaeth ddigwyddiad lle, yn absenoldeb diweddariadau gan gwmni, roedd straeon ar y cyfryngau cymdeithasol yn cymryd drosodd ac roedd pobl yn ciwio mewn gorsafoedd dŵr potel nad oeddent wedi cael eu cyhoeddi, eu hagor na hyd yn oed eu stocio. Disgwylir i gwmnïau ddarparu diweddariadau amserol a chywir yn ystod digwyddiadau, gan gynnwys yr amseroedd adfer tebygol lleiaf a gwybodaeth glir am ddarpariaeth dŵr amgen, yn unol â gofynion yr EPG ar gyfer hygyrchedd ac ymatebolrwydd 24/7.
Canlyniad 4.4: Cyflenwyr allanol – Roedd y rhan fwyaf o gwmnïau wedi asesu’r canlyniad hwn fel un ambr, gan adlewyrchu gwelededd a sicrwydd cyfyngedig dros gadwyni cyflenwi estynedig, yn enwedig isgontractwyr a gweithgynhyrchwyr tramor. Er bod darpariaethau cytundebol ar waith yn gyffredin, mae llawer o gwmnïau’n dweud nad oes ganddynt fecanweithiau effeithiol i brofi cydymffurfiaeth yn ymarferol. Mae cwmnïau sy’n adrodd am sefyllfaoedd cryfach yn dangos disgwyliadau cytundebol cliriach, adolygiadau rheolaidd, a defnydd cyson o ofynion diogelwch ar draws yr holl gyflenwyr ac isgontractwyr.
Canlyniad 4.8: Diogelwch personél – Mae gofynion ar gyfer asesiadau risg sy’n seiliedig ar rôl wedi bod ar waith ers 1 Mawrth 2022, gyda chanllawiau’n cael eu hatgyfnerthu ymhellach yn dilyn ymgynghoriad â’r diwydiant ym mis Chwefror 2024, ac wedyn yn cael eu diweddaru mewn canllawiau diogelwch amddiffynnol (PSG). Ar 3 Ebrill 2024, rhoddodd yr Arolygiaeth wybod i gwmnïau y byddai angen tystiolaeth archwilio ar gyfer gweithdrefnau a mesurau diogelwch personél erbyn 1 Ebrill 2025. O ganlyniad, mae cwmnïau dŵr wedi cael llawer o rybudd ac amser i fwrw ymlaen â’u mesurau Diogelwch Personél (PERSEC).
Roedd dadansoddiad gan yr Arolygiaeth yn dangos tuedd ymysg cwmnïau i newid o sgôr Gwyrdd i Ambr neu Goch ar y canlyniadau sy’n gysylltiedig â phwnc yr archwiliad. Ar sail hunanasesiadau’r cwmnïau o’r pwnc archwilio hwn, nododd 10 cwmni ddirywiad yn eu safleoedd RAG (Coch-Ambr-Gwyrdd). Mae’r patrwm hwn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o gwmnïau’n goramcangyfrif eu cydymffurfiad â chanllawiau RAG. O ganlyniad, cyhoeddodd yr Arolygiaeth argymhelliad ar draws y diwydiant i gwmnïau gynnal gwerthusiad trylwyr a gonest o’u proffiliau risg fel rhan o’r broses hunanasesu RAG.
Canfu dadansoddiad o dystiolaeth archwilio gan yr Arolygiaeth fod cwmnïau sy’n adrodd gostyngiad yng nghanlyniad 4.8 wedi tynnu sylw at ystod o wendidau, gan gynnwys:
Amgylchedd risg newidiol a thirwedd bygythiad sy’n esblygu.
Mesurau rheoli allweddi gwan, gyda risgiau’n gysylltiedig ag allweddi coll ac allweddi nad ydynt wedi cael eu dychwelyd.
Dim digon o wiriadau symud ar gyfer trosglwyddo’n fewnol i rolau sensitif.
Dogfennau cyfyngedig a dibyniaeth ar weithdrefnau lleol ad hoc.
Dim polisi ôl-ofal ffurfiol ar gyfer diogelwch personél.
Ôl-groniad o asesiadau risg, asesiadau risg anghyflawn neu dim asesiadau risg yn seiliedig ar rôl.
Archwiliadau diogelwch personél annigonol ar gyfer contractwyr.
Digwyddiadau Nodedig – Cymru a Lloegr
Yn 2025, adroddodd cwmnïau am ystod o ddigwyddiadau diogelwch, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau colli cyflenwad mawr. Roedd digwyddiadau y rhoddwyd gwybod amdanynt yn cynnwys lladradau ar safleoedd gwaith ac ymgais i ddwyn ceblau, gan gynnwys mewn un safle seilwaith cenedlaethol critigol. Yn dilyn yr archwiliad diogelwch personél a gynhaliwyd fel rhan o’r broses RAG, rhoddwyd gwybod am nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud â rheoli diogelwch personél a thrin gwybodaeth sensitif.
Profodd un cwmni gyfres o ddigwyddiadau cynllunio brys ar ôl colli cyflenwad, ac roedd yn priodoli hyn i dywydd poeth. Mae’r Arolygiaeth yn disgwyl i gwmnïau fod â chynlluniau ar waith i barhau i gyflenwi dŵr bob amser. Mae paragraff 4(a) o’r Cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau ar gyfer cyflenwi dŵr gael eu paratoi ar y sail bod yn rhaid i’r cwmni barhau i gyflawni ei holl swyddogaethau cyflenwi dŵr.
Lladrad tanwydd o safle Seilwaith Cenedlaethol Critigol (CNI)
Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys mynediad heb awdurdod i safle CNI i ddwyn tanwydd o danceri cyflenwi dŵr amgen a oedd yn ei dro wedi caniatáu mynediad i rannau o’r broses drin, er na fu ymyriant o ran triniaeth.
Ni ddifrodwyd perimedr a gatiau’r safle gwaith yn ystod y lladrad. Yn y dyddiau cyn y lladrad, roedd clo cyfunrhif y brif glwyd wedi cael ei newid oherwydd traul, ond cadwyd yr un cyfunrhif. Nid oedd yn glir o asesiad yr Arolygiaeth a oedd y cyfunrhif yn hysbys i’r drwgweithredwyr.
I ddechrau, nid oedd y cwmni’n cydnabod y digwyddiad hwn fel digwyddiad difrifol oherwydd bod rhai asedau gweithredol y tu allan i gaeadle’r ffin fewnol. Er bod uwchgyfeirio mewnol wedi digwydd, mae’r cwmni’n diweddaru ei brosesau adrodd.
Yn dilyn y digwyddiad, cyflwynodd y cwmni brosesau gwarchod 24/7, gydag archwiliadau mynediad llym a phatrolau rheolaidd o’r perimedrau a’r asedau gweithredol y tu allan i’r ffens fewnol. Mae mesurau tymor hwy bellach ar waith.
Troseddau cyfundrefnol difrifol
Ym mis Ionawr 2025, adroddodd cwmni dŵr am ddigwyddiad diogelwch ar safle CNI a oedd yn cynnwys ymgais i ddwyn metel. Aeth tresmaswyr ar y safle drwy dir fferm cyfagos tra oedd gweithredwr yr ystafell reoli yn cerdded o amgylch y safle. Er bod larymau wedi’u tanio, ni chafwyd mynediad.
Yn dilyn y digwyddiad, rhoddodd y cwmni ystod o fesurau lliniaru ar waith. Comisiynwyd gwaith i uwchraddio’r ffens derfyn, a chafodd staff wybodaeth am risgiau tresmaswyr a gofynion uwchgyfeirio. Penderfynodd yr Arolygiaeth fod difrifoldeb y digwyddiad yn cyfiawnhau archwiliad wedi’i dargedu o’r safle, a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2025.
Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS)
Mae Rheoliadau Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth 2018 (‘Rheoliadau NIS’) yn sicrhau bod y dechnoleg weithredol a ddefnyddir i gynnal cynhyrchiant dŵr yfed yn parhau i fod yn gadarn ac yn weithredol. Mae hyn yn cefnogi darparu dŵr dihalog bob amser a heb darfu. Yng Nghymru a Lloegr, mae’r gwaith o weithredu a chyflawni Rheoliadau NIS yn cael ei ddirprwyo i’r Arolygiaeth. Cyflawnir hyn drwy reoleiddio a goruchwylio cydymffurfiad â Rheoliadau NIS drwy asesu seibergadernid a diogelwch technoleg weithredol.
Mae technoleg weithredol (OT) yn cyfeirio at y caledwedd a’r systemau meddalwedd a ddefnyddir i fonitro a rheoli dyfeisiau ffisegol, prosesau a seilwaith mewn gweithrediadau diwydiannol. Mae’n wahanol i dechnoleg gwybodaeth gan ei fod yn canolbwyntio ar reoli’r amgylchedd ffisegol yn hytrach na phrosesu a rheoli data. Mae technoleg weithredol yn rheoli gweithrediad ac awtomeiddio offer a ddefnyddir ar gyfer tynnu, trin a dosbarthu dŵr yfed, gan gynnwys pympiau anfon ymlaen, pympiau dosio cemegol, falfiau, systemau cau i ddiogelu ansawdd dŵr a systemau diogelwch awtomataidd. Mae’n hanfodol er mwyn cynhyrchu dŵr yfed dihalog yn awtomatig, yn ddiogel ac yn gost-effeithlon. Er mwyn diogelu’r gwasanaeth hanfodol hwn, rhaid i’r technolegau hyn fod yn briodol, yn ddiogel ac yn addas i’r diben i sicrhau cynhyrchu parhaus a dibynadwy, ar yr un pryd ag amddiffyn rhag bygythiadau sy’n esblygu i seilwaith cenedlaethol critigol.
Mae enghreifftiau o OT yn cynnwys systemau rheoli diwydiannol (ICS) fel systemau Rheoli Goruchwylio a Chaffael Data (SCADA) ar gyfer trin a dosbarthu dŵr yfed. Mae SCADA yn system o gydrannau meddalwedd a chaledwedd sy’n caniatáu i brosesau diwydiannol weithredu’n awtomatig yn lleol neu mewn lleoliadau anghysbell. Mae’n cael ei ddefnyddio i fonitro, casglu a phrosesu data amser real; gan ryngweithio’n uniongyrchol â dyfeisiau fel synwyryddion, falfiau, pympiau a moduron. Mae enghreifftiau eraill o OT yn cynnwys Rhyngwynebau Peiriant Dynol (HMI), sef sgriniau, neu ryngwynebau sy’n cysylltu pobl â pheiriannau, systemau neu ddyfeisiau. Byddai mynediad at dechnoleg o’r fath gan ddrwgweithredwyr â bwriad aflonyddgar yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol.
Rhaid i gwmnïau dŵr sy’n gwasanaethu poblogaeth o 200,000 neu fwy o bobl roi asesiad risg ar waith i wella cadernid OT. Mae’r sector yn defnyddio Fframwaith Seiberasesu (CAF) NCSC ar gais yr Arolygiaeth. Ers 2018, mae’r Arolygiaeth wedi cael ffurflen CAF bob blwyddyn gan bob cwmni sy’n dod o dan reoliadau NIS.
Mae’r cwmnïau’n mapio eu gallu i wrthsefyll bygythiadau gan ddrwgweithredwyr yn erbyn canlyniadau sy’n cyfrannu at arferion seiber da. Mae’r asesiad risg hwn yn sail i gynlluniau buddsoddi a meysydd sydd angen mesurau rheoli ychwanegol.
Rhwng 2023-2024, cafodd pob cwmni dŵr archwiliad seibergadernid gan yr Arolygiaeth i ddilysu asesiad CAF hunanasesu pob cwmni. Rhoddwyd hysbysiadau cyfreithiol i ddau gwmni i wella eu hasesiadau risg mewn ymateb i’r archwiliadau. Mae gan bob cwmni yng Nghymru (a Lloegr) hysbysiad rheoliad 18 i fynd i’r afael â risgiau seiber gweddilliol a’u cynlluniau gwella seiber PR24. Mae Amcanion Rheoli Prisiau Ofwat ynghlwm wrth gyflawni’r hysbysiadau hyn yn llawn. Gall methu â bodloni’r gofynion hysbysu arwain at gosbau Ofwat, ar ben unrhyw orfodaeth gan yr Arolygiaeth.
Yn ystod 2025, cwblhawyd yr archwiliad seibergadernid terfynol. Cyfarfu’r Arolygiaeth hefyd â chwmnïau 62 o weithiau, gan gynnwys naw cyfarfod wyneb yn wyneb. Cynhaliwyd archwiliadau pen desg i edrych ar y cynnydd a wnaed yn 2025 yn erbyn archwiliad 2024. Gofynnwyd i gwmnïau am dystiolaeth ar Ganlyniadau sy’n Cyfrannu (COs) lle dywedasant eu bod wedi gwneud cynnydd yn 2025.
Deunyddiau mewn cysylltiad â dŵr yfed (Rheoliad 31)
Mae rheoliad 31 yn gwahardd cwmni dŵr rhag ychwanegu unrhyw sylwedd neu gynnyrch i ddŵr, neu rhag cyflwyno unrhyw sylwedd neu gynnyrch i ddŵr, pan allai effeithio ar ansawdd dŵr yfed. Mae hyn yn cynnwys pob cemegyn, cynnyrch adeiladu a chynnyrch trin a ddefnyddir gan ymgymerwyr dŵr, o ffynhonnell y dŵr i’r pwynt danfon i adeilad y defnyddiwr. Mae hon yn ddyletswydd hanfodol oherwydd gall deunyddiau effeithio ar flas neu arogl, neu drwytholchi sylweddau niweidiol i ddŵr. Mae’r rheoliad yn nodi sut y gellir rhoi cymeradwyaethau i gynhyrchion adeiladu a thrin, a deunyddiau nad ydynt yn niweidio ansawdd dŵr na diogelwch defnyddwyr.
Yn ystod 2025, parhaodd yr Arolygiaeth i dderbyn a phrosesu ceisiadau am gymeradwyo cynhyrchion sydd mewn cysylltiad â dŵr yfed o dan reoliad 31. Derbyniwyd y nifer canlynol o geisiadau:
Ffigur 55 – Ceisiadau, newidiadau ac ail-gymeradwyo Rheoliad 31
Mae’r Arolygiaeth wedi parhau i weithio gyda phartneriaid TG i ddatblygu’r porth rheoliad 31 ymhellach ar gyfer cymeradwyo cynnyrch, sydd wedi cael derbyniad da yn gyffredinol. Disodlodd y system newydd ffurflenni cais â llaw gyda ffurflenni cais rhyngweithiol ar-lein sy’n arwain ymgeiswyr i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn ystyried cymeradwyo, newid neu ail-gymeradwyo cynnyrch. Mae’r broses ar-lein yn cefnogi safonau hygyrchedd, yn caniatáu i ymgeiswyr weld y cam y mae eu ceisiadau wedi’i gyrraedd, a bydd yn sicrhau bod y broses ar gael i fwy o ddefnyddwyr. Bydd cam nesaf y prosiect yn darparu proses o’r dechrau i’r diwedd.
Ym mis Awst 2025, fe wnaethom gyhoeddi llythyr (Cyfeirnod DWI: R31-06/2025) yn lansio’r Rhestr o Gynnyrch Cymeradwy rhyngweithiol newydd ar-lein. Mae hyn wedi newid o fod yn ddogfen PDF fisol wedi’i chyhoeddi i fod yn wefan ryngweithiol y gellir chwilio drwyddi sy’n cael ei diweddaru mewn amser real, rhywbeth y mae’r diwydiant ac ymgeiswyr wedi bod gofyn amdano ers tro byd. Mae hyn i bob pwrpas wedi dod yn gatalog ar-lein byw o gynhyrchion cymeradwy ac mae ar gael yn: https://www.dwi.gov.uk/drinking-water-products/resources-for-water-companies/approved-considered-products/approved_products/.
Parhaodd y gwaith o nodi stiwardiaeth wael dros gynnyrch drwy gydol 2025, gyda nifer o gynhyrchion cymeradwy yn cael eu dirymu ar unwaith o Restr yr Ysgrifennydd Gwladol o Gynnyrch Cymeradwy. Roedd yr holl faterion a nodwyd yn deillio o newidiadau heb eu hawdurdodi i gynnyrch. Gall hyd yn oed newidiadau bach anawdurdodedig i fformwleiddiad cynnyrch, deunydd neu gydrannau greu newidiadau annerbyniol i ansawdd dŵr neu beri risg i iechyd y cyhoedd. O ganlyniad, mae’n hanfodol bod yr holl newidiadau i’r fformiwleiddiad yn cael eu cymeradwyo cyn i’r cynhyrchion gael eu cyflenwi.
Pan fydd gwneuthurwyr wedi gwneud cais am newidiadau i gynnyrch cymeradwy, bydd y rhain wedi cael eu hadolygu a, lle bo angen, bydd profion yn cael eu cynnal cyn eu derbyn. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw broblemau gyda’r cynnyrch pan fydd yn cael ei ddefnyddio.
Mae’r tabl isod yn rhestru’r cynhyrchion a ddi-rymwyd a’r llythyrau cysylltiedig a gyhoeddwyd yn ystod 2025, gyda rhai cynhyrchion yn cael eu dirymu’n llwyr ac yn gorfod cyflwyno ail-gais llawn, a chynhyrchion eraill yn destun amodau defnyddio.
O ran Arlington 1000 Litr Bag-in-Box Combo Liner, gosodwyd amodau defnyddio ar y cynnyrch yn hytrach na dirymiad llawn i ganiatáu i ddŵr ar gyfer defnydd domestig fod ar gael yn ystod yr haf lle’r oedd llawer o gwmnïau dŵr yn profi cyfnod hir o dywydd sych. Dyma enghraifft o agwedd bragmatig y tîm yn ystod y flwyddyn.
Dyddiad
Cam Gweithredu
Cynnyrch / Cynhyrchydd
Cyfeirnod
Manylion / Amodau
Ion 25
Dirymu cymeradwyaeth cynnyrch
GF ABS Pressure Pipe / George Fischer
R31-01/2025
Ion 25
Dirymu cymeradwyaeth cynnyrch
8040-SBNF-DWI Membrane Elements / Mann+Hummel Water and Fluid Solutions
R31-02/2025
Ebrill 25
Dirymu cymeradwyaeth cynnyrch
PE100 High Performance Black Pipe / Radius Systems Ltd.
R31-03/2025
Awst 25
Diweddaru’r gofynion ar gyfer cymeradwyo
Arlington 1000 Litr Bag-in-Box Combo Liner
R31-04/2025
Ni ellir defnyddio’r cynnyrch hwn ar gyfer yfed neu at ddibenion coginio. Daw’r newidiadau i rym ar 06/08/2025.
Awst 25
Diweddaru’r gofynion ar gyfer cymeradwyo
Amazon SupaSpun II Cartridge Filters ac Amazon SupaGard Cartridge Filters
R31-05/2025
Bydd cynhyrchion a gyflenwir cyn 06/08/2025 mewn cwarantîn ac ni ellir eu gosod. Rhaid rhoi stoc o gynnyrch sydd eisoes wedi’i brynu mewn cwarantîn a’i labelu’n glir na ddylid ei ddefnyddio hyd nes yr hysbysir yn wahanol.
Problem gydag enwi gwahanol gynnyrch wedi’i datrys.
Tabl 20 – cynhyrchion a ddi-rymwyd a’r llythyrau cysylltiedig a anfonwyd yn ystod 2025
Mae problemau gyda rhai o’r cynhyrchion sydd wedi’u dirymu wedi cael eu datrys ers hynny ac mae’r cynhyrchion hyn wedi dychwelyd i’r Rhestr o Gynhyrchion Cymeradwy. Dylid nodi bod enw a chyfeirnod y cynnyrch yn debygol o fod wedi newid. Bydd eraill yn cael adolygiad llawn a phrofion ychwanegol i wirio a ellir eu cymeradwyo.
Nid ar chwarae bach mae’r Arolygiaeth yn gwneud penderfyniadau i ddirymu cynnyrch neu wahardd eu defnyddio. Fodd bynnag, os nad yw’r gofynion llym ar gyfer cynnal cymeradwyaeth cynnyrch yn cael eu bodloni a bod pryder posibl ynghylch iechyd y cyhoedd, efallai y bydd angen dirymu. Mae defnyddio cynnyrch nad yw wedi’i gymeradwyo yn dramgwydd a chaniateir ei erlyn o dan reoliad 33.
Ar ben hynny, roedd nifer o ddeiliaid cymeradwyaeth naill ai wedi cyflwyno ceisiadau hwyr neu wedi peidio â gwneud cais am ail-gymeradwyo cynnyrch a arweiniodd at oedi cyn asesu’r cais ail-gymeradwyo. Arweiniodd hyn at gynnydd mewn cynhyrchion sydd wedi dod i ben, gyda gweithgynhyrchwyr yn gorfod ymgymryd â’r broses gyfan o gymeradwyo cynnyrch o’r dechrau.
Ym mis Rhagfyr 2025, hysbyswyd gweithgynhyrchwyr drwy lythyr, Cyfeirnod DWI: R31-10/2025, y bydd yn ofynnol i’r holl raddau cydnabyddedig sydd wedi’u cynnwys ar hyn o bryd yn Atodiad 3 y Rhestr o Gynhyrchion cymeradwy, fynd drwy’r broses gymeradwyo gyda’r gofyniad eu bod yn gwneud cais am y gymeradwyaeth hon erbyn diwedd mis Mehefin 2026. Mae hyn yn ein galluogi i gadw rhestr wedi’i diweddaru o gynhyrchion gradd cydnabyddedig a’u fformwleiddiadau presennol.
Mae’r Arolygiaeth wedi gwneud llawer o waith i sicrhau cyfleusterau profi ar gyfer BS6920 a phrofion rheoliad 31 llawn drwy gydol y flwyddyn, gyda phum labordy’n cael eu hychwanegu at y rhestr o labordai dynodedig ar gyfer profion BS6920 ym mis Chwefror 2025. Cafodd labordy ei ddynodi’n ddiweddar i gynnal profion rheoliad 31 llawn, ac rydym yn parhau i weithio tuag at gynyddu’r capasiti hwn drwy gydol 2026. Rydym hefyd yn cydweithio â’r diwydiant dŵr i ddatrys y broblem, ac mae’r gwaith hwn yn parhau. Mae’n ofynnol i labordai arddangos a dangos tystiolaeth o gydymffurfio â’r safonau perthnasol i gael eu dynodi ar gyfer profion rheoliad 31. Ar ôl i aelodau o’r tîm rheoliad 31 wneud cyflwyniad ar heriau profi rheoliad 31 yng Ngŵyl Arloesi Northumbrian Water ym mis Gorffennaf 2025, a thrafodaethau dilynol, mae’r tîm hefyd wedi cydweithio â thîm Galluogwyr Arloesi Ofwat i gyhoeddi Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer bwrw ymlaen â phrofion labordy pellach sydd i fod i gael eu cyhoeddi yn Ch1 2026. Mae’r gwaith hwn yn ceisio darparu llwybr i labordai ymgymryd â gofynion profi rheoliad 31 yn llawn.
Cyhoeddiadau ymchwil
Cyhoeddwyd pum prosiect ymchwil yn 2025. Ceir crynodeb o bob un isod:
Effeithiolrwydd Prosesau Trin Dŵr wrth dynnu Cyfansoddion sy’n Tarfu ar Endocrin (EDCs)
Daeth y prosiect hwn i’r casgliad bod cemegion sy’n tarfu ar endocrin yn bresennol yn y dŵr ffynhonnell a oedd yn cyflenwi’r tri safle gwaith trin dŵr yfed yr ymchwiliwyd iddynt, er bod y crynodiadau’n amrywio’n fawr yn ofodol ac yn dymhorol. Ni ddaethpwyd o hyd i’r rhan fwyaf o sylweddau mewn crynodiadau a oedd yn uwch na’r terfynau canfod dadansoddol, sy’n dangos cyffredinolrwydd isel. Lle canfuwyd EDCs, roedd steroidau a nonylffenolau yn cael eu nodi’n gyson, gan alinio â data monitro hanesyddol. Un casgliad allweddol oedd nodi di-isobutyl phthalate mewn tua hanner yr holl samplau, sef y dystiolaeth feintiol gyntaf o’i bresenoldeb eang mewn ffynonellau dŵr yfed.
Oherwydd amlder isel darganfyddiadau cadarnhaol a maint cyfyngedig y sampl, daeth yr astudiaeth i’r casgliad na ellid mesur effeithiolrwydd gwaredu trwy driniaeth gyda hyder ystadegol. Er bod gwaredu DIBP yn ymddangos yn fwy cyson ar y safle oedd yn defnyddio techneg hidlo tywod araf, nid oedd modd profi’r arsylwad hwn yn gadarn. Yn gyffredinol, daeth y prosiect i’r casgliad nad yw’r dulliau monitro presennol yn ddigonol i ddod i gasgliadau pendant ar berfformiad triniaeth ar gyfer EDCs. Nodwyd bod diffyg gwerth canllaw ar sail iechyd ar gyfer DIBP yn fwlch rheoleiddio sylweddol, gan dynnu sylw at yr angen am asesiad tocsicoleg pellach a gwell monitro i gefnogi gwaith rheoli risg yn well yn y dyfodol
Astudiaethau Effeithiolrwydd Triniaeth Dŵr ar Raddfa-Mainc a Graddfa-Peilot o Waredu PFAS
Daeth y prosiect hwn i’r casgliad bod effeithiolrwydd prosesau trin ar gyfer gwaredu PFAS yn amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar hyd cadwyn, strwythur cemegol a thechnoleg trin PFAS. Canfuwyd bod prosesau amsugnol fel cyfnewid ïonau a charbon wedi’i actifadu gronynnog yn effeithiol ar gyfer PFAS cadwyn hirach ond yn gyson yn llai effeithiol ar gyfer cyfansoddion cadwyn fer, gyda PFAS yn dod i’r amlwg yn gynnar yn y profion. Roedd cyfnewid ïonau yn dangos mwy o gapasiti a pherfformiad gweithredol hirach na charbon wedi’i actifadu gronynnog, er bod ansawdd dŵr ffynhonnell yn dylanwadu ar y ddau.
Prosesau pilenni, yn enwedig nano-hidlo ac osmosis gwrthdro, a gyflawnodd yr effeithlonrwydd gwaredu uchaf, gyda chyfraddau lleihau o hyd at 99% ar gyfer llawer o PFAS a mwy nag 80% ar gyfer cyfansoddion cadwyn fer. Nodwyd bod nano-hidlo yn well nag osmosis gwrthdro oherwydd perfformiad gwaredu tebyg ar bwysau gweithredu is. Yn gyffredinol, roedd prosesau ocsideiddio a lleihau uwch yn aneffeithiol ar y dosau a brofwyd, a dim ond ychydig o waredu a wnaeth y ceulad. Daeth yr astudiaeth i’r casgliad y dylai profion ar raddfa beilot ganolbwyntio ar garbon wedi’i actifadu gronynnog, cyfnewid ïonau, cleiau wedi’u haddasu ar yr wyneb, a nano-hidlo i bennu eu dichonoldeb gweithredol ar raddfa lawn.
Arafyddion Fflamau Organoffosfforws – Risg i Ddŵr Yfed yng Nghymru a Lloegr – Cam 2
Daeth y prosiect hwn i’r casgliad bod modd canfod arafyddion fflamau organoffosfforws mewn dŵr yfed amrwd a dŵr yfed wedi’i drin yng Nghymru a Lloegr, er bod y crynodiadau’n isel ar y cyfan. Nodwyd mai ffosffad Tri(2‑ethylhexyl) oedd y cyfansoddyn a ganfuwyd amlaf ac roedd yn bresennol ar y crynodiadau uchaf ar draws safleoedd sy’n cael eu monitro. Roedd effeithiolrwydd gwaredu yn amrywio’n sylweddol rhwng sylweddau a safleoedd gwaith trin dŵr, gan ddangos perfformiad anghyson prosesau trin confensiynol.
Daeth asesiad risg iechyd pobl i’r casgliad nad yw dod i gysylltiad ag arafyddion fflamau sy’n cael eu monitro drwy ddŵr yfed yn debygol o beri risg sylweddol i iechyd pobl o dan yr amodau presennol. Fodd bynnag, nododd yr astudiaeth ansicrwydd sylweddol ynghylch y defnydd o arafyddion fflamau yn y DU, sy’n cyfyngu ar hyder mewn asesiadau amlygiad. Daeth y prosiect i’r casgliad y byddai gwell data ar ddefnydd, risg dalgylch a monitro wedi’i dargedu ar y cyfansoddion a ganfyddir amlaf yn gwella dealltwriaeth yn sylweddol o risgiau posibl i gyflenwadau dŵr yn y dyfodol.
Technoleg diheintio a diheintio amgen ar gyfer dŵr masnachol
Cadarnhaodd y prosiect hwn mai’r technolegau diheintio a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru a Lloegr yw triniaeth uwchfioled (UV) a sodiwm hypoclorit, gan adlewyrchu eu heffeithiolrwydd a’u cynefindra gweithredol.
Daeth y dadansoddiad i’r casgliad mai toddiant hypoclorit sy’n cynnig y perfformiad diheintio cyffredinol mwyaf cytbwys, yn enwedig o ran effeithlonrwydd gwaredu microbaidd, rheoli costau ac asedau, er gwaethaf ei botensial i ffurfio sgil-gynhyrchion diheintio. Roedd diheintio UV yn ail ond roedd yn gysylltiedig â chymhlethdod gweithredol. Daethpwyd i’r casgliad bod cloramineiddio a hidlyddion canhwyllau seramig yn anaddas fel diheintyddion annibynnol. Nododd asesiad o arfer rhyngwladol fod uwch-hidlo, hydoddiant ocsidiol cymysg ac asid peracetig yn cyfiawnhau ymchwiliad pellach, a nodwyd bod angen bod yn ofalus gyda bromin oherwydd ansicrwydd ynghylch ffurfio sgil-gynhyrchion ac effeithiau iechyd.
Cryptosporidiwm – Adolygiad o adroddiadau’r grŵp o arbenigwyr, llenyddiaeth a digwyddiadau
Dangosodd adolygiad o ganllawiau arbenigol blaenorol, ynghyd â dadansoddiad o ddigwyddiadau Cryptosporidiwm yng Nghymru a Lloegr rhwng 2005 a 2022, nad yw methiannau’n deillio o un prif achos. Yn hytrach, roedd digwyddiadau’n cael eu cysylltu’n bennaf â thriniaeth annigonol mewn perthynas â risg dalgylch, methiannau neu ddiffygion mewn asedau, a gwendidau mewn gweithdrefnau gweithredol neu hyfforddiant staff.
Daeth y prosiect i’r casgliad hefyd, er bod fframweithiau rheoleiddio a chanllawiau wedi esblygu, bod angen parhau i fod yn wyliadwrus ar draws y system cyflenwi dŵr lawn, o’r dalgylch i’r defnyddiwr. Mae amrywiaeth eang o opsiynau monitro a chanfod ar gael erbyn hyn, gan gynnwys mesurau dirprwyol fel afloywder a chyfrif gronynnau, yn ogystal â dulliau canfod uniongyrchol gan ddefnyddio cyfrifiadau öosyst a thechnegau moleciwlaidd. Nodwyd bod technolegau canfod sy’n dod i’r amlwg yn cynnig manteision posibl yn y dyfodol, er bod angen gwerthuso eu rôl mewn monitro rheoleiddio arferol ymhellach.
O ran triniaeth, daeth yr adolygiad i’r casgliad bod nifer o rwystrau effeithiol ar gael, gan gynnwys gwaredu ffisegol, ychwanegu osôn a diheintio uwchfioled. Nodwyd bod technolegau mwy newydd, fel puro â balast a philenni seramig, yn arbennig o addawol ar sail gosodiadau diweddar ar raddfa fawr yn y DU. Yn gyffredinol, daeth y prosiect i’r casgliad bod rheoli Cryptosporidiwm yn effeithiol yn dibynnu ar ddull seiliedig ar systemau sy’n integreiddio rheoli dalgylch, dylunio triniaeth gadarn, gwaith cynnal a chadw asedau cadarn ac arferion gweithredol cymwys, wedi’u hategu gan dystiolaeth gyfredol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Grŵp Arbenigol y Prif Arolygydd – Fframwaith llywodraethu ar gyfer casglu dŵr glaw ac ailddefnyddio dŵr llwyd
Mae Cymru a Lloegr yn wynebu her go iawn o ran prinder dŵr. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhagweld bwlch yn y galw o bum biliwn litr y dydd erbyn 2055 ac mae mynd i’r afael â hynny’n galw am weithredu mewn sawl ffordd, gan gynnwys defnyddio’r dŵr sydd gennym eisoes yn ddoethach. Yn 2025, lluniodd Grŵp Arbenigol y Prif Arolygydd yr adroddiad hwn: Governance Framework for Rainwater Harvesting and Greywater Reuse Systems. Mae’r adroddiad yn nodi sut gall casglu dŵr glaw ac ailddefnyddio dŵr llwyd (casglu dŵr at ddibenion fel fflysio toiledau, dyfrhau gerddi a golchi dillad) chwarae rhan bwysig yn y gwaith o leihau’r galw ar ein cyflenwad dŵr yfed, gan ddiogelu iechyd y cyhoedd yn gadarn ar yr un pryd. Mae’r prif ganfyddiadau’n cynnwys:
Mae hyd at 22% o ddefnydd dŵr y cartref yn mynd ar fflysio toiledau yn unig – gallai pob un o’r rhain ddefnyddio dŵr llwyd neu ddŵr glaw wedi’i gasglu yn ddiogel yn hytrach na dŵr yfed.
Byddai achrediad gorfodol ar gyfer contractwyr a gosodwyr systemau ailddefnyddio dŵr (yn debyg i’r Gofrestr Diogelwch Nwy) yn rhoi’r hygrededd a’r cysondeb sydd eu hangen ar y sector i dyfu’n ddiogel.
Fel yr arbenigwyr technegol ar ddiogelwch dŵr yfed, rydym wedi ymrwymo i feithrin hyder y cyhoedd ym maes ailddefnyddio dŵr ac mae’r adroddiad hwn yn darparu’r sylfaen dystiolaeth i ddangos y gellir ei wneud yn ddiogel ac yn effeithiol.
Mae gwledydd fel yr Almaen a Gwlad Belg wedi bod yn cynaeafu dŵr glaw yn ddiogel ers dros 20 mlynedd – mae llwybr clir i Gymru a Lloegr ei ddilyn.
Mae deg argymhelliad ac mae’r Arolygiaeth yn gweithio gydag eraill i fwrw ymlaen â’r gwaith.
Chwythu’r chwiban
Gwnaed deg datgeliad i’r Arolygiaeth yn ystod y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026. O’r rhain, roedd naw angen ymchwiliad pellach gan yr Arolygiaeth. Cymerwyd camau pellach mewn ymateb i bum datgeliad yn dilyn ymchwiliad, gan gynnwys cyhoeddi argymhellion yn ymwneud â phrosesau, polisïau a gweithdrefnau’r cwmni.
Er mwyn helpu i feithrin diwylliant agored a chefnogol, mae’r Arolygiaeth yn annog cwmnïau i gyflwyno llwybrau adrodd ar gyfer pryderon ynghylch ansawdd dŵr a systemau gwybodaeth rhwydwaith, yn debyg i’r trefniadau sydd gan rai cwmnïau ar waith ar gyfer pryderon iechyd a diogelwch, ac i gynnal polisi chwythu’r chwiban ffurfiol.
Gweithio gyda rhanddeiliaid
Diweddarodd a chyhoeddodd yr Arolygiaeth ei Gweledigaeth a’i Hamcanion Strategol 2025-30, gan nodi blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod nesaf ac i mewn i’r rheoleiddiwr integredig. Mae’r Arolygiaeth yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau allanol, rheoleiddwyr, adrannau’r llywodraeth, cyrff proffesiynol a sefydliadau academaidd i gyflawni ei hamcanion strategol. Mae diweddariadau penodol ar waith cydweithredol a wnaed gan yr Arolygiaeth yn 2025 i’w gweld isod.
Ffigur 55 – map ymgysylltu â rhanddeiliaid DWI
Diwygio Dŵr
Mae’r Arolygiaeth yn ymgysylltu’n agos â gwaith i ddiwygio’r sector a chreu rheoleiddiwr unedol. Mae wedi gweithio, a bydd yn parhau i weithio, gyda Defra, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Natural England ac Ofwat i ddarparu system reoleiddio ddiwygiedig sy’n sicrhau bod diogelu iechyd y cyhoedd yn parhau i fod wrth galon rheoleiddio’r cyflenwad dŵr yfed.
Mae hyn yn alinio ag arddull adroddiad Lloegr drwy gyflwyno gweithgarwch diwygio mewn ffordd niwtral a ffeithiol sy’n canolbwyntio ar y rheoleiddiwr.
RAPID
Mae’r gwaith hwn yn ategu ymdrechion ehangach i ddiogelu ein cyflenwadau dŵr at y dyfodol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd RAPID (Cynghrair y Rheoleiddwyr ar gyfer Datblygu Seilwaith) gyfres o esboniadau ar y pedwar math o seilwaith sydd eu hangen i ateb y galw yn y dyfodol – cronfeydd dŵr, trosglwyddiadau dŵr, cynlluniau ailgylchu a dihalwyno – sydd, ynghyd ag ailddefnyddio dŵr, yn creu darlun o ddyfodol dŵr cadarn i Gymru a Lloegr.
Sefydlwyd RAPID i gydlynu’r gwaith o ddatblygu a chyflawni cynlluniau seilwaith adnoddau dŵr ar raddfa fawr, y bydd rhai ohonynt yn croesi ffiniau cwmnïau, ac yn gwella cadernid cyflenwadau.
Rheoleiddwyr Ewropeaidd
Mae’r Rhwydwaith Ewropeaidd o Reoleiddwyr Dŵr Yfed (ENDWARE) yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, dan ofal aelodau sy’n cylchdroi, i drafod materion sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr yfed. Mae’r pynciau’n cynnwys sylweddau o bwys sy’n dod i’r amlwg, a chydymffurfio â safonau. Mae gwahanol ddulliau o fonitro, dadansoddi a lliniaru yn cael eu rhannu ar gyfer dysgu ac ymwybyddiaeth o arferion gorau. Efallai y bydd canfyddiadau’r gwaith ymchwil hefyd yn cael eu rhannu er mwyn codi ymwybyddiaeth.
Yn 2025, cynhaliodd yr Arolygiaeth gyfarfod ENDWARE y gwanwyn ar HMS Belfast yn Llundain ac ymunodd cynrychiolwyr o nifer o wledydd ag ef.
Water Safe
Mae’r Arolygiaeth yn cynnal cyfarfod cyswllt bob chwe mis gyda Water Safe ac yn cydweithio ar ymgyrchoedd. Eleni, fe wnaethom rannu gwybodaeth am ddefnyddio sodr plwm yn anghyfreithlon ar gyflenwadau dŵr yfed, a chefnogi ymgyrch cyhoeddusrwydd ac addysg ar gyfer plymwyr.
Atodiad A – Nifer y profion a gynhaliwyd gan gwmnïau
Mae’r rhifau mewn cromfachau’n adlewyrchu nifer y safleoedd gwaith trin dŵr gweithredol, cronfeydd dŵr neu barthau a weithredir gan y cwmni hwnnw yn y rhanbarth yn 2025. Mae rhai cwmnïau’n cael cynnal rhai profion ar samplau a gymerir o bwyntiau cyflenwi, yn hytrach nag o dapiau defnyddwyr
Cod cwmni
Safleoedd gwaith trin dŵr
Cronfeydd dŵr gwasanaeth
Tapiau defnyddwyr
ALE
0 (0)
0 (0)
250 (1)
HDC
4,806 (6)
14,863 (84)
9,980 (25)
DWR
66,454 (65)
78,774 (328)
89,050 (151)
Tabl 21 – Nifer y profion a gynhaliwyd gan gwmnïau
Atodiad B – Cydymffurfio â safonau
Cydymffurfiad microbiolegol ar safleoedd gwaith trin dŵr
Paramedr
Safon
Cyfanswm nifer y profion
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon fesul cwmni
Tabl 22 – Cydymffurfiad microbiolegol ar safleoedd gwaith trin dŵr
Cydymffurfiad microbiolegol mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth
Paramedr
Safon
Cyfanswm nifer y profion
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon fesul cwmni
Canran cydymffurfio
E. coli (cadarnhawyd)
0 nifer/100 ml
19,462
2
DWR (2)
99.99%
Cyfanswm colifformau (cadarnhawyd)
0 nifer/100 ml
19.462
18
DWR(17) HDC(1)
99.91%
Cyfanswm
38,924
20
Tabl 23 – Cydymffurfiad microbiolegol mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth
Cydymffurfiad microbiolegol wrth dapiau defnyddwyr (parthau cyflenwi dŵr)
Paramedr
Safon
Cyfanswm nifer y profion
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon fesul cwmni
Canran cydymffurfio
Bacteria colifform (dangosydd)
0 nifer/100 ml
8,871
33
HDC(9) DWR(24)
99.628%
E. coli (cadarnhawyd)
0 nifer/100 ml
8,871
2
DWR (1)
99.977%
Enterococci (cadarnhawyd)
0 nifer/100 ml
751
0
Cyfanswm
18,493
35
Tabl 24– Cydymffurfiad microbiolegol wrth dapiau defnyddwyr (parthau cyflenwi dŵr)
E. coli ac Enterococci wedi’u canfod ar safleoedd gwaith trin dŵr, mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth a thapiau defnyddwyr
Cwmni
E. coli mewn dŵr yn gadael safleoedd gwaith trin dŵr
E. coli mewn dŵr yn gadael cronfeydd dŵr gwasanaeth
E. coli mewn dŵr yn gadael tapiau defnyddwyr
Enterococci mewn dŵr yn gadael tapiau defnyddwyr
ALE
0 – 0
0 − 0
0 − 12
0 − 12
DWR
0 – 10,990
2 − 15,747
1 − 8223
3 − 34,960
HDC
0- 953
0 – 3,715
1 − 636
1 − 5,304
Tabl 25 – E. coli ac Enterococci wedi’u canfod ar safleoedd gwaith trin dŵr, mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth a thapiau defnyddwyr
Paramedrau cemegol
Enw’r paramedr
Safon
Cyfanswm nifer y profion
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon
Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon fesul cwmni
1,2-Datcloroethan
3 µg/L
468
Alwminiwm
200 µg/L Al
3,188
Amoniwm (parth)
0.5 mg/L NH₄
929
Antimoni
5 µg/L Sb
749
Arsenig
10 µg/L As
749
Bensen
1 µg/L
468
Benso[a]Pyren (cyfanswm)
0.01 µg/L
754
Boron
1 mg/L B
458
Bromad
10 µg/L BrO₃
581
Cadmiwm
5 µg/L Cd
749
Cromiwm
50 µg/L Cr
749
Lliw
20 mg/L Pt/Co
3,225
1
HDC (1)
Copr
2 mg/L Cu
749
Syanid
50 µg/L CN
459
Dargludedd trydanol
2500 µS/cm ar 20°C
2,997
Fflworid
1.5 mg/L F
460
Alffa gros
0.1 Bq/L
1
Beta gros
1 Bq/L
1
Ion hydrogen (pH) – parth
6.5 – 9.5 Gwerth pH
3,220
Haearn
200 µg/L Fe
3,188
17
HDC(2), DWR (16)
Plwm
10 µg/L Pb
747
2
DWR (2)
Manganîs
50 µg/L Mn
3,190
1
DWR (1)
Mercwri
1 µg/L Hg
458
Nicel
20 µg/L Ni
749
Nitrad
50 mg/L NO₃
751
Nitraid – tapiau defnyddwyr
0.5 mg/L NO₂
751
Arogl
Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal
3,222
5
DWR (5)
Plaladdwyr (cyfanswm yn ôl cyfrifiad)
0.5 µg/L
725
Hydrocarbonau aromatig polysyclig (cyfanswm yn ôl cyfrifiad)
0.1 µg/L
752
Diheintydd gweddilliol – rhydd
2 mg/L
8,897
Diheintydd gweddilliol – cyfanswm
2 mg/L
8,261
Seleniwm
10 µg/L Se
749
Sodiwm
200 mg/L Na
749
Sylffad
250 mg/L SO₄
460
Blas (meintiol)
Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal
3,220
5
DWR (5)
Tetracloromethan
3 µg/L
466
Tricloroethen a Tetracloroethen – swm 2 sylwedd
10 µg/L
464
Trihalomethanau (cyfanswm yn ôl cyfrifiad)
100 µg/L
754
Tritiwm
100 Bq/L
1
Cyfanswm
58,956
30
Tabl 26 – niferoedd sampl paramedrau cemegol a nifer y methiannau
Paramedrau plaladdwyr
Enw’r paramedr
Safon
Cyfanswm samplau
Cyfanswm methiannau
Plaladdwyr wedi’u canfod
Plaladdwyr Unigol
0.1 µg/L
9,275
0
0
Tabl 27 – niferoedd sampl plaladdwr unigol a nifer y methiannau
Atodiad C – Methiannau cydymffurfiaeth a digwyddiadau
Y 50 methiant cydymffurfiaeth uchaf yn 2025
Cod cwmni
Enw’r safle
Enw’r paramedr
Asesiad arolygydd
Sgôr CRI
DWR
Safle Gwaith Trin Dŵr Terfynol Court Farm
Bacteria colifform
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
1.670
HDC
Gorsaf Bwmpio Twll Turio Newydd Llandinam
Afloywder (Safle Gwaith Trin Dŵr)
Annhebygol o Ailddigwydd
1.212
DWR
Safle Gwaith Trin Dŵr Terfynol Bretton
Bacteria colifform
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.420
DWR
Canol / Gogledd Henffordd
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.337
DWR
Treffynnon / Yr Wyddgrug
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.323
DWR
Treffynnon / Yr Wyddgrug
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.323
DWR
Malpas / Caerllion / Cwmbrân
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.317
DWR
Malpas / Caerllion / Cwmbrân
Manganîs
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.317
DWR
Rhymni / Bargoed
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.315
DWR
Bae Caerdydd / Rhymni
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.303
DWR
Pencoed / Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.294
DWR
Sgeti / Gŵyr
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.273
DWR
Y Barri / Sili
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.260
DWR
Safle Gwaith Trin Dŵr Terfynol De Alaw
Bacteria colifform
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.210
DWR
Gorllewin Casnewydd
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.185
DWR
Gorllewin Casnewydd
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.185
DWR
Port Talbot / Sgiwen
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.156
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Birchgrove
Bacteria colifform
Annhebygol o Ailddigwydd
0.125
DWR
Ross-On-Wye
Arogl
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.088
DWR
Ross-On-Wye
Blas
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.088
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Rhif 3 Pengarnddu
Bacteria colifform
Argymhellion wedi’u gwneud
0.087
DWR
Cas-gwent / Cil-y-coed
E. coli
Ymchwiliad boddhaol, heb nodi’r achos
0.079
DWR
Abergele / Y Rhyl
Blas
Annhebygol o Ailddigwydd
0.057
DWR
Bontgoch
Arogl
Argymhellion wedi’u gwneud
0.053
DWR
Bontgoch
Blas
Argymhellion wedi’u gwneud
0.053
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Porthmadog
E. coli
Argymhellion wedi’u gwneud
0.053
DWR
Y Barri / Sili
Bacteria colifform (parth)
Ymchwiliad boddhaol, heb nodi’r achos
0.043
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Porthmadog
Bacteria colifform
Argymhellion wedi’u gwneud
0.043
DWR
Casnewydd
Bacteria colifform (parth)
Ymchwiliad boddhaol, heb nodi’r achos
0.041
HDC
Llangollen
Bacteria colifform (parth)
Ymchwiliad boddhaol, heb nodi’r achos
0.040
DWR
Gogledd Ynys Môn
Haearn
Annhebygol o Ailddigwydd
0.037
DWR
Bontgoch
Arogl
Awgrymiadau a wnaed
0.035
DWR
Bontgoch
Arogl
Awgrymiadau wedi’u gwneud
0.035
DWR
Bontgoch
Blas
Awgrymiadau wedi’u gwneud
0.035
DWR
Cas-gwent / Cil-y-coed
Bacteria colifform (parth)
Ymchwiliad boddhaol, heb nodi’r achos
0.032
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Penllain
Bacteria colifform
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.032
DWR
Pentywyn
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.031
DWR
Pentywyn
Haearn
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.031
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Rhosymryson
Bacteria colifform
Annhebygol o Ailddigwydd
0.023
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Hafod
Bacteria colifform
Awgrymiadau wedi’u gwneud
0.020
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Fforchneol
Bacteria colifform
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.017
DWR
Tanc torri pwysedd Clawdd Newydd
Bacteria colifform
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.010
DWR
Trefynwy / Trellech
Bacteria colifform (parth)
Ymchwiliad boddhaol, heb nodi’r achos
0.010
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Axton
Bacteria colifform
Wedi’i gwmpasu gan Offeryn Cyfreithiol
0.007
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Woodhouse
Bacteria colifform
Ymchwiliad boddhaol, heb nodi’r achos
0.007
HDC
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Rhanbarthol Hirnant
Bacteria colifform
Argymhellion wedi’u gwneud
0.007
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth New Forest
E. coli
Ymchwiliad boddhaol, heb nodi’r achos
0.007
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Cefn Saeson
Bacteria colifform
Annhebygol o Ailddigwydd
0.006
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth Penwallis
Bacteria colifform
Awgrymiadau wedi’u gwneud
0.006
DWR
Cronfa Ddŵr Gwasanaeth New Forest
Bacteria colifform
Ymchwiliad boddhaol, heb nodi’r achos
0.006
Tabl 28: Y 50 methiant cydymffurfiaeth uchaf yng Nghymru 2025
Y 50 digwyddiad uchaf yn 2025
Cod cwmni
Enw’r digwyddiad
Dosbarthiad terfynol
Asesiad arolygydd
Sgôr ERI
DWR
Cymeradwyaeth Rheoliad 31
3 (Sylweddol)
Ystyriwyd erlyniad
5,298.682
ALE
Prif Gyflenwad Brychdyn
3 (Sylweddol)
Argymhellion wedi’u gwneud
657.000
DWR
Byrst Aston
3 (Sylweddol)
Offeryn cyfreithiol – gorfodi
245.807
DWR
Colli Cyflenwad Safle Gwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd
4 (Difrifol)
Argymhellion wedi’u gwneud
164.334
DWR
Afliwiad Caerdydd
3 (Sylweddol)
Offeryn cyfreithiol – gorfodi
30.856
DWR
Byrst Prif Bibell Llanrhymni
2 (Dibwys)
Offeryn cyfreithiol – gorfodi
3.631
DWR
Colli cyflenwad Caerfyrddin
3 (Sylweddol)
Offeryn cyfreithiol – gorfodi
3.026
DWR
Afliwiad y Gŵyr / Abertawe
3 (Sylweddol)
Awgrymiadau wedi’u gwneud
1.570
DWR
Afliwiad y Rhyl
2 (Dibwys)
Awgrymiadau wedi’u gwneud
1.564
DWR
Afliwiad Abertawe
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.807
DWR
Blas ac Arogl Caerdydd
3 (Sylweddol)
Argymhellion wedi’u gwneud
0.788
DWR
Blas ac Arogl Llaneirwg
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.549
DWR
Hysbysiad ‘Peidio Defnyddio’ Caernarfon
3 (Sylweddol)
Offeryn cyfreithiol – gorfodi
0.272
DWR
Hysbysiad Dŵr Berw Hwlffordd
3 (Sylweddol)
Argymhellion wedi’u gwneud
0.127
DWR
Cyngor Dŵr Berw Caerfyrddin
3 (Sylweddol)
Offeryn cyfreithiol – gorfodi
0.119
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Llanrhymni
3 (Sylweddol)
Offeryn cyfreithiol – gorfodi
0.079
HDC
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Stryd y Farchnad, Llangollen
3 (Sylweddol)
Argymhellion wedi’u gwneud
0.055
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Caernarfon
3 (Sylweddol)
Argymhellion wedi’u gwneud
0.048
HDC
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Gresffordd (Plwm)
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.044
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Moreton-on-Lugg
3 (Sylweddol)
Awgrymiadau wedi’u gwneud
0.030
DWR
Canfod E. coli yng Nghronfa Ddŵr Gwasanaeth Plas Talgarth
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.017
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Llanelli
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.011
HDC
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Wrecsam (Plwm)
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.011
HDC
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Saltney
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.003
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Treffynnon (Plwm)
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.002
HDC
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Llwyn Onn (Disgyrchiant)
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.002
DWR
Hysbysiad Dŵr Berw Llangoedmor
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.001
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Castell Gwalchmai
2 (Dibwys)
Offeryn cyfreithiol – gorfodi
0.001
DWR
Hysbysiad Dŵr Berw Abercarn
2 (Dibwys)
Offeryn cyfreithiol – gorfodi
0.001
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Porth
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.001
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Llandudno (Plwm)
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Canfod E.coli yng Nghronfa Ddŵr Gwasanaeth New Forest
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Llanfwrog (Plwm)
2 (Dibwys)
Awgrymiadau wedi’u gwneud
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Arberth
1 (Ansylweddol)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Ceintun
1 (Ansylweddol)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Talgarth (Plwm)
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Pontardawe
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Hendy-gwyn
1 (Ansylweddol)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad Dŵr Berw Dinas Mawddwy
1 (Ansylweddol)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Caerffili (Plwm)
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Dyserth, Y Rhyl (Plwm)
1 (Ansylweddol)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Glyn Ebwy
1 (Ansylweddol)
Awgrymiadau wedi’u gwneud
0.000
DWR
Canfod E.coli yng Nghronfa Ddŵr Gwasanaeth Porthmadog
3 (Sylweddol)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Y Fenni (Tanwydd)
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ y Rhyl (Plwm)
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Coed-duon (Plwm)
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ y Bont-faen
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Caerdydd
1 (Ansylweddol)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Llandudno (Plwm)
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
DWR
Hysbysiad ‘Peidio ag Yfed’ Llandudno
2 (Dibwys)
Ni wnaed argymhellion nac awgrymiadau
0.000
Tabl 29 – Y 50 digwyddiad uchaf yng Nghymru 2025
Tell us whether you accept cookies
We use cookies to collect information about how you use GOV.UK. We use this information to make the website work as well as possible and improve government services.
Cookie Consent
Cookies on dwi.gov.uk
Cookies are files saved on your phone, tablet or computer when you visit a website.
We use cookies to store information about how you use the dwi.gov.uk website, such as the pages you visit.
We use 3 types of cookie. You can choose which cookies you're happy for us to use.
Strictly necessary cookies
Always On
These essential cookies do things like remember your progress through a form.
They always need to be on.
Cookies that measure website use
We use Google Analytics to measure how you use the website so we can improve it based on user needs.
Google Analytics sets cookies that store anonymised information about:
how you got to the site
the pages you visit on dwi.gov.uk and how long you spend on each page
what you click on while you're visiting the site
Cookies that help with our communications and marketing
Some dwi.gov.uk pages may contain content from other sites, like YouTube or Flickr, which may set their own cookies. These sites are sometimes called ‘third party’ services. This tells us how many people are seeing the content and whether it’s useful.
In addition, if you share a link to a dwi.gov.uk page, the service you share it on (for example, Facebook) may set a cookie. We have no control over cookies set on other websites - you can turn them off, but not through us.