Guidance documents

Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 17 (Cymru)

Copi y gellir ei argraffu: Reg-17_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).

Darparu gwybodaeth

Os bydd awdurdod lleol o’r farn y gallai cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal fod yn berygl posibl i iechyd pobl, bydd yn rhaid iddo gymryd camau priodol er mwyn sicrhau bod pobl sy’n debygol o yfed dŵr ohono:

a) yn cael eu hysbysu bod y cyflenwad yn berygl posibl i iechyd pobl a bod yn rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno Hysbysiad o dan Reoliad 20;
b) lle y bo’n bosibl, eu bod yn cael eu hysbysu am natur a maint y perygl posibl;
c) eu bod yn cael cyngor er mwyn eu galluogi i leihau unrhyw berygl posibl o’r fath.

Fersiwn 1 o Reoliadau Cymru 2017 – Ionawr 2018