Guidance documents

Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 18 (Cymru)

Copi y gellir ei argraffu: Reg-18_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).

Cefndir

Gweithdrefn yn dilyn ymchwiliad (camau adferol)

Mae Rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad os bydd yn amau, neu os bydd ganddo dystiolaeth, bod cyflenwad yn afiach o ganlyniad i fethu â chydymffurfio â safon, neu os bydd paramedr dangosol yn uwch na’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig a nodir yn rhan 2 neu ran 3 o Atodlen 1. Diben yr ymchwiliad yw nodi’r rheswm pam mae’r cyflenwad yn afiach ac, wedyn, gymryd y camau angenrheidiol i unioni’r achos.

Fel arfer, byddai ymchwiliad yn cynnwys archwilio’r cyflenwad a gwneud gwaith samplu strategol er mwyn nodi’r achos tebygol. Er enghraifft, y risg y bydd halogiad yn mynd i mewn i danciau a siambrau dŵr wedi’i storio, neu beryglon eraill a all fod wedi datblygu neu wedi newid ers i’r asesiad risg diwethaf gael ei gynnal.

Os bydd yr awdurdod lleol yn fodlon, ar sail ei ymchwiliadau, mai’r pibellwaith (neu’r ffitiadau) ar safle domestig (lle y defnyddir y cyflenwad dŵr i’w yfed neu i baratoi bwyd, coginio neu olchi, ac nad yw’n cael ei ddarparu i’r cyhoedd na’i ddefnyddio mewn gweithgaredd masnachol) yw’r rheswm pam mae’r dŵr yn afiach neu pam mae’r paramedr dangosol yn uwch na’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig, bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r bobl yr effeithir arnynt ar unwaith a chynnig cyngor iddynt ar y camau sydd angen eu cymryd i ddiogelu iechyd pobl a/neu arferion hylendid da.

Ar safleoedd lle y darperir dŵr i’r cyhoedd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol, yn ogystal â hyn, fynnu bod y personau perthnasol priodol yn sicrhau bod achos y dŵr afiach neu’r gormodiant o ran paramedr dangosol yn cael ei unioni.

Os nad diffygion yn y pibellwaith o fewn system ddosbarthu safle domestig, na diffyg cydymffurfiaeth â safon na gormodiant o ran paramedr dangosol nad yw’n peri risg i iechyd pobl yw achos y dŵr afiach, rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r person(au) perthnasol am y camau sydd angen eu cymryd er mwyn unioni achos y dŵr afiach. Wedyn bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol roi 28 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i’r person(au) perthnasol o’r adeg y nodir y risg i gymryd camau adferol, h.y. lliniaru’r risgiau yn gyfan gwbl drwy gymryd camau adferol neu roi cynllun adfer addas â therfynau amser priodol sy’n bodloni’r awdurdod lleol ar waith.

Os na chaiff y risgiau eu lliniaru neu os na chytunir ar gynllun addas, o fewn y cyfnod hwn, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno Hysbysiad yn unol ag Adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 er mwyn sicrhau y gwneir y gwelliannau.

Er bod Rheoliad 19 yn rhoi’r opsiwn i awdurdodau lleol roi awdurdodiad, nid yw’r opsiwn hwn ar gael i awdurdodau lleol mwyach ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol, fel yr esbonnir yn y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 19.

Os yw achos y dŵr afiach yn berygl posibl i iechyd pobl, p’un a oedd i’w briodoli i’r pibellwaith o fewn y system ddosbarthu ai peidio, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno Hysbysiad o dan Reoliad 20 i’r personau perthnasol priodol yn mynnu bod camau yn cael eu cymryd.

O dan rai amgylchiadau gall yr awdurdod lleol ddewis cyflwyno Hysbysiad o dan Adran 80 a hysbysiad o dan Reoliad 20. Mae enghreifftiau o amgylchiadau o’r fath yn cynnwys achosion lle y nodir perygl posibl i iechyd pobl, ond mae’r awdurdod lleol yn credu na fydd y person perthnasol yn gwneud y gwaith adfer sydd ei angen. Bydd cyflwyno Hysbysiad o dan Adran 80 yn galluogi’r awdurdod lleol i wneud y gwaith nas cyflawnwyd (o dan Adran 81 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr). Enghraifft arall lle y gellid cyflwyno’r ddau hysbysiad yw pan fydd angen cymryd camau gwahanol am resymau gwahanol. Er enghraifft, gellir cyflwyno Hysbysiad o dan Reoliad 20 er mwyn nodi camau penodol sydd angen eu cymryd i ddiogelu iechyd pobl a gellir defnyddio Hysbysiad o dan Adran 80 ar gyfer camau eraill sydd angen eu cymryd er mwyn sicrhau bod cyflenwad yn iachus neu’n ddigonol. Fel arall, gall asesiad risg a/neu waith monitro nodi risg i iechyd a methiannau/methiannau posibl eraill. Efallai y bydd yr awdurdod lleol am gyflwyno Hysbysiad o dan Reoliad 20 er mwyn gosod cyfyngiadau byrdymor ar y cyflenwad ac, os bydd, sicrhau y cynhelir ymchwiliad. Gellir cyflwyno Hysbysiad o dan Adran 80 ar yr un pryd neu’n fuan ar ôl hynny i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw waith adfer a nodwyd gan yr ymchwiliad gael ei gwblhau neu i gamau eraill gael eu cymryd er mwyn unioni unrhyw achosion o dorri safonau iachusrwydd dŵr nad ydynt yn ymwneud ag iechyd.

Mewn rhai cyflenwadau, gall canlyniad sampl nodi bod cyflenwad yn afiach o ganlyniad i ddiffyg cydymffurfiaeth â’r safon ar gyfer nitrad. Os bydd awdurdodau lleol yn fodlon bod y cyngor gan Public Health England ynghylch lefelau nitrad sy’n berygl posibl i iechyd pobl yn gymwys (gweler canllawiau’r Arolygiaeth http://www.dwi.gov.uk/stakeholders/guidance-and-codes-of-practice/pws-nitrates.pdf am ragor o wybodaeth) wedyn efallai yr ystyrir bod camau gweithredu a nodir yn y nodyn canllaw hwnnw yn briodol ac na fydd angen cyflwyno hysbysiad pellach, ar yr amod nad yw crynodiadau nitrad yn fwy na 100 mg/l fel NO3.

O dan Reoliad 18, os bydd paramedr sy’n cael ei fonitro yn llai aml neu sydd fel arall yn cael ei amrywio o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau, wedi methu â chydymffurfio â safon reoleiddiol, mae’n rhaid i’r amlder monitro ddychwelyd ar unwaith i’r amlder arferol fel y’i nodir yn Nhablau 2 a 3 yn Atodlen 2 yn dilyn y methiant i gydymffurfio â’r safon.

Fersiwn 1 o Reoliadau Cymru 2017 – Ionawr 2018