Guidance documents

Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 6 (Cymru)

Rheoliad 6 (Gofyniad bod rhaid cynnal asesiad risg)

Egwyddorion allweddol y Rheoliadau presennol yw asesu risg a lliniaru. Dyma ymagwedd system gyfan ar gyfer oes y cyflenwad dŵr preifat a’i weithredu. Erbyn hyn, mae’r Rheoliadau wedi symud y tu hwnt i athroniaeth simplistig wedi’i seilio ar gydymffurfiaeth yn canolbwyntio ar y pwynt defnydd terfynol. Mae asesu risg yn ddull rhagweithiol er mwyn adnabod y risgiau (methiannau posibl yn y safonau a risgiau i iechyd pobl) a gweithredu i reoli’r risgiau hyn drwy ddull aml-rwystr.

Mae samplu wrth y pwynt defnydd yn dal yn ofyniad pwysig yn y Rheoliadau ond yn unol ag egwyddorion asesu risg a lliniaru, nid yw samplu a dadansoddi yn unig bob amser yn gallu rhoi sicrwydd ynghylch diogelwch cyflenwad dŵr preifat.

Rhaid i bob awdurdod lleol gynnal asesiad risg o bob system cyflenwi dŵr preifat yn ei ardal[1] o leiaf bob pum mlynedd.

Mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) wedi datblygu set o adnoddau asesu risg i helpu’r awdurdodau lleol i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan reoliad 6. Mae gan bob un nodiadau esboniadol a dolen at fideo hyfforddi ar sut i’w ddefnyddio.

http://www.dwi.gov.uk/private-water-supply/local-auth/risk-assessment.html.

Mae’r adnoddau hyn yn ddeinamig ac wedi cael eu diweddaru ar sail adborth gan y defnyddwyr. Rhaid defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o adnodd asesu risg yr Arolygiaeth Dŵr Yfed. Os bydd awdurdod lleol yn dewis defnyddio methodoleg arall i gwblhau’r asesiad risg, rhaid iddyn nhw sicrhau ei bod yn cydymffurfio â’r safon BS:EN15975-2.

Os defnyddir contractwr i gynnal asesiad risg, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw pennu bod rhaid i’r asesiad risg fodloni gofynion safon Ewropeaidd EN 15975-2 o dan y teitl “Security of Drinking Water Supply – Guidelines for Risk and Crisis Management – Risk Management”. Dyma un o ofynion Rheoliadau 2017. Rhaid i’r awdurdod lleol  benderfynu pa gamau rheoleiddio i’w cymryd (neu beidio â’u cymryd) mewn ymateb  i’r asesiad risg neu ganlyniadau’r sampl: ni chaiff y trydydd parti wneud y penderfyniad (rhaid i’r awdurdod lleol allu profi eu bod wedi ystyried yr wybodaeth er mwyn llywio’u penderfyniad).

Ceir pedair fersiwn o adnodd asesu risg yr Arolygiaeth Dŵr Yfed. Dylai aseswyr risg ddewis yr un fwyaf priodol fesul achos:

  1. Adnodd sy’n cwmpasu ystod gynhwysfawr o drefniadau cyflenwi dŵr preifat.
  2. Adnodd ar gyfer cyflenwadau bach cyffredin sy’n defnyddio dulliau trin syml, sy’n cael ei adnabod fel adnodd ‘Asesiad Risg Cryno’.
  3. Adnodd penodol i asesu’r risg sy’n gysylltiedig â chyflenwadau a ddefnyddir i fflysio toiledau yn unig.
  4. Adnodd ar gyfer cyflenwadau sy’n dod o’r prif gyflenwadau dŵr ac sydd wedi’u dosbarthu’n gyflenwadau Rheoliad 8.

Caiff awdurdod lleol gomisiynu sefydliad neu unigolion allanol i wneud yr asesiadau risg ar eu rhan. Dylent ddefnyddio adnoddau’r Arolygiaeth Dŵr Yfed at y diben hwn, ar yr amod na fydd y rhain yn cael eu defnyddio gan unrhyw sefydliad allanol i greu unrhyw elw masnachol y tu allan i’r contract sydd wedi’i gytuno. Rhaid i’r personau allanol allu dangos eu bod wedi’u hyfforddi’n briodol, wedi’u hachredu ac wedi cymhwyso i gyflawni asesiadau risg.[2]

Yn achos cyflenwadau sydd wedi cael asesiad risg o’r blaen, ac y canfuwyd eu bod yn isel eu risg ac yn cael eu rheoli’n dda, gellir cwblhau unrhyw asesiadau pellach drwy ohebu â’r person(au) perthnasol i gadarnhau nad oes newidiadau arwyddocaol wedi bod. Er hynny, yn niffyg unrhyw ddiweddariadau, fe fydd angen ymweld â’r safle.

Pan nad yw’r asesiadau risg blaenorol wedi’u cynnal drwy ddefnyddio adnoddau asesu risg yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, rhaid i’r awdurdodau lleol (neu eu hasiantau) ddefnyddio methodoleg a gymeradwywyd ac sy’n cydymffurfio â BS: EN15975-2 ym mhob cyfnod dilynol o bum mlynedd. Mae rhagor o ganllawiau ar ymweld â safleoedd ar gael yn adran C o Nodiadau Esboniadol adnodd asesu risg yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, sydd i’w gweld yma:

https://www.dwi.gov.uk/private-water-supplies/regulations-guidance/guidance-documents/#risk-assessments.

Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal asesiad risg ar bob cyflenwad dŵr preifat bob pum mlynedd. Ceir yr unig eithriadau o dan reoliadau 6(2) a 10(2) lle mae dŵr yn cael ei gyflenwi i annedd sengl ac nad yw’n cael ei ddefnyddio fel rhan o weithgaredd masnachol neu gyhoeddus. Yn y sefyllfa hon does dim angen asesiad risg, oni bai bod cais amdano yn cael ei wneud gan berchennog neu feddiannydd yr annedd (rheoliad 6(3) a 10(2)).

Mae sawl ffactor yn pennu’r flaenoriaeth y dylid cynnal yr asesiadau risg yn unol â hi ac fe allai’r rhain gynnwys:

  • nifer y bobl a gyflenwir;
  • i ba raddau y defnyddir y dŵr fel rhan o weithgaredd masnachol neu gyhoeddus;
  • natur y ffynhonnell (dŵr wyneb o ansawdd amrywiol, dŵr daear o ansawdd gyson);
  • faint o driniaeth a roddir i’r dŵr; a
  • sut y caiff y cyflenwad ei reoli a’i weithredu.

Pan fo asesiad risg yn nodi risg wirioneddol neu bosibl i iechyd pobl, neu risg o ddiffyg cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau neu’r gwerthoedd paramedr dangosol yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau, rhaid cymhwyso rheoliad 18(5). Rhaid i’r asesiad risg gael ei ddefnyddio fel rhan o’r wybodaeth i alluogi’r awdurdodau lleol i ystyried a oes modd hepgor paramedrau o’r gofynion ynglŷn â monitro a chynnwys unrhyw baramedrau perthnasol eraill yn ychwanegol at y rhai a bennir yn Atodlen 1, yn seiliedig ar yr asesiad risg (gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 7).

Rhaid i’r awdurdodau lleol ystyried, fel rhan o’u hasesiadau risg, unrhyw ddata sydd wedi’i gasglu at ddibenion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr gan gynnwys data a gasglwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chwmnïau dŵr fel rhan o’u rhaglenni monitro dŵr crai.

Os yw’r dŵr sy’n cyflenwi’r annedd sengl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd masnachol neu’n cael ei ddarparu i’r cyhoedd, rhaid i’r cyflenwad gael ei asesu o dan reoliad 9 (gweler y nodyn gwybodaeth ar reoliad 9), ac eithrio pan fo hyn yn rhan o gytundeb tenantiaeth ddomestig lle mae rheoliad 11 yn gymwys.

Pan fo dŵr yn cael ei gyflenwi i annedd sengl nad yw’n cael ei ddefnyddio fel rhan o weithgaredd masnachol neu gyhoeddus neu fel rhan o gytundeb tenantiaeth, does dim angen asesiad risg, oni bai bod cais amdano yn cael ei wneudgan berchennog neu feddiannydd yr annedd.

Pan fo cyflenwad dŵr preifat yn gwasanaethu mangreoedd yn ardal mwy nag un awdurdod lleol, dylai pob awdurdod gytuno ar arweinydd i baratoi’r asesiad risg a rhannu’r canlyniad gyda’r lleill (sef fel arfer yr awdurdod lleol lle mae’r rhan fwyaf o’r mangreoedd a gyflenwir wedi’u lleoli).

Dylai’r awdurdodau lleol gadw cofnod llawn o bob asesiad risg, gan gynnwys y rhai a gynhelir ar ei ran. Dylid cynnal adolygiad o asesiadau risg pryd bynnag y bo’r awdurdod o’r farn bod yr asesiad risg presennol yn annigonol neu pan fo’r amgylchiadau wedi newid yn arwyddocaol, er enghraifft dirywiad yn ansawdd dŵr crai neu osod proses drin newydd.

Os oes unrhyw fethiannau monitro wedi bod ers yr asesiad risg blaenorol, yna dylid diweddaru’r asesiad i adlewyrchu casgliad yr ymchwiliad a gynhaliwyd ar y pryd,

ynghyd ag unrhyw gamau a gymerwyd oherwydd yr ymchwiliad, er enghraifft rhoi cyngor neu hysbysiadau. Mae modd sicrhau tystiolaeth bod camau adfer wedi’u

cwblhau drwy ymweld â’r safle neu drwy dystiolaeth gadarn arall fel ffotograffau sy’n dangos gwaith wedi’i gwblhau neu anfonebau gan gyflenwyr neu osodwyr. Bydd y math o dystiolaeth y mae ei angen yn dibynnu ar y math o waith sydd wedi’i gwblhau a’r hyder sydd gan yr awdurdod lleol yn y personau perthnasol. Beth bynnag, dylai’r awdurdod lleol fod yn fodlon bod y gwaith wedi’i gwblhau’n foddhaol.

Os daw awdurdod lleol yn ymwybodol o gyflenwad preifat a fydd yn cael ei ddefnyddio, neu sy’n cael ei ddefnyddio, am y tro cyntaf, rhaid cwblhau asesiad risg cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (i gael rhagor o wybodaeth gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 15).

Dylai’r awdurdodau lleol anfon crynodeb o ganlyniad yr asesiad hwnnw o fewn 12 mis i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed (sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru). Gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 16.

Asesiadau risg cyflenwadau Rheoliad 8 (Gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 8)

Bydd dŵr a gyflenwir i bob cyflenwad Rheoliad 8 yn tarddu o gyflenwadau cyhoeddus. Rhaid i’r asedau (pibellau, tanciau etc) y cyflenwir y dŵr hwn drwyddynt i ddefnyddwyr cyflenwadau Rheoliad 8 gydymffurfio â Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999. Y cwmni dŵr sy’n cyflenwi’r dŵr  sydd o dan ddyletswydd i orfodi gofynion Rheoliadau 1999. O dan yr amgylchiadau hyn dylai’r awdurdod lleol gysylltu â’r ymgymerwr dŵr lleol i gael cymorth.

Dylai achosion pan dorrir y Rheoliadau Ffitiadau gael eu cofnodi fel peryglon yn yr asesiad risg ynglŷn â’r cyflenwad a chyfrannu felly at sgôr risg y cyflenwad a chynllun datblygu’r asesiad hwnnw. Pan nodir perygl posibl i iechyd dynol, bydd angen gorfodaeth o dan reoliad 18, ond yn aml iawn bydd y gwaith lliniaru angenrheidiol yn ymwneud â sicrhau y cydymffurfir â’r Rheoliadau Ffitiadau. Y cwmni dŵr sy’n gyfrifol am  orfodi ac archwilio o dan y Rheoliadau Ffitiadau, ond yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am sicrhau bod y risg wedi’i lliniaru â mesurau rheoli priodol. Sylwch fod y Rheoliadau Ffitiadau yngymwys i gyflenwadau rheoliad 8 yn unig.

Dylai’r gofynion monitro (paramedrau dadansoddi ac amlder samplu) ar gyfer cyflenwadau Rheoliad 8 fod yn seiliedig ar yr asesiad risg. Nid yw’r rheoliadau yn darparu ar gyfer monitro cyflenwadau Rheoliad 8 ar gyfer paramedrau Grŵp A a Grŵp B.

Digwyddiadau dros dro

Nid yw’n ofynnol i’r awdurdodau lleol gynnal asesiad risg o dan Reoliad 6 o gyflenwad dŵr ar gyfer digwyddiad dros dro a ddaw o gyflenwad cyhoeddus – naill ai drwy bibellau neu mewn tanceri, oni bai ei fod yn gyflenwad Rheoliad 8, neu’n cael ei gyflenwi o ffynonellau eraill megis twll turio, ffynhonnau, ffrydiau ac ati.

Er hynny, fel rhan o’u dyletswyddau cyffredinol wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd ym mhob digwyddiad dros dro, dylai’r awdurdodau lleol roi anogaeth i unrhyw gyflenwad y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion domestig gael ei ddarparu yn unol â BS8551 a bod y rhai sy’n gyfrifol yn mabwysiadu dull gweithredu sydd wedi’i seilio ar risg mewn perthynas â chyflenwadau dŵr. Cynghorir yr awdurdodau lleol i gydgysylltu â’u cydweithwyr yn yr adrannau cynllunio a thrwyddedu i sicrhau bod unrhyw amodau ynglŷn â chymeradwyo digwyddiadau dros dro yn pennu gofynion bod rhaid cadw at BS8551.

Dyletswydd y cwmnïau dŵr yw rheoleiddio a gorfodi, lle bo angen, Reoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 mewn digwyddiadau dros dro pan fo cysylltiad ffisegol â’r prif gyflenwad cyhoeddus. Dylai’r awdurdodau lleol hysbysu’r cwmnïau dŵr am unrhyw ddigwyddiadau dros dro sydd ar fin cael eu cynnal, a hynny’n brydlon.

Contractwyr

Hyd yn oed os defnyddir contractwr trydydd parti, yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol yn y pen draw am gynnal asesiad risg fel rheoleiddiwr cyflenwadau preifat o dan y Rheoliadau.

Os bydd contractwr yn cael ei ddefnyddio i gynnal asesiad risg, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw pennu bod rhaid i’r asesiad risg fodloni gofynion Safon Ewropeaidd EN 15975-2 o dan y teitl “Security of Drinking Water Supply – Guidelines for Risk and Crisis Management – Risk Management”. Mae hyn yn un o ofynion y Rheoliadau, felly mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fod yn fodlon bod y gofynion hyn wedi’u bodloni.

Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu pa gamau rheoleiddio i’w cymryd (neu i beidio â’u cymryd) mewn ymateb i’r asesiad risg neu ganlyniadau’r samplau. Nid yw’r trydydd parti yn cael bod yn benderfynwr (rhaid i’r awdurdod lleol allu profi eu bod nhw wedi ystyried yr wybodaeth i lywio’u penderfyniad).


[1] Heb gynnwys systemau i anheddau sengl neu ar gais perchennog y cyflenwad.

[2] Dylai awdurdodau lleol sy’n defnyddio personau allanol gynnal archwiliad o’r asesiadau risg er mwyn eu bodloni eu hunain eu bod wedi’u cynnal mewn modd cymwys ac yn unol â’r nodiadau esboniadol. Gall sefydliad allanol sydd wedi’i gontractio i gynnal asesiadau risg ar ran awdurdod lleol gael ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol hwnnw i ddefnyddio adnoddau asesu risg yr Arolygiaeth Dŵr Yfed at y diben hwn, ar yr amod na chânt eu defnyddio gan y sefydliad allanol hwnnw i greu unrhyw elw masnachol y tu allan i’r contract y cytunwyd arno.