Guidance documents

Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 7
(monitro) cyflenwadau dŵr preifat (Cymru)

Copi y gellir ei argraffu: Reg-7_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).

Cefndir

Mae gweithgarwch monitro yn darparu gwybodaeth hollbwysig i nodi ansawdd cyflenwad ar adeg benodol – sef yr adeg y cymerwyd y sampl.

Defnyddir gweithgarwch monitro i nodi cyflenwadau nad ydynt yn cydymffurfio â safonau ansawdd dŵr a gwerthuso neu ddilysu mesurau rheoli a gyflwynwyd i systemau cyflenwi er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.

Ceir y gofynion ar gyfer monitro Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 2017 yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau ac fe’u hesbonnir ymhellach isod. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol fonitro pob cyflenwad dŵr preifat yn ôl y math o gyflenwad (cyflenwad Rheoliad 8, 9, 10 neu 11).

Cyflenwadau Rheoliad 8

Ar gyfer y cyflenwadau hynny sydd wedi’u dosbarthu’n gyflenwadau Rheoliad 8, mae’n rhaid i’r gwaith monitro gael ei wneud ar sail yr asesiad risg – gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 8.

Cyflenwadau Rheoliad 9

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp A a Grŵp B (yn unol ag Atodlen 2) a gwneud unrhyw waith monitro ychwanegol y mae’r asesiad risg yn dangos bod angen ei wneud. Am ragor o fanylion gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 9.

Mae Rheoliad 9 yn nodi pa mor aml y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp A a Grŵp B, a fydd yn dibynnu ar faint o ddŵr yfed sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion domestig. Felly, mae angen gwybod faint o ddŵr a ddefnyddir bob dydd, ar gyfartaledd, i’w yfed gan bobl yn unig ar gyfer pob cyflenwad. Os na fydd hyn yn hysbys dylai’r awdurdod lleol amcangyfrif faint o ddŵr a ddefnyddir drwy luosi nifer y bobl a gyflenwir â defnydd tybiedig o ddŵr o 0.2m3/y dydd (200 litr y dydd) – gweler Tabl 4: Amcangyfrif cyfeintiau gan ddefnyddio poblogaeth.

Ffynhonnau dŵr

Pan fo cyflenwad dŵr preifat yn cyflenwi ffynnon dŵr yfed unigol ac nad yw’n cyflenwi unrhyw safle arall, mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad yn y ffynnon yn unol â Rheoliad 9. Pan fo’r cyflenwad dŵr preifat yn cyflenwi ffynnon dŵr yfed ac nad yw’n cyflenwi unrhyw safle arall, dylai’r awdurdod lleol ddewis safle cynrychioliadol i’w samplu o blith pob un o’r safleoedd a gyflenwir gan gynnwys y ffynnon. Fodd bynnag, am mai’r ffynnon sy’n peri’r risg fwyaf, dylid ei samplu o leiaf unwaith y flwyddyn a, phan gaiff ei samplu, dylai’r awdurdod lleol gymryd sampl ar yr un pryd ar gyfer paramedrau microbiolegol yn unig (colifformau, E.coli a chyfrif cytref) o un o’r safleoedd eraill a gyflenwir gan y cyflenwad.

a) Monitro cyflenwadau Rheoliad 9 ar gyfer paramedrau Grŵp A:

Diben monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A yw nodi lefelau paramedrau microbiolegol, cemegol ac organoleptig penodol er mwyn gweld a yw cyflenwad yn cydymffurfio â safonau ansawdd dŵr yfed a pha mor effeithiol yw’r mesurau rheoli presennol a bod y rhai a gyflwynir yn dilyn asesiad risg yn gweithio’n foddhaol.

Dangosir paramedrau monitro penodol Grŵp A yn Nhabl 1. Mae’n orfodol monitro rhai paramedrau, ond dim ond pan fydd yr amgylchiadau a nodir yn y tabl yn bodoli y mae angen monitro paramedrau eraill.

Tabl 1: Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A

Amgylchiadau 

Paramedrau

Pan gaiff ei ddefnyddio fel clystyrydd neu pan ddaw’r dŵr o ddyfroedd wyneb neu  pan fydd o dan ddylanwad dyfroedd wyneb

Alwminiwm
Haearn

Pan ddaw’r dŵr o ddyfroedd wyneb neu pan fydd o dan ddylanwad dyfroedd wyneb

Manganîs

Ym mhob cyflenwad

Bacteria colifform
Cyfrif cytref
Lliw
Dargludedd
Escherichia coli (E.coli)
Crynodiad ionau hydrogen
(pH)
Arogl
Blas
Tyrfedd

Pan gyflawnir y broses gloramineiddio**

Amoniwm
Nitraid
Nitrad

Dim ond yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion*** 

Pseudomonas aeruginosa

** Nid yw’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddiheintydd clorin gweddilliol gael ei fonitro ond argymhellir yn gryf y dylai awdurdodau lleol ei fonitro yr un mor aml ag y caiff paramedrau Grŵp A eu monitro. Mae’r un peth yn wir wrth fonitro unrhyw broses ddiheintio gemegol gymeradwy arall lle mae’n rhaid rheoli clorit a chlorad, er enghraifft. Noder nad oes unrhyw ddiheintydd gweddilliol pan gaiff dŵr ei ddiheintio gan ddefnyddio proses arbelydru â golau uwchfioled. Felly, mae’n bwysig sicrhau y caiff uned addas ei defnyddio.
*** Pan gynigir y dŵr am ddim. Os bwriedir ei werthu, yna fe’i cwmpesir gan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Lloegr) 2007.

Tabl 2: Amlder Samplu ar gyfer Paramedrau Grŵp A

Faint o ddŵr a gyflenwir (m3/ydydd)

Amlder monitro Grŵp A (Nifer y samplau y flwyddyn)

Faint o ddŵr a gyflenwir (m3/ydydd)

Amlder monitro Grŵp A (Nifer y samplau y flwyddyn)

≤ 10

1

> 5,000 ≤ 6,000

22

>10 ≤ 100

2

> 6,000 ≤ 7,000

25

>100 ≤ 1,000

4

> 7,000 ≤ 8,000

28

>1,000 ≤ 2,000

10

> 8,000 ≤ 9,000

31

>2,000 ≤ 3,000

13

> 9,000 ≤ 10,000

34

>3,000 ≤ 4,000

16

11,000*

37 [4 + (3 x 11)]

>4,000 ≤ 5,000

19

12,000*

40 [4 + (3 x 12)]

*Ar gyfer cyfeintiau sy’n fwy na 10,000 defnyddir y fformiwla 4 + (3 x n) i gyfrifo  mlder monitro Grŵp A:

4 + (3 x n)

Lle mai n = nifer y 1,000m3/y dydd wedi’i thalgrynnu i’r lluosrif agosaf o 1,000m3/y  dydd.

Mae Rhan 4 (5) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau yn galluogi awdurdod lleol i fonitro ar gyfer holl baramedrau Grŵp A a Grŵp B ac eithrio Escherichia coli yn llai aml ar yr amod:

(a) bod y canlyniadau o samplau a gymerwyd mewn perthynas â’r paramedr hwnnw ac a gasglwyd yn rheolaidd dros y tair blynedd flaenorol i gyd yn llai na 60% o’r crynodiad neu’r gwerth penodedig (PCV);

(b) bod canlyniadau asesiad risg a ddisgrifir yn rheoliad 6(l) yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn nodi na ellir yn rhesymol ragweld y bydd unrhyw ffactor yn debygol o achosi i ansawdd y dŵr ddirywio.

(c) bod data a gasglwyd wrth iddo gyflawni ei rwymedigaethau monitro yn cael eu hystyried.

Ar gyfer unrhyw baramedr a gasglwyd yn rheolaidd dros y tair blynedd flaenorol, os bydd y canlyniadau yn llai na 30% o’r PVC gall yr awdurdod lleol roi’r gorau i fonitro unrhyw baramedr ac eithrio E.coli ar yr amod-

(b) bod canlyniadau asesiad risg a ddisgrifir yn rheoliad 6(l) yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn nodi na ellir yn rhesymol ragweld y bydd unrhyw ffactor yn debygol o achosi i ansawdd y dŵr ddirywio.

(c) bod data a gasglwyd wrth iddo gyflawni ei rwymedigaethau monitro o dan y Rhan hon yn cael eu hystyried.

Gall awdurdod lleol benderfynu monitro unrhyw baramedr yn amlach os bydd o’r farn ei bod yn briodol, o ystyried canfyddiadau unrhyw asesiad risg.

Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal asesiad risg ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat. Gall awdurdod lleol fonitro paramedr penodol yn amlach os bydd o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny yn seiliedig ar ganlyniadau’r asesiad risg, er enghraifft, am fod yr asesiad risg yn dangos bod crynodiad neu werth y paramedr yn debygol o amrywio’n sylweddol. Gall awdurdod lleol gynnwys unrhyw baramedr arall neu unrhyw sylwedd arall os bydd o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny yn seiliedig ar ganlyniadau’r asesiad risg. Er enghraifft, gellir cynnwys arsenig yn y gyfres o baramedrau i’w monitro os bydd y ddaeareg naturiol yn awgrymu y gall fod yn bresennol yn y dŵr.

Ceir paramedrau penodol a reolir drwy ddefnyddio cynhyrchion cymeradwy o dan Reoliad 5, ac nad yw gwaith monitro yn darparu unrhyw wybodaeth ddefnyddiol mewn perthynas â hwy. Os na fydd cynhyrchion sy’n cynnwys y paramedrau hyn yn rhan o’r system gyflenwi, ni fydd angen gwneud gwaith monitro ar gyfer y paramedrau hyn. Gall fod angen monitro cynhyrchion nas cymeradwywyd a nodir yn y system gyflenwi yn ystod asesiad risg ar gyfer paramedrau a reolir fel arall drwy Reoliad 5 a’r broses cymeradwyo cynhyrchion – gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 5.

Amlder monitro Grŵp B (fel y’i dangosir yn rhan 2 (4) o Atodlen 2)

Tabl 3: Amlder monitro Grŵp B

Faint o ddŵr a gyflenwir (m3/ydydd)

Amlder monitro Grŵp B

(Nifer y samplau y flwyddyn)

≤ 10 

>10 – ≤ 3,300 

2

>3,300 – ≤ 6,600 

3

>6,600 – ≤ 10,000 

4

20,000* 

5 [3 + (1 x 2)]

30,000* 

6 [3 + (1 x 3)]

10,000 – ≤ 100,000*

3 + 1 ar gyfer pob 10,000 m3/y dydd o gyfanswm y dŵr a gyflenwir (wedi’i dalgrynnu i’r lluosrif agosaf o 10,000 m3/y dydd)

125,000** 

15 [10 + (1 x 5)]

100,000**

10 + 1 ar gyfer pob 25,000m3/y dydd o gyfanswm y dŵr a gyflenwir (wedi’i  algrynnu  i’r lluosrif agosaf o 25,000 m3/y dydd)

* Ar gyfer cyfeintiau sy’n fwy na 10,000 defnyddir y fformiwla 3 + (1 x n) i gyfrifo amlder monitro Grŵp B: 3 + (1 x n) Lle mai n = nifer y 10,000m3/y dydd wedi’i thalgrynnu i’r lluosrif agosaf o 10,000m3/y dydd.

** Ar gyfer cyfeintiau sy’n fwy na 100,000 defnyddir y fformiwla 10 + (1 x n) i gyfrifo amlder monitro Grŵp B: 10 + (1 x n) Lle mai n = nifer y 25,000m3/y dydd wedi’i thalgrynnu i’r lluosrif agosaf o 25,000m3/y dydd.

Cyflenwadau Rheoliad 10

Ar gyfer cyflenwadau Rheoliad 10 nid yw’n ofynnol i awdurdod lleol wneud gwaith monitro rheolaidd a/na chynnal asesiad risg mor aml ag a nodir yn y rheoliadau, ond gall awdurdod lleol wneud gwaith monitro yn unol â rheoliad 11(1) os bydd yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, gall yr awdurdod lleol (neu gorff y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn gymwys) wneud gwaith samplu a dadansoddi a/neu gynnal asesiad risg pan fydd perchennog neu ddeiliad yr annedd yn gofyn iddo wneud hynny. Gweler Nodyn Gwybodaeth 10 am ragor o wybodaeth am Gyflenwadau Rheoliad 10.

Cyflenwadau Rheoliad 11

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol fonitro cyflenwadau rheoliad 11 o leiaf bob pum mlynedd ac yn amlach os bydd yr asesiad risg yn dangos bod angen gwneud hyn, ar gyfer y paramedrau canlynol:

  • Dargludedd;
  • Enterococci;
  • Escherichia coli (E.coli);
  • Ïon Hydrogen (gwerth pH);
  • Tyrfedd
  • Unrhyw baramedr yn rhan 1 o Atodlen 1 y nodir yn yr asesiad risg bod risg y gallai fethu â chydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd yn y Rhannau hynny o’r Atodlen honno.
  • Unrhyw beth arall a nodir yn yr asesiad risg y gallai beri perygl posibl i iechyd dynol.

Monitro cyflenwadau a ddefnyddir ar gyfer fflysio toiledau yn unig

Mae cyflenwad dŵr preifat a ddefnyddir ar gyfer fflysio toiledau yn unig yn dod o dan y diffiniad o ddibenion domestig o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (adran 218), ar y sail ei fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion glanweithdra.

Dylid cynnal asesiad risg o’r cyflenwad er mwyn canfod unrhyw risgiau i iechyd sy’n gysylltiedig â’r defnydd hwnnw, p’un a oes unrhyw faterion esthetig a all effeithio ar ei dderbynioldeb, neu a oes risg o halogi unrhyw gyflenwadau iachusol. Mae’r Arolygiaeth wedi datblygu adnodd asesu risg yn benodol ar gyfer fflysio toiledau, sydd ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed. Os bydd yr asesiad risg yn cadarnhau nad oes unrhyw risgiau sylweddol i iechyd, ni fydd angen cynnal gwaith monitro rheolaidd.

Cynnwys paramedrau ychwanegol

Ar gyfer pob math o gyflenwad mae’r Rheoliadau yn caniatáu i awdurdod lleol fonitro unrhyw baramedr, p’un a yw wedi’i restru yn y Rheoliadau ai peidio, os bydd o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny yn seiliedig ar yr asesiad risg. Er enghraifft, gallai gynnwys arian, os bydd arian neu gyfansoddion arian wedi’u hymgorffori mewn unrhyw system hidlo a ddefnyddir i drin cyflenwadau dŵr preifat (mae canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn awgrymu y gellir goddef lefelau arian hyd at 0.1mg/l heb beryglu iechyd pobl) neu sinc os bydd pibellwaith galfanedig wedi’i ddefnyddio mewn plymwaith dosbarthu neu blymwaith domestig (mae Sefydliad Iechyd y Byd yn awgrymu y gall lefelau sinc sy’n uwch na 3.0mg/l gael eu hystyried yn annerbyniol gan ddefnyddwyr). Yn yr un modd, gall clorid fod yn arwydd bod rhai mathau o halogiad dŵr daear yn bresennol yn y cyflenwad (ymwthiad halwynog).

Os ystyrir bod Cryptosporidium yn risg fel y’i nodwyd gan yr asesiad risg, ni fydd presenoldeb nac absenoldeb öosytau ar unrhyw adeg samplu benodol yn darparu unrhyw wybodaeth ddefnyddiol. Felly, yr unig adeg y bydd cynnal profion yn berthnasol yw pan geir achosion o gryptosporidiosis neu pan fydd achosion o gryptosporidiosis a gadarnhawyd yn destun ymchwiliad.

Mae blas ac arogleuon annerbyniol yn aml i’w priodoli i’r ffaith bod y ffynhonnell dŵr yfed ei hun wedi’i halogi yn dilyn digwyddiad halogi diwydiannol hanesyddol neu fod tanwydd, olew gwresogi neu hydoddyn wedi gollwng gan effeithio ar y system gyflenwi.

Mae halogiad daear sy’n gysylltiedig â hydrocarbonau yn peri problemau mawr lle mae pibellau plastig wedi’u gosod, am fod y cemegion hyn yn gallu symud drwy’r pibellau dŵr plastig a halogi’r cyflenwad. Os bydd hyn wedi digwydd, fel arfer yr ateb yw gosod pibellau rhwystr yn lle’r pibellau halogedig.

Mae tanwyddau a hydoddion yn gyfuniadau cymhleth o gemegion â throthwyon blas ac arogl isel iawn sy’n golygu y gellir eu canfod yn y dŵr ar grynodiadau sydd gryn dipyn yn is na’r rhai a fyddai’n peri pryder ynghylch iechyd. Felly, nid yw’n briodol pennu safon sy’n seiliedig ar iechyd. Felly, os canfyddir blas neu arogl tanwydd, nid oes angen cynnal profion a gwneud gwaith dadansoddi helaeth i weld a yw’n cynnwys cyfansoddion organig egsotig – bydd y dŵr yn afiach oherwydd ei flas a’i arogl.

Paramedrau dangosol

Pan ganfyddir paramedrau dangosol uwchlaw’r fanyleb neu’r gwerth, bydd angen cynnal ymchwiliad i ganfod yr achos. Yr achos sy’n pennu pa gamau y dylid eu cymryd. Ar gyfer rhai paramedrau y canfyddir eu bod yn digwydd yn naturiol, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor ar b’un a yw’n ddiogel i’w ddefnyddio ar y lefel a ganfuwyd. Os mai’r halogiad yw’r achos dylid nodi ffynhonnell yr halogiad a’i lliniaru.

Ailbrofi

Os bydd sampl yn uwch na safon ar gyfer paramedr(au) penodol, bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol gynnal ymchwiliad o dan Reoliad 18 o Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 2017. Bydd angen gwneud gwaith ailbrofi ychwanegol er mwyn helpu i ganfod yr achos a nodi i ba raddau y mae’r cyflenwad wedi methu â chydymffurfio â’r safon, fel rhan o’r ymchwiliad (h.y. archwiliad safle sy’n seiliedig ar risg). Ni ddylai awdurdodau lleol ddibynnu ar waith ailsamplu ar ei ben ei hun er mwyn nodi p’un a yw cyflenwad yn iachus a/neu’n berygl posibl i iechyd ai peidio. Ni chaniateir i awdurdodau lleol godi tâl am unrhyw sampl a gaiff ei chymryd a’i dadansoddi i gadarnhau neu egluro canlyniadau’r dadansoddiad o sampl flaenorol yn unig.

Unwaith y bydd yr achos wedi’i ganfod bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno Hysbysiad yn unol â Rheoliad 18 neu 20, fel sy’n ofynnol i liniaru’r risgiau a nodwyd gan yr ymchwiliad.

Pan eir y tu hwnt i werth paramedrig ar gyfer sylwedd ymbelydrol mae’n rhaid ymchwilio iddo fel a ganlyn:

a) Adolygu canlyniadau cyflenwadau preifat eraill o’r ddyfrhaen sy’n cyflenwi’r dŵr (gan gynnwys unrhyw wybodaeth gan yr ymgymerwr dŵr presennol os yw’n tynnu dŵr o’r un ddyfrhaen) o ran a yw hyn yn anarferol ar gyfer y ddyfrhaen.

b) Os dangosir bod y canlyniadau ar gyfer y sampl a ddarparwyd yn debyg i’r ddyfrhaen, ar yr amod bod ymchwiliadau blaenorol i werth y dos dangosol wedi nodi nad oedd yn fwy na 0.1mSv/y flwyddyn, ni fydd angen cynnal unrhyw ymchwiliad pellach oni fydd tuedd tuag at i fyny o ran gwerth y paramedr sy’n methu.

c) Os bydd y dos dangosol yn fwy na 0.1 mSv/y flwyddyn dylid cynnal ymchwiliad i’r achos. Os nad yw’r cyflenwad wedi bod yn uwch na’r PCV o’r blaen, bydd angen cynnal ymchwiliad i’r achos a lefelau’r dos dangosol. Dylid cymryd ailsamplau o’r cyflenwad dŵr preifat gwreiddiol yn ogystal â chyflenwadau preifat eraill o’r un ddyfrhaen. Dylid diweddaru’r asesiad risg er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn yr ardal leol, er enghraifft: os yw’r cyfenwad hwn yn un newydd, os oes cymal amgylcheddol hanesyddol lleol, ac ati. Os bydd yr ailsamplau yn cadarnhau lefelau’r canlyniad cychwynnol bydd angen cynnal asesiad dos dangosol.

d) Dylid gwneud trefniadau â labordy cymwys i ddadansoddi a chyfrifo’r dos dangosol. Os bydd y dos dangosol yn fwy na 0.1mSv/y flwyddyn dylid cysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael cymorth ychwanegol. Mae’r ddogfen, UK Recovery Handbooks for Radiation Incidents 2015 Drinking Water Supplies Handbook, yn ddefnyddiol.
(https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/433689/PHE-CRCE-018_Drinking_Water_Supplies_Handbook_2015.pdf).
Gweler hefyd y Nodyn Gwybodaeth ar Radon.

Amcangyfrif cyfeintiau gan ddefnyddio Poblogaeth

Os na fydd gwybodaeth am faint o ddŵr a ddefnyddir ar gael, gellir gwneud amcangyfrif os yw’r boblogaeth a gyflenwir yn hysbys. Mae Tabl 4 yn rhoi enghreifftiau, sy’n seiliedig ar y dybiaeth bod pob unigolyn yn defnyddio 200 litr y dydd

Tabl 4: Amcangyfrif cyfeintiau gan ddefnyddio poblogaeth

Faint o ddŵr a gyflenwir (m3/y dydd)

Nifer y bobl a gyflenwir

Amlder monitro Grŵp A

(Nifer y samplau y flwyddyn)

≤ 10 

≤ 50 

>10 ≤ 100 

> 50 ≤ 500 

2

> 100 ≤ 1,000

> 500 ≤ 5,000

4

> 1,000 ≤ 2,000 

> 5,000 ≤ 10,000 

10

> 2,000 ≤ 3,000 

> 10,000 ≤ 15,000 

13

> 3,000 ≤ 4,000 

> 15,000 ≤ 20,000 

16

> 4,000 ≤ 5,000 

> 20,000 ≤ 25,000 

19

> 5,000 ≤ 6,000 

> 25,000 ≤ 30,000 

22

> 6,000 ≤ 7,000 

> 30,000 ≤ 35,000 

25

> 7,000 ≤ 8,000 

> 35,000 ≤ 40,000 

28

> 8,000 ≤ 9,000 

> 40,000 ≤ 45,000 

31

> 9,000 ≤ 10,000 

> 45,000 ≤ 50,000 

34

> 10,000 

> 50,000

4 + 3 ar gyfer pob 1,000m3/y dydd o gyfanswm y dŵr a ddefnyddir (wedi’i dalgrynnu  i’r lluosrif agosaf o 1,000m3/y dydd)*

Gellir hepgor unrhyw ddŵr a ddefnyddir at ddibenion magu da byw neu ddyfrhau o gyfanswm y dŵr a ddefnyddir.

Enghraifft ymarferol:

Ar gyfer cyfeintiau sy’n fwy na 10,000m3/y dydd defnyddir y fformiwla 4 + (3 x n) i gyfrifo amlder monitro Grŵp A:

Er enghraifft:

Caiff cyfaint o 10,162m3/y dydd ei dalgrynnu i 11,000m3/y dydd ac wedyn gan ddefnyddio’r fformiwla 4 + (3 x n) lle mai n = nifer y 1,000m3/y dydd wedi’i thalgrynnu i’r lluosrif agosaf o 1,000m3/y dydd.

37 o samplau y flwyddyn. Dylid cymryd y rhain yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

Tabl 5: achosion tebygol presenoldeb paramedr mewn cyflenwad dŵr preifat

Paramedr 

Amgylchiadau lle mae’n debygol o fod yn bresennol

Alwminiwm

Lle y defnyddir cyfansoddion alwminiwm fel ceulyddion mewn prosesau trin.

Mae’n bresennol yn naturiol mewn rhai dyfroedd wyneb a rhai dyfroedd daear.

Antimoni 

Gall ddod o ffitiadau plymwaith domestig.

Arsenig 

Gall fod yn bresennol yn naturiol mewn rhai dyfroedd daear.

Bensen

Halogi dyfroedd crai gan betrol/diesel ac ati.

Treiddio drwy bibellau plymwaith dosbarthu a phlymwaith domestig.

Benso(a)pyren 

Trwytholchi o leinin col-tar mewnol rhai pibellau dosbarthu.

Boron 

Halogi dyfroedd wyneb â glanedyddion yn bennaf o elifion carthion.

Bromad

Mae’n bresennol mewn sodiwm hypoclorid a ddefnyddir i ddiheintio dŵr, gan gynnwys hypoclorit a gynhyrchir yn electrolytig.

Caiff ei ffurfio os defnyddir osôn a bod y dŵr yn cynnwys bromid. Fe’i ceir weithiau fel halogiad o ganlyniad i weithgareddau diwydiannol.

Cadmiwm 

Trwytholchi o bibellau galfanedig a rhai ffitiadau plymwaith domestig (e.e. tapiau platiog).

Clorid

Dangosydd o ymwthiad halwynog, felly mae’n berthnasol mewn ardaloedd arfordirol. Mae hefyd yn berthnasol os bydd system meddalu dŵr wedi’i gosod. Gall ddynodi bod dŵr wyneb wedi’i lygru gan garthion.

Cromiwm

Trwytholchi o rai ffitiadau plymwaith domestig (e.e. tapiau

plastig plât crôm). Gall hefyd fod yn bresennol fel halogiad o

ganlyniad i weithgareddau diwydiannol.

Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)

Halogi dyfroedd crai gan garthion, elifion carthion a gwastraff anifeiliaid.

Copr 

Trwytholchi o bibellau a ffitiadau plymwaith. Mae pH isel neu alcalinedd isel neu uchel yn cynyddu lefelau trwytholchi copr.

Syanid 

Dyfroedd crai sydd wedi’u halogi, o bosibl, gan ddiwydiant

(e.e. prosesau gorffennu metel, cadwolion pren).

1,2 dicloroethan

Hydoddyn anweddol a ddefnyddir i weithgynhyrchu finyl clorid ac mewn prosesau eraill. Gall halogi dŵr daear a pharhau ynddo.

Enterococci 

Halogi dyfroedd crai gan garthion, elifion carthion a gwastraff anifeiliaid.

Fflworid 

Gall fod yn bresennol mewn rhai dyfroedd daear.

Haearn

Defnyddio cyfansoddion haearn fel ceulyddion.

Mae’n bresennol yn naturiol mewn rhai dyfroedd wyneb a rhai dyfroedd daear.

Cyrydu pibellau dosbarthu haearn.

Plwm

Trwytholchi o bibellau plwm mewn plymwaith dosbarthu a phlymwaith domestig neu o bibellau copr wedi’u sodro â phlwm. Mae pH isel ac alcalinedd isel neu uchel yn cynyddu lefelau trwytholchi plwm. Mae’n bresennol yn naturiol mewn rhai dyfroedd daear.

Manganîs

Mae’n bresennol mewn rhai deunyddiau hidlo tywod gwyrdd.

Mae’n bresennol mewn rhai dyfroedd wyneb a rhai dyfroedd daear.

Mercwri

Halogiad o thermomedrau a falfiau arnofyn mercwri.

Nicel 

Trwytholchi o rai ffitiadau plymwaith domestig (e.e. tapiau platiog).

Nitrad 

Halogi dyfroedd wyneb a dyfroedd daear gan wrteithiau, gwastraff anifeiliaid neu elifion carthion.

Nitraid

Halogi dyfroedd crai. Defnyddio proses gloramineiddio fel diheintydd gweddilliol neu glorin fel diheintydd pan fydd ionau amoniwm yn bresennol.

Plaladdwyr

Halogi dyfroedd crai o ganlyniad i ddefnyddio plaladdwyr mewn amaethyddiaeth, mewn coedwigaeth, ar ffyrdd a rheilffyrdd ac ati.

Plaladdwyr – cyfanswm

Mae hyn yn golygu cyfanswm y crynodiadau o’r plaladdwyr a ganfuwyd ac a fesurwyd fel rhan o’r weithdrefn fonitro.

Hydrocarbonau aromatig polysyclig (PAH)

Trwytholchi o leinin col-tar mewnol rhai pibellau dosbarthu.

Cyfanswm pedwar hydrocarbon aromatig polysyclig unigol.

Seleniwm

Gall fod yn bresennol yn naturiol mewn rhai dyfroedd crai.

Sodiwm

Mae’n bresennol mewn dyfroedd crai ond fel arfer mae islaw’r safon. Gall gael ei gyflwyno gan feddalyddion dŵr a chemegion trin (e.e. sodiwm hypoclorit ar gyfer diheintio) neu drwy ymwthiad halwynog dyfroedd daear mewn ardaloedd arfordirol.

Sylffad 

Mae’n bresennol mewn rhai dyfroedd crai, ond fel arfer mae islaw’r safon.

Tetracloroethen a Thricloroethen

Halogi rhai dyfroedd daear o ganlyniad i ddefnyddio’r hydoddyddion anweddol hyn mewn prosesau sychlanhau a gorffennu metel. Y safon yw swm dau gyfansoddyn.

Tetracloromethan

Halogi rhai dyfroedd daear o ganlyniad i ddefnyddio’r hydoddyn anweddol hwn mewn prosesau gorffennu metel a diwydiannau eraill.

Trihalomethanau – cyfanswm

Cânt eu ffurfio pan fydd deunydd organig mewn dŵr crai yn adweithio â  chyfansoddion clorin a ddefnyddir fel diheintyddion. Y safon yw swm pedwar cyfansoddyn.

Sylweddau ymbelydrol

Radon 

 

Cyfanswm y dos dangosol (ar gyfer ymbelydredd)

Tritiwm 

 

 

Gall fod yn bresennol mewn dyfroedd daear lle mae’r ddaeareg sylfaenol yn cynnwys lefelau uwch o radon.

Halogi dyfroedd crai gan gyfansoddion ymbelydrol naturiol neu gyfansoddion ymbelydrol o waith dyn

Proses gynhyrchu gosmig yn yr atmosffer uchaf. Un o isgynhyrchion ffrwydradau niwclear a’r diwydiant niwclear.

Acrylamid

Defnyddio polyacrylamidau fel cymhorthion ceulo.

Defnyddio growt polyacrylamid ar gyfer leiniau tyllau turio/ffynhonnau.

Epiclorohydrin

Defnyddio polyaminau fel cymhorthion ceulo.

Defnyddio epocsi-resin (e.e. i leinio pibellau a thanciau).

Ei ddefnyddio i wneud rhai mathau o resin cyfnewid ionau.

Finyl clorid

Fe’i defnyddir i wneud PVC. Trwytholchi o bibellau PVC heb eu plastigo a ddefnyddir at ddibenion dosbarthu neu mewn plymwaith domestig.

Rhaglenni Monitro

Mae Rheoliad 7(2) yn galluogi’r awdurdod lleol i ddefnyddio mesuriadau a gofnodwyd gan broses fonitro barhaus fel rhan o’r gofyniad ar gyfer monitro. Os bydd yr awdurdod lleol yn dymuno gwneud hyn, argymhellir y dylai gysylltu â’r Arolygiaeth am arweiniad. Fel canllaw cyffredinol, os bwriedir defnyddio proses fonitro barhaus, dylai gael ei hategu gan ddata a gyflwynir yn rheolaidd i’r awdurdod lleol, adolygiadau rheolaidd o ddata gan yr awdurdod lleol, offer sy’n addas at y diben a threfniadau ar gyfer graddnodi offer yn rheolaidd.

Mae Rheoliad 7(3) yn galluogi awdurdodau lleol i ychwanegu archwiliadau o gyfarpar a/neu archwiliadau o’r system dalgylch i dap gyfan at y rhaglen fonitro ar gyfer cyflenwad. Noder bod hyn yn ychwanegol at y gofynion rheoleiddiol o dan Reoliad 7(1) a 7(2).

Fersiwn 1 o Reoliadau 2017 – Ionawr 2018