Canfyddiadau ffurflenni data
Yn ystod 2025, casglodd yr Arolygiaeth ddata drwy’r ffurflen ddata flynyddol, sy’n ofyniad adrodd statudol i awdurdodau lleol o dan reoliad 16 y Rheoliadau.
Rhaid i bob awdurdod lleol gadw cofnod o’r holl gyflenwadau preifat yn ei ardal, a’i gyflwyno i’r Arolygiaeth erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn. Awdurdodau lleol sy’n ysgwyddo’r unig rwymedigaeth dros adrodd data a gwybodaeth i Weinidogion o dan ofynion rheoliad 16 ac atodlen 4 y Rheoliadau. O ganlyniad, ni fydd yr Arolygiaeth yn derbyn data na gwybodaeth gan drydydd partïon lle nad oes cytundeb ar waith.
Mae hefyd yn ofyniad rheoleiddiol i achredu gwaith samplu a dadansoddi er mwyn sicrhau cywirdeb y data.
Bodloni’r safonau ar gyfer dŵr dihalog
O dan y Rheoliadau, dylai dŵr yfed fod yn ‘ddihalog’, sy’n golygu nad yw’n cynnwys unrhyw ficro-organebau, parasitiaid na sylweddau ar grynodiad neu werth sy’n uwch na’r gwerthoedd terfyn (yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu a fyddai’n cael eu hystyried yn berygl posibl i iechyd pobl. Yn 2025, canfuwyd nad oedd 3.62% (992 o 27,408) o brofion a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn bodloni un neu fwy o’r safonau ar gyfer dŵr dihalog. Mae Ffigur 3 yn dangos, yn gyffredinol, y bu gostyngiad yn nifer y profion sy’n methu’r safonau rheoleiddio, er bod y gwelliant hwn wedi sefydlogi yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan ddangos bod yr achosion o nodi risgiau ansawdd dŵr, a’u hunioni, wedi gostwng. Fodd bynnag, rhaid rhoi cafeat ar y ffigurau hyn oherwydd bod cyfanswm y profion a gynhaliwyd yn is na’r hyn a ddisgwylid ar gyfer nifer y cyflenwadau preifat a gofnodwyd yng Nghymru.
Ffigur 3 – Nifer y samplau a chanran y methiannau
Paramedrau microbiolegol
Mae Escherichia coli (E. coli) ac Enterococci yn ddangosyddion o halogiad ysgarthol. Dangosir canran y samplau a gasglwyd o gyflenwadau y canfuwyd eu bod wedi’u halogi gan E. coli ac Enterococci, yn y cyfnod 2015-2025, yn ffigur 4, ac ehangir arnynt yn Nhabl 3. O’r samplau a gofnodwyd yn 2025, canfuwyd bod 7.10% o’r samplau a brofwyd yn cynnwys E. coli, ac roedd 5.56% yn cynnwys Enterococci.
Ffigur 4 – Canran y methiannau microbiolegol
| Paramedrau microbiolegol | 2023 (%) | 2024 (%) | 2025 (%) |
|---|---|---|---|
| E. coli | 7.12 | 8.97 | 7.10 |
| Bacteria colifform | 13.62 | 12.52 | 11.58 |
| Enterococci | 7.73 | 7.39 | 5.98 |
| Clostridium perfringens | 4.98 | 5.25 | 4.03 |
Mae’r organebau hyn i’w cael bron yn gyfan gwbl mewn carthion, sy’n arwydd o berygl posibl i iechyd y rhai sy’n yfed y dŵr hwn.
Rhaid nodi nad yw’r weithdrefn brofi yn unffurf o flwyddyn i flwyddyn, gyda than-adrodd sylweddol. Mae nifer y defnyddwyr cyflenwadau dŵr preifat lle canfuwyd E. coli a/neu Enterococci yn cyfateb i 147 o gyflenwadau, sy’n awgrymu bod dros 2,000 o bobl yn yfed dŵr sydd mewn perygl o gael eu halogi gan garthion. O gymharu, mae 99.97% o gyflenwadau cyhoeddus yn cydymffurfio â’r safonau ansawdd dŵr.
Paramedrau cemegol
| Enw’r paramedr | 2023 | 2024 | 2025 |
|---|---|---|---|
| Alwminiwm | 1.68% | 1.82% | 1.33% |
| Lliw | 1.86% | 2.29% | 1.03% |
| Haearn | 3.19% | 4.02% | 2.73% |
| Plwm | 3.93% | 2.80% | 3.48% |
| Manganîs | 6.65% | 6.38% | 6.28% |
| Nicel | 5.16% | 5.78% | 1.49% |
| Nitrad | 0.95% | 0.86% | 0.50% |
| Arogl | 0.52% | 1.82% | 1.81% |
| Blas | 3.92% | 1.43% | 0.58% |
| Afloywder | 1.51% | 2.19% | 1.24% |
Monitro amleddau a diffygion samplu
Mae profi rheolaidd, bob blwyddyn, bob pum mlynedd neu ar sail asesiad risg, yn hanfodol er mwyn asesu ansawdd dŵr ac effeithiolrwydd mesurau rheoli. Ar raddfa gronnus, mae’n amlwg nad yw cyflenwadau dŵr preifat yn cael eu profi ar yr amleddau sy’n ofynnol yn ôl y Rheoliadau. Mae’n hanfodol bwysig bod gweithdrefn brofi reoleiddiol cyflenwad yn cael ei phennu ac yna’n cael ei chyflawni. Mae’r gwaith monitro dilysiad hwn yn darparu llinell sylfaen i fesur ansawdd cyffredinol y cyflenwadau hynny ac effeithiolrwydd unrhyw fesurau lliniaru. Gellir cofnodi gwaith samplu arall, y gellid ei alw’n ‘samplu ymchwiliol’, ar y ffurflen ddata flynyddol, ac mae’n aml yn cael ei wneud yn dilyn gwaith samplu wedi’i raglennu i ymchwilio i ganlyniadau sy’n gwyro oddi wrth linell sylfaen sefydledig, sy’n agos at y safonau neu’n rhagori arnynt.
Ar gyfer blwyddyn adrodd 2025, cafwyd cyflwyniad gan bob un o’r 22 awdurdod lleol. Sylwch fod rhifau profion cyfrif cytref wedi cael eu dileu o bob blwyddyn yn siartiau’r adroddiad hwn.
Yn 2025, cynhaliodd awdurdodau lleol 25,065 o ddadansoddiadau o samplau cyflenwadau dŵr preifat. Mae Ffigur 5 yn dangos nifer y samplau a gymerwyd ers 2015, gyda 2020 yn cynrychioli blwyddyn eithriadol oherwydd effaith y pandemig. Bu gostyngiad graddol yn nifer y profion a gynhaliwyd o’i gymharu â lefelau cyn y pandemig, gan gynyddu’r diffyg samplu ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat.
Oherwydd y risgiau sy’n gysylltiedig â chyflenwadau dŵr preifat, byddai cynyddu adnoddau i leihau’r prinder yn fanteisiol mewn perthynas â diogelu iechyd y cyhoedd.
Mae cyflenwadau Rheoliad 9 yn gyflenwadau masnachol neu ddefnydd cyhoeddus, ac felly dyma’r mathau o gyflenwadau sy’n peri’r risg fwyaf i iechyd y cyhoedd. Nodir yr amlder samplu disgwyliedig ar sail cyfaint y dŵr a ddefnyddir ar gyfer cyflenwadau rheoliad 9 ar gyfer E. coli yn y Rheoliadau. O’r samplau a ddadansoddwyd yn 2025, roedd 76% yn bodloni’r gofyniad hwn ac roedd 20% yn rhagori arno. Fodd bynnag, ni chafodd 4% eu profi’n ddigonol.
Asesu risg a rheoli risg
Un o egwyddorion allweddol y Rheoliadau yw cynnal asesiad risg i sefydlu a oes risg bosibl o gyflenwi dŵr a allai fod yn ddŵr dihalog neu a fyddai’n cael ei ystyried yn berygl posibl i iechyd pobl.
Rhaid i bob awdurdod lleol gynnal neu adolygu asesiad risg o bob system cyflenwi dŵr preifat gymwys yn ei ardal o leiaf bob pum mlynedd, neu’n gynharach os ystyrir bod y cyflenwad yn peri risg.
Mae’r Arolygiaeth wedi datblygu set o adnoddau asesu risg i helpu awdurdodau lleol i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan reoliad 6. Mae’r rhain i’w gweld ar dudalen we asesiad risg yr Arolygiaeth – Adnoddau ac awgrymiadau ar gyfer Asesu Risg – Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.
Mae awdurdodau lleol yn adrodd gwybodaeth am asesiadau risg a chamau gorfodi i weinidogion (yr Arolygiaeth, mewn ymarfer) mewn dwy ffordd; yn y ffurflen ddata flynyddol, a thrwy grynodebau o asesiadau risg. Yn ogystal, drwy gydol y flwyddyn, rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno i weinidogion gopïau o hysbysiadau a gyflwynwyd i berchnogion cyflenwadau am gyflenwadau risg uchel neu baramedrau sy’n methu. Hyd yma, nid yw’r niferoedd yn y ffurflenni data blynyddol erioed wedi cyfateb i nifer y dogfennau a dderbyniwyd, gyda than-gyflwyno hysbysiadau a chrynodebau asesu risg yn broblem gyson. Atgoffir awdurdodau lleol y gellir naill ai golygu neu anfon dogfennau drwy drosglwyddiad ffeil diogel er mwyn diogelu preifatrwydd data.
Mae Tabl 5 yn dangos nad yw awdurdodau lleol yn gwneud cynnydd sylweddol o ran symud tuag at adrodd 100% o asesiadau risg. Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r rhan fwyaf o gyflenwadau dŵr preifat y dylid asesu eu risg naill ai heb gael eu hasesu erioed, neu wedi cael asesiad risg dros bum mlynedd yn ôl. Mae hyn yn dangos diffygion o ran llywodraethu cyflenwadau preifat yn rheoleiddiol, a amlygwyd yng nghanfyddiadau prosiect ymchwil yr Arolygiaeth – Effaith a dyfodol y model rheoleiddio a’r fframwaith deddfwriaethol sy’n ymwneud â chyflenwadau dŵr preifat yng Nghymru a Lloegr – yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.
| Supply type | Cyfredol (o fewn y 5 mlynedd diwethaf) | Anghyfredol (>5 mlynedd ers cwblhau) | Dim cofnod o asesiad risg | Cyfanswm nifer y cy | Asesiad risg yn gyfredol |
|---|---|---|---|---|---|
| Rheoliad 8 | 18 | 5 | 17 | 40 | 45% |
| Rheoliad 9 | 822 | 379 | 236 | 1437 | 57% |
| Rheoliad 10 (Wedi’i rannu) | 103 | 717 | – | 820 | 13% |
| Rheoliad 11 (Cymru) | 469 | 631 | 241 | 1341 | 35% |
| Cyfanswm | 1412 | 1732 | 494 | 3638 |
Crynodeb o’r data a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth
Paramedrau microbiolegol
Yn ystod 2025 yng Nghymru, roedd mwy nag un cyflenwad o bob 25 yn anaddas i’w yfed gan bobl ac yn peri risg i iechyd gan eu bod yn cynnwys E.coli ac Enterococci. Er nad yw colifformau bob amser yn ddangosydd uniongyrchol o halogiad gan garthion, maent yn dal i ddangos bod llwybr i halogiad fynd i mewn i’r cyflenwad ac nad yw halogiad wedi cael ei ddileu drwy driniaeth. Mae diogelu cyflenwadau rhag halogiad yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Os canfyddir bod cyflenwad yn cynnwys dangosyddion ysgarthol, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ymchwilio yn unol â rheoliad 18 o’r Rheoliadau.
Paramedrau cemegol
Canfuwyd plwm mewn 3.48% o brofion. Mae plwm yn niwrodocsin sy’n effeithio’n benodol ar blant, ac sy’n gallu cael effaith niweidiol ar iechyd oedolion drwy groniad hir dymor, gan gynnwys clefyd cronig yn yr arennau, pwysedd gwaed uwch a chlefyd cardiofasgwlaidd. Pan fydd plwm yn cael ei ganfod uwchben y safon, rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiad rheoliad 20 i sicrhau camau gweithredu i ddiogelu iechyd y defnyddwyr. Y datrysiad tymor hir mwyaf cadarn yw gwaredu unrhyw bibellau plwm, ffitiadau sy’n cynnwys plwm, a sodr plwm. Yn ddiweddar, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi ei frîff technegol diweddaraf ar blwm, sydd ar gael ar ei wefan. Mae’r Arolygiaeth wedi cyhoeddi canllawiau ar blwm mewn cyflenwadau dŵr preifat ar ei gwefan – Plwm mewn cyflenwadau dŵr preifat – Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.
Canfuwyd nicel mewn 1.49% o brofion. Mae nicel yn cael ei ganfod fel arfer oherwydd ffitiadau domestig, fel tapiau, sy’n cynnwys nicel. Weithiau, nid yw’r ffynhonnell yn amlwg a gallai fod wedi’i lleoli o dan gymysgwyr sinc a rheolyddion tymheredd. Dylid cynghori defnyddwyr i newid y ffitiadau hyn pan fydd methiannau’n digwydd o ran y safon.
Gellir gweld bod haearn, manganîs ac alwminiwm wedi methu’r safonau yn 2.73%, 6.28% a 1.33% o brofion, yn y drefn honno. Gellir dod o hyd i’r holl fetelau hyn yn naturiol mewn dŵr ffynhonnell. Dylai awdurdodau lleol ymgynghori ag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) i benderfynu a yw crynodiad y metelau hyn yn achosi perygl uniongyrchol i iechyd, ac os felly, dylid cyflwyno hysbysiad rheoliad 20. Os nad yw presenoldeb y metelau hyn yn cael ei ystyried yn berygl posibl i iechyd, gall awdurdodau lleol weithredu o hyd o dan adran 80 i orfodi’r unigolion perthnasol i wneud y cyflenwad yn ddihalog ac yn dderbyniol at bob diben domestig, sy’n cynnwys ymolchi a golchi dillad.
Gwelir bod afloywder a lliw wedi’u canfod mewn crynodiadau uwch na’r safonau mewn 1.24% ac 1.03% o brofion, yn y drefn honno. Gall afloywder leihau effeithiolrwydd diheintio, felly dylai canfod afloywder sy’n uwch na’r safon sbarduno ymchwiliad i ddod o hyd i’r achos, wedi’i ddilyn gan y camau priodol o dan reoliad 20 neu adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (y Ddeddf) i gymryd camau gwella. Mae canfyddiadau lliw fel arfer yn cael eu hachosi gan gyfansoddion sy’n codi o ddalgylch y dŵr ffynhonnell, ac mae modd eu tynnu o’r dŵr drwy brosesau trin priodol. Gall cynnydd tymor byr mewn lliw a/neu afloywder fod o ganlyniad i law trwm yn symud sylweddau hwmig a ffwlfig mewn dyfroedd ffynhonnell. Os bydd y digwyddiadau tymor byr hyn yn digwydd yn amlach, gall hyn fod o ganlyniad i newidiadau tymor hir ym mhatrymau’r tywydd, a gall awgrymu y gallai fod angen triniaeth ychwanegol yn y dyfodol.
| Paramedr | 2023 | 2024 | 2025 |
|---|---|---|---|
| Alwminiwm | 1.68% | 1.82% | 1.33% |
| Lliw | 1.86% | 2.29% | 1.03% |
| Haearn | 3.19% | 4.02% | 2.73% |
| Plwm | 3.93% | 2.80% | 3.48% |
| Manganîs | 6.65% | 6.38% | 6.28% |
| Nicel | 5.16% | 5.78% | 1.49% |
| Nitrad | 0.95% | 0.86% | 0.50% |
| Arogl | 0.52% | 1.82% | 1.81% |
| Blas | 3.92% | 1.43% | 0.58% |
| Afloywder | 1.51% | 2.19% | 1.24% |
Sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS)
Mae’r ffurflen ddata yn awgrymu mai dim ond pedwar cyflenwad sydd ag asesiad risg cyfredol ar gyfer PFAS. Mae hyn bedwar yn fwy nag yn 2024. Cynhaliwyd cyfanswm o 10 prawf ar gyfer asid perfflworooctanoig a phasiwyd yr holl ganlyniadau. Anogir awdurdodau lleol i gyfeirio at ganllawiau’r Arolygiaeth ar PFAS, a ddiweddarwyd yn 2025 – Canllawiau PFAS.
Mae’r Arolygiaeth yn annog awdurdodau lleol i gyflwyno unrhyw ddata am PFAS mewn cyflwyniadau data blynyddol. Bydd samplau PFAS yn cael eu hystyried yn samplau ‘ymchwiliol’ gan nad oes angen profion o dan atodlenni i’r Rheoliadau.
Mae’r Arolygiaeth wedi cyhoeddi canllawiau ar PFAS mewn cyflenwadau dŵr preifat ar ei gwefan – Sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS) – Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.
Yn 2025, cyhoeddodd yr Arolygiaeth ymchwil ar astudiaethau effeithiolrwydd gwaredu PFAS a allai fod o fudd i awdurdodau lleol a phobl berthnasol – Astudiaethau Effeithiolrwydd Trin Dŵr Graddfa-Mainc a Graddfa-Peilot ar Waredu PFAS – Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.
Gorfodi
Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol anfon hysbysiadau a gyflwynir o dan y ddeddfwriaeth at Weinidogion Cymru (yr Arolygiaeth, mewn ymarfer), yn unol â rheoliad 20 pan fo cyflenwadau yn berygl posibl i iechyd pobl. Gallant hefyd gyflwyno hysbysiadau o dan adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (y Ddeddf) lle nad yw cyflenwadau’n ddihalog a/neu’n annigonol.
Mae’r rhan fwyaf o hysbysiadau’n cael eu cyflwyno mewn ymateb i fethu o ran safon ficrobiolegol, gyda lleiafrif bach iawn am fethu mewn perthynas â safonau eraill. Yn 2025, yn ôl y data a gyflwynwyd i ni, roedd 230 o’r 319 hysbysiad a gyflwynwyd oherwydd methiannau mewn safonau microbiolegol. Daliad y Rheoliadau yw un o asesu risg yn rhagweithiol i atal methiannau a risgiau i iechyd rhag cael eu gwireddu.
Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybod i’r Arolygiaeth a darparu copi o’r hysbysiadau a gyflwynwyd. Yn 2025, hysbyswyd yr Arolygiaeth bod 96 o hysbysiadau wedi cael eu cyhoeddi. Roedd pob un ond un o’r rhain yn hysbysiad rheoliad 20, a’r llall yn hysbysiad adran 80. Mae’r anghysondeb hwn rhwng hysbysiadau sy’n cael eu hadrodd i’r Arolygiaeth a’u cofnodi yn y ffurflen ddata yn dangos nad ydynt yn cael eu hadrodd ac nad yw awdurdodau lleol yn cydymffurfio â’u dyletswyddau statudol i adrodd arnynt.
Mae’n ymddangos bod awdurdodau lleol yn dal i ymateb yn bennaf i ganlyniadau gwaith samplu, yn hytrach na mynd ati’n rhagweithiol i gael gwared ar y problemau a allai arwain at fethiant sampl. Pwrpas defnyddio asesiad risg rhagweithiol, ac os oes angen, hysbysiad yn y cyd-destun hwn, yw diogelu defnyddwyr cyn i ddŵr yfed droi’n ddŵr dihalog neu’n ddŵr yfed anniogel.
| Enw’r paramedr a fethwyd | Hysbysiadau a gyflwynwyd |
|---|---|
| E. coli | 72 |
| Bacteria colifform | 71 |
| Enterococci | 68 |
| Clostridium perfringens | 19 |
| Ion hydrogen (pH) – dangosydd – parth | 18 |
| Plwm | 15 |
| Cyfrifiadau cytref ar ôl 3 diwrnod ar dymheredd o 22oC | 10 |
| Manganîs (cyfanswm) | 10 |
| Cyfrifiadau cytref ar ôl 3 diwrnod ar dymheredd o 37oC | 7 |
| Haearn (cyfanswm) | 6 |
| Alwminiwm (cyfanswm) | 5 |
| Afloywder | 5 |
| Lliw | 4 |
| Copr (cyfanswm) | 4 |
| Nicel (cyfanswm) | 2 |
| Arsenig (cyfanswm) | 1 |
| Ion hydrogen (pH)( dangosydd) | 1 |
| Nitraid – tapiau defnyddwyr | 1 |
| Cyfanswm | 319 |
