Mae llawer iawn o amser arolygwyr yn cael ei dreulio yn darparu arweiniad fesul achos drwy ymateb i ymholiadau. Mae’r ymholiadau hyn yn cynnwys galwadau ffôn a negeseuon e-bost. Yn gyson, mae’r rhan fwyaf o ymholiadau wedi dod gan awdurdodau lleol ers cychwyn y Rheoliadau yn 2010. Mae natur yr ymholiadau hyn yn amrywio, gyda rhai rheoliadau’n denu mwy o ymholiadau ar weithredu nag eraill.

Mae’r Arolygiaeth yn ymwybodol, drwy ymholiadau gan ddefnyddwyr, bod rhai awdurdodau lleol yn gwrthod ceisiadau samplu neu asesu risg gan berchnogion neu feddianwyr eiddo sy’n cael eu gwasanaethu gan gyflenwad dŵr preifat. Mae’r swyddogaethau hyn yn ofyniad statudol, felly mae’n destun pryder mawr nad yw awdurdodau lleol yn cyflawni’r dyletswyddau hyn sy’n peryglu iechyd y cyhoedd.

Nid oes gan yr Arolygiaeth unrhyw bwerau i ymchwilio i’r adroddiadau hyn, nac i gwynion am awdurdodau lleol sydd wedi bod yn anghynorthwyol neu yr honnir nad ydynt wedi cyflawni eu rhwymedigaethau rheoleiddio. Atgoffir ymholwyr bod gan bob awdurdod lleol broses gwyno y dylid ei dilyn i’r pen cyn uwchgyfeirio at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol. Mae’r Arolygiaeth yn ymwybodol bod rhai defnyddwyr wedi cychwyn y broses adolygiad Barnwrol, felly mae hwn hefyd yn opsiwn sydd ar gael lle bo hynny’n briodol. Mae hefyd yn bosibl ysgrifennu at eich AS lleol ac, unwaith eto, mae’r Arolygiaeth yn ymwybodol o achosion sydd wedi elwa o’r dull gweithredu hwn.

Anogir awdurdodau lleol i ymgynghori â gwefan yr Arolygiaeth cyn gwneud ymholiad am gyflenwadau dŵr preifat. Yn 2022, cafodd cyfleuster chwilio penodol ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat ei greu i helpu’r rheini sy’n ymweld â gwefan yr Arolygiaeth i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r canllawiau perthnasol maen nhw’n chwilio amdanyn nhw. Gellir dod o hyd i’r dudalen chwilio drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol Chwilio – nodiadau gwybodaeth dechnegol.

Ffigur 2 – Ymholiadau ynghylch cyflenwadau dŵr preifat yng Nghymru a Lloegr