Mae darparu dŵr yfed glân yn hanfodol i iechyd a lles cymdeithas a ffyniant economaidd, ac mae mynediad at ddŵr glân yn hawl ddynol sylfaenol a gydnabyddir gan y Cenhedloedd Unedig. Mae’r datblygiadau mewn cynllunio diogelwch dŵr a rheoli systemau, wedi’u hategu gan reoleiddio ansawdd dŵr cadarn, yn darparu peth o’r dŵr yfed gorau yn y byd. Mae ansawdd dŵr yfed yng Nghymru yn parhau i fod yn rhagorol, gyda chyflenwadau cyhoeddus yn gyson yn bodloni’r safonau rheoleiddio llym ar gyfer dŵr yfed. Roedd cydymffurfiaeth â’r safonau yn 2024 yn 99.97%, er bod yr her yn parhau i gyflawni cydymffurfiaeth 100% â’r safonau rheoleiddio.

Mae cyflenwadau dŵr yfed yng Nghymru wedi’u diogelu gan gynllunio diogelwch dŵr sy’n darparu dull aml-rwystr cadarn. Yn y broses hon, nodir risgiau o’r ffynhonnell i’r tap, a rhoddir lliniaru ar waith i fynd i’r afael â’r risgiau cyn bod unrhyw ddirywiad neu effaith ar ddefnyddwyr. Caiff ansawdd y cyflenwadau ei wirio ymhellach trwy samplu ar hap helaeth. Weithiau mae pethau’n mynd o chwith, a phan fydd hyn yn digwydd, mae’r Arolygiaeth yn ymchwilio, yn asesu achosion o dorri cydymffurfiaeth a digwyddiadau, ac yn cymryd camau gorfodi i atal y sefyllfa rhag digwydd eto. Cyflwynir manylion cryno o’r gweithgaredd rheoleiddio a gynhaliwyd gan yr Arolygiaeth yn ystod 2024 yn yr adroddiad hwn, a chyhoeddir manylion pellach am raglenni gwella cwmnïau ar wefan yr Arolygiaeth.

Mae cychwyn AMP8 eleni yn nodi dechrau ymdrechion y diwydiant i gyflawni’r canlyniadau a nodir yng nghynlluniau busnes PR24. Mae hyn yn cyd-daro â Dŵr Cymru yn cychwyn ei raglen drawsnewid fisoedd ynghynt. Bydd yr Arolygiaeth yn cynnal ei hymgysylltiad â’r cwmni i gefnogi perfformiad gwell, gan ysgogi gwelliannau mesuradwy mewn gwydnwch, effeithlonrwydd gweithredol, cydymffurfiaeth reoleiddiol, profiad defnyddwyr, a metrigau perfformiad. Mae ein system gyflenwi dŵr dan bwysau gan amrywiaeth o fygythiadau gwahanol, ac mae’r rhain yn cael eu gwneud yn fwy taer gan newid hinsawdd a thwf poblogaeth. Ym mis Ionawr, gwneuthum argymhellion i Weinidogion ar gyfer diweddariadau i’n safonau dŵr yfed. Mae’r argymhellion wedi ffurfio sail canllawiau i gwmnïau dŵr, gyda’r nod yn y pen draw o ddiweddaru’r rheoliadau i fodloni safonau ansawdd modern. Bydd hyn yn galluogi defnyddwyr i barhau i fod yn hyderus yn ansawdd eu dŵr yfed, a’u bod yn cael eu hamddiffyn rhag dod i gysylltiad â halogion.

Fodd bynnag, mae angen ystyried materion eraill yn awr. Mae gwydnwch cyflenwadau, diogelwch, digonolrwydd mewn cyfnodau o sychder, a chynlluniau ailddefnyddio dŵr diogel, prosesau trin newydd, a materion etifeddol fel pibellau plwm mewn anheddau domestig, i gyd yn faterion pwysig y mae angen mynd i’r afael â nhw. Mae’r Arolygiaeth wedi gweithio’n agos gydag Ofwat drwy’r adolygiad prisiau pum mlynedd i sicrhau bod digon o fuddsoddiad mewn asedau a seilwaith cwmnïau, ond mae llawer i’w wneud o hyd i wella iechyd a gwydnwch asedau.  

Mae’r llywodraeth wedi lansio comisiwn annibynnol i’r diwydiant dŵr, i ailosod y berthynas rhwng defnyddwyr, cwmnïau dŵr a’r amgylchedd. Mae hwn yn gyfle i feddwl ymlaen llaw a datblygu atebion cynaliadwy a fydd yn cwrdd â’r heriau sy’n wynebu’r sector. Rydw i’n croesawu’r adolygiad hwn ac yn edrych ymlaen at weithio gydag egni a phwrpas newydd i amddiffyn a gwella cyflenwadau dŵr yfed heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Marcus Rink

Prif Arolygydd Dŵr Yfed


Dwr Yfed 2024

Adroddiad y Prif Arolygydd ar gyfer Cymru

Dŵr Yfed 2024 yw cyhoeddiad blynyddol Prif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru a Lloegr. Dyma’r 34ain adroddiad ar waith yr Arolygiaeth ac mae’n cyflwyno’r wybodaeth gryno am ansawdd dŵr yfed ar gyfer y flwyddyn galendr 2024. Fe’i cyhoeddir fel cyfres o bedwar adroddiad chwarterol ac adroddiad cryno terfynol, sy’n ymdrin â chyflenwadau dŵr cyhoeddus, ac un adroddiad, sy’n ymdrin â chyflenwadau dŵr preifat. Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb o gyflenwadau dŵr cyhoeddus Cymru.

Yn yr adroddiad hwn nodir y ffeithiau allweddol am ansawdd y cyflenwadau dŵr cyhoeddus yng Nghymru, a wasanaethir gan ddau gwmni dŵr ac un penodedig newydd, sy’n cyflenwi cyflenwadau i dros 3.3 miliwn o ddefnyddwyr. Dangosir yr ardal a wasanaethir gan bob cwmni dŵr yn Ffigur 1.

Infographic – Industry statistics