Yn yr adroddiad hwn nodir y ffeithiau allweddol am ansawdd y cyflenwadau dŵr cyhoeddus yng Nghymru, a wasanaethir gan ddau gwmni dŵr ac un penodedig newydd, sy’n cyflenwi cyflenwadau i dros 3.3 miliwn o ddefnyddwyr. Dangosir yr ardal a wasanaethir gan bob cwmni dŵr yn Ffigur 1.

Ffigur 1. Cwmnïau sy’n cyflenwi dŵr yng Nghymru (map)

Tabl 1. Ffeithiau allweddol am drefniadau cyflenwi dŵr cyhoeddus a phreifat yng Nghymru

Cyhoeddus
Population supplied3,300,180
Water supplied (L/day)941,728,000
Treatment works69
Service reservoirs394
Water supply zones103
Length of mains pipe (km)30,543
Surface sources259
Groundwater sources40
Mixed water sources1
Preifat
Population supplied67,130
Water supplied (L/day)110,242
Number of supplies14,904
Number of local authorities with private supplies22
Supplies without a risk assessment11,671

Ardal y cyflenwad:

Ynys Môn, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Henffordd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd a Phort Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Amwythig, Abertawe, Torfaen, Bro Morganwg a Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Lle mae ffiniau awdurdodau lleol neu gwmnïau dŵr yn croesi ffiniau rhanbarthol, mae data’r awdurdod lleol neu’r cwmni dŵr cyfan wedi’i briodoli i’r rhanbarth lle mae’r rhan fwyaf o’i ardal wedi’i leoli.