- Dŵr yfed 2025 – Crynodeb o adroddiad y Prif Arolygydd ar ddŵr yfed yng Nghymru
- Rhagair
- Cyflwyniad
- Cyflenwadau dŵr a phrofion
- Cydymffurfio â safonau
- Dysgu o fethiannau cydymffurfio
- Dysgu o ddigwyddiadau
- Cysylltiadau defnyddwyr
- Iechyd asedau
- Cynllunio diogelwch dŵr ac asesu risg
- Sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS)
- Rhaglen archwilio
- Argymhellion
- Gorfodi
- Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng - SEMD
- Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS)
- Deunyddiau mewn cysylltiad â dŵr yfed (Rheoliad 31)
- Cyhoeddiadau ymchwil
- Chwythu’r chwiban
- Gweithio gyda rhanddeiliaid
- Atodiad A - Nifer y profion a gynhaliwyd gan gwmnïau
- Atodiad B - Cydymffurfio â safonau
- Atodiad C - Methiannau cydymffurfiaeth a digwyddiadau
Dysgu o fethiannau cydymffurfio
Yn 2025, cofnododd Cymru nifer o fethiannau cydymffurfio microbiolegol. Thema gyson ar draws y methiannau hyn oedd diffyg cadernid asedau, yn enwedig yr anallu i dynnu tanciau critigol o’r cyflenwad ar gyfer archwiliad mewnol amserol oherwydd diffyg trefniadau osgoi a/neu opsiynau wrth gefn. Mewn sawl achos, cafodd ymchwiliadau eu gohirio am fisoedd lawer lle’r oedd asedau’n hanfodol i weithrediad, gan gyfyngu ar hyder nad oedd defnyddwyr yn agored i risg barhaus adeg methiant. Roedd yr achosion hyn yn atgyfnerthu’r angen am gynllunio cadernid rhagweithiol i sicrhau y gellir cwblhau ymchwiliadau microbiolegol yn brydlon o dan yr holl amodau gweithredu.
Roedd methiannau mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth a thanciau dŵr wedi’i drin yn tynnu sylw at wendidau mewn trefniadau arolygu, gwybodaeth am gyflwr asedau, a chywirdeb cofnodion. Dangosodd sawl methiant bwysigrwydd cynnal diagramau cynllunio cywir a chyfredol, yn enwedig ar ôl comisiynu neu ddatgomisiynu asedau, i sicrhau bod ymchwiliadau’n gynhwysfawr a bod strategaethau samplu’n briodol. Yn nodedig, nodwyd problemau gydag asedau sy’n heneiddio a seilwaith sydd newydd gael ei gomisiynu, gan bwysleisio nad yw oedran adeiladu yn unig yn cyfateb i risg isel.
Wrth dapiau defnyddwyr, priodolwyd methiant microbiolegol i ddewis pwyntiau samplu amhriodol. Roedd presenoldeb atodiadau tap yn peryglu cynrychioldeb samplau, gan arwain at ganlyniadau camarweiniol a chamau rheoleiddio diangen. Roedd hyn yn atgyfnerthu’r gofyniad am feini prawf samplu clir, ymwybyddiaeth staff, a sicrwydd bod samplau tapiau defnyddwyr yn adlewyrchu ansawdd dŵr y cyflenwad yn gywir.
Parhaodd methiannau blas ac arogl achlysurol yn 2025, wedi’u sbarduno’n bennaf gan gyfansoddion rhagsylweddion dŵr crai ailadroddol a sgil-gynhyrchion sy’n gysylltiedig â thriniaeth. Er bod mesurau lliniaru gweithredol ar waith, roedd nifer o ddigwyddiadau ailadroddol yn dangos nad oedd y rheolaethau cychwynnol yn ddigon cadarn. Mae gwelliannau i ddulliau rheoli carbon wedi’i actifadu gronynnog (GAC), gan gynnwys targedau gorludded mwy ceidwadol, yn gam cadarnhaol tuag at reoli risgiau esthetig yn fwy effeithiol a chynaliadwy.
Parhaodd methiannau haearn ac afliwio mynych, gyda Chymru’n parhau i berfformio’n wael o’i chymharu â chwmnïau yn Lloegr. Roedd y rhan fwyaf o fethiannau haearn yn gysylltiedig â phrif bibellau haearn bwrw sy’n dirywio, trosiant isel, pengaeadau, ac anghywirdebau mewn cofnodion asedau, yn enwedig lle nad oedd falfiau caeedig yn cael eu hadlewyrchu mewn systemau GIS. Er bod rhaglenni fflysio yn sicrhau cydymffurfiaeth yn y tymor byr, roeddent yn aml yn methu mynd i’r afael ag achosion sylfaenol, ac mewn rhai achosion nid oedd y samplu a wnaed ar ôl fflysio yn cynrychioli amodau rhwydwaith nodweddiadol. Pwysleisiodd yr Arolygiaeth yn gyson yr angen i symud oddi wrth fflysio adweithiol tuag at adnewyddu asedau’n amserol a chynllunio buddsoddiad hirdymor.
Roedd methiant afloywder mewn gorsaf bwmpio twll turio yn pwysleisio pwysigrwydd rheoli a monitro triniaethau’n effeithiol. Cyfrannodd absenoldeb terfyniad afloywder dŵr terfynol at y digwyddiad, gan ysgogi gwelliannau i drefniadau terfynu, calibradu monitorau a gwaith cynnal a chadw rhagweithiol. Fe wnaeth y digwyddiad atgyfnerthu’r angen i ddiogelu’r cam diheintio llawn a sicrhau bod unrhyw effeithiau o ddosio cemegol ar afloywder a pH yn cael eu rheoli’n ddigonol.
Yn gyffredinol, mae darlun cydymffurfiaeth 2025 yng Nghymru yn atgyfnerthu’r angen am gadernid asedau cryfach, cofnodion cywir, monitro cynrychioladol a buddsoddiad rhagweithiol. Mae dibyniaeth reolaidd ar fesurau adweithiol a samplu cydymffurfiaeth tymor byr yn rhoi sicrwydd cyfyngedig o ansawdd dŵr parhaus. Mae mynd i’r afael ag achosion sylfaenol drwy well llywodraethu, cynllunio tymor hir a gwaith cynnal a chadw ataliol yn dal yn hanfodol er mwyn lleihau methiannau ailadroddol a diogelu defnyddwyr.
Canfyddiadau microbiolegol ar safleoedd gwaith trin dŵr ac mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth
Yng Nghymru, roedd tri methiant cydymffurfio microbiolegol ar safleoedd gwaith trin dŵr yn 2025, i gyd mewn asedau Dŵr Cymru. Thema a gododd dro ar ôl tro ar draws nifer o fethiannau oedd yr anallu i dynnu asedau o’r cyflenwad i’w harchwilio’n amserol oherwydd diffyg cadernid asedau. Bu cynnydd cyson mewn methiannau microbaidd yng Nghymru ers 2021, fel y gwelir yn Ffigur 9. Mae’r paragraffau canlynol yn disgrifio rhai o’r senarios methiant hyn, ynghyd â’r gwersi a ddysgwyd.
Safleoedd gwaith trin dŵr
| Paramedr | Safon gyfredol | Cyfanswm nifer y profion | Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon | Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon fesul cwmni |
|---|---|---|---|---|
| Clostridium perfringens (clostridia sy’n lleihau sylffit) (cadarnhawyd) | nifer/100 mL | 600 | 0 | |
| E. coli (cadarnhawyd) | nifer/100 mL | 12,108 | 0 | |
| Afloywder – dangosydd | NTU | 12,093 | 0 | |
| Cyfanswm y colifformau (cadarnhawyd) | nifer/100 mL | 12,108 | 2 | DWR (2) |
Tabl 5. Profion microbiolegol – Nifer y profion a gynhaliwyd a nifer y profion nad oeddent yn bodloni’r safon
Mae’r dangosydd afloywder yn baramedr rheoli critigol ar gyfer trin a diheintio dŵr.
Cronfeydd dŵr gwasanaeth
| Paramedr | Safon gyfredol | Cyfanswm nifer y profion | Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon | Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon fesul cwmni |
|---|---|---|---|---|
| E. coli (cadarnhawyd) | nifer/100 mL | 20,057 | 0 | – |
| Cyfanswm y colifformau(cadarnhawyd) | nifer/100 mL | 20,057 | 0 | DWR (10), HDC (2) |
Tabl 6 – Methiannau microbiolegol mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth
Tapiau defnyddwyr
| Paramedr | Safon gyfredol | Cyfanswm nifer y profion | Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon | Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon fesul cwmni |
|---|---|---|---|---|
| Bacteria colifform (dangosydd) | nifer/100 mL | 8,703 | 30 | HDC(4), DWR(26) |
| E. coli (cadarnhawyd) | nifer/100 mL | 8,703 | 1 | DWR(1) |
| Enterococci (cadarnhawyd) | nifer/100 mL | 753 | 0 | – |
Tabl 7 – Methiannau microbiolegol wrth dapiau defnyddwyr
E. coli ac Enterococci ar safleoedd gwaith trin dŵr, mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth a thapiau defnyddwyr
| Cwmni | E. coli mewn dŵr yn gadael safleoedd gwaith trin dŵr | E. coli mewn dŵr yn gadael cronfeydd dŵr gwasanaeth | E. coli mewn dŵr yn gadael tapiau defnyddwyr | Enterococci mewn dŵr yn gadael tapiau defnyddwyr |
|---|---|---|---|---|
| ALE | 0 – 0 | 0 – 0 | 0 – 12 | 0 – 4 |
| DWR | 0 – 11,166 | 1 – 16,189 | 1 – 8,067 | 0 – 638 |
| HDC | 0 – 942 | 1 – 3,868 | 0 – 624 | 0 – 111 |
Tabl 8 – E. coli ac Enterococci wedi’u canfod ar safleoedd gwaith trin dŵr, mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth a thapiau defnyddwyr
Sylwer: Dangosir y canlyniadau fel nifer y profion positif ac yna cyfanswm y profion
Ffigur 9 – Methiannau microbiolegol dros y 10 mlynedd diwethaf
Ym mis Chwefror, adroddodd Dŵr Cymru am un colifform mewn sampl a gasglwyd o ddŵr terfynol safle gwaith trin dŵr Court Farm. Nid oedd y cwmni’n gallu canfod achos sylfaenol, ac felly nid oedd yr Arolygiaeth yn gallu dod i’r casgliad ei bod yn annhebygol y byddai hyn yn digwydd eto. Gohiriwyd ymchwiliad pellach nes y gellid tynnu tanciau cyswllt a thanciau dŵr terfynol o’r cyflenwad i’w harchwilio’n fewnol. Oherwydd rôl hanfodol Court Farm yn cynnal cyflenwadau yn System Defnydd Cysylltiol De-ddwyrain Cymru yn ystod cyfnod o sychder, ni chafodd y gwaith hwn ei gwblhau tan 21 Hydref 2025, tua wyth mis ar ôl y methiant. Ar ôl cynnal profion llifogydd to, ni chanfuwyd unrhyw bwyntiau mewnlifol, ac adroddwyd bod yr holl danciau mewn cyflwr boddhaol.
Yn yr un modd, ym mis Ebrill, archwiliwyd nifer o danciau ar ôl canfod un colifform ar safle gwaith trin dŵr De Alaw. Fodd bynnag, cafodd hyn ei ohirio nes gallai safle gwaith trin dŵr Cefni gefnogi cadernid y cyflenwad. Yn safle gwaith trin dŵr Bretton, roedd cyfyngiadau cadernid yn fwy acíwt, gyda thanc cyswllt un adran a diffyg system ddargyfeirio yn atal tynnu o’r cyflenwad yn dilyn canfyddiadau ym mis Mai 2024 a mis Mai 2025, gan ohirio archwiliad mewnol tan fis Hydref 2025. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut y gall cadernid annigonol a diffyg hyblygrwydd gweithredol oedi ymchwiliadau i risgiau microbiolegol yn sylweddol.
Mae achosion pellach yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwybodaeth am asedau a phrosesau ymchwilio cynhwysfawr. Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth rhif 3 Pengarnddu (Dŵr Cymru), ni ymchwiliwyd yn llawn i ganfyddiad colifform ym mis Gorffennaf 2025 oherwydd diagramau cynllunio anghyflawn, a oedd yn hepgor cysylltiadau hydrolig â chronfa ddŵr gyfagos, ac roedd cadernid cyfyngedig yn atal datgysylltu’r ased o’r cyflenwad. Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Porthmadog, roedd diagram cynllunio hen ffasiwn a gwallus yn cynnwys safle gwaith wedi’i ddatgomisiynu ac yn hepgor ffynhonnell weithredol, gan gymhlethu’r ymchwiliad ar ôl canfod E. coli.
Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Creigiau, lle cludwyd dŵr mewn tanceri i ateb y galw yn ystod tywydd poeth, canfuwyd sawl colifform yn y gronfa ddŵr gwasanaeth ac mewn tanceri cysylltiedig o fewn yr un cyfnod. Fodd bynnag, ni ystyriwyd cludo dŵr mewn tanceri fel rhan o’r ymchwiliad i gychwyn. Nodwyd problemau strwythurol a phroblemau mynediad mewn sawl safle hefyd. Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Axton, aeth pryfed i mewn drwy bilen wedi’i difrodi, er bod y to wedi pasio prawf llifogydd yn y gorffennol. Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Birchgrove, canfu archwiliad mewnol fewnlif sylweddol drwy uniadau to a llyncdwll gerllaw, ac nid oedd y naill na’r llall wedi bod yn amlwg yn ystod yr arolygiad blaenorol ym mis Tachwedd 2024.
Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos gwendidau sy’n codi dro ar ôl tro mewn cyfundrefnau arolygu, cywirdeb diagramau cynllunio, ac wrth ystyried gweithgareddau gweithredol a newidiadau mewn amodau amgylcheddol fel cyfranwyr at lwybrau halogi. Yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Hirnant (Hafren Dyfrdwy), canfu archwiliad seliau wedi dirywio, trefniadau agorfeydd nad oeddent yn cydymffurfio, a gordyfiant llystyfiant. Mae’r digwyddiadau hyn yn dangos yr angen am ddull systematig a chadarn o reoli risg microbiolegol ar draws systemau cyflenwi dŵr. Dylai cwmnïau sicrhau y gellir tynnu asedau hanfodol yn brydlon drwy drefniadau dargyfeirio priodol ac opsiynau cyflenwi amgen, gan alluogi archwilio ac ymchwilio amserol.

Mae mapiau a diagramau cynllunio cywir a chyfredol yn hanfodol i gefnogi ymateb effeithiol i ddigwyddiadau, a rhaid eu cynnal pan fydd asedau’n cael eu comisiynu, eu haddasu neu eu datgomisiynu. Dylai gweithdrefnau ymchwilio ystyried pob ffynhonnell gredadwy o halogiad, gan gynnwys gweithgareddau gweithredol fel cludo dŵr a newidiadau i’r rhwydwaith. Ar ben hynny, ni ddylai gweithdrefnau arolygu ddibynnu’n llwyr ar brofion llifogydd, ond dylent gynnwys asesiadau cynhwysfawr strwythurol, gweledol a seiliedig ar gyflwr i ganfod diffygion cudd. Bydd cryfhau cadernid, gwella gwybodaeth am asedau a gwella arferion ymchwilio yn lleihau oedi, yn gwella’r gwaith o ganfod achosion sylfaenol ac yn cefnogi’r cyflenwad cyson o ddŵr dihalog o dan amodau gweithredu arferol ac anarferol.

Paramedrau cemegol a ffisegol
| Paramedr | Unedau | Cyfanswm nifer y profion | Nifer y profion nad ydynt yn bodloni’r safon |
| Lliw | mg/L Pt/Co | 3225 | 1 |
| Arogl | Rhif gwanedu ar 25oC | 3222 | 5 |
| Blas (meintiol) | Rhif gwanedu ar 25oC | 3220 | 5 |
| Ion hydrogen (pH) – dangosydd – parth | Gwerth pH | 3220 | |
| Sylffad | mg/L SO₄ | 460 | |
| Sodiwm (cyfanswm) | mg/L Na | 749 | |
| Nitrad (cyfanswm) | mg/L NO₃ | 751 | |
| Nitraid – tapiau defnyddwyr | mg/L NO₂ | 751 | |
| Amoniwm (parth) | mg/L NH₄ | 929 | |
| Alwminiwm (cyfanswm) | µg/L Al | 3188 | |
| Haearn (cyfanswm) | µg/L Fe | 3188 | 17 |
| Manganîs (cyfanswm) | µg/L Mn | 3190 | 1 |
| Copr (cyfanswm) | mg/L Cu | 749 | |
| Fflworid (cyfanswm) | mg/L F | 460 | |
| Arsenig (cyfanswm) | µg/L As | 749 | |
| Cadmiwm (cyfanswm) | µg/L Cd | 749 | |
| Syanid (cyfanswm) | µg/L CN | 459 | |
| Cromiwm (cyfanswm) | µg/L Cr | 749 | |
| Mercwri (cyfanswm) | µg/L Hg | 458 | |
| Nicel (cyfanswm) | µg/L Ni | 749 | |
| Plwm (10) | µg/L Pb | 747 | 2 |
| Antimoni | µg/L Sb | 749 | |
| Seleniwm (cyfanswm) | µg/L Se | 749 | |
| Plaladdwyr (cyfanswm yn ôl cyfrifiad) | µg/L | 725 | |
| Hydrocarbonau aromatig polysyclig (cyfanswm yn ôl cyfrifiad) | µg/L | 752 | |
| Diheintydd gweddilliol – rhydd | mg/L | 8897 | |
| Diheintydd gweddilliol – cyfanswm | mg/L | 8261 | |
| Dargludedd trydanol | µS/cm ar 20°C | 2997 | |
| Boron | mg/L B | 458 | |
| Benso[a]Pyren (cyfanswm) | µg/L | 754 | |
| Tetracloromethan (cyfanswm) | µg/L | 466 | |
| Tricloroethen a Tetracloroethen – swm 2 sylwedd (cyfanswm yn ôl cyfrifiad) | µg/L | 464 | |
| Trihalomethanau (cyfanswm yn ôl cyfrifiad) | µg/L | 754 | |
| 1,2-Dichloroethan (cyfanswm) | µg/L | 468 | |
| Bensen (cyfanswm) | µg/L | 468 | |
| Bromad | µg/L BrO₃ | 581 | |
| Alffa gros | Bq/L | 1 | |
| Beta gros | Bq/L | 1 | |
| Tritiwm | Bq/L | 1 | |
| Cyfanswm | – |
Adroddodd Hafren Dyfrdwy fethiant afloywder dŵr terfynol o 1.25 uned afloywder nephelometrig (NTU) yng Ngorsaf Bwmpio Twll Turio Newydd Llandinam ar 20 Chwefror. Daeth ymchwiliad y cwmni i’r casgliad mai’r achos gwreiddiol mwyaf tebygol oedd presenoldeb solidau heb eu hydoddi sy’n gysylltiedig â dosio calch ar y safle gwaith trin dŵr. Dangosodd dadansoddiad o dueddiadau data hanesyddol, asesiadau risg dalgylch a pherfformiad pilenni uwch-hidlo nad oedd modd priodoli’r methiant i ddirywiad yn ansawdd y dŵr crai o dyllau turio Llandinam.
Adeg y methiant, nid oedd proses gau oherwydd afloywder dŵr terfynol ar waith. Mewn ymateb, rhoddodd y cwmni broses gau oherwydd afloywder dŵr ar waith i fyny’r gadwyn gyflenwi o’r pwynt dosio calch. Cafodd hyn ei osod i gychwyn ar 0.95 NTU a’i ostwng wedyn i 0.75 NTU ar 18 Mawrth. Ar ben hynny, trefnwyd bod siambr ddosio’r tanc balans (pwmp codi uchel) yn cael ei glanhau er mwyn lleihau faint o ddyddodion calch sy’n cronni.
Cynyddodd y cwmni amlder calibradu’r monitorau afloywder a pH dŵr terfynol, a mabwysiadodd brosesau draenio a glanhau tanciau storio calch fel gweithgaredd cynnal a chadw rhagweithiol blynyddol yn BPS Llandinam.
Atgoffir cwmnïau y dylid ffurfweddu trefniadau cau’r safle i ddiogelu’r cam diheintio yn ei gyfanrwydd, o’r adeg y caiff y diheintydd ei gyflwyno hyd at y gwaith samplu dŵr terfynol. Dylai larymau a phrosesau cau gael eu profi’n rheolaidd er mwyn rhoi sicrwydd y byddant yn gweithio. Pan fydd cemegion yn cael eu defnyddio yn ystod y cam diheintio, dylid asesu a rheoli eu heffaith bosibl ar berfformiad diheintio i lawr y gadwyn gyflenw yn barhaus i, gan gynnwys yr effeithiau ar afloywder a pH, er mwyn sicrhau cydymffurfiad â thargedau polisi diheintio’r cwmni.
Plwm
Mae plwm yn fetel gwenwynig sy’n gallu hydoddi i ddŵr yfed pan fydd yn dod i gysylltiad â phibellau plwm. Mae defnyddwyr yn cael eu diogelu i raddau helaeth rhag dod i gysylltiad â phlwm drwy ddosio ffosffad, triniaeth a ddefnyddir yn eang ar draws sawl parth yng Nghymru sy’n lleihau ymdoddiad plwm. Mae’r dull hwn yn un o’r prif resymau pam mai ychydig iawn o samplau o dapiau defnyddwyr, os o gwbl, sy’n methu’r safon plwm bob blwyddyn. Ar ben hynny, mae’r nifer cymharol isel o brofion plwm sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau yn cyfrannu at y canlyniad hwn.
Yn 2025, cofnodwyd dau fethiant plwm yng Nghymru, yn ardal Dŵr Cymru, â’r ddau wedi’u hadrodd ar 11 µg/L. Roedd y methiant yn Nwyrain Ynys Môn wedi nodi sodr plwm a phibell gyfathrebu plwm yn yr eiddo, ochr yn ochr â methiannau mewn dosio asid orthoffosfforig. Gwnaed gwaith adfer yn yr eiddo, a chynghorwyd y cwmni i ymchwilio i wraidd y methiant dosio ac i adolygu’r drefn cynnal a chadw.
Yn yr ail fethiant, yn y Barri, nododd archwiliad y cwmni fod y bibell gyflenwi wedi’i gwneud o blwm ac felly dyma’r achos tebygol. Darparwyd cyngor ar fflysio a chynghorwyd y cwsmer i newid y bibell gyflenwi..
Blas ac arogl
Mae blas ac arogl mewn dŵr yfed yn ddangosyddion allweddol o dderbynioldeb a hyder defnyddwyr, ac fe’u rheoleiddir dan y gofyniad bod yn rhaid i ddŵr fod yn iach ac yn lân. O dan ddeddfwriaeth dŵr yfed, mae blas ac arogl yn baramedrau dangosyddion, sy’n golygu er nad ydynt fel arfer yn gysylltiedig â risgiau iechyd uniongyrchol ar y lefelau y deuir ar eu traws, gall unrhyw ddirywiad fod yn arwydd o broblemau sylfaenol gydag ansawdd dŵr ffynhonnell, prosesau trin, neu gyflwr y system ddosbarthu.
Gall blas neu arogl annerbyniol ddeillio o amrywiaeth o achosion, gan gynnwys gweithgarwch algaidd mewn dyfroedd ffynhonnell, presenoldeb cyfansoddion organig sy’n digwydd yn naturiol, aneffeithlonrwydd triniaethau, neu dyddodion yn symud o fewn y system ddosbarthu. Gall cyfansoddion clorin a chlorinaidd hefyd ddylanwadu ar flas, yn enwedig pan fydd dosio’n digwydd ar lefel uchel neu’n cael ei reoli’n wael.
Pan ganfyddir pryderon, mae angen ymchwilio iddynt o dan reoliad 18 er mwyn penderfynu ar yr achos a difrifoldeb y mater. Gall cwynion parhaus neu eang ddangos diffygion o ran optimeiddio triniaethau, perfformiad asedau, neu reoli rhwydwaith, a bydd angen cymryd camau unioni i adfer hyder defnyddwyr.
Disgwylir i gwmnïau fonitro a rheoli blas ac arogl yn rhagweithiol drwy reoli prosesau trin yn effeithiol, cynnal systemau dosbarthu, ac ymateb yn briodol i adroddiadau cwsmeriaid. Mae’r paramedrau hyn hefyd yn cael eu hystyried yn asesiadau risg rheoliad 27 i sicrhau bod dŵr nid yn unig yn parhau i gydymffurfio ond yn dderbyniol i ddefnyddwyr.
Roedd pum methiant blas a phum methiant arogl yng Nghymru yn 2025, gostyngiad o 12 yn 2024, fel y dangosir yn Ffigur 8.
Roedd parth Bontgoch Dŵr Cymru yn dal i gael lle amlwg ymysg y parthau a oedd yn methu, gyda saith o’r 10 methiant wedi’u cofnodi yn y parth hwn.
Mae panel blas ac arogl labordy’r cwmni wedi canfod methiannau blas ac arogl ailadroddol yn y parth cyflenwad dŵr hwn ers mis Ionawr 2020. Mae ymchwiliadau wedi canfod crynodiadau uwch o 2,4,6 trichloroanisole yn y cyflenwad o safle gwaith trin dŵr Bontgoch, gyda ffynonellau’n debygol o gynnwys cyfansoddion sy’n digwydd yn naturiol yn y dŵr crai, a ffurfiad fel sgil-gynnyrch clorineiddio yn ystod y gwaith trin. Er bod dadansoddiad labordy wedi canfod blas ac arogl ac wedi cadarnhau presenoldeb y cyfansoddyn hwn, nid yw defnyddwyr mewn eiddo yr effeithir arnynt fel arfer wedi adrodd am flas nac arogl anarferol. Mae’r cwmni wedi ymgysylltu ag arbenigwyr allanol ac wedi rhoi amrywiaeth o fesurau lliniaru ar waith, gan gynnwys diheintio hidlyddion i gael gwared ar fiomas a’r potensial cysylltiedig o sgil-gynhyrchion yn ffurfio, a monitro gwell sy’n gysylltiedig â chlorineiddio cyn yr ail gam. Bydd hidlyddion trydydd cam i lawr y gadwyn gyflenwi o’r tanc cyswllt hefyd yn cael eu datgomisiynu a’u hosgoi erbyn mis Mehefin 2026 fel rhan o welliannau tymor hwy i’r gwaith trin.
Ym mharth cyflenwi dŵr Abergele a’r Rhyl, priodolwyd methiant blas ar 28 Ionawr 2025 i grynodiadau uwch o 2-methylisoborneol (MIB) yn safle gwaith trin dŵr crai Glascoed. Roedd digwyddiad blas ac arogl tebyg gyda’r un achos sylfaenol wedi digwydd ym mis Mai 2024. Er bod mesurau lliniaru, gan gynnwys dosio powdr carbon wedi’i actifadu a chymysgu â chyflenwadau tyllau turio Llannerch, wedi cael eu rhoi ar waith yn dilyn y digwyddiad cynharach, nid oedd y rheolaethau hyn yn ddigonol i atal y methiant dilynol. Canfu ymchwiliadau fod cysylltyddion carbon wedi’i actifadu gronynnog ar safle gwaith trin dŵr Glascoed yn gweithredu’n is na’r safon oherwydd dos gormodol o geulo fferrig, a oedd yn lleihau effeithlonrwydd y broses gwaredu MIB. Ers hynny, mae’r cwmni wedi nodi’r angen am ddosio asid pen blaen i optimeiddio ceulo a gwella perfformiad carbon wedi’i actifadu gronynnog, gyda’r gwaith wedi’i gynllunio erbyn mis Mawrth 2027. Yn y cyfamser, mae gwell monitro, strategaethau cymysgu a rheoli carbon wedi’i actifadu gronynnog diwygiedig, gan gynnwys meini prawf gorludded mwy ceidwadol, wedi cael eu rhoi ar waith i wella rheolaeth.
Nododd yr Arolygiaeth fod y ffaith bod digwyddiad blasu wedi digwydd eto o fewn wyth mis i ddigwyddiad blaenorol yn dangos nad oedd y mesurau lliniaru cychwynnol yn ddigon cadarn. Fodd bynnag, roedd hefyd yn cydnabod bod rheolaethau ychwanegol a mesurau gwyliadwriaeth gwell wedi cael eu rhoi ar waith ers hynny er mwyn gallu optimeiddio triniaeth yn fwy ymatebol, yn unol â newidiadau yn ansawdd dŵr crai. Disgwylir y bydd mabwysiadu prosesau rheoli carbon wedi’i actifadu gronynnog gwell yn cryfhau’r broses o gael gwared ar gyfansoddion blas ac arogl ar draws safleoedd gwaith trin dŵr perthnasol.
Mae’r methiannau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhoi mesurau rheoli cadarn a chynaliadwy ar waith ar gyfer risgiau blas ac arogl, yn enwedig lle mae ffynonellau dŵr crai yn dueddol o gael eu halogi’n dymhorol neu’n barhaus. Dylai cwmnïau sicrhau bod prosesau trin yn cael eu hoptimeiddio’n llawn ac yn gallu gwrthsefyll amrywiadau yn ansawdd dŵr crai, gyda dealltwriaeth glir o sut mae prosesau ymhellach i fyny’r gadwyn gyflenwi yn effeithio ar berfformiad asedau ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi. Dylai rhaglenni monitro fod yn ddigon sensitif ac ymatebol i ganfod dirywiad yn gynnar a llywio addasiadau gweithredol amserol. Pan fydd digwyddiadau blaenorol wedi digwydd, dylid gwerthuso mesurau lliniaru’n feirniadol i sicrhau eu bod yn effeithiol o ran atal hyn rhag digwydd eto. Bydd cryfhau’r gwaith o reoli prosesau, perfformiad asedau a rheoli risg yn rhagweithiol yn cefnogi’r gwaith o ddarparu ansawdd dŵr derbyniol yn gyson i ddefnyddwyr.
Ffigur 12 – Methiannau blas ac arogl ers 2016
Haearn
Ym mharth ansawdd dŵr y Barri a Sili (Dŵr Cymru), cysylltwyd methiant haearn â falf gaeedig a gofnodwyd yn anghywir fel un agored ar system fapio’r cwmni, gan greu pibell segur a chaniatáu i waddod gronni. Nodwyd mater tebyg ym mharth Malpas, Caerllion a Chwmbrân, a achoswyd eto gan statws ased anghywir ar gofnodion GIS yn dilyn gweithrediadau falfiau. Mewn ymateb, mae’r cwmni wedi cyflwyno proses safonol ar y we i wella cyfathrebu rhwng timau gweithredol a thimau swyddfa, a sicrhau bod cofnodion rhwydwaith yn adlewyrchu statws byw asedau. Mae’r achosion hyn yn dangos pwysigrwydd gwybodaeth gywir am asedau wrth atal methiannau ansawdd dŵr y gellir eu hosgoi. Roedd sawl methiant yn gysylltiedig â dirywiad i’r brif bibell haearn bwrw a throsiant isel y rhwydwaith. Yn ardal Sgeti a’r Gŵyr, roedd gormodiant haearn yn dilyn byrst ac roedd yn gysylltiedig â chyrydiad lleol (tuberculation) trwm mewn prif bibell heb ei leinio gyda llif isel, a oedd yn destun fflysio ac archwilio parhaus. Yng Nghaerdydd a Rhymni, defnyddiwyd mesurau fflysio rheolaidd a mesurau dros dro, fel capiau diferu, i adfer cydymffurfiaeth. Fodd bynnag, nid oedd samplau a gymerwyd yn dilyn yr ymyriadau hyn yn cynrychioli amodau sylfaenol y rhwydwaith ar adeg y methiant, gan beryglu ymchwiliad gwraidd y broblem. Cadarnhaodd archwiliadau mewnol fod prif bibell haearn bwrw 1912 wedi cyrydu’n helaeth, er nad yw ei hadnewyddu yn flaenoriaeth. Nodwyd materion tebyg yn Henffordd, Gorllewin Casnewydd a Gogledd Ynys Môn, lle’r oedd croniad gwaddodion ar bengaeadau neu o fewn prif bibellau sy’n heneiddio wedi achosi methiannau ailadroddus neu risg uchel. Yn Henffordd, roedd methiannau ailadroddus yn parhau er gwaethaf gwaith fflysio, gan sbarduno achos busnes dros fuddsoddiad tymor hwy, ac yng Ngogledd Ynys Môn mae prif bibell ddŵr rhy fawr sy’n cyrydu yn parhau i beri risg barhaus.

Mae achosion eraill yn pwysleisio ymhellach gyfyngiadau ymatebion gweithredol tymor byr. Ym Mhencoed a Chymoedd Pen-y-bont ar Ogwr, roedd methiannau haearn yn cael eu priodoli i waddodion yn cronni mewn prif bibellau, gyda fflysio’n cael ei weithredu wrth i opsiynau buddsoddi tymor hwy gael eu hystyried. Ym mharth Malpas, Caerllion a Chwmbrân, roedd methiant manganîs o ganlyniad i falf gaeedig yn creu pengaead yn y rhwydwaith dosbarthu yn achosi gwaddod i gronni.
Ar draws y digwyddiadau hyn, mae fflysio wedi cael ei ddefnyddio’n aml fel y prif fesur lliniaru, a gefnogir yn aml gan raglenni monitro a chynnal a chadw. Mewn sawl achos, mae rhaglenni fflysio cynnal a chadw cyflymder isel wedi cael eu rhoi ar waith i gynyddu’r prif drosiant lleol. Yn ddiweddar, mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i ganolbwyntio mwy ar waredu gwaddodion drwy fflysio, gan ddefnyddio cyflymderau uwch i glirio gwaddodion cronedig yn systematig o’i rwydweithiau. Dylid nodi nad oes modd gwaredu gwaddodion na sicrhau cyflymder sgwrio digonol bob amser gyda’r asedau sydd ar gael a’r amodau gweithredol, er enghraifft lle mae cyrydiad lleol (tuberculation) mewnol wedi lleihau diamedrau’r pibellau mewnol gwreiddiol. Er y gall y camau gweithredu hyn ddarparu gwelliant dros dro, nid ydynt yn mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol, yn enwedig lle mae’r prif gyflenwad wedi diraddio’n strwythurol neu wedi’i ffurfweddu’n wael yn hydrolig. Mewn rhai achosion, gall fflysio hefyd darfu ar ddyddodion a chynyddu risg tymor byr os nad yw’n cael ei reoli a’i ddilysu’n ofalus drwy samplu cynrychioladol. Mae’r methiannau hyn yn dangos yr angen am ddull mwy rhagweithiol a strategol o reoli’r risg o afliwiad. Dylai cwmnïau sicrhau bod cofnodion asedau yn adlewyrchu statws gweithredol asedau yn gywir bob amser, wedi’u hategu gan brosesau cadarn ar gyfer diweddaru systemau yn dilyn gweithgareddau maes. Dylid cael strategaethau tymor byr, tymor canolig a thymor hir clir ar gyfer mynd i’r afael â risgiau haearn, gan gynnwys ystyried adnewyddu asedau’n amserol lle mae cyflwr seilwaith yn cyfyngu ar effeithiolrwydd rheolaethau gweithredol. Nid yw dibynnu ar fflysio adweithiol a samplu cydymffurfiaeth yn unig yn rhoi sicrwydd o ansawdd dŵr parhaus, yn enwedig pan fydd samplau’n cael eu cymryd o dan amodau sydd wedi’u gwella’n artiffisial. Mae rheoli risg yn effeithiol yn gofyn am fonitro cynrychioliadol, dealltwriaeth o amodau hydrolig, a buddsoddiad wedi’i dargedu i gael gwared ar achosion sylfaenol, gan sicrhau cyflenwad cyson o ddŵr dihalog a derbyniol i ddefnyddwyr.
Ffigur 15 – Methiannau haearn Dŵr Cymru
Lliw
Mae lliw dŵr yfed yn ddangosydd pwysig o ansawdd esthetig a pherfformiad triniaeth. Gall ddeillio o’r ffynhonnell dŵr crai, yn enwedig lle mae deunydd organig naturiol fel sylweddau hwmig yn bresennol, yn ogystal â metelau fel haearn a manganîs neu aflonyddiadau yn y system ddosbarthu. Er nad yw’n bryder iechyd uniongyrchol, gall lliw dyfnach neu fwy dwys fod yn arwydd o broblemau gweithredol sylfaenol a gall effeithio ar hyder defnyddwyr, ac felly disgwylir iddo gael ei gynnal ar lefelau sy’n dderbyniol i ddefnyddwyr.
Cofnodwyd methiant lliw ym mharth cyflenwi consesiynol Hafren Dyfrdwy. Mae’r eiddo’n cael ei gyflenwi o ffynnon, gyda dŵr yn cael ei bibellu i’r eiddo a’i drin drwy system triniaeth uwchfioled ar y pwynt defnyddio. Mae hysbysiad dŵr berw parhaol wedi’i osod wrth dap y gegin. Er bod y cwmni’n gwasanaethu’r system uwchfioled, nid yw’r broses ddiheintio’n cael ei monitro na’i dilysu. Mae’r cwmni’n cydnabod y gallai dirywiad yn ansawdd y dŵr crai, gan gynnwys lliw dyfnach neu fwy dwys, leihau effeithiolrwydd triniaeth uwchfioled ar y pwynt defnyddio. Roedd yr un eiddo hefyd wedi cofnodi achos o fethiant lliw ym mis Chwefror 2024. Mae cyflenwadau consesiynol yn y parth hwn i fod i gael eu cysylltu â’r prif gyflenwad yn 2026 o dan hysbysiad HDC-2022-00001, ac mae’r cwmni wedi adrodd ei fod yn dal ar y trywydd iawn i gwblhau’r gwaith hwn. Mae hysbysiad dŵr berw rhagofalus yn dal yn ei le, ac mae disgwyl i’r cysylltiad parhaol â’r prif gyflenwad ddigwydd erbyn dyddiad cwblhau’r hysbysiad.
