- Dŵr yfed 2025 – Crynodeb o adroddiad y Prif Arolygydd ar ddŵr yfed yng Nghymru
- Rhagair
- Cyflwyniad
- Cyflenwadau dŵr a phrofion
- Cydymffurfio â safonau
- Dysgu o fethiannau cydymffurfio
- Dysgu o ddigwyddiadau
- Cysylltiadau defnyddwyr
- Iechyd asedau
- Cynllunio diogelwch dŵr ac asesu risg
- Sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS)
- Rhaglen archwilio
- Argymhellion
- Gorfodi
- Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng - SEMD
- Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS)
- Deunyddiau mewn cysylltiad â dŵr yfed (Rheoliad 31)
- Cyhoeddiadau ymchwil
- Chwythu’r chwiban
- Gweithio gyda rhanddeiliaid
- Atodiad A - Nifer y profion a gynhaliwyd gan gwmnïau
- Atodiad B - Cydymffurfio â safonau
- Atodiad C - Methiannau cydymffurfiaeth a digwyddiadau
Cyflenwadau dŵr a phrofion
Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r ffeithiau allweddol am ansawdd y cyflenwadau dŵr cyhoeddus yng Nghymru. Darperir y cyflenwadau hyn gan ddau gwmni dŵr ac un penodedig newydd, sy’n cyflenwi dŵr i dros 3.3 miliwn o ddefnyddwyr. Mae penodedig newydd yn gyflenwr sy’n disodli’r darparwr monopoli presennol ar gyfer safle diffiniedig yn ardal y darparwr hwnnw. Dangosir yr ardal a wasanaethir gan bob cwmni dŵr yn Ffigur 2.

| Cyflenwadau dŵr cyhoeddus | Ffeithiau allweddol |
|---|---|
| Poblogaeth a gyflenwir | 3,313,500 |
| Dŵr a gyflenwir (L/dydd) | 926,342,000 |
| Safleoedd gwaith trin dŵr | 69 |
| Cronfeydd dŵr gwasanaeth | 384 |
| Parthau cyflenwi dŵr | 103 |
| Hyd y brif bibell ddŵr (km) | 30,616 |
| Ffynonellau dŵr wyneb | 257 |
| Ffynonellau dŵr daear | 42 |
| Ffynonellau dŵr cymysg | 1 |
| Cyflenwadau dŵr preifat | Ffeithiau allweddol |
|---|---|
| Poblogaeth a gyflenwir | 104,431 |
| Dŵr a gyflenwir (L/dydd) | 108,582 |
| Nifer y cyflenwadau | 14,902 |
| Nifer yr awdurdodau lleol â chyflenwadau preifat | 22 |
| Cyflenwadau heb asesiad risg | 11,756 |
*Mae penodedig newydd neu Benodiadau Newydd ac Amrywiadau (NAV) yn cael eu diffinio gan Ofwat fel a ganlyn – https://www.ofwat.gov.uk/regulated-companies/markets/nav-market/
