- Dŵr yfed 2025 – Crynodeb o adroddiad y Prif Arolygydd ar ddŵr yfed yng Nghymru
- Rhagair
- Cyflwyniad
- Cyflenwadau dŵr a phrofion
- Cydymffurfio â safonau
- Dysgu o fethiannau cydymffurfio
- Dysgu o ddigwyddiadau
- Cysylltiadau defnyddwyr
- Iechyd asedau
- Cynllunio diogelwch dŵr ac asesu risg
- Sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS)
- Rhaglen archwilio
- Argymhellion
- Gorfodi
- Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng - SEMD
- Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS)
- Deunyddiau mewn cysylltiad â dŵr yfed (Rheoliad 31)
- Cyhoeddiadau ymchwil
- Chwythu’r chwiban
- Gweithio gyda rhanddeiliaid
- Atodiad A - Nifer y profion a gynhaliwyd gan gwmnïau
- Atodiad B - Cydymffurfio â safonau
- Atodiad C - Methiannau cydymffurfiaeth a digwyddiadau
Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS)
Mae Rheoliadau Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth 2018 (‘Rheoliadau NIS’) yn sicrhau bod y dechnoleg weithredol a ddefnyddir i gynnal cynhyrchiant dŵr yfed yn parhau i fod yn gadarn ac yn weithredol. Mae hyn yn cefnogi darparu dŵr dihalog bob amser a heb darfu. Yng Nghymru a Lloegr, mae’r gwaith o weithredu a chyflawni Rheoliadau NIS yn cael ei ddirprwyo i’r Arolygiaeth. Cyflawnir hyn drwy reoleiddio a goruchwylio cydymffurfiad â Rheoliadau NIS drwy asesu seibergadernid a diogelwch technoleg weithredol.
Mae technoleg weithredol (OT) yn cyfeirio at y caledwedd a’r systemau meddalwedd a ddefnyddir i fonitro a rheoli dyfeisiau ffisegol, prosesau a seilwaith mewn gweithrediadau diwydiannol. Mae’n wahanol i dechnoleg gwybodaeth gan ei fod yn canolbwyntio ar reoli’r amgylchedd ffisegol yn hytrach na phrosesu a rheoli data. Mae technoleg weithredol yn rheoli gweithrediad ac awtomeiddio offer a ddefnyddir ar gyfer tynnu, trin a dosbarthu dŵr yfed, gan gynnwys pympiau anfon ymlaen, pympiau dosio cemegol, falfiau, systemau cau i ddiogelu ansawdd dŵr a systemau diogelwch awtomataidd. Mae’n hanfodol er mwyn cynhyrchu dŵr yfed dihalog yn awtomatig, yn ddiogel ac yn gost-effeithlon. Er mwyn diogelu’r gwasanaeth hanfodol hwn, rhaid i’r technolegau hyn fod yn briodol, yn ddiogel ac yn addas i’r diben i sicrhau cynhyrchu parhaus a dibynadwy, ar yr un pryd ag amddiffyn rhag bygythiadau sy’n esblygu i seilwaith cenedlaethol critigol.
Mae enghreifftiau o OT yn cynnwys systemau rheoli diwydiannol (ICS) fel systemau Rheoli Goruchwylio a Chaffael Data (SCADA) ar gyfer trin a dosbarthu dŵr yfed. Mae SCADA yn system o gydrannau meddalwedd a chaledwedd sy’n caniatáu i brosesau diwydiannol weithredu’n awtomatig yn lleol neu mewn lleoliadau anghysbell. Mae’n cael ei ddefnyddio i fonitro, casglu a phrosesu data amser real; gan ryngweithio’n uniongyrchol â dyfeisiau fel synwyryddion, falfiau, pympiau a moduron. Mae enghreifftiau eraill o OT yn cynnwys Rhyngwynebau Peiriant Dynol (HMI), sef sgriniau, neu ryngwynebau sy’n cysylltu pobl â pheiriannau, systemau neu ddyfeisiau. Byddai mynediad at dechnoleg o’r fath gan ddrwgweithredwyr â bwriad aflonyddgar yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol.
Rhaid i gwmnïau dŵr sy’n gwasanaethu poblogaeth o 200,000 neu fwy o bobl roi asesiad risg ar waith i wella cadernid OT. Mae’r sector yn defnyddio Fframwaith Seiberasesu (CAF) NCSC ar gais yr Arolygiaeth. Ers 2018, mae’r Arolygiaeth wedi cael ffurflen CAF bob blwyddyn gan bob cwmni sy’n dod o dan reoliadau NIS.
Mae’r cwmnïau’n mapio eu gallu i wrthsefyll bygythiadau gan ddrwgweithredwyr yn erbyn canlyniadau sy’n cyfrannu at arferion seiber da. Mae’r asesiad risg hwn yn sail i gynlluniau buddsoddi a meysydd sydd angen mesurau rheoli ychwanegol.
Rhwng 2023-2024, cafodd pob cwmni dŵr archwiliad seibergadernid gan yr Arolygiaeth i ddilysu asesiad CAF hunanasesu pob cwmni. Rhoddwyd hysbysiadau cyfreithiol i ddau gwmni i wella eu hasesiadau risg mewn ymateb i’r archwiliadau. Mae gan bob cwmni yng Nghymru (a Lloegr) hysbysiad rheoliad 18 i fynd i’r afael â risgiau seiber gweddilliol a’u cynlluniau gwella seiber PR24. Mae Amcanion Rheoli Prisiau Ofwat ynghlwm wrth gyflawni’r hysbysiadau hyn yn llawn. Gall methu â bodloni’r gofynion hysbysu arwain at gosbau Ofwat, ar ben unrhyw orfodaeth gan yr Arolygiaeth.
Yn ystod 2025, cwblhawyd yr archwiliad seibergadernid terfynol. Cyfarfu’r Arolygiaeth hefyd â chwmnïau 62 o weithiau, gan gynnwys naw cyfarfod wyneb yn wyneb. Cynhaliwyd archwiliadau pen desg i edrych ar y cynnydd a wnaed yn 2025 yn erbyn archwiliad 2024. Gofynnwyd i gwmnïau am dystiolaeth ar Ganlyniadau sy’n Cyfrannu (COs) lle dywedasant eu bod wedi gwneud cynnydd yn 2025.
