- Dŵr yfed 2025 – Crynodeb o adroddiad y Prif Arolygydd ar ddŵr yfed yng Nghymru
- Rhagair
- Cyflwyniad
- Cyflenwadau dŵr a phrofion
- Cydymffurfio â safonau
- Dysgu o fethiannau cydymffurfio
- Dysgu o ddigwyddiadau
- Cysylltiadau defnyddwyr
- Iechyd asedau
- Cynllunio diogelwch dŵr ac asesu risg
- Sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS)
- Rhaglen archwilio
- Argymhellion
- Gorfodi
- Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng - SEMD
- Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS)
- Deunyddiau mewn cysylltiad â dŵr yfed (Rheoliad 31)
- Cyhoeddiadau ymchwil
- Chwythu’r chwiban
- Gweithio gyda rhanddeiliaid
- Atodiad A - Nifer y profion a gynhaliwyd gan gwmnïau
- Atodiad B - Cydymffurfio â safonau
- Atodiad C - Methiannau cydymffurfiaeth a digwyddiadau
Cydymffurfio â safonau
Dangosir y ganran cydymffurfiaeth â’r safonau yn Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018 (‘y Rheoliadau’) yn Nhabl 3 isod.
| Grŵp paramedr | % Cydymffurfiaeth |
|---|---|
| Paramedrau cemegol | 99.93 |
| Paramedrau’r dangosydd | 99.98 |
| Paramedrau microbiolegol | 99.99 |
| Paramedrau Microbiolegol (Cronfeydd dŵr) | 99.97 |
| Paramedrau microbiolegol (Safleoedd gwaith trin dŵr) | 99.99 |
| Plaladdwyr | 100 |
| Cyfanswm | 99.97 |
Ffigur 3 – Cydymffurfiaeth â’r safonau yn 2025
Diffygion
Pennir nifer y samplau y mae’n ofynnol eu cymryd yn y rheoliadau. Yn 2025, adroddodd cwmnïau am y diffygion samplu canlynol yn nhabl 4.
| Cwmni | Nifer y profion fesul cwmni | Nifer targed y profion | Nifer y diffygion yn y sampl | diffygion |
|---|---|---|---|---|
| Albion Eco | 248 | 248 | 0 | 0% |
| Hafren Dyfrdwy | 29,949 | 29,949 | 0 | 0% |
| Dŵr Cymru Welsh Water | 263,830 | 264,319 | 489 | 0.19% |
| Cymru yn gyffredinol | 294,027 | 294,516 | 489 |
Mae’r niferoedd mewn cromfachau yn adlewyrchu nifer y safleoedd gwaith trin dŵr, y cronfeydd dŵr neu’r parthau a weithredir gan y cwmni hwnnw yng Nghymru yn 2024. Caniateir i rai cwmnïau gynnal rhai profion ar samplau a gymerir o bwyntiau cyflenwi yn hytrach nag o dapiau defnyddwyr, ac felly mae’r nifer mewn cromfachau ar gyfer tapiau defnyddwyr hefyd yn cynnwys pwyntiau cyflenwi.
Mae datblygiadau mewn technoleg mapio wedi nodi achosion lle cymerwyd samplau y tu allan i’r parthau cywir. Lle cafwyd tystiolaeth o faterion o’r fath, cysylltwyd â’r cwmnïau perthnasol a thynnwyd y samplau yr effeithiwyd arnynt o’r set ddata ar y sail eu bod yn anghynrychioladol. Mewn llawer o achosion, roedd yn ofynnol i gwmnïau hefyd adrodd y digwyddiadau hyn fel digwyddiadau ffurfiol.
Bydd yr Arolygiaeth yn parhau i graffu ar leoliadau’r samplu ac amlder y samplu i sicrhau bod cwmnïau’n cydymffurfio â gofynion rheoleiddio, gan gynnwys cymryd y nifer cywir o samplau mewn lleoliadau priodol.
Ochr yn ochr â hyn, mae’r Arolygiaeth yn adolygu’r broses diffygion, gyda’r nod o gyflwyno diweddariadau awtomataidd misol i gwmnïau ar eu perfformiad monitro. Bwriad hyn yw cefnogi samplu digonol, rheolaidd ac ar hap, yn unol â disgwyliadau rheoleiddio.
Mae cydymffurfiaeth â’r gofynion monitro a nodir yn y Rheoliadau yn parhau i fod yn gyson uchel yng Nghymru. Mae’r gofynion hyn yn cynnwys y crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig ar gyfer paramedrau mewn dŵr yfed, ynghyd â’r amlderau a’r lleoliadau samplu gofynnol. Mae’r broses ddilysu pwynt terfyn hon yn rhoi sicrwydd cyffredinol bod systemau cyflenwi’n darparu dŵr i ddefnyddwyr sy’n bodloni gofynion rheoleiddio ar yr adeg ac yn y lleoliad a samplwyd. Fodd bynnag, mae asesiadau risg cwmnïau yn parhau i nodi risgiau nad ydynt yn cael eu rheoli na’u lliniaru’n llawn. Pan fydd y risgiau hyn yn cael eu gwireddu, gallant effeithio ar ansawdd y dŵr, gan gynnwys methiant i gydymffurfio neu ddigwyddiad hysbysadwy.
Pan fydd risgiau’n cael eu gwireddu, gallant arwain at fethiant i gydymffurfio neu ddigwyddiad ansawdd dŵr. Mae’r Arolygiaeth yn defnyddio’r canlyniadau hyn i lywio mynegeion sy’n asesu effaith methiannau a digwyddiadau, ac effeithiolrwydd camau gweithredu’r cwmni i unioni risgiau a’u hatal rhag digwydd eto. Mae’r Mynegai Risg Cydymffurfio (CRI) yn mesur effaith methiannau cydymffurfio a’u canlyniadau posibl i ddefnyddwyr. Cynlluniwyd y CRI yn bennaf fel adnodd rheoleiddio i gefnogi gwaith craffu cymesur a sicrhau bod sylw’n cael ei gyfeirio at feysydd sydd â’r risg gymharol fwyaf. Mae Ffigur 4 yn dangos perfformiad CRI y cwmni.
Yn 2025, roedd CRI Cymru yn dal yn uchel o’i gymharu â’r diwydiant ehangach. Y tri chyfrannwr mwyaf at sgôr CRI Cymru oedd canfyddiadau colifform yn safleoedd gwaith trin dŵr Court Farm a Bretton (Dŵr Cymru), a methiant afloywder yn safle gwaith trin dŵr Llandinam (Hafren Dyfrdwy). Dŵr Cymru a gofnododd y sgôr CRI uchaf yn y diwydiant (7.1), tra bod Hafren Dyfrdwy yn bymthegfed, gyda sgôr o 1.253.
Cofnododd Cymru gyfanswm o dri achos o fethiant colifform ar safleoedd gwaith trin dŵr ac 18 achos o fethiant colifform a dau achos o fethiant Escherichia coli (E. Coli) mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth yn 2025. Cafodd wyth o’r methiannau hyn eu cwmpasu gan offeryn cyfreithiol Dŵr Cymru, gan gynyddu’r sgôr CRI drwy gymhwyso’r ffactor lluosi perthnasol. Dylai cyflwyno’r offerynnau cyfreithiol hyn sicrhau gwelliannau sy’n lleihau’r tebygolrwydd y bydd y risgiau hyn yn digwydd eto; ar ôl eu cau, ni fydd y ffactor lluosi cysylltiedig yn berthnasol mwyach i’r sgôr CRI. Yng nghyd-destun mwy o graffu rheoleiddiol yn ystod trawsnewid, disgwylir i CRI Cymru aros yn uchel yn y tymor byr. Nid yw hyn yn dangos dirywiad yn ansawdd dŵr yfed, sy’n dal yn rhagorol, ond mae’n atgyfnerthu pwysigrwydd gwelliannau strategol hirdymor i ddiogelu cyflenwadau yn y dyfodol a rheoli risg.
Mae Ffigur 2 yn dangos amrywioldeb o ran CRI ar gyfer Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy ers 2020, yn hytrach na thuedd gyson.
Ffigur 4 – Sgoriau CRI ar gyfer cwmnïau yng Nghymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Mae Ffigur 5 yn dangos y CRI ar gyfer pob cwmni sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr, wedi’i ddadansoddi yn ôl math o safle: safleoedd gwaith trin dŵr, pwyntiau cyflenwi, cronfeydd dŵr gwasanaeth a pharthau.
Ffigur 5 – Mynegai Risg Cydymffurfio’r Diwydiant
Nid yw’r Mynegai Risg Cydymffurfio (CRI) yn fesur statudol ac nid yw’n diystyru rhwymedigaethau cwmnïau i gydymffurfio â chrynodiadau neu werthoedd rhagnodedig o dan y Rheoliadau. Mae’n adnodd rheoleiddio sy’n seiliedig ar risg ac yn cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu sylw ac adnoddau tuag at y meysydd sydd â’r risg gymharol uchaf. Mae’r CRI hefyd yn cael ei rannu ag Ofwat fel rhan o ddull rheoleiddio cydgysylltiedig. Defnyddir targed CRI o 2 fel y trothwy ar gyfer cosbau ariannol, gan ddarparu meincnod perfformiad cyson.
CRI canolrifol y diwydiant yn 2025 oedd 2.92, cynnydd o 1.77 yn 2024 a 2.32 yn 2023. Dylai dehongliad o ganolrif y diwydiant ystyried dau ffactor: perfformiad y cwmni ac effaith ymyriadau rheoleiddio, lle gall hysbysiadau a gyflwynir mewn ymateb i risg gynyddu’r sgôr. Dŵr Cymru gofnododd y sgôr CRI uchaf i gwmni yn 2025. Mae hyn yn peri pryder, er y dylid hefyd ystyried y cynnydd sy’n gysylltiedig â hysbysiadau trawsnewid.
Mae Ffigur 6 yn dangos y sgoriau CRI, gan ddileu’r ffactor lluosi a achoswyd gan fod offerynnau cyfreithiol byw yn berthnasol i’r ased a fethodd yn y prawf. Mae hefyd yn dangos bod effaith yr offerynnau cyfreithiol wedi lleihau yn 2025, sy’n golygu bod llai o brofion sy’n methu mewn lleoliadau lle mae gwelliannau eisoes ar y gweill. Mae hwn yn newid sylweddol cadarnhaol i’r cyfeiriad cywir, a dylai barhau os bydd y cwmni’n parhau i gyflawni cerrig milltir a chanlyniadau offerynnau cyfreithiol.
Ffigur 6 – CRI dros y 5 mlynedd diwethaf – sgoriau CRI mewn glas, sgoriau CRI ar ôl dileu’r lluosydd offerynnau cyfreithiol mewn gwyrdd
Yn 2025, 6.73 oedd y CRI ar gyfer cwmnïau a oedd yn gweithredu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Mae hyn yn cynrychioli dirywiad o 4.08 yn 2024, yn dilyn gwelliant o 7.257 yn 2023. Mae’r CRI cyffredinol yn cynnwys sgoriau o wahanol rannau o’r system cyflenwi dŵr, gan gynnwys safleoedd gwaith trin dŵr, pwyntiau cyflenwi, cronfeydd dŵr gwasanaeth a pharthau.
Ar lefel cwmni, fe wnaeth CRI Dŵr Cymru wella o 7.736 yn 2023 i 4.28 yn 2024, cyn dirywio i 7.1 yn 2025. Cynyddodd CRI Hafren Dyfrdwy o 0.112 yn 2023 i 1.10 yn 2024, ac i 1.26 yn 2025. Roedd Dŵr Cymru yn cyfrif am gyfran sylweddol o CRI Cymru, ac roedd yn fwy na CRI Cymru yn gyffredinol, sef 6.73. Mae CRI yn galluogi’r cyfranwyr allweddol i bob elfen o’r sgôr i gael eu nodi, gan helpu i ddangos lle mae risgiau’n tarddu, fel y dangosir yn Ffigur 7.
Ffigur 7 – Mynegai Risg Cydymffurfio Cymru ar gyfer 2025
Wrth gymharu â’r darlun cenedlaethol, gellir gweld mai’r risg fwyaf o ran cydymffurfio yw canfod colifform mewn parthau, a’r gyrrwr eilaidd yw methiannau haearn mewn parthau.
Ffigur 8 – Y 10 paramedr uchaf yn ôl safle
Yng Nghymru, mae methiannau ar safleoedd gwaith trin dŵr mawr sy’n cyflenwi nifer uchel o ddefnyddwyr yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol at y sgôr CRI blynyddol. Yn 2025, roedd 39% o’r cyfanswm sgôr CRI yn deillio o dri methiant ar safleoedd gwaith trin dŵr Court Farm, Llandinam a Bretton. Mae hyn yn gynnydd o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol, lle cafwyd methiannau sgôr uchel ar safleoedd gwaith trin dŵr Bretton yn 2024, Felindre yn 2023, Pontsticill yn 2022, a Felindre a Court Farm yn 2021. Mae diffyg cydymffurfiaeth ar safleoedd gwaith trin dŵr mawr yn peri risg gymharol uwch oherwydd nifer y defnyddwyr sy’n cael eu cyflenwi. Paramedrau dangosydd yw colifformau ac mae angen i gwmnïau gymryd camau rhagofalus i sicrhau bod defnyddwyr yn parhau i gael eu diogelu.
Yn 2025, cyfrannodd haearn 40% o gyfanswm sgôr CRI Cymru, o’i gymharu â 7% yn 2024 a 33% yn 2023. Er bod cyfran y sgôr CRI sydd i’w phriodoli i haearn yn gallu amrywio yn dibynnu ar sgorio methiannau eraill, gan gynnwys y rheini ar safleoedd gwaith trin dŵr mawr, mae nifer yr achosion o fethiannau haearn yng Nghymru yn dal yn uchel: 17 yn 2025, 13 yn 2024, 14 yn 2023 a 21 yn 2022. Mae rhagor o fanylion am afliwio wedi’u cynnwys yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn.
Cafwyd cyfanswm o 23 o fethiannau microbiolegol ar safleoedd gwaith trin dŵr ac mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth yng Nghymru yn 2025, ac eithrio canfyddiadau E. coli. Roedd hyn yn gynnydd o 14 methiant yn 2024. Mae methiannau mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth yn cael eu hystyried yn fanylach yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn.
