Mae darparu dŵr yfed glân yn hanfodol i iechyd cyhoeddus, llesiant a ffyniant economaidd, ac mae sicrhau bod pawb yn gallu cyrchu dŵr glân yn hawl ddynol sylfaenol a gydnabyddir gan y Cenhedloedd Unedig. Mae’r datblygiadau mewn cynlluniau diogelwch dŵr a systemau rheoli dŵr, sy’n seiliedig ar weithdrefnau rheoleiddio ansawdd dŵr cadarn, yn parhau i gefnogi darpariaeth dŵr yfed sydd ymysg y gorau yn y byd. Mae ansawdd dŵr yfed yng Nghymru yn dal yn rhagorol, gyda chyflenwadau cyhoeddus yn bodloni’r safonau rheoleiddio llym ar gyfer dŵr yfed yn gyson. Roedd cydymffurfiad â’r safonau yn 2025 yn 99.97%, gan roi sicrwydd cryf bod defnyddwyr yn parhau i gael dŵr dihalog.

Mae cyflenwadau dŵr yfed yng Nghymru yn cael eu diogelu drwy gynllunio diogelwch dŵr, sy’n darparu dull aml-rwystr cadarn o atal risgiau rhag dod i’r amlwg. Drwy’r broses hon, mae risgiau’n cael eu nodi o’r tarddiad i’r tap, ac mae mesurau lliniaru priodol yn cael eu rhoi ar waith cyn bod unrhyw ddirywiad o ran ansawdd neu ddigonolrwydd, neu effaith ar ddefnyddwyr. Mae ansawdd y cyflenwadau’n cael ei gadarnhau ymhellach drwy brosesau samplu ar hap helaeth. Os bydd rhywbeth yn mynd o chwith, bydd yr Arolygiaeth yn ymchwilio, yn asesu achosion o fethiannau cydymffurfio a digwyddiadau, ac yn cymryd camau gorfodi i atal hyn rhag digwydd eto. Yn 2025, tynnodd gweithgareddau rheoleiddio sylw at bwysigrwydd parhaus asesiadau risg cywir, monitro cynrychioladol, ymchwilio amserol a darparu offerynnau cyfreithiol yn effeithiol.

Mae’r sector yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr angen i gwmnïau wella iechyd a chadernid asedau, gan ganolbwyntio’n benodol ar falfiau aer, prif bibellau dosbarthu, tanciau dŵr sydd wedi’i drin a chronfeydd dŵr gwasanaeth. Roedd y risg o ran cydymffurfio yng Nghymru yn dal yn rhy uchel yn 2025, wedi’i sbarduno gan ganfyddiadau microbiolegol, afloywder a nifer uchel parhaus o fethiannau sy’n gysylltiedig â haearn. Roedd digwyddiadau hefyd yn dangos pwysigrwydd trefniadau cyflenwi amgen cadarn, samplu tanceri’n effeithiol, cofnodion asedau cywir, monitro dibynadwy, a chyfathrebu’n glir â defnyddwyr yn ystod digwyddiadau.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod gwelliant hirdymor yn dibynnu ar gwmnïau’n symud o ymatebion gweithredol adweithiol i ddulliau ataliol o reoli risg sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys rheolaeth gryfach ar afliwio, gwell rheolaeth ar risgiau plwm a sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS), diheintio mwy cadarn a sicrwydd o ran triniaeth, gwell dealltwriaeth o gyflwr asedau, a chynnydd parhaus drwy raglenni trawsnewid a gorfodi. Yn dilyn yr adolygiad annibynnol o’r system ddŵr yng Nghymru a Lloegr, mae’r Arolygiaeth yn gweithio gyda chyd-reoleiddwyr i ail-alinio’r weithdrefn reoleiddio er mwyn iddi fynd i’r afael yn well â newid yn yr hinsawdd, twf yn y boblogaeth, risgiau newydd a risgiau sy’n dod i’r amlwg, diogelwch gwladol a chadernid hirdymor. Bydd y gwaith hwn yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer dŵr yfed diogel o ansawdd uchel nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan gydbwyso anghenion defnyddwyr ar yr un pryd â diogelu’r amgylchedd ac iechyd y cyhoedd.

Marcus Rink signature

Dr Marcus Rink OBE

Prif Arolygydd Dŵr Yfed