- Dŵr yfed 2025 – Crynodeb o adroddiad y Prif Arolygydd ar ddŵr yfed yng Nghymru
- Rhagair
- Cyflwyniad
- Cyflenwadau dŵr a phrofion
- Cydymffurfio â safonau
- Dysgu o fethiannau cydymffurfio
- Dysgu o ddigwyddiadau
- Cysylltiadau defnyddwyr
- Iechyd asedau
- Cynllunio diogelwch dŵr ac asesu risg
- Sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS)
- Rhaglen archwilio
- Argymhellion
- Gorfodi
- Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng - SEMD
- Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS)
- Deunyddiau mewn cysylltiad â dŵr yfed (Rheoliad 31)
- Cyhoeddiadau ymchwil
- Chwythu’r chwiban
- Gweithio gyda rhanddeiliaid
- Atodiad A - Nifer y profion a gynhaliwyd gan gwmnïau
- Atodiad B - Cydymffurfio â safonau
- Atodiad C - Methiannau cydymffurfiaeth a digwyddiadau
Gorfodi
Mae’r Arolygiaeth yn cyhoeddi’r offerynnau cyfreithiol ar gyfer ansawdd dŵr yfed ar y wefan o dan rhaglenni gwella cwmni. Mae offerynnau cyfreithiol diogelwch (SEMD a NIS) yn cael eu hystyried yn sensitif ac felly nid ydynt yn cael eu cyhoeddi’n gyhoeddus. Mae Tabl 18 yn crynhoi cyfanswm yr offerynnau cyfreithiol a gyflwynwyd yn 2025.
| Math o offeryn cyfreithiol | Nifer | Cwmnïau |
| Hysbysiad rheoliad 27(4)* ar gyfer gwelliannau i gynlluniau diogelwch dŵr | 1 | Dŵr Cymru |
| Hysbysiad rheoliad 28(4)* sy’n ymwneud â risgiau a nodir mewn cynlluniau diogelwch dŵr | 1 | Dŵr Cymru |
| Camau gwella a gydnabyddir yn ffurfiol | 1 | Dŵr Cymru |
Tabl 18: Yr holl offerynnau cyfreithiol gorfodi a gyhoeddwyd gan yr Arolygiaeth yng Nghymru yn 2025
* Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018
Cyhoeddwyd manylion y camau gorfodi a gymerwyd gan yr Arolygiaeth yn hanner cyntaf 2025 yn yr adroddiad interim. O ganlyniad, dim ond manylion y camau gorfodi a gyflwynwyd yn ail hanner 2025 sydd yn yr adroddiad hwn.
Hysbysiadau gorfodi a gyflwynwyd yng Nghymru yn ail hanner 2025
Cyflwynwyd hysbysiad i Dŵr Cymru o dan reoliad 27(4) am welliannau i’w fethodoleg asesu risg. Canfu archwiliad o fethodoleg y Cynllun Diogelwch Dŵr Yfed a chofnodion risg ddiffygion o ran bodloni rheoliadau 27 a 28. Mae’r hysbysiad yn galw am ddiweddariadau i’r fethodoleg, gan gynnwys sut mae asesiadau risg yn cael eu cynnal a chofnodion yn cael eu hadrodd, er mwyn cyflawni dyletswyddau rheoleiddio. Bydd y camau hyn yn cael eu cymryd ochr yn ochr â’r diweddariadau gofynnol yn dilyn cyhoeddi Llythyr Gwybodaeth 04/2025 ar ganllawiau Cynllunio Diogelwch Dŵr Yfed. Yn dilyn y newidiadau hyn, bydd asesiadau risg newydd yn cael eu darparu i’r Arolygiaeth erbyn 21 Hydref 2027.
Cyflwynwyd un hysbysiad i Dŵr Cymru o dan reoliad 28(4). Canfu archwiliadau a gynhaliwyd ar safle gwaith trin dŵr Felindre a safle gwaith trin dŵr Llan y Mawddwy ddiffygion yn ymwneud â phrosesau diheintio. Cyflwynwyd hysbysiad tebyg yn 2024 ar gyfer safleoedd gwaith gydag asedau oddi ar y safle, fel prif bibellau cyswllt sy’n ymestyn y tu hwnt i derfyn y safle. Gan nad oedd y diffygion a nodwyd wedi’u cyfyngu i’r ddau safle gwaith a archwiliwyd, cyflwynwyd rhybudd pellach ar draws y cwmni i gwmpasu’r holl waith. Bydd hyn yn gwella’r gwaith o reoli prosesau diheintio ar 45 safle gwaith, gan fod o fudd i 2,238,526 o ddefnyddwyr.
Datblygiadau Gorfodi
Yn 2024, adroddodd yr Arolygiaeth fod y porth adrodd ar gerrig milltir a chyflwyno adroddiadau terfynol wedi mynd yn fyw ar gyfer offerynnau cyfreithiol ansawdd dŵr yfed. Yn 2025, ehangwyd y porth i gynnwys proses newid cais a chyfleuster i gofnodi’r adroddiadau cynnydd blynyddol. Yn y dyfodol, mae’r Arolygiaeth yn gobeithio ehangu’r cyfleuster hwn i gynnwys offerynnau cyfreithiol NIS a SEMD.
Rhaglenni Trawsnewid
Cafodd Dŵr Cymru ei roi mewn rhaglen drawsnewid ym mis Mehefin 2024, gyda phum hysbysiad trawsnewid yn cael eu cyhoeddi rhwng diwedd 2024 a dechrau 2025. Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n rheoli cyfanswm o 43 o offerynnau cyfreithiol ar draws ansawdd dŵr yfed, NIS a SEMD, gyda dau i fod i gael eu cwblhau yn 2026.
Ers dechrau’r rhaglen hon, mae’r cwmni wedi rhoi menter ‘Ansawdd Dŵr yn Gyntaf’ ar waith i atgyfnerthu pwysigrwydd strategol ansawdd dŵr ar draws pob maes gweithredol.
O’i gymharu â chwmnïau dŵr eraill ar adeg debyg yn eu teithiau trawsnewid, mae sefyllfa bresennol Dŵr Cymru yn awgrymu bod ei raglen drawsnewid yn fwy aeddfed o ran strwythur, ond bod canlyniadau gweithredol yn parhau i fod yn wannach ac yn arafach i wella. Yn yr un modd â chwmnïau mawr eraill sy’n destun gwell goruchwyliaeth reoleiddiol, fel Thames Water a Southern Water, mae Dŵr Cymru yn rheoli portffolio sylweddol o weithgarwch gorfodi ac mae’n ceisio cryfhau llywodraethu, sicrwydd a diwylliant. Fodd bynnag, mae’n dal y tu ôl i gwmnïau sy’n perfformio’n gryfach, fel United Utilities a Severn Trent, lle mae buddsoddiad parhaus a rheoli asedau’n fwy effeithiol wedi arwain at lai o risg cydymffurfio, llai o ddigwyddiadau a gwell canlyniadau i ddefnyddwyr. Mae heriau parhaus Dŵr Cymru o ran afliwio rhwydweithiau, asedau sy’n heneiddio ac anghysondeb gweithredol yn golygu ei fod yn gogwyddo tuag at ochr y diwydiant sydd dan bwysau ar hyn o bryd, hyd yn oed wrth ystyried cynnydd o ran llywodraethu ac ymgysylltu rheoleiddiol.
Mae Dŵr Cymru wedi gwneud cynnydd strwythurol clir drwy ei weithgareddau trawsnewid “Ansawdd Dŵr yn Gyntaf”, yn enwedig mewn perthynas â llywodraethu, galluogrwydd ac ymgysylltu rheoleiddiol. Roedd y strwythur hwn, a sefydlwyd ym mlwyddyn gyntaf y trawsnewid, yn cynnwys arweinyddiaeth bwrpasol a rolau newydd mewn timau ymroddedig, fframwaith llywodraethu a grwpiau llywio ar gyfer penderfyniadau a chyfarwyddyd, a Dangosyddion Perfformiad Allweddol ffurfiol yn cael eu mesur a’u hadrodd drwy’r fframwaith llywodraethu. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o golli momentwm o ran arweinyddiaeth trawsnewid, yn fwyaf diweddar yn ystod 2026, ar ôl ailstrwythuro’r cwmni gydag oddeutu 500 o staff yn cael eu colli o bob rhan o’r busnes, gan gynnwys timau ansawdd dŵr. Yn ystod yr ailstrwythuro, rhoddodd y cwmni sicrwydd na fyddai hyn yn effeithio ar weithrediadau rheng flaen a chynnydd o ran trawsnewid.
Nid yw’r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud wedi troi’n gyson eto yn berfformiad gweithredol parhaus, ac mae’r risg reoleiddio sylweddol yn dal yn uchel. Mae’r prif gyfranwyr at sgôr CRI y cwmni hefyd wedi aros yr un fath, gyda methiannau o ran haearn rhwydwaith, methiannau o ran colifform a phroblemau blas ac arogl yn parhau i sbarduno perfformiad gwael. Wrth edrych ar ddigwyddiadau, yn enwedig adfer ac ymchwilio, mae materion rheolaidd fel oedi cyn uwchgyfeirio, glynu’n anghyson wrth weithdrefnau a strategaethau samplu gwan yn arwain at dystiolaeth wael o ansawdd dŵr, dealltwriaeth o hyd a lled yr effaith, a dadansoddiadau diffygiol o wraidd y broblem.
Mae’r Arolygiaeth wedi dweud wrth y cwmni bod yn rhaid i’r canlynol fod yn feysydd ffocws, er mwyn cyflawni’r canlyniadau ansawdd dŵr a ddisgwylir.
- Darparu datrysiadau tymor hir yn hytrach na dibynnu ar reolaeth tymor byr, yn enwedig pan fydd canlyniadau gwael yn cael eu cyflawni gyda’r olaf.
- Ailffocysu blaenoriaethau buddsoddi, yn enwedig y risg o gyflenwi dŵr anaddas, sy’n drosedd, a’r effaith ar brofiad y cwsmer.
- Dealltwriaeth o iechyd asedau, perfformiad asedau (gan gynnwys gwelededd) ac addasrwydd asedau.
- Glynu’n gyson wrth brosesau Llywodraethu a gweithdrefnau gweithredol.
- Trefniadau cyflenwi amgen.
Yn gryno:
- Mae’r rhaglen drawsnewid wedi hen ennill ei phlwyf ac wedi’i halinio’n strategol.
- Mae arwyddion o welliant mewn dangosyddion cynnar; ond
- Mae’r cwmni’n adweithiol yn weithredol yn hytrach nag yn gyson ataliol.
- Mae canlyniadau ansawdd dŵr craidd, cadernid asedau a chysondeb cydymffurfio yn dal yn is na’r lefelau disgwyliedig, sy’n galw am graffu rheoleiddiol parhaus.
Mae’r cwmni’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda thîm cyswllt yr Arolygiaeth, a chynhelir cyfarfodydd trawsnewid bob chwe mis rhwng yr Arolygiaeth a noddwyr hysbysiadau yn y cwmni. Yn ystod 2025, roedd cyfraniad y cwmni i gyfarfodydd misol wedi gwella, ac mae’r fforymau hyn bellach yn cael eu defnyddio’n effeithiol i drafod cyfeiriad hysbysiadau, adolygu cynnydd a chyflwyno gwybodaeth ar gyfer adborth cynnar cyn ei chyflwyno’n ffurfiol. Mae’r lefel hon o gyfranogiad yn dangos agwedd gadarnhaol tuag at y rhaglen drawsnewid. Anogir y cwmni i barhau i ddefnyddio’r dull rhagweithiol hwn.
Er gwaethaf y cynnydd cyffredinol, cafwyd sawl anffawd yn ystod 2025. Methwyd cerrig milltir allweddol sy’n gysylltiedig ag offerynnau cyfreithiol, ac ni roddodd y cwmni wybod i’r Arolygiaeth am oediadau tan y dyddiadau cau ar gyfer adrodd ar gerrig milltir. Mae hyn yn adlewyrchu gwendidau mewn trefniadau llywodraethu, goruchwylio’r gwaith o gyflwyno offerynnau cyfreithiol ac arferion cyfathrebu. Roedd hyn yn peri pryder arbennig o ystyried amlder cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar offerynnau cyfreithiol. Mae’r cwmni wedi cael ei atgoffa o’r gofyniad i roi gwybod i’r Arolygiaeth cyn gynted â phosibl pan fydd risgiau i gyflawni cerrig milltir yn codi, ac mae’r Arolygiaeth wedi dechrau gweld gwelliant yn y maes hwn.
Cydnabuwyd bod y cwmni wedi llwyddo i gwblhau’r hysbysiad cronfeydd dŵr gwasanaeth a thanciau yn adroddiad blynyddol 2024 yr Arolygiaeth. Roedd hyn o dan amodau heriol ac roedd i’w ganmol. Fodd bynnag, ers hynny, mae wedi dod yn amlwg bod blaenoriaethu’r hysbysiad hwn wedi cael effaith niweidiol ar gynnydd offerynnau cyfreithiol eraill. Ar ben hynny, nodwyd carreg filltir yn yr un hysbysiad yn ystod 2025 nad oedd wedi cael ei chwblhau er boddhad yr Arolygiaeth. O ganlyniad, cyflwynwyd hysbysiad rheoliad 28(4) dilynol ddechrau 2026, i fynd i’r afael â diffygion gyda chyfleusterau samplu. Her sylweddol i Dŵr Cymru yw ei berfformiad o ran afliwio, sy’n destun hysbysiad. Ni chyrhaeddodd y cwmni’r targed AMP7 yn yr hysbysiad. Mae cyfarfodydd strategaeth afliwio ddwywaith y flwyddyn bellach yn cael eu cynnal rhwng y cwmni a’r Arolygiaeth, ac mae strategaeth y cwmni’n aeddfedu. Fodd bynnag, nid yw hyn eto wedi troi’n welliannau mewn cyfraddau cyswllt afliwiad. Nid yw’n dderbyniol i ddefnyddwyr dderbyn dŵr yfed gyda lliw annerbyniol, ac mae’r Arolygiaeth wedi gosod targed AMP8 ymestynnol ar gyfer gwella afliwiad. Targed AMP7 oedd 1.4 o gysylltiadau fesul 1,000 o’r boblogaeth; cyflawnodd y cwmni 1.8. Mae targed AMP8 wedi’i osod ar 0.7 cyswllt fesul 1,000 o’r boblogaeth erbyn diwedd y cyfnod AMP, a fydd yn gofyn am welliant sylweddol. Bydd cynnydd tuag at y targed hwn yn cael ei fonitro’n agos a bydd yr Arolygiaeth yn ystyried gorfodaeth bellach lle na wneir gwelliannau.
Enforcement Performance Metric
During 2025, the Inspectorate developed and tested a new metric to measure company performance against obligations contained within legal instruments. The metric helps the Inspectorate direct enforcement resource to companies requiring the most attention and provides a transparent means of demonstrating company performance.
Every legal instrument served is scored, using a five-by-five matrix, which has a set of rules attached, which inspectors follow for consistency.
The first score, assigned when the legal instrument is created, is the seriousness score. This score reflects the origins of the legal instruments and ranges from voluntary programmes, through routine enforcement action, to escalated and transformation enforcement. The criteria are listed in table 19.
| Seriousness | Score |
|---|---|
| Escalated enforcement – generally, enforcement orders but other forms too | 5 |
| Further (additional) enforcement – “child” legal instruments, transformation legal instruments | 4 |
| Routine enforcement (realised breaches) – such as compliance assessments, events, regulation 26 breaches, data driven, consumer complaints | 3 |
| Routine enforcement (potential breaches) – such as likely to breach, risk of breach, audit findings, risk assessments | 2 |
| Proactive schemes – such as AMP schemes, voluntary undertakings | 1 |
Metrig Perfformiad Gorfodi
Yn ystod 2025, datblygodd a phrofodd yr Arolygiaeth fetrig newydd i fesur perfformiad cwmnïau yn erbyn rhwymedigaethau sydd wedi’u cynnwys mewn offerynnau cyfreithiol. Mae’r metrig yn helpu’r Arolygiaeth i gyfeirio adnoddau gorfodi at gwmnïau sydd angen y sylw mwyaf ac mae’n darparu ffordd dryloyw o ddangos perfformiad cwmnïau.
Mae pob offeryn cyfreithiol a gyflwynir yn cael ei sgorio, gan ddefnyddio matrics pump-wrth-bump, sydd â set o reolau ynghlwm, y mae arolygwyr yn eu dilyn er cysondeb.
Y sgôr gyntaf, a roddir pan fydd yr offeryn cyfreithiol yn cael ei greu, yw’r sgôr difrifoldeb. Mae’r sgôr hon yn adlewyrchu tarddiad yr offerynnau cyfreithiol ac mae’n amrywio o raglenni gwirfoddol, i gamau gorfodi arferol, i orfodi wedi’i uwchgyfeirio a gorfodi trawsnewid. Rhestrir y meini prawf yn nhabl 19.
| Difrifoldeb | Sgôr |
| Gorfodi wedi’i uwchgyfeirio – gorchmynion gorfodi yn gyffredinol, ond ffurfiau eraill hefyd | 5 |
| Gorfodi pellach (ychwanegol) – offerynnau cyfreithiol “eilaidd”, offerynnau cyfreithiol ar gyfer trawsnewid | 4 |
| Camau gorfodi arferol (methiannau wedi’u nodi) – e.e. asesiadau cydymffurfio, digwyddiadau, methiannau rheoliad 26, sy’n cael eu gyrru gan ddata, cwynion defnyddwyr | 3 |
| Camau gorfodi arferol (methiannau posibl) – e.e. rhai sy’n debygol o fethu, risg o fethu, canfyddiadau archwiliadau, asesiadau risg | 2 |
| Cynlluniau rhagweithiol – e.e. cynlluniau Cyfnodau Rheoli Ased (AMP), mentrau gwirfoddol | 1 |
Tabl 19 – Sgorau difrifoldeb
Yr ail sgôr yw Coch, Ambr, Gwyrdd (RAG) (wedi’i ehangu i gynnwys Ambr+ a Coch+), sef statws cynnydd yr offeryn cyfreithiol. Mae’r sgôr hon yn cael ei neilltuo pan fydd yr offeryn cyfreithiol yn cael ei greu am y tro cyntaf, ond yn cael ei newid yn ôl yr angen drwy gydol ei oes ar sail cynnydd y cyflawni. Mae’r meini prawf wedi’u rhestru isod:
Coch+ (5)
- Mae’r Arolygiaeth wedi gwrthod cais i newid dyddiad, er mwyn ymestyn dyddiad cwblhau’r offeryn cyfreithiol.
- Unrhyw oedi sy’n effeithio ar ddyddiad gorffen yr offeryn cyfreithiol.
- Unwaith y bydd hysbysiad wedi’i roi yn y statws Coch+, dim ond i’r statws Ambr+ y gall gael ei adfer.
Coch (4)
- Mae’r garreg filltir ddiweddaraf a gyflwynwyd wedi’i gohirio neu cafodd ei chyflawni’n hwyr.
- Nid oes digon o dystiolaeth ar gyfer y garreg filltir ddiweddaraf a gyflwynwyd neu mae’n anghyflawn. Pan fydd adroddiad yn cael ei wrthod yn llwyr, nid yw’n berthnasol i gwestiynau dilynol arferol.
- Mae’r Arolygiaeth wedi cael gwybod y bydd carreg filltir ganolraddol yn y dyfodol yn cael ei gohirio ac nad oes unrhyw ffordd y gall y cwmni ei chyrraedd.
- Mae’r Arolygiaeth wedi gwrthod cais i newid dyddiad ar gyfer ymestyn cerrig milltir canolraddol.
- Hysbysiad munud olaf o beidio â chyrraedd targedau, pan fo’n amlwg bod y cwmni’n gwybod ers peth amser.
- Wedi methu dyddiad cyflwyno’r adroddiad terfynol.
- Mae coch yn berthnasol hyd nes y cyrhaeddir y garreg filltir nesaf, pan allai’r sgôr ostwng i Ambr neu Ambr+.
Ambr+ (3)
- Mae camau gorfodi sy’n cael eu huwchgyfeirio (gweler y tabl uchod) bob amser yn dechrau ar Ambr+.
- Mae offeryn cyfreithiol ‘eilaidd’ newydd o offeryn cyfreithiol sydd wedi’i ohirio yn dechrau ar Amber+ (er enghraifft, tynnu cronfa ddŵr gwasanaeth unigol o hysbysiad cronfa ddŵr gwasanaeth ehangach).
- Mae cais am newid wedi cael ei gyflwyno a’i dderbyn, gyda dyddiad cyflawni terfynol newydd.
- Roedd yr offeryn cyfreithiol yn arfer bod ar statws Coch+, ond mae’r cwmni wedi datrys y problemau ac wedi gwella’r ffordd mae’n rheoli’r hysbysiad.
- Does dim modd mynd yn is nag Ambr+ ar ôl i chi gyrraedd y pwynt hwn.
Ambr (2)
- Oedi canolraddol nad yw’n effeithio ar ddyddiad terfynol yr offeryn cyfreithiol.
- Bu oedi o ran cyrraedd y garreg filltir / cyrhaeddwyd y garreg filltir yn hwyr, ond mae’r cynllun bellach ar y trywydd iawn.
- Coch yn flaenorol, ond mae’r cwmni wedi datrys y problemau ac wedi gwella’r ffordd mae’r offeryn cyfreithiol yn cael ei reoli.
- Does dim modd mynd yn is nag Ambr ar ôl i chi gyrraedd y pwynt hwn.
Gwyrdd (1)
- Opsiwn diofyn ar gyfer pob offeryn cyfreithiol newydd.
- Mae’r holl gerrig milltir ar y trywydd cywir neu wedi’u cwblhau ar amser.
- Newid datrysiad nad yw’n effeithio ar y dyddiad cyflawni terfynol (hynny yw, mae’r cwmni wedi dod o hyd i ffordd ratach neu gyflymach o gyflawni’r cynllun o fewn y cyfnod rhybudd).
- Mae’r Arolygiaeth yn cyflwyno newid i gynllun yn y dyfodol (er enghraifft, cyhoeddi canllawiau PFAS newydd, sy’n effeithio ar ymrwymiadau PFAS)
- Mae’r Arolygiaeth wedi rhoi newid ar waith.
- Mân newidiadau gweinyddol (fel diweddariad i atodiad mewn hysbysiad afliwio).
- Does dim modd dychwelyd i wyrdd pan fydd yn ambr neu’n goch.
Mae’r metrig yn cael ei gyfrifo mewn ffordd debyg i’r Mynegai Risg Argymhellion. Mae’n cydnabod y bydd risg yn bodoli bob amser ac y bydd gan gwmnïau mwy, sydd â dalgylchoedd mwy, mwy o safleoedd gwaith trin dŵr, mwy o storfeydd dŵr wedi’i drin, darnau hirach o brif bibellau cyflenwi a mwy o gysylltiadau, risg weddilliol uwch. Mae cyfanswm y sgoriau ar gyfer pob cwmni’n cael eu cymharu â sgoriau’r sector cyfan a’u normaleiddio yn ôl cyfran y boblogaeth gyffredinol a gyflenwir, gan gynhyrchu sgôr ddisgwyliedig ar gyfer pob cwmni. Mae’r sgoriau disgwyliedig wedyn yn cael eu plotio yn erbyn y sgoriau gwirioneddol gan ddefnyddio atchweliad llinol. Mae’r llinell gwerth hyder 95% uchaf yn cael ei hychwanegu i nodi allanolynnau ystadegol, gan gynhyrchu Ffigur 51, y Metrig Perfformiad Gorfodi ar gyfer diwedd 2025.
Ffigur 51 – Metrig perfformiad gorfodi
Yn ystod hanner cyntaf 2025, cyflwynodd yr Arolygiaeth gyfnod gras i gwmnïau ar gyfer offerynnau cyfreithiol NIS a SEMD, gan fod y gofynion a’r prosesau adrodd yn newydd i’r meysydd hyn. Ceisiodd yr Arolygiaeth gefnogi, addysgu a chynghori, yn hytrach na cheryddu, pan oedd eitemau’n cael eu danfon yn hwyr neu’n anghyflawn. Er y bydd yr Arolygiaeth yn parhau i ddarparu cyngor ar y metrig, mae’r cyfnod gras bellach wedi dod i ben a bydd offerynnau cyfreithiol NIS a SEMD yn cael eu sgorio’n briodol. Ar hyn o bryd, dim ond nifer fach o offerynnau cyfreithiol NIS a SEMD sydd ar gael o’i gymharu â chyfanswm nifer yr offerynnau cyfreithiol. Mae’r rhain felly wedi’u cynnwys gyda chamau gorfodi ansawdd dŵr yfed mewn mesur unigol. Bydd hyn yn cael ei adolygu yn y dyfodol ac efallai y byddant yn cael eu gwahanu os oes budd o wneud hynny.
Mae’r metrig yn dangos, ar 31 Rhagfyr 2025, nad oedd unrhyw gwmni a oedd yn gweithredu yng Nghymru yn uwch na’r llinell cyfwng hyder o 95%. Mae gan Dŵr Cymru nifer o offerynnau cyfreithiol trawsnewid, sydd â sgoriau difrifoldeb uchel. Bydd angen i’r cwmni sicrhau bod yr offerynnau hyn yn cael eu cyflwyno’n brydlon er mwyn atal cynnydd mewn sgoriau RAG a’r effaith luosi gysylltiedig.
