- Dŵr yfed 2025 – Crynodeb o adroddiad y Prif Arolygydd ar ddŵr yfed yng Nghymru
- Rhagair
- Cyflwyniad
- Cyflenwadau dŵr a phrofion
- Cydymffurfio â safonau
- Dysgu o fethiannau cydymffurfio
- Dysgu o ddigwyddiadau
- Cysylltiadau defnyddwyr
- Iechyd asedau
- Cynllunio diogelwch dŵr ac asesu risg
- Sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS)
- Rhaglen archwilio
- Argymhellion
- Gorfodi
- Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng - SEMD
- Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS)
- Deunyddiau mewn cysylltiad â dŵr yfed (Rheoliad 31)
- Cyhoeddiadau ymchwil
- Chwythu’r chwiban
- Gweithio gyda rhanddeiliaid
- Atodiad A - Nifer y profion a gynhaliwyd gan gwmnïau
- Atodiad B - Cydymffurfio â safonau
- Atodiad C - Methiannau cydymffurfiaeth a digwyddiadau
Dysgu o ddigwyddiadau
Rhoddwyd gwybod i’r Arolygiaeth am 65 o ddigwyddiadau yn 2025. Roedd 32 o’r rhain yn ddigwyddiadau eiddo unigol, 16 ohonynt yn ymwneud â systemau dosbarthu defnyddwyr ac, o ganlyniad, roeddent y tu hwnt i reolaeth y cwmni dŵr.
Ffigur 16 – Digwyddiadau ansawdd dŵr yng Nghymru
Roedd y digwyddiad mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â chymeradwyaeth rheoliad 31 ar gyfer Dŵr Cymru, gyda sgôr Mynegai Risg Digwyddiadau (ERI) o 5,299. Mewn cymhariaeth, roedd gan y digwyddiad a gafodd y sgôr uchaf yn 2024 ERI o 240. Gall digwyddiadau rheoliad 31 ddenu sgoriau ERI mawr oherwydd maint y boblogaeth y gallai hyn effeithio arni a hyd y digwyddiad, a allai ymestyn dros gyfnod sylweddol tra bydd cynhyrchion heb eu cymeradwyo yn aros yn eu lle cyn iddynt gael eu nodi a’u gwaredu.
Cofnodwyd y sgôr ERI uchaf ond un gan Albion Eco, sef 657, am ddigwyddiad colli cyflenwad yn dilyn byrst ar brif bibell i fyny’r gadwyn gyflenwi. Yn yr achos hwn, roedd y boblogaeth fach a gyflenwyd o 180 yn golygu bod y sgôr ERI yn uwch yn gyfrannol nag y byddai wedi bod ar gyfer digwyddiad tebyg a oedd yn effeithio ar gwmni presennol, gan fod y digwyddiad wedi effeithio ar y boblogaeth gyfan a gyflenwyd gan y cwmni. Mae Ffigur 11 yn dangos yr ERI ar gyfer Cymru yn 2025. Mae’r barrau’n dangos sgorau ERI y cwmnïau unigol, mae llinell Cymru yn dangos yr ERI ar gyfer y cwmnïau wedi’u cyfuno i un, a’r llinell ERI ganol yw ERI canolrifol y cwmnïau.
Ffigur 17 – Sgôr ERI fesul cwmni
Ffigur 18 – ERI dros 5 mlynedd
Ffigur 19 – Sgôr ERI ar gyfer pob cwmni yng Nghymru a Lloegr
Mae Ffigurau 20 a 21 yn dangos nifer y digwyddiadau yng Nghymru ac ar draws y diwydiant yn y drefn honno. Yng Nghymru, nid oes tuedd amlwg, ond mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld uchafbwynt tebyg i’r uchafbwynt blaenorol yn ystod y cyfnod perthnasol. Byddai angen dadansoddiad pellach o natur y digwyddiadau sy’n achosi’r uchafbwyntiau hyn er mwyn pennu unrhyw batrwm neu gyffredinrwydd.
Ffigur 20 – ERI Cymru ac ERI canolrifol – Cyfanswm y sgoriau ar gyfer pob cwmni
Ffigur 21 – Sgoriau ERI yng Nghymru o gymharu â gweddill y diwydiant
| Cod cwmni | Enw’r digwyddiad | Achos y digwyddiad | Dosbarthiad terfynol |
| DWR | Cymeradwyaeth Rheoliad 31 | Defnyddio deunyddiau/cynhyrchion sydd heb eu cymeradwyo | 3 (Sylweddol) |
| ALE | Prif Bibell Gyflenwi Brychdyn | Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst | 3 (Sylweddol) |
| DWR | Byrst Aston | Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst | 3 (Sylweddol) |
| DWR | Colli Cyflenwad Safle Gwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd | Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst | 4 (Difrifol) |
| DWR | Afliwiad Caerdydd | Lleihau pwysedd y rhwydwaith yn dilyn darlleniadau uchel anghywir ar chwiliedydd lefel yng Nghronfa Ddŵr Gwasanaeth Cefn Mabli, a arweiniodd at y lefel yn gostwng o dan frig y brif allfa. Afliwiad ond dim colli cyflenwad. | 3 (Sylweddol) |
| DWR | Byrst Prif Bibell Gyflenwi Llanrhymni | Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst | 2 (Dibwys) |
| DWR | Colli cyflenwad Caerfyrddin | Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst | 3 (Sylweddol) |
| DWR | Afliwiad y Gŵyr / Abertawe | Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst | 3 (Sylweddol) |
| DWR | Afliwiad y Rhyl | Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst | 2 (Dibwys) |
| DWR | Afliwiad Abertawe | Problem/difrod i’r brif bibell gyflenwi – Prif gyflenwad – Byrst | 2 (Dibwys) |
Digwyddiadau penodol
DWR – Cymeradwyaeth Rheoliad 31
Fe wnaeth asesiad cydymffurfio rheoliad 31 arferol, a gynhaliwyd mewn perthynas â deunyddiau y bwriedir eu defnyddio mewn cynllun cyfalaf arfaethedig, nodi nad oedd gan gynnyrch a gyflenwyd ac a osodwyd yn y rhwydwaith dosbarthu cyhoeddus rhwng 12 Mehefin 2024 a 27 Awst 2024 gymeradwyaeth ddilys yn ystod y cyfnod hwnnw. Cadarnhaodd y cwmni nad oedd cyfansoddiad y cynnyrch na’r cyfarwyddiadau defnyddio wedi newid rhwng y methiant o ran cymeradwyo a’r ail-gymeradwyo dilynol. Daeth asesiad risg a gynhaliwyd gan y cwmni i’r casgliad felly bod y risg gysylltiedig ag ansawdd dŵr yn isel.
I ategu’r casgliad hwn, cwblhaodd y cwmni gyfrifiadau arwynebedd ar gyfer ffitiadau nodweddiadol ar draws yr ystod maint tebygol a osodwyd. Roedd y cyfrifiadau hyn yn dangos bod y ffitiadau’n bodloni’r meini prawf enghreifftiol a nodir yn Nhaflen Gyngor 8, a chyflwynwyd hon fel tystiolaeth i ddangos bod y risg i ansawdd y dŵr a gyflenwir yn dal yn isel. Fodd bynnag, nid oedd y cwmni’n gallu pennu union fanylebau na lleoliadau gosod y ffitiadau i ddechrau, ond ers hynny mae wedi cynnal dadansoddiad ôl-weithredol ac wedi pennu bod poblogaeth o 1,123,195 wedi ei heffeithio, allan o gyfanswm poblogaeth y cwmni, sef 3,093,158.
Mae’r cwmni wedi cydnabod bod cynnyrch heb ei gymeradwyo wedi cael ei osod. Er bod y cwmni’n honni bod y risg i ansawdd dŵr yn isel, nid oedd yn gallu cadarnhau’r asesiad hwn yn llawn oherwydd absenoldeb cofnodion manwl yn ymwneud â mathau o ffitiadau a lleoliadau gosod manwl. Rhoddwyd argymhellion a oedd yn gofyn am adolygiad beirniadol o weithdrefnau sy’n ymwneud â chadw cofnodion, sicrwydd cydymffurfio â rheoliad 31, a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifiadau arwynebedd i ddangos statws enghreifftiol.
Dylai cwmnïau sicrhau bod systemau ar waith i atal defnyddio cynhyrchion nad ydynt wedi cael cymeradwyaeth rheoliad 31, a’r adeg dyngedfennol yw pan fydd dŵr yn cael ei gyflenwi.
ALE – Digwyddiad colli cyflenwad Brychdyn
Yn dilyn byrst i fyny’r gadwyn gyflenwi ar un o brif bibellau dŵr Dŵr Cymru, collwyd y cyflenwad y gellir ei yfed i Felin Shotton rhwng 14:00 ar 14 Awst 2025 a 20:00 ar 16 Awst 2025, toriad o 51 awr i gyd. Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddodd y cwmni fesurau wrth gefn ar waith i gynnal argaeledd dŵr ar y safle drwy ddarparu cyflenwad amgen o’r system ddiwydiannol ar wahân na ellir ei yfed, sydd wedi’i thrin yn rhannol, sy’n cael ei bwydo o Safle Gwaith Trin Dŵr Ashgrove (Dŵr Cymru).
Mae’r cyflenwad diwydiannol yn cael ei ddosio â sodiwm hypoclorid ym Melin Shotton i gynnal gwaddodion clorin rhydd o 0.1 ppm, gyda’r bwriad o atal twf biolegol yn rhwydwaith dosbarthu diwydiannol y safle yn unig. O dan amodau gweithredu arferol, mae’r systemau yfadwy a’r rhai na ellir eu hyfed yn gwbl ar wahân. Fodd bynnag, er mwyn cynnal argaeledd dŵr ar gyfer cyfleusterau lles yn ystod y digwyddiad, gosodwyd un croes-gysylltiad, a chafodd y system yfadwy ei chysylltu dros dro gyda’r cyflenwad nad yw’n yfadwy.
Darparodd y cwmni ddata tueddiadau a oedd yn dangos cyfanswm gwaddodion clorin, er nad oedd tystiolaeth o waddodion clorin rhydd yn y system dros y cyfnod. Darparwyd data afloywder, dargludedd a pH o offeryniaeth ar-lein yn safle gwaith trin dŵr Ashgrove hefyd. Arhosodd afloywder a dargludedd o fewn terfynau rheoleiddiol, tra bod pH wedi’i olrhain ychydig yn uwch nag isafswm gwerth Atodlen 2, sef 6.5.
Er mwyn diogelu defnyddwyr ar y safle, cyhoeddodd y cwmni gyngor Peidio ag Yfed, arddangosodd hysbysiadau ym mhob arllwysfa, a darparodd ddŵr potel fel cyflenwad yfed amgen.
Ar ôl adfer y cyflenwad yfadwy ar 16 Awst 2025, tynnodd y cwmni’r croes-gysylltiad dros dro (gan adfer y gwahaniad bwlch aer), gan fflysio i gyflawni wyth trosiant cyfaint y system a gyfrifwyd, a newid y cyngor Peidio ag Yfed i gyngor i ferwi dŵr ar 17 Awst 2025, yn amodol ar ganlyniadau samplu boddhaol.
Cynhaliwyd arolygon samplu ar dapiau’r safle ar 18 Awst 2025 at ddiben dadansoddi microbioleg ac, ar 19 Awst 2025, ar gyfer cyfres lawn o baramedrau ansawdd dŵr. Roedd yr holl ganlyniadau’n foddhaol. Atgoffir cwmnïau bod gofynion dŵr dihalog rheoliad 4 yn berthnasol i bob defnydd domestig o ddŵr, gan gynnwys golchi dwylo mewn cyfleusterau lles, ac y dylid cynnal gwaith samplu addas i wirio bod y dŵr a gyflenwir yn bodloni’r gofyniad rheoleiddio hwn. Ar ben hynny, dylai amseriad cyhoeddi a diddymu unrhyw gyngor cyfyngu ar ddefnydd fod yn seiliedig ar asesiad risg deinamig a ddilysir drwy waith samplu priodol.
DWR – byrst prif bibell ddŵr Aston
Digwyddodd byrst ar y brif bibell sy’n cyflenwi dŵr o Safle Gwaith Trin Dŵr Bretton i gronfa ddŵr gwasanaeth Aston. Bu’r ymdrech atgyweirio gychwynnol yn aflwyddiannus, gan arwain at wagio’r gronfa ddŵr gwasanaeth ac achosi colli cyflenwad sylweddol i gwsmeriaid yn ardal Glannau Dyfrdwy. Yn ystod yr ymateb i’r digwyddiad, defnyddiwyd tanceri dŵr; fodd bynnag, ni chymerwyd samplau o’r tanceri eu hunain. Cofnodwyd methiannau samplu ansawdd dŵr wedyn mewn ardaloedd i lawr y gadwyn gyflenwi o bwyntiau trwytho tanceri, ac nid yw’n glir o hyd a oedd modd priodoli’r methiannau hyn i’r digwyddiad byrstio, i weithrediadau’r tanceri neu’r ddau.
Cafodd y safle gwaith trin dŵr ei ailddechrau, a chafodd y gronfa ddŵr gwasanaeth a’r rhwydwaith ehangach eu hailwefru mewn modd rheoledig. Darparwyd cyflenwadau dŵr potel digonol i gwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt drwy gydol y digwyddiad.
Nodwyd nifer o ddiffygion yn ystod yr adolygiad o’r digwyddiad. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg asesiad risg ansawdd dŵr ar gyfer defnyddio prif bibell gyflenwi dros dro dros y tir, asesiad annigonol o gadernid y gwaith atgyweirio cychwynnol, a gyfrannodd at ddigwyddiad byrstio eilaidd a cholli cyflenwad estynedig, a diffyg monitro afloywder ar y safle yn ystod gweithgareddau fflysio. Ar ben hynny, nid oedd cofnodion archwilio ansawdd dŵr ar y safle ar gael, ac ni chafodd unrhyw un o’r tanceri a ddefnyddiwyd eu samplu; dim ond y mannau llenwi ac eiddo i lawr y gadwyn gyflenwi a samplwyd, gyda methiannau i lawr y gadwyn gyflenwi yn cael eu cofnodi.
Mae argymhellion wedi cael eu rhoi i fynd i’r afael â’r diffygion hyn a chryfhau prosesau sicrwydd ansawdd dŵr a phrosesau gweithredol yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at yr angen am brosesau sicrwydd ansawdd dŵr ac asesiadau risg cadarn yn ystod gweithgareddau ymateb brys, yn enwedig wrth ddefnyddio tanceri neu gyflenwadau dros y tir. Rhaid i weithdrefnau rheoli digwyddiadau effeithiol gynnwys asesiad trylwyr o gadernid gwaith atgyweirio i atal problemau rhag gwaethygu, monitro a chofnodi ansawdd dŵr yn glir yn ystod gweithrediadau fflysio a chludo dŵr, a samplu tanceri eu hunain yn rheolaidd i sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli’n ddigonol a bod modd eu gwahaniaethu’n glir oddi wrth fethiannau rhwydwaith sylfaenol.
DWR – colli cyflenwad ar safle gwaith trin dŵr Bryn Cowlyd
Gadawodd digwyddiad yng Ngogledd Cymru ym mis Ionawr 2025 dros 114,000 o bobl heb gyflenwad dŵr am saith diwrnod. Mae safle gwaith trin dŵr Bryn Cowlyd (Dŵr Cymru) yn cyflenwi ardal arfordirol Gogledd Cymru, gan gynnwys Conwy, Llandudno a Bae Colwyn. Ar 13 Ionawr, nodwyd gollyngiad posibl ar brif arllwysfa’r safle gwaith. Drwy gerdded ar hyd y brif bibell, daethpwyd o hyd i ollyngiad o dan Afon Ddu a dechreuodd y cwmni gynllunio’r gwaith atgyweirio. Cyn y gallai hyn ddigwydd, arweiniodd toriad yn y pŵer yn oriau mân 15 Ionawr at gau’r safle gwaith yn awtomatig. Pan roddwyd cynnig ar ailgychwyn, methodd prif bibell yr arllwysfa â chyrraedd y gwasgedd gofynnol, a daethpwyd i’r casgliad nad oedd modd ailddechrau’r gwaith nes bod y brif bibell wedi cael ei thrwsio. Yn dilyn hynny, collwyd cyflenwad dros saith diwrnod yn yr ardaloedd a gyflenwir fel arfer gan safle gwaith trin dŵr Bryn Cowlyd wrth i’r brif bibell gael ei hatgyweirio ac wrth i’r system gael ei hail-lenwi. Roedd hyn yn effeithio ar boblogaeth o 114,562 o bobl, neu 47,734 eiddo, a oedd yn cael eu cyflenwi naill ai’n uniongyrchol o’r system disgyrchiant o danc dŵr terfynol Bryn Cowlyd neu gan gronfeydd dŵr gwasanaeth a oedd hefyd yn cael eu cyflenwi gan y safle. Oherwydd ei leoliad o dan afon, roedd atgyweirio’r brif bibell ddŵr yn heriol ac roedd angen gwaith cloddio mawr i ddarparu mynediad diogel. Ar ôl ei datguddio, nododd y cwmni ollyngiad twll pin a oedd wedi erydu cyplysiad, gan greu twll o tua 50-75 mm.



Defnyddiwyd cyflenwadau amgen ar ffurf tanceri, tanciau Arlington a dŵr potel i ddarparu cyflenwad dŵr i’r boblogaeth yr effeithiwyd arni nes bod cyflenwadau arferol yn cael eu hadfer.
Roedd y digwyddiad colli cyflenwad wedi ennyn diddordeb yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol, gydag adroddiadau bod defnyddwyr yn casglu dŵr môr i fflysio eu toiledau gan nad oeddent yn gallu cael gafael ar ddigon o gyflenwadau amgen at y diben hwn.
Ar ôl trwsio’r brif bibell ddŵr ac ailgychwyn y safle gwaith, daeth y cwmni ar draws rhagor o gymhlethdodau gydag afloywder uwch yn y tanciau dŵr terfynol, a wnaeth ddarparu’r amser cyswllt gofynnol i sicrhau diheintio llawn. Ar ben hynny, roedd samplau a gasglwyd o bwynt samplu terfynol y safle gwaith cyn dychwelyd i’r cyflenwad yn cael eu hystyried yn anghynrychioliadol o’r dŵr o’r tanc. Cafodd y cwmni argymhelliad i gasglu cyfres o samplau ar ôl dychwelyd i’r cyflenwad, er mwyn dilysu ei asesiad risg bod y dŵr yn ddihalog ac wedi’i ddiheintio’n ddigonol. Gwnaed argymhellion eraill hefyd mewn perthynas â samplu, gan gynnwys samplu digonol ar gyfer Cryptosporidium, gan nad oedd modd dadansoddi’r unig sampl a gasglwyd yn ystod y digwyddiad oherwydd malurion ar y sleid.
Yn ystod y digwyddiad, defnyddiodd y cwmni 27 tancer i gadw neu adfer cyflenwadau i ddefnyddwyr dros y saith diwrnod, gyda 390 o ollyngiadau’n cael eu gwneud. Casglwyd naw sampl o’r tanceri hyn yn ystod y digwyddiad, sy’n sylweddol is na gofynion rheoliad 6 y Rheoliadau, sy’n ei gwneud yn ofynnol i danceri gael eu samplu adeg rhyddhau ac yn ystod pob cyfnod dilynol o 48 awr. Cyn y digwyddiad, roedd yr Arolygiaeth wedi cyflwyno hysbysiad rheoliad 28(4) i’r cwmni am gyflenwadau amgen, yn rhannol oherwydd nad oedd y gweithdrefnau a’r adnoddau’n ddigonol i ganiatáu samplu digonol. Er bod y cwmni’n gweithio tuag at gydymffurfio â rheoliad 6 a’r hysbysiad, bydd digwyddiadau’n parhau i sgorio’n uwch ar y Mynegai Risg Digwyddiadau. Mae tîm gorfodi’r Arolygiaeth yn monitro cynnydd y cwmni yn erbyn yr offerynnau cyfreithiol.
DWR – afliwiad Caerdydd
Gyda’r nos ar 11 Mawrth 2025, cafodd larymau gwasgedd a llif eu rhoi ar waith yn ardal Caerdydd i lawr y gadwyn gyflenwi o gronfa ddŵr gwasanaeth Cefn Mabli. Canfu ymchwiliad dilynol fod lefel y dŵr yn adran 2 y gronfa ddŵr yn 2.5 m, sy’n sylweddol is na’r 3.5 m a ddangosir gan delemetreg. Ni daniwyd unrhyw larymau lefel cronfa, rhybuddion cyfradd newid na larymau gwyro llif cysylltiedig. Arweiniodd y gostyngiad yn lefel y gronfa ddŵr at leihau pwysedd y brif bibell gyflenwi dŵr i lawr y gadwyn gyflenwi yn rhannol, ac at afliwio yn y parthau ansawdd dŵr yr effeithiwyd arnynt.
Adeg y digwyddiad, nid oedd adrannau 1 ac 1A cronfa ddŵr gwasanaeth Cefn Mabli yn weithredol oherwydd gwaith cynnal a chadw, yn unol â hysbysiad archwilio tanc y cwmni (cyf. DWR‑2021‑00002). Fe wnaeth gwaith dadansoddi data telemetreg alluogi’r cwmni i olrhain y broblem yn ôl i gronfa ddata’r gwasanaeth o fewn dwy awr i danio’r larwm gychwynnol.
Cyfathrebwyd â chwsmeriaid drwy negeseuon testun torfol, galwadau ffôn a diweddariadau ar y wefan. Cafodd arolygon samplu eu cynnal ar draws yr ardal dan sylw i asesu’r effeithiau ar ansawdd y dŵr, a chafodd dŵr potel ei gyflenwi’n rhagweithiol i ddefnyddwyr agored i niwed. Cafodd y chwiliedydd lefel diffygiol yng nghronfa ddŵr gwasanaeth Cefn Mabli ei ddisodli, cafodd ail chwiliedydd lefel ei osod, a chafodd monitro lefel â llaw ei roi ar waith drwy gydol y digwyddiad.
Cafodd adolygiad o chwiliedyddion lefel cronfeydd dŵr gwasanaeth ei gwblhau wedyn, gyda chynlluniau adfer neu gynlluniau wrth gefn yn cael eu sefydlu ar gyfer unrhyw chwiliedyddion y canfuwyd eu bod y tu allan i’r goddefiant neu’n anhygyrch. Canfu’r ymchwiliad anghysondeb rhwng y weithdrefn archwilio cronfa ddŵr gwasanaeth ysgrifenedig a’r ffurflen archwilio a ddefnyddir ar y safle, yn benodol o ran y gofyniad i wirio cywirdeb y chwiliedyddion lefel yn ystod arolygiadau. Roedd yr anghysondeb gweithdrefnol hwn, ynghyd ag absenoldeb gwiriadau lefel ac ansawdd dŵr wrth drosglwyddo dŵr yn gynharach o adran weithredol 2 i adran anweithredol 1, yn cynrychioli cyfleoedd posibl a gollwyd i atal y digwyddiad.
Mae’r digwyddiad yn dangos pwysigrwydd gwaith monitro lefel cronfeydd dŵr dibynadwy a gweithdrefnau archwilio wedi’u halinio’n llawn, gan fod methiannau o ran cywirdeb telemetreg, ffurfweddiad larymau a phrosesau dilysu – yn enwedig yn ystod cyfnodau o lai o gadernid gweithredol – yn gallu arwain at golli cyfaint cronfeydd dŵr gwasanaeth heb ei ganfod, effeithiau ar ansawdd dŵr i lawr y gadwyn gyflenwi, a cholli cyfleoedd i ymyrryd yn gynnar.
DWR – byrst prif bibell ddŵr Llanrhymni
Am oddeutu 15:00 ar 3 Medi 2025, cafodd Dŵr Cymru wybod, drwy larymau gwasgedd a llif, am fyrst ar brif bibell ddŵr 15 modfedd yn ardal Llanrhymni yng Nghaerdydd. Rhoddodd y cwmni ei drefniadau cynllunio ar gyfer argyfwng ar waith, gan ddefnyddio cynlluniau gweithredu presennol ar gyfer ardaloedd a gweithgareddau, a gweithredu’n gyflym i liniaru’r effaith ar ddefnyddwyr.
O fewn deuddeg awr gyntaf y digwyddiad, sefydlwyd dwy orsaf dŵr potel, dosbarthwyd dŵr potel i ddefnyddwyr agored i niwed, defnyddiwyd tanceri ar gyfer arllwysiad rhwydwaith, cychwynnwyd ar y gwaith atgyweirio, a rhoddwyd mesurau ail-barthu ar waith i leihau maint y tarfu ar y cyflenwad. Cwblhawyd y gwaith atgyweirio ac ailgysylltwyd y brif bibell ddŵr yn ystod oriau mân 4 Medi 2025.
Denodd y digwyddiad ddiddordeb yn y cyfryngau lleol, a darparodd y cwmni ddiweddariadau cynnydd rheolaidd i’r wasg. Nodwyd rhai diffygion o ran yr ymateb a’r cyflenwadau amgen a ddarparwyd, yn enwedig o ran samplu tanceri yn unol â Rheoliad 6. Fodd bynnag, yn gyffredinol, fe wnaeth ymateb gweithredol y cwmni i bob pwrpas gyfyngu ar yr effaith ar ddefnyddwyr, ac adferwyd cyflenwadau’n brydlon.
Er mwyn rhoi sicrwydd yn erbyn gofynion SEMD, dylai cwmnïau ganolbwyntio ar greu ac ymarfer cynlluniau brys priodol ar gyfer digwyddiadau o’r math hwn. Dylid dylunio’r cynlluniau hyn i amharu cyn lleied â phosibl ar y cyflenwad, i ddiogelu hyder defnyddwyr ac i reoli’r effeithiau ar ansawdd y dŵr.
DWR – colli cyflenwad Caerfyrddin
Cafwyd digwyddiad colli cyflenwad sylweddol a oedd yn effeithio ar yr ardal i’r dwyrain o Gaerfyrddin rhwng 12 ac 14 Gorffennaf 2025. Dechreuodd y digwyddiad pan fyrstiodd prif bibell 21 modfedd o gronfa ddŵr gwasanaeth Brondini, a ganfuwyd am 04:49, a chanfuwyd lleoliad y byrst yn fuan wedyn. Roedd asesiadau risg cychwynnol yn dangos y gallai hyn effeithio ar hyd at 6,500 eiddo; fodd bynnag, roedd mesurau lliniaru gweithredol, gan gynnwys ail-barthu, cludo dŵr a defnyddio prif bibell dros y tir, wedi lleihau nifer yr eiddo heb gyflenwad i 290 ar y diwrnod cyntaf, a 59 erbyn 13 Gorffennaf. Cwblhawyd y gwaith atgyweirio ar 14 Gorffennaf ac adferwyd y cyflenwadau’n llawn. Adroddwyd cyfanswm o 96 o gysylltiadau ‘dim dŵr’ ac un cyswllt ansawdd dŵr yn ystod y digwyddiad.
Daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad, er bod tarfiadau ar y cyflenwad yn cael eu rheoli i leihau’r effaith ar ddefnyddwyr, bod diffygion o ran rheoli ansawdd dŵr ac adrodd ar ddigwyddiadau. Mae’n debygol nad oedd y dŵr a gyflenwyd yn ystod y digwyddiad yn ddŵr dihalog, gyda chrynodiadau haearn uwch ac adroddiadau o flas ‘chwerw’ wedi’u nodi mewn samplau tanceri, er nad oedd y profion blasu hyn wedi eu hachredu. Roedd bylchau gweithdrefnol hefyd, gan gynnwys samplu anghyflawn o danceri a oedd yn arllwys i’r rhwydwaith, a methiant i dynnu tancer yn ôl yn brydlon yn dilyn canlyniad prawf anffafriol. Yn ogystal, ni adroddwyd yn llawn ar wybodaeth yn ymwneud â samplu, gweithrediadau tanceri, comisiynu prif bibell dros y tir a gwaith diheintio.
Dylai cwmnïau sicrhau bod rheolaethau gweithredol cadarn sy’n cael eu rhoi ar waith yn gyson yn cael eu defnyddio yn ystod trefniadau cyflenwi brys, yn enwedig pan fydd tanceri a phrif bibellau dros y tir yn cael eu defnyddio. Dylai cwmnïau hefyd sicrhau bod yr holl asedau cyflenwi amgen yn cael eu hasesu, eu diheintio, eu samplu a’u cofnodi’n llawn, a bod canlyniadau andwyol yn sbarduno gweithredu pendant ar unwaith. Mae adrodd yn gywir ac yn gyflawn am ddigwyddiadau, gan gynnwys cysylltiadau defnyddwyr a data gweithredol, yn hanfodol er mwyn dangos cydymffurfiaeth a chefnogi dysgu. Bydd cryfhau’r meysydd hyn yn lleihau’r risg o gyflenwi dŵr nad yw’n ddŵr dihalog ac yn gwella cadernid yn ystod digwyddiadau colli cyflenwad.
DWR – afliwiad y Gŵyr / Abertawe
Digwyddodd digwyddiad afliwio sylweddol a effeithiodd ar ardal Gŵyr yn Abertawe rhwng 15 ac 16 Hydref 2025, yn dilyn byrst ar brif bibell ddur 20 modfedd. Roedd gollyngiad bach a nodwyd ar 9 Hydref wedi gwaethygu’n raddol ac wedi arwain at fyrst mawr, a gafodd ei ynysu yn oriau mân 15 Hydref. Digwyddodd y byrst o ganlyniad i hollt hydredol wrth ymyl coler a osodwyd yn ystod gwaith atgyweirio blaenorol. Cafodd proses fflysio rhwydwaith a phroses lleihau llif wedi’i rheoli eu rhoi ar waith i reoli’r effaith, a chafodd y brif bibell ei hatgyweirio’n llawn erbyn 20:00 ar 16 Hydref. Er na gollwyd cyflenwad ac er y cynhaliwyd pwysedd cadarnhaol, cysylltodd 45 o ddefnyddwyr i’n hysbysu o afliwiad. Nododd gwaith samplu fethiannau o ran haearn, afloywder a manganîs mewn pedwar eiddo ar 15 Hydref, er bod yr ail samplau a gymerwyd y diwrnod canlynol yn foddhaol, gan ddangos bod ansawdd y dŵr wedi cael ei adfer yn brydlon.
Daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad bod y cwmni wedi cyflenwi dŵr a oedd y tu hwnt i’r crynodiadau a ragnodwyd ar gyfer afloywder, haearn a manganîs, gan ei wneud yn ddŵr nad oedd yn ddihalog, gan dorri rheoliad 4(2)(c) o’r Rheoliadau. Fodd bynnag, nododd fod yr ymateb gweithredol yn amserol ac yn effeithiol, gyda chamau gweithredu cydgysylltiedig rhwng timau rhwydwaith a thimau cynhyrchu yn lleihau’r risg o afliwiad ac yn hwyluso’r gwaith atgyweirio. Roedd mesurau lliniaru’n cynnwys gostyngiadau wedi’u rheoli yn allbwn y safle gwaith trin dŵr, fflysio’r prif bibellau yr effeithiwyd arnynt, ac archwiliadau ar y safle (er na chafodd gwaith monitro afloywder ei wneud wrth fflysio). Croesawodd yr Arolygiaeth y dull lliniaru rhagweithiol a’r gwaith dilysu effeithiol cyn dychwelyd y rhwydwaith i gyflenwi, gan argymell hefyd bod gwaith atgyweirio hanesyddol yn cael ei ystyried yn fwy penodol mewn prosesau canfod gollyngiadau, asesu risg a blaenoriaethu. Anogir cwmnïau i ystyried pwysigrwydd rheoli prif bibellau’n rhagweithiol ac yn seiliedig ar risg, yn enwedig lle mae gwaith atgyweirio hanesyddol a gollyngiadau sy’n dod i’r amlwg yn cyd-daro. Dylai cwmnïau sicrhau bod asesiadau risg yn ymgorffori hanes asedau i flaenoriaethu ymyriadau ac atal digwyddiadau rhag gwaethygu ac arwain at fyrst. Dylai ymatebion gweithredol gynnwys monitro amser real cynhwysfawr, gan gynnwys afloywder, ochr yn ochr â chydlynu’r gwaith o reoli a dilysu rhwydweithiau cyn dychwelyd asedau i wasanaeth. Bydd cynnal digon o ddeunyddiau atgyweirio critigol a gwreiddio’r hyn a ddysgwyd o adolygiadau prif bibellau dŵr yn cryfhau cadernid ac yn lleihau’r tebygolrwydd o ddigwyddiadau afliwio, a’u heffaith




DWR – hysbysiad Peidio ag Yfed Llanrhymni
Digwyddodd digwyddiad arwyddocaol yn Llanrhymni, Caerdydd, ar 17 Hydref 2025, lle rhoddwyd cyngor ‘peidiwch ag yfed’ i 20 eiddo. Dilynodd y digwyddiad waith fflysio llifwaddod lle agorwyd falf, a oedd wedi’i chofnodi’n anghywir ar y system GIS yn flaenorol, heb asesiad risg priodol. Roedd hyn yn caniatáu i ddŵr llonydd fynd i mewn i’r brif bibell ddosbarthu, gan arwain at nifer o ddefnyddwyr yn adrodd am afliwiad, blasau ac arogleuon anarferol, ac un adroddiad am salwch gastrig. Cafodd y falf ei hail-ynysu ar yr un diwrnod ac roedd cyfyngiadau ar waith tan 29 Hydref 2025, pan oedd canlyniadau samplu boddhaol yn golygu bod modd dileu’r cyngor.
Daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad bod y cwmni’n cyflenwi dŵr a oedd y tu hwnt i’r crynodiadau rhagnodedig ar gyfer ystod o baramedrau, gan gynnwys metelau, afloywder, hydrocarbonau a hydrocarbonau aromatig polysyclig, ac felly nid oedd y dŵr a gyflenwyd yn ddŵr dihalog. Nodwyd diffygion o ran rheolaeth weithredol ac ymateb i ddigwyddiadau, gan gynnwys methiant i gynnal asesiad risg addas cyn gweithredu falfiau, oedi a chyfyngiadau yn y strategaeth samplu gychwynnol, a diffyg cydnabyddiaeth gynnar o halogiad hydrocarbon polyaromatig posibl (PAH) er gwaethaf adroddiadau gan ddefnyddwyr yn nodi arogleuon tebyg i betrol. Roedd y dull samplu, a oedd yn dilyn gwaith fflysio’r brif bibell, yn lleihau’r tebygolrwydd o gasglu dŵr o’r ansawdd gwirioneddol waethaf, ac ystyriwyd bod hyn yn torri gofynion rheoleiddio. Nododd yr Arolygiaeth ddiffygion hefyd wrth bennu hyd a lled yr ardal dan sylw ac wrth roi cyngor ‘peidio ag yfed’ i ddefnyddwyr yn amserol ac yn gyson.
Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at yr angen am asesiad risg cadarn a rheolaeth dros weithrediadau rhwydwaith, yn enwedig wrth newid ffurfweddiad falfiau neu ymgymryd â gweithgareddau fflysio. Dylai cwmnïau sicrhau bod cyflwr asedau, hanes gweithredol a chywirdeb data yn cael eu hystyried yn llawn cyn ymyriadau, a bod strategaethau samplu’n cael eu cynllunio i gofnodi ansawdd dŵr cynrychioliadol cyn gynted â phosibl yn ystod digwyddiad. Dylai nodi risgiau halogi yn gynnar, yn enwedig lle mae nifer o ddangosyddion defnyddwyr yn awgrymu halogiad cemegol, sbarduno ymateb wedi’i uwchgyfeirio’n briodol. Bydd cryfhau’r meysydd hyn, ochr yn ochr â phrosesau gwell i ddiffinio ac amddiffyn y boblogaeth yr effeithir arni, yn lleihau’r risg o gyflenwi dŵr nad yw’n ddŵr dihalog ac yn gwella effeithiolrwydd ymateb i ddigwyddiadau ansawdd dŵr.
HDC – hysbysiad Peidio ag Yfed Stryd y Farchnad, Llangollen
Digwyddodd digwyddiad arwyddocaol yn Llangollen ar 11 Rhagfyr 2025, a oedd yn cynnwys rhoi cyngor ‘peidiwch ag yfed’ i chwe eiddo ar ôl canfod crynodiadau uchel o blwm. Datblygodd y digwyddiad o waith samplu cynharach ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2025, a oedd yn nodi plwm o fewn cyflenwad a rennir sy’n gwasanaethu wyth eiddo. Darparwyd cyngor ar fflysio i ddechrau; fodd bynnag, roedd rhagor o waith samplu ym mis Rhagfyr wedi canfod canlyniad fflysio 2 funud uwch mewn un eiddo, gan arwain at uwchgyfeirio i gyngor ‘peidio ag yfed’. Canfu ymchwiliadau fod y pibellau cyfathrebu a rennir yn cynnwys deunyddiau cymysg, gan gynnwys MDPE, copr a phibell alfanedig, gyda rhai eiddo’n dal ar gyfyngiadau tan fis Ionawr 2026 oherwydd heriau parhaus o ran mynediad ac ailosod.
Daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad bod y dŵr a gyflenwyd yn ystod y digwyddiad y tu hwnt i’r crynodiad rhagnodedig ar gyfer plwm ac felly nid oedd y dŵr yn ddŵr dihalog ac roedd yn groes i reoliad 4(2)(b) o’r Rheoliadau. Er bod y cwmni wedi cynnal asesiadau risg a chamau lliniaru, nid oedd y rhain yn cofnodi maint y prif risg yn llawn nac yn ysgogi ymatebion digon amddiffynnol yn gynharach yn yr ymchwiliad. Nodwyd oedi wrth gadarnhau deunyddiau pibellau ac wrth samplu pob eiddo ar y cyflenwad a rennir. Tynnodd yr Arolygiaeth sylw hefyd at y ffaith nad oedd cyfraniad posibl pibellau galfanedig i ormodiant plwm, gan gynnwys drwy weithredu galfanig, wedi cael ei ystyried yn llawn. Gwnaed argymhellion i wella gweithdrefnau ar gyfer dilysu deunyddiau pibellau, cryfhau asesiadau risg plwm, ac ystyried sbardunau cliriach ar gyfer uwchgyfeirio i gyngor ‘peidio ag yfed’. Anogir cwmnïau i sicrhau dull rhagofalus a systematig o reoli risgiau plwm, yn enwedig ar gyflenwadau a rennir gyda deunyddiau pibellau amhenodol neu gymysg. Dylai cwmnïau sicrhau bod yr holl eiddo cysylltiedig yn cael eu nodi, eu samplu a’u diogelu’n brydlon lle canfyddir canlyniadau uwch, a bod deunyddiau pibellau’n cael eu dilysu’n ffisegol cyn gynted â phosibl. Dylai asesiadau risg ystyried yn benodol fecanweithiau fel cyrydiad galfanig a phresenoldeb pibellau galfanedig, a dylai meini prawf uwchgyfeirio clir fod ar waith i sbarduno cyngor amddiffynnol. Bydd cryfhau’r arferion hyn yn lleihau’r risg o ddefnyddwyr yn dod i gysylltiad â phlwm am gyfnod hir ac yn gwella effeithiolrwydd ac amseroldeb ymateb i ddigwyddiadau
