- Dŵr yfed 2025 – Crynodeb o adroddiad y Prif Arolygydd ar ddŵr yfed yng Nghymru
- Rhagair
- Cyflwyniad
- Cyflenwadau dŵr a phrofion
- Cydymffurfio â safonau
- Dysgu o fethiannau cydymffurfio
- Dysgu o ddigwyddiadau
- Cysylltiadau defnyddwyr
- Iechyd asedau
- Cynllunio diogelwch dŵr ac asesu risg
- Sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS)
- Rhaglen archwilio
- Argymhellion
- Gorfodi
- Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng - SEMD
- Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS)
- Deunyddiau mewn cysylltiad â dŵr yfed (Rheoliad 31)
- Cyhoeddiadau ymchwil
- Chwythu’r chwiban
- Gweithio gyda rhanddeiliaid
- Atodiad A - Nifer y profion a gynhaliwyd gan gwmnïau
- Atodiad B - Cydymffurfio â safonau
- Atodiad C - Methiannau cydymffurfiaeth a digwyddiadau
Deunyddiau mewn cysylltiad â dŵr yfed (Rheoliad 31)
Mae rheoliad 31 yn gwahardd cwmni dŵr rhag ychwanegu unrhyw sylwedd neu gynnyrch i ddŵr, neu rhag cyflwyno unrhyw sylwedd neu gynnyrch i ddŵr, pan allai effeithio ar ansawdd dŵr yfed. Mae hyn yn cynnwys pob cemegyn, cynnyrch adeiladu a chynnyrch trin a ddefnyddir gan ymgymerwyr dŵr, o ffynhonnell y dŵr i’r pwynt danfon i adeilad y defnyddiwr. Mae hon yn ddyletswydd hanfodol oherwydd gall deunyddiau effeithio ar flas neu arogl, neu drwytholchi sylweddau niweidiol i ddŵr. Mae’r rheoliad yn nodi sut y gellir rhoi cymeradwyaethau i gynhyrchion adeiladu a thrin, a deunyddiau nad ydynt yn niweidio ansawdd dŵr na diogelwch defnyddwyr.
Yn ystod 2025, parhaodd yr Arolygiaeth i dderbyn a phrosesu ceisiadau am gymeradwyo cynhyrchion sydd mewn cysylltiad â dŵr yfed o dan reoliad 31. Derbyniwyd y nifer canlynol o geisiadau:
Ffigur 55 – Ceisiadau, newidiadau ac ail-gymeradwyo Rheoliad 31
Mae’r Arolygiaeth wedi parhau i weithio gyda phartneriaid TG i ddatblygu’r porth rheoliad 31 ymhellach ar gyfer cymeradwyo cynnyrch, sydd wedi cael derbyniad da yn gyffredinol. Disodlodd y system newydd ffurflenni cais â llaw gyda ffurflenni cais rhyngweithiol ar-lein sy’n arwain ymgeiswyr i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn ystyried cymeradwyo, newid neu ail-gymeradwyo cynnyrch. Mae’r broses ar-lein yn cefnogi safonau hygyrchedd, yn caniatáu i ymgeiswyr weld y cam y mae eu ceisiadau wedi’i gyrraedd, a bydd yn sicrhau bod y broses ar gael i fwy o ddefnyddwyr. Bydd cam nesaf y prosiect yn darparu proses o’r dechrau i’r diwedd.
Ym mis Awst 2025, fe wnaethom gyhoeddi llythyr (Cyfeirnod DWI: R31-06/2025) yn lansio’r Rhestr o Gynnyrch Cymeradwy rhyngweithiol newydd ar-lein. Mae hyn wedi newid o fod yn ddogfen PDF fisol wedi’i chyhoeddi i fod yn wefan ryngweithiol y gellir chwilio drwyddi sy’n cael ei diweddaru mewn amser real, rhywbeth y mae’r diwydiant ac ymgeiswyr wedi bod gofyn amdano ers tro byd. Mae hyn i bob pwrpas wedi dod yn gatalog ar-lein byw o gynhyrchion cymeradwy ac mae ar gael yn: https://www.dwi.gov.uk/drinking-water-products/resources-for-water-companies/approved-considered-products/approved_products/.
Parhaodd y gwaith o nodi stiwardiaeth wael dros gynnyrch drwy gydol 2025, gyda nifer o gynhyrchion cymeradwy yn cael eu dirymu ar unwaith o Restr yr Ysgrifennydd Gwladol o Gynnyrch Cymeradwy. Roedd yr holl faterion a nodwyd yn deillio o newidiadau heb eu hawdurdodi i gynnyrch. Gall hyd yn oed newidiadau bach anawdurdodedig i fformwleiddiad cynnyrch, deunydd neu gydrannau greu newidiadau annerbyniol i ansawdd dŵr neu beri risg i iechyd y cyhoedd. O ganlyniad, mae’n hanfodol bod yr holl newidiadau i’r fformiwleiddiad yn cael eu cymeradwyo cyn i’r cynhyrchion gael eu cyflenwi.
Pan fydd gwneuthurwyr wedi gwneud cais am newidiadau i gynnyrch cymeradwy, bydd y rhain wedi cael eu hadolygu a, lle bo angen, bydd profion yn cael eu cynnal cyn eu derbyn. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw broblemau gyda’r cynnyrch pan fydd yn cael ei ddefnyddio.
Mae’r tabl isod yn rhestru’r cynhyrchion a ddi-rymwyd a’r llythyrau cysylltiedig a gyhoeddwyd yn ystod 2025, gyda rhai cynhyrchion yn cael eu dirymu’n llwyr ac yn gorfod cyflwyno ail-gais llawn, a chynhyrchion eraill yn destun amodau defnyddio.
O ran Arlington 1000 Litr Bag-in-Box Combo Liner, gosodwyd amodau defnyddio ar y cynnyrch yn hytrach na dirymiad llawn i ganiatáu i ddŵr ar gyfer defnydd domestig fod ar gael yn ystod yr haf lle’r oedd llawer o gwmnïau dŵr yn profi cyfnod hir o dywydd sych. Dyma enghraifft o agwedd bragmatig y tîm yn ystod y flwyddyn.
| Dyddiad | Cam Gweithredu | Cynnyrch / Cynhyrchydd | Cyfeirnod | Manylion / Amodau |
| Ion 25 | Dirymu cymeradwyaeth cynnyrch | GF ABS Pressure Pipe / George Fischer | R31-01/2025 | |
| Ion 25 | Dirymu cymeradwyaeth cynnyrch | 8040-SBNF-DWI Membrane Elements / Mann+Hummel Water and Fluid Solutions | R31-02/2025 | |
| Ebrill 25 | Dirymu cymeradwyaeth cynnyrch | PE100 High Performance Black Pipe / Radius Systems Ltd. | R31-03/2025 | |
| Awst 25 | Diweddaru’r gofynion ar gyfer cymeradwyo | Arlington 1000 Litr Bag-in-Box Combo Liner | R31-04/2025 | Ni ellir defnyddio’r cynnyrch hwn ar gyfer yfed neu at ddibenion coginio. Daw’r newidiadau i rym ar 06/08/2025. |
| Awst 25 | Diweddaru’r gofynion ar gyfer cymeradwyo | Amazon SupaSpun II Cartridge Filters ac Amazon SupaGard Cartridge Filters | R31-05/2025 | Bydd cynhyrchion a gyflenwir cyn 06/08/2025 mewn cwarantîn ac ni ellir eu gosod. Rhaid rhoi stoc o gynnyrch sydd eisoes wedi’i brynu mewn cwarantîn a’i labelu’n glir na ddylid ei ddefnyddio hyd nes yr hysbysir yn wahanol. |
| Hydref 25 | Dileu statws gradd cydnabyddedig | Eurokote® 468 Thixo & Eurokote® 468 Thixo 500 Brun Rouge | R31-08/2025 | Problem gydag enwi gwahanol gynnyrch wedi’i datrys. |
Tabl 20 – cynhyrchion a ddi-rymwyd a’r llythyrau cysylltiedig a anfonwyd yn ystod 2025
Mae problemau gyda rhai o’r cynhyrchion sydd wedi’u dirymu wedi cael eu datrys ers hynny ac mae’r cynhyrchion hyn wedi dychwelyd i’r Rhestr o Gynhyrchion Cymeradwy. Dylid nodi bod enw a chyfeirnod y cynnyrch yn debygol o fod wedi newid. Bydd eraill yn cael adolygiad llawn a phrofion ychwanegol i wirio a ellir eu cymeradwyo.
Nid ar chwarae bach mae’r Arolygiaeth yn gwneud penderfyniadau i ddirymu cynnyrch neu wahardd eu defnyddio. Fodd bynnag, os nad yw’r gofynion llym ar gyfer cynnal cymeradwyaeth cynnyrch yn cael eu bodloni a bod pryder posibl ynghylch iechyd y cyhoedd, efallai y bydd angen dirymu. Mae defnyddio cynnyrch nad yw wedi’i gymeradwyo yn dramgwydd a chaniateir ei erlyn o dan reoliad 33.
Ar ben hynny, roedd nifer o ddeiliaid cymeradwyaeth naill ai wedi cyflwyno ceisiadau hwyr neu wedi peidio â gwneud cais am ail-gymeradwyo cynnyrch a arweiniodd at oedi cyn asesu’r cais ail-gymeradwyo. Arweiniodd hyn at gynnydd mewn cynhyrchion sydd wedi dod i ben, gyda gweithgynhyrchwyr yn gorfod ymgymryd â’r broses gyfan o gymeradwyo cynnyrch o’r dechrau.
Ym mis Rhagfyr 2025, hysbyswyd gweithgynhyrchwyr drwy lythyr, Cyfeirnod DWI: R31-10/2025, y bydd yn ofynnol i’r holl raddau cydnabyddedig sydd wedi’u cynnwys ar hyn o bryd yn Atodiad 3 y Rhestr o Gynhyrchion cymeradwy, fynd drwy’r broses gymeradwyo gyda’r gofyniad eu bod yn gwneud cais am y gymeradwyaeth hon erbyn diwedd mis Mehefin 2026. Mae hyn yn ein galluogi i gadw rhestr wedi’i diweddaru o gynhyrchion gradd cydnabyddedig a’u fformwleiddiadau presennol.
Mae’r Arolygiaeth wedi gwneud llawer o waith i sicrhau cyfleusterau profi ar gyfer BS6920 a phrofion rheoliad 31 llawn drwy gydol y flwyddyn, gyda phum labordy’n cael eu hychwanegu at y rhestr o labordai dynodedig ar gyfer profion BS6920 ym mis Chwefror 2025. Cafodd labordy ei ddynodi’n ddiweddar i gynnal profion rheoliad 31 llawn, ac rydym yn parhau i weithio tuag at gynyddu’r capasiti hwn drwy gydol 2026. Rydym hefyd yn cydweithio â’r diwydiant dŵr i ddatrys y broblem, ac mae’r gwaith hwn yn parhau. Mae’n ofynnol i labordai arddangos a dangos tystiolaeth o gydymffurfio â’r safonau perthnasol i gael eu dynodi ar gyfer profion rheoliad 31. Ar ôl i aelodau o’r tîm rheoliad 31 wneud cyflwyniad ar heriau profi rheoliad 31 yng Ngŵyl Arloesi Northumbrian Water ym mis Gorffennaf 2025, a thrafodaethau dilynol, mae’r tîm hefyd wedi cydweithio â thîm Galluogwyr Arloesi Ofwat i gyhoeddi Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer bwrw ymlaen â phrofion labordy pellach sydd i fod i gael eu cyhoeddi yn Ch1 2026. Mae’r gwaith hwn yn ceisio darparu llwybr i labordai ymgymryd â gofynion profi rheoliad 31 yn llawn.
