2025 oedd y bedwaredd flwyddyn adrodd i gwmnïau ers i’r Arolygiaeth reoleiddio’r Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng (y Cyfarwyddyd). Mae cwmnïau wedi dangos gwelliant cyffredinol o ran hunan-adnabod y meysydd y mae angen iddynt eu gwella a symud tuag at gydymffurfio â’r Cyfarwyddyd, gan arwain at fuddsoddiad sylweddol yn AMP8 dros ystod o gynlluniau sy’n cynnwys gwelliannau diogelwch a chynllunio mewn argyfwng. Mae’r gydnabyddiaeth hon wedi arwain at ostyngiad cyffredinol yn y sefyllfa Goch, Ambr, Gwyrdd (RAG) a gofnodwyd ers 2022. 

Cynhaliodd yr Arolygiaeth raglen o archwiliadau technegol ar y safle, yn ogystal ag asesiadau o ddigwyddiadau a rhyngweithiadau cwmni, a arweiniodd at amrywiaeth o weithgareddau gorfodi i sicrhau gwelliant a chydymffurfiaeth fel y dangosir yn Ffigur 52:

Ffigur 52 – Gweithgaredd gorfodi SEMD

Digonolrwydd

Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol (NISTA erbyn hyn) ganllaw i Ddatblygu Safonau Cadernid yn Seilwaith y DU, gan nodi bylchau yn rheoliadau’r diwydiant dŵr ac argymell safonau cadernid ar gyfer cyflenwadau dŵr cyhoeddus. Roedd y prif argymhellion yn cynnwys: gosod safon galw uchaf ar gyfer galluogrwydd cyflenwi tymor byr; diffinio cyfyngiadau ar ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar un ased; a chyflwyno metrigau iechyd asedau sy’n edrych tua’r dyfodol.

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, cynhaliodd yr Arolygiaeth ddadansoddiad ac ymchwil. Yna drafftiodd yr Arolygiaeth adroddiad gyda chanllawiau arfaethedig ar gynnal cyflenwad dŵr digonol mewn ymateb i’r argymhellion allweddol a nodwyd yn adroddiad NISTA, gan ymgorffori canfyddiadau ymchwil annibynnol. Daeth yr Arolygiaeth i’r casgliad bod mesur digonolrwydd yn ddangosydd ymarferol ar gyfer cadernid y cyflenwad ac iechyd asedau.

Ffigur 53 – Pwyntiau allweddol ar gyfer digonolrwydd

Roedd cydnabyddiaeth ehangach hefyd na fyddai unrhyw un lens yn cyflawni’r canlyniadau a fwriedir yn adroddiad NISTA, felly er mai digonolrwydd oedd ffocws ymateb yr Arolygiaeth, mae’n cyffwrdd â nifer o feysydd fel y dangosir yn Ffigur 53. Mae’r gwaith hwn wedyn yn caniatáu datblygu safonau eraill a gweithio ar y cyd â’r gwaith digonolrwydd.

Mae canllawiau arfaethedig yr Arolygiaeth yn cefnogi’r egwyddorion canlynol: diffiniadau clir, cynllunio asesiadau risg, casglu data empirig, canlyniadau mesuradwy, amodau gormodiant, amodau digwyddiadau, dilysu defnyddwyr ac adroddiadau rheoleiddio. Mae hyn yn cael ei droshaenu mewn dull systemau i nodi a thargedu meysydd sydd angen buddsoddiad fwyaf. Bydd yr Arolygiaeth yn parhau i weithio ymhellach gyda chwmnïau dŵr a rhanddeiliaid perthnasol eraill, gan gynnwys rheoleiddwyr, i wella’r gwaith o ddatblygu asesiadau risg digonolrwydd a llwybrau adrodd.

Crynodeb RAG 2025 ar gyfer Cymru a Lloegr

Cyflwyniad RAG (Coch/Ambr/Gwyrdd)

Mae’r asesiad RAG yn adnodd hunanasesu a ddefnyddir i adrodd ar gydymffurfiad â’r Cyfarwyddyd ar draws 33 o ganlyniadau sy’n cwmpasu holl rychwant SEMD.

Trosolwg o Symudiadau RAG

Ers 2022, mae hunan-ddosbarthiadau coch ac ambr cwmnïau wedi cynyddu, fel y disgwylir yn ystod blynyddoedd cyntaf yr asesiad yn dilyn adborth gan reoleiddwyr o ddigwyddiadau ac archwiliadau, a meincnodi cymar-i-gymar.

Ffigur 54 – Trosolwg RAG o’r 4 blynedd diwethaf

NMae canlyniadau nodedig RAG yn 2025 yn cynnwys:

Canlyniad 3.2: Dŵr amgen – Nododd y rhan fwyaf o gwmnïau safle Ambr ar gyfer dŵr amgen yn 2025. Roedd gwendidau cyffredin yn cynnwys cyflenwadau wrth gefn wedi’u haddasu’n annigonol, heriau wrth ddefnyddio tanciau statig, a gorddibyniaeth ar gymorth cilyddol, nad yw bob amser ar gael yn ymarferol. Dangosodd digwyddiadau yn ystod y flwyddyn y gall lleoliad a hygyrchedd gyfyngu ar ddarpariaeth dŵr amgen, yn hytrach na graddfa yn unig, a bod cadwyni cyflenwi yn agored i niwed yn ystod digwyddiadau cydredol sy’n gysylltiedig â’r tywydd. Mae’r Arolygiaeth yn ailadrodd bod cwmnïau’n parhau i fod yn gyfrifol am yr holl gwsmeriaid sydd wedi colli cyflenwad, a rhaid iddynt sicrhau bod modd gweithredu cynlluniau o dan senarios gwaethaf rhesymol.

Canlyniad 3.3: Cwsmeriaid agored i niwed – Mae hyn yn parhau i fod yn faes parhaus lle mae cwmnïau’n adrodd diffyg cydymffurfiaeth o fewn y RAG. Yn ystod digwyddiadau, mae cwmnïau’n aml yn defnyddio diffiniad rhy gul o fod yn agored i niwed ac nid ydynt bob amser yn blaenoriaethu pob cwsmer sy’n bodloni diffiniad y canllawiau cynllunio ar gyfer argyfyngau (EPG). Er y gwelwyd rhywfaint o arferion da, rhaid i gwmnïau sicrhau bod yr holl gwsmeriaid agored i niwed, gan gynnwys y rheini y tu hwnt i fodelau blaenoriaeth haenog, yn cael cymorth priodol o fewn yr amserlenni gofynnol a bod y trefniadau blaenoriaethu wedi’u diffinio a’u dangos yn glir.

Canlyniad 3.9: Cyfathrebu – Er nad yw bob amser yn cael ei adlewyrchu mewn hunanasesiadau RAG, maes arall y mae’r Arolygiaeth wedi nodi bod angen ei wella yw cyfathrebu yn ystod digwyddiadau byw. Mae’r Arolygiaeth yn parhau i nodi diffygion sylweddol o ran cyfathrebu digwyddiadau. Mae digwyddiadau a adolygwyd yn 2025 yn dangos bod cwsmeriaid yn aml yn derbyn diweddariadau anfynych neu amwys, sy’n cyfrannu at ddryswch a rhwystredigaeth. Adolygodd yr Arolygiaeth ddigwyddiad lle, yn absenoldeb diweddariadau gan gwmni, roedd straeon ar y cyfryngau cymdeithasol yn cymryd drosodd ac roedd pobl yn ciwio mewn gorsafoedd dŵr potel nad oeddent wedi cael eu cyhoeddi, eu hagor na hyd yn oed eu stocio. Disgwylir i gwmnïau ddarparu diweddariadau amserol a chywir yn ystod digwyddiadau, gan gynnwys yr amseroedd adfer tebygol lleiaf a gwybodaeth glir am ddarpariaeth dŵr amgen, yn unol â gofynion yr EPG ar gyfer hygyrchedd ac ymatebolrwydd 24/7.

Canlyniad 4.4: Cyflenwyr allanol – Roedd y rhan fwyaf o gwmnïau wedi asesu’r canlyniad hwn fel un ambr, gan adlewyrchu gwelededd a sicrwydd cyfyngedig dros gadwyni cyflenwi estynedig, yn enwedig isgontractwyr a gweithgynhyrchwyr tramor. Er bod darpariaethau cytundebol ar waith yn gyffredin, mae llawer o gwmnïau’n dweud nad oes ganddynt fecanweithiau effeithiol i brofi cydymffurfiaeth yn ymarferol. Mae cwmnïau sy’n adrodd am sefyllfaoedd cryfach yn dangos disgwyliadau cytundebol cliriach, adolygiadau rheolaidd, a defnydd cyson o ofynion diogelwch ar draws yr holl gyflenwyr ac isgontractwyr.

Canlyniad 4.8: Diogelwch personél – Mae gofynion ar gyfer asesiadau risg sy’n seiliedig ar rôl wedi bod ar waith ers 1 Mawrth 2022, gyda chanllawiau’n cael eu hatgyfnerthu ymhellach yn dilyn ymgynghoriad â’r diwydiant ym mis Chwefror 2024, ac wedyn yn cael eu diweddaru mewn canllawiau diogelwch amddiffynnol (PSG). Ar 3 Ebrill 2024, rhoddodd yr Arolygiaeth wybod i gwmnïau y byddai angen tystiolaeth archwilio ar gyfer gweithdrefnau a mesurau diogelwch personél erbyn 1 Ebrill 2025. O ganlyniad, mae cwmnïau dŵr wedi cael llawer o rybudd ac amser i fwrw ymlaen â’u mesurau Diogelwch Personél (PERSEC). 

Roedd dadansoddiad gan yr Arolygiaeth yn dangos tuedd ymysg cwmnïau i newid o sgôr Gwyrdd i Ambr neu Goch ar y canlyniadau sy’n gysylltiedig â phwnc yr archwiliad. Ar sail hunanasesiadau’r cwmnïau o’r pwnc archwilio hwn, nododd 10 cwmni ddirywiad yn eu safleoedd RAG (Coch-Ambr-Gwyrdd). Mae’r patrwm hwn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o gwmnïau’n goramcangyfrif eu cydymffurfiad â chanllawiau RAG. O ganlyniad, cyhoeddodd yr Arolygiaeth argymhelliad ar draws y diwydiant i gwmnïau gynnal gwerthusiad trylwyr a gonest o’u proffiliau risg fel rhan o’r broses hunanasesu RAG. 

Canfu dadansoddiad o dystiolaeth archwilio gan yr Arolygiaeth fod cwmnïau sy’n adrodd gostyngiad yng nghanlyniad 4.8 wedi tynnu sylw at ystod o wendidau, gan gynnwys: 

  • Amgylchedd risg newidiol a thirwedd bygythiad sy’n esblygu.  
  • Mesurau rheoli allweddi gwan, gyda risgiau’n gysylltiedig ag allweddi coll ac allweddi nad ydynt wedi cael eu dychwelyd.  
  • Dim digon o wiriadau symud ar gyfer trosglwyddo’n fewnol i rolau sensitif.  
  • Dogfennau cyfyngedig a dibyniaeth ar weithdrefnau lleol ad hoc.  
  • Dim polisi ôl-ofal ffurfiol ar gyfer diogelwch personél.   
  • Ôl-groniad o asesiadau risg, asesiadau risg anghyflawn neu dim asesiadau risg yn seiliedig ar rôl.  
  • Archwiliadau diogelwch personél annigonol ar gyfer contractwyr.  

Digwyddiadau Nodedig – Cymru a Lloegr

Yn 2025, adroddodd cwmnïau am ystod o ddigwyddiadau diogelwch, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau colli cyflenwad mawr. Roedd digwyddiadau y rhoddwyd gwybod amdanynt yn cynnwys lladradau ar safleoedd gwaith ac ymgais i ddwyn ceblau, gan gynnwys mewn un safle seilwaith cenedlaethol critigol. Yn dilyn yr archwiliad diogelwch personél a gynhaliwyd fel rhan o’r broses RAG, rhoddwyd gwybod am nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud â rheoli diogelwch personél a thrin gwybodaeth sensitif.

Profodd un cwmni gyfres o ddigwyddiadau cynllunio brys ar ôl colli cyflenwad, ac roedd yn priodoli hyn i dywydd poeth. Mae’r Arolygiaeth yn disgwyl i gwmnïau fod â chynlluniau ar waith i barhau i gyflenwi dŵr bob amser. Mae paragraff 4(a) o’r Cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau ar gyfer cyflenwi dŵr gael eu paratoi ar y sail bod yn rhaid i’r cwmni barhau i gyflawni ei holl swyddogaethau cyflenwi dŵr.

Lladrad tanwydd o safle Seilwaith Cenedlaethol Critigol (CNI)

Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys mynediad heb awdurdod i safle CNI i ddwyn tanwydd o danceri cyflenwi dŵr amgen a oedd yn ei dro wedi caniatáu mynediad i rannau o’r broses drin, er na fu ymyriant o ran triniaeth.

Ni ddifrodwyd perimedr a gatiau’r safle gwaith yn ystod y lladrad. Yn y dyddiau cyn y lladrad, roedd clo cyfunrhif y brif glwyd wedi cael ei newid oherwydd traul, ond cadwyd yr un cyfunrhif. Nid oedd yn glir o asesiad yr Arolygiaeth a oedd y cyfunrhif yn hysbys i’r drwgweithredwyr. 

I ddechrau, nid oedd y cwmni’n cydnabod y digwyddiad hwn fel digwyddiad difrifol oherwydd bod rhai asedau gweithredol y tu allan i gaeadle’r ffin fewnol. Er bod uwchgyfeirio mewnol wedi digwydd, mae’r cwmni’n diweddaru ei brosesau adrodd.

Yn dilyn y digwyddiad, cyflwynodd y cwmni brosesau gwarchod 24/7, gydag archwiliadau mynediad llym a phatrolau rheolaidd o’r perimedrau a’r asedau gweithredol y tu allan i’r ffens fewnol. Mae mesurau tymor hwy bellach ar waith.

Troseddau cyfundrefnol difrifol

Ym mis Ionawr 2025, adroddodd cwmni dŵr am ddigwyddiad diogelwch ar safle CNI a oedd yn cynnwys ymgais i ddwyn metel. Aeth tresmaswyr ar y safle drwy dir fferm cyfagos tra oedd gweithredwr yr ystafell reoli yn cerdded o amgylch y safle. Er bod larymau wedi’u tanio, ni chafwyd mynediad.

Yn dilyn y digwyddiad, rhoddodd y cwmni ystod o fesurau lliniaru ar waith. Comisiynwyd gwaith i uwchraddio’r ffens derfyn, a chafodd staff wybodaeth am risgiau tresmaswyr a gofynion uwchgyfeirio. Penderfynodd yr Arolygiaeth fod difrifoldeb y digwyddiad yn cyfiawnhau archwiliad wedi’i dargedu o’r safle, a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2025.